Barn 90 (Nadolig 2015): Plwto, Gordewdra

Roeddwn yn arfer meddwl fy mod wedi clywed Spwtnic 1. Ond dros y blynyddoedd sylweddolais nad lloeren artiffisial mwyaf eiconig hanes oedd hi. Yn 1957 roedd hynny – a minnau ond yn bump oed.  Ond cofiaf yn eglur,  yn 1962 o bosib, ddosbarth  Mr Islwyn Jenkins yn Ysgol Bryntaf yn eistedd yn gylch ar y llawr i wrando ar uchelseinydd unig radio’r ysgol; bocs mawr sgwâr o bren laminad gyda chylch crwn o ddefnydd yn ei ganol.  Yna clywed synau aneglur yn dod drwy’r statig a Mr Jenkins yn esbonio i ni eu bod yn dod o Long Ofod.  Ofnaf nad y sŵn ond y bocs, a’i weiren arian ddeublyg a redai i rywle o’i du ôl, a erys yn y cof.  Hyd heddiw pendronaf am ben arall y weiren.  Ystafell Mrs Enid Jones Davies, y Brifathrawes, mae’n debyg. Pwy arall fyddai’n meddiannu’r Orsaf Radio a’n cyswllt â’r bydoedd uwchben ?

Eleni cwblhawyd y bennod bwysig yn hanes dyn a gyflwynwyd i mi ar lawr ysgol y diwrnod hwnnw.   Cyrhaeddodd un o’r Llongau Gofod Blwto – a thynnu lluniau manwl ohoni.  Yn 1962, yn wir ers 1930, Plwto oedd y Blaned eithaf yng Nghyfundrefn yr Haul. Trwy dynnu lluniau orbitau’r 9 planed  dysgodd cenedlaethau o blant sut i ddefnyddio cwmpawd.  O un i un cyrhaeddodd disgynyddion Spwtnic 1 y planedau. Tro Plwto oedd hi eleni.  Un eironi bach yn yr hanes yw nad planed yw Plwto bellach. Lansiwyd New Horizons ar Ionawr 19 2006, ond cwta saith mis wedyn penderfynodd pwyllgor canolog yr Undeb Seryddol Rhyngwladol nad planed, ond cor-flaned ydoedd. Yn y ddwy flynedd cyn y lansio roedd seryddwyr wedi darganfod tri gwrthrych sylweddol o faint y tu hwnt i gylchdro Neifion – yn yr hyn a enwir yn wregys Kuiper. Mae Eris (2005) yn pwyso mwy na Phlwto; a Makemake (2005) a Haumea (2004) ddim yn llawer llai. Yn ôl y diffiniad newydd, yn wahanol i’r wyth Planed sy’n aros, nid ydynt yn ddigon mawr i fod wedi ysgubo’u llwybrau yn lân o fân weddillion creu cyfundrefn yr haul 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae eu horbitau, o’r herwydd,  yn ansefydlog ac felly nid ydynt yn blanedau.

Ar Orffennaf 14  eleni, ar ôl taith o naw mlynedd, gwibiodd y Llong heibio’r cyn blaned a’i lleuadau Charon, Styx, Nix, Kerberos a Hydra.   Gyda chost o $700 miliwn, bu hyd yn oed selogion y prosiect yn ansicr a fyddai llawer mwy na phelen greithiog ddi-nod i’w gweld. Ond nid oedd angen iddynt boeni.  Ers yr haf mae New Horizons wedi bod yn trosglwyddo’r data gwerthfawr a gasglwyd yn yr oriau hynny ym mis Gorffennaf  i’r ddaear. Ym mis Tachwedd cyhoeddwyd rhai canlyniadau trawiadol i’r byd yng Nghynhadledd Cymdeithas Seryddol America ym Maryland. Nid oes bywyd ar Plwto – ond y mae’n “fyw” yn yr ystyr bod newidiadau cyson daearegol ar ei hwyneb. Yn hollol annisgwyl, ac yn wahanol i Fercher, Gwener, y Lleuad a, hyd yn oed, Mawrth, mae ei daeareg yn ddeinamig.  Mae iddi rannau creithiog llawn craterau hynafol (rhywbeth tebyg i Ffordd Deiniol Bangor tan yn ddiweddar) – ond mae hefyd iddi ardal sylweddol hollol lyfn heb graterau.  Bedyddiwyd hon yn Sputnik Planum ac ymddengys ei bod wedi’i hail wynebu – a nitrogen a charbon monocsid soled –  yn ddiweddar o fewn y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf (eto megis Ffordd Deiniol).  O’i chwmpas ymddengys mynyddoedd eang a all fod yn dalpau o ia dŵr sydd wedi arnofio i wyneb y nitrogen – mynyddoedd rhew go iawn.  Yno hefyd mae’r hyn sy’n ymddangos yn rhewlifoedd actif. Ond sêr y sioe ym Maryland oedd dau Volcano (anodd eu galw’n llosgfynyddoedd) – mwy na dwy filltir o uchder. Eu henwau answyddogol yw Wright a Piccard Mons – ac un ddamcaniaeth gynnar yw mai dŵr ac amonia, sy’n ymddwyn fel antiffrîs,  ydynt. Dirgelwch llwyr yw ffynhonnell egni’r prosesau daearegol (neu blwtonig) hyn. Wythnos neu ddwy ynghynt, biliynau o filltiroedd i ffwrdd roedd y Llong Ofod Cassini wedi plymio i lai na 30 milltir o wyneb Enceladus, un o leuadau Sadwrn, i gasglu nwyon o “Geyser” newydd ei ddarganfod ar ei hwyneb.  Enghraifft arall o blaned neu leuad “fyw”. Ond yn wahanol i Blwto, efallai bod rheswm i gredu efallai y bydd modd dod o hyd i ryw fath o fywyd – neu gor-fywyd (i ystumio’r ymadrodd) –  yno. Mae’n gyfnod anturus i fiocemegydd fel fi, a phen arall y weiren ddeublyg yn dod yn agosach.

Doedd Mrs Jones Davies ddim yn dew. Yn wir, ni chofiaf am neb, plentyn nac athro, yn yr ysgol a oedd felly. Erbyn heddiw, ysywaeth,  mae gorbwysedd yn epidemig dros rannau helaeth o’r byd – yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Ym Mangor, mae prosiect y Food Dudes, a lansiwyd gan yr Athro Fergus Lowe a fu farw’n annhymig y llynedd, yn ceisio deall sut i wella dewisiadau bwyd plant. Dangoswyd cymhlethdod y sefyllfa gan bapur diweddar yn Current Biology. Y peth a dynnodd fy sylw oedd y gwahaniaeth rhwng ymddygiad dynion a merched. (“Sgersli bilif”, rwy’n clywed rhywun yn dweud.) Mewn arbrawf ym Mhrifysgol Iâl,  mae Zhihao Zhang a’i gydweithwyr yn ymchwilio i ddewisiadau bwyd. Yn yr arbrawf rhoddwyd gwobrau bwyd neu arian i wirfoddolwyr a fedrai weld patrymau mewn cyfres o gardiau lliw. Hanner ffordd trwy’r arbrawf newidiwyd y patrwm – gan orfodi ail asesiad o’r ymateb gan y gwirfoddolwyr.  Roedd dau brawf, felly. Yn gyntaf, adnabod a dysgu’r patrwm ac yna addasu’r canfyddiad i’r patrwm newydd.  Roedd merched a dynion, pwysau normal (67 ohonynt) a gordew (68)  yn yr arbrawf. Prezelau neu M&Mau oedd y gwobrau bwyd – a hyd at $100 yn wobrau arian. Nid oedd gwahaniaeth rhwng doniau dysgu nac addasu’r holl wirfoddolwyr yn yr arbrofion gwobrau arian.  Pan ddefnyddiwyd y bwyd fel gwobr, unwaith eto nid oedd gwahaniaeth rhwng y dynion. Ond roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng y merched pwysau normal a gordew.  Yn y cyfnod “dysgu” ‘roedd y merched gordew yn disgwyl y wobr bwyd yn rhy aml – ac yna, yn ogystal, yn cael anhawster addasu i’r patrwm newydd.  Nid oedd cysylltiad gydag oed, addysg nag incwm y gwirfoddolwyr.  Dadleua Zhang bod hyn yn rhan o gylch dieflig.  Gwendid ymwybyddol am fwyd yn arwain at orbwysau sy’n arwain at amharu pellach ar yr ymwybyddiaeth. Dengys y papur fod gan ferched fwy o sialens i’w goresgyn.  Nid awgrymu fod dynion yn “well” am reoli bwyta yw hyn, wrth gwrs, ond tystiolaeth – pe bai angen hynny – ein bod ymhell o ddeall y ffactorau amrywiol sy’n ein cymell i fwyta’n iach neu’n afiach.  Rhywbeth bach arall i’w gofio wrth loddesta dros yr wythnosau nesaf !  A rhywbeth bach arall i gymhlethu bywyd Beca Brown wrth iddi ddatrys y sbectrwm di-dor rhwng bechgyn a merched.


Pynciau: Plwto, Gordewdra