Barn 89 (Tachwedd 2015)

Ffoaduriaid !  Afraid dweud nad y miliynau sydd ar droed oherwydd cyflwr gwleidyddol y byd presennol yw’r cyntaf i wneud hynny. Ond bu syndod flwyddyn yn ôl wrth i wyddonwyr moleciwlar droi eu golwg at ddadansoddi hanes dwfn (fel y gelwir astudiaethau hanes dynoliaeth dros y miliynau o flynyddoedd diwethaf) trigolion yr Affrig.  Mae’n weddol sicr bellach bod gwreiddiau ein rhywogaeth i’w darganfod yn y cyfandir hwnnw. Bu sawl ton o fudo ohono, gan gynnwys un allweddol tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. O’r criw cymharol fychan o Affricaniaid hwnnw (ni fyddai’r niferoedd wedi cynhyrfu UKIP)  y credir bod pob dyn a dynes yng ngweddill y byd yn hannu – o Wlad yr Iâ i Tierra del Fuego.  (Er, wrth ysgrifennu hwn, rwy’n darllen papur yn y cylchgrawn Nature diweddaraf sy’n honni darganfod esgyrn dynion modern 80,000 oed o Daoxian yn Tseina.) Canfuwyd hyn trwy ddulliau archeoleg traddodiadol o gloddio am esgyrn a’u dyddio.  Ond wrth i archeolegwyr sylweddoli bod DNA gennynau pob un ohonom yn cynnwys cofnod o’n hanes yn mynd yn ôl sawl biliwn o flynyddoedd – ac yna ddechrau dysgu sut i ddarllen yr hanes hwnnw – roedd modd gofyn cwestiynau llawer manylach. Soniais droeon am hyn yn y golofn hon. Wrth fanylu, yn fuan cododd cwestiynau y gellir eu hystyried yn rhai gwleidyddol. Rhai’n ddiniwed gobeithio – “Pwy yw’r Cymry, neu’r Saeson,  go iawn ?” Ond mewn sawl rhan o’r byd y mae hyn wedi bod yn fwy problematig. Yn yr Unol Dalaethiau bu ysgerbwd Dyn Kennewick, a ddarganfuwyd yn 1996, yn sail dadlau mawr am ddegawdau yng nghyd-destun “Pwy yw’r Americaniaid”. Ymddangosai ffurf y benglog, sy’n ryw 8,500 oed, yn Ewropeaidd i rai a defnyddiwyd hyn i ddadlau dros hen ddylanwad ar y brodorion “eraill”. Yn sgil hyn, bu dadlau pwy oedd piau’r esgyrn, gyda brodorion presennol yr ardal yn Nhalaith Washington am eu claddu’n barchus gyda’u cyndeidiau. Ddarllenydd hynaws, barnwch chwi foesau’r hyn a ddigwyddodd yn gynharach eleni. Oherwydd yr amheuaeth nad hynafiaid y brodorion presennol oedd yr esgyrn, cafodd y biolegwyr moleciwlar yr hawl i’w dadansoddi, yn erbyn dymuniadau dwfn rhai o’r brodorion.  Ym mis Mehefin, yn y cylchgrawn Nature, dangosodd Eske Willerslev a’i dîm o brifysgol Copenhagen yn ddiamwys mai brodorion yr union ardal y darganfuwyd yr esgyrn ynddi oedd yn wir y teulu agosaf.  Amser a ddengys beth fydd dyfodol yr esgyrn.

Ond i ddychwelyd i Affrica.  Yno, hefyd, mae ymyrraeth drefedigaethol wedi gadael ei narc yn ddwfn ar ystyriaethau hunaniaeth. Ar yr un pryd, yno, yng nghelloedd brodorion presennol y cyfandir, mae tystiolaeth o hanes dyfnaf trigolion y byd yn llechu. Mae anthropolegwyr eisiau busnesa !  Yn ardaloedd sych y deheudir, pobl y Khoisan, sy’n enwog am y cliciau yn eu hiaith, a ystyrir y boblogaeth fwyaf ynysig. Syndod, felly, yn 2014 oedd darganfod bod ganddynt olion sylweddol genynnau yn hannu o Ewrop. Hyd at 14%. Mae modd dyddio dyfodiad y DNA – tua 1000 o flynyddoedd yn ôl.  Dros y flwyddyn ddiwethaf darganfuwyd canrannau uwch ac yn uwch wrth symud i’r Gogledd.  Ym mis Hydref, yn y cylchgrawn Science, cyhoeddodd tîm o brifysgolion Caergrawnt a Dulyn dystiolaeth sy’n egluro cryn dipyn. Nid o enynnau’r presennol y daeth y dystiolaeth ddiweddaraf, ond o ddadansoddiad esgyrn 4,500 mlwydd oed o Ethiopia.  Oherwydd tywydd cynnes yr Affrig, cymharol brin yw’r DNA hynafol yma. Fel arfer mae’r molecylau wedi’u hen dreulio gan facteria a microbau eraill. Ond yn yr achlysur hwn llwyddwyd i’w hennill a’u darllen o ganol un asgwrn arbennig o ddwys penglog unigolyn a adwaenir fel y dyn Mota.   Erbyn heddiw mae canran sylweddol o DNA o Ewrop yng nghyfansoddiad pob Ethiop byw. Ond mae’n hollol absennol o’r benglog 4,500 oed – ac o gymryd y cam rhesymegol – yn absennol o holl boblogaeth Ethiopa – ac Affrica – ar y pryd.  Bellach y gred yw i gyfansoddiad genetig y cyfandir ddechrau newid tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl wrth i fudiad sylweddol o Ewrop ddychwelyd yno. Heddiw mae hyd at 25% o enynnau brodorion yr Affrig yn dod o drigolion Ewrop yn y cyfnod hwn. Ar raddfa hanes mae hwn yn gyfnod diweddar.  I’w osod mewn cyd-destun amser Cymreig, digwyddodd hyn ar ôl cyfnodau adeiladu ein cromlechi – megis Bryn Celli Ddu a Thinkinswood, a thua’r amser y mae’r Athro John Koch o brifysgol Aberystwyth yn honni gweld olion cynharaf ysgrifenedig yr ieithoedd Celtaidd yn Iberia.  Cyfnod y bardd Homer.   Erbyn cyfnod Hywel Dda roedd y dylanwad wedi cyrraedd pen deheuol Affrica. Mae manylion y DNA Ewropeaidd yn yr Affricaniaid yn hynod o ddadlennol. Ynddo mae ychydig olion DNA y Neanderthaliaid – trigolion Ewrop cyn dyfodiaid ffoaduriaid Affrica 60,000 o flynyddoedd yn ôl pan fu ychydig bach o ymbriodi rhyngddynt. Yna y DNA yma yn dychwelyd i Affrica ryw 500,000 o flynyddoedd ar ôl ei adael ! Am y gweddill – perthnasau agosaf heddiw y mudwyr Ewropeaidd yw trigolion Sardinia, rhannau o’r Eidal a Gwlad y Basg.  Dyma lle mae’r hanes yn wirioneddol tyfu’n gyfoes. Un ddamcaniaeth yw mai newidiadau gwleidyddol yn yr Aifft 3000 o flynyddoedd yn ôl oedd yn  gyfrifol am y mudo a newidiodd gyfansoddiad cyfandir cyfan. Ond paham nad DNA y dwyrain canol heddiw sydd i’w weld ?  Y dybiaeth yw mai Ewropeaid o’r ardal honno a symudodd, ond bod eu disgynyddion yno wedi’u disodli gan eraill yn y milenia a ddaeth wedyn.

Mae gwersi lawer i’w dysgu yma. Ond rhaid pwysleisio mai rhannau o gyfansoddiad pob un a grybwyllwyd yma sy’n “Affricanaidd”, “Ewropeaidd”, “Dwyrain Canol” a “Neanderthal”. Mae gennym oll gymysgedd o wreiddiau. Os “natur y cyw sydd yn y cawl” – mae ei flas a’i werth yn dibynnu ar y cawl cyfan, nid dim ond y cyw. Syndod y darganfyddiadau hyn – yn wahanol i neges dyn Kennewick – yw pa mor ddiweddar a chyflym mae newidiadau a chymysgu poblogaeth ar raddfa anferth yn digwydd.  Dyma’r hyn sy’n gwneud dynoliaeth yr hyn ydyw. Rhaid cofio hynny wrth edrych ar y diweddaraf o symudiadau, cymharol fychan, i bob cyfeiriad sy’n digwydd yn ein cyfandir ni heddiw.


Pynciau: Dyn Kennewick, Dyn Mota, Ffoaduriaid