Pan oeddwn yn fachgen mi glywais argraffiadau fy mam am fywydau hudolus academyddion. Yn bennaf, aelodau Adran Gymraeg un o golegau Prifysgol Cymru yn ystod 40au cynnar y ganrif ddiwethaf. Rai blynyddoedd wedyn, fe’m hudwyd innau gan yr un argraffiadau o’m darlithwyr goruwchfydol yng Nghaergrawnt. Tyrrau Ifori optimistiaeth yr ymennydd. Wrth gwrs, rhamant oedd y naill fel y llall – fel y dangoswyd yn eglur i ni’r Cymry gan fywgraffiadau’r tri chefnder Academaidd (Williams Parry, Parry-Williams a Thomas Parry) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Ond mae un peth, o bosib, wedi newid – y pwyslais hollbresennol ar gynhyrchu papurau ymchwil gwreiddiol sy’n dal llygaid beirniaid yn y cylchgronau “gorau”. Yng ngwledydd Prydain, bob pedair neu bum mlynedd ymgnawdolir hyn yn y REF (Research Excellence Framework). Fersiwn Prifysgolion o dablau cyrhaeddiad Ysgolion. Mewn gwledydd eraill ceir cyfundrefnau “effeithiolrwydd” cyffelyb. Disgrifir un effaith hyn yn y cylchgrawn BioTechniques diweddaraf, cylchgrawn, rhad ac am ddim sy’n anelu at wyddonwyr diwydiannol yn ogystal â gwyddonwyr academaidd. Mewn Gwyddoniaeth un rheol euraid yw os nad oes modd i rywun annibynnol ailadrodd darganfyddiad arbrawf drwy ail-wneud yr arbrawf nid oes modd derbyn y canlyniad fel gwirionedd. Dadleua’r erthygl bod cyfres o bapurau diweddar wedi dangos nad oedd modd i ddiwydianwyr ailadrodd – nac felly ddefnyddio – rhwng 50 a 90 y cant o’r canlyniadau yn y cylchgronau aruchel hyn ym meysydd biofeddygaeth. Yn 2011 adroddodd tîm o gwmni fferyllol mawr Bayer yn Nature bod yn rhaid iddynt ddirwyn i ben 75-80 y cant o’u prosiectau am nad oedd modd ailadrodd y canlyniadau ymchwil sylfaenol. Eleni, yn PLoS, honnodd tîm o Washington DC nad oedd modd i’r cwmnïau mawr – er gwaethaf eu holl adnoddau – ailadrodd hanner ymchwil cyn-glinigol. Ymchwil a gostiodd $28 biliwn i’w gyflawni. Yn ôl Glenn Begley o gwmni Amgen, mewn erthygl yn Nature yn 2011, y cwmnïau bach – fel sydd gennym ni yma yng Nghymru – sydd ar eu colled fwyaf. Mae modd i’r cwmnïau mawr amau popeth a cheisio’i ailadrodd cyn dechrau mynd â’r cynnyrch i’r farchnad. Mewn cyfres o bapurau mae Begley a nifer o awduron eraill yn ceisio awgrymu sut y gellir gwella’r sefyllfa. Dadleua Anne Plant o Athrofa Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg yr Unol Daleithiau bod angen i ymchwilwyr ddeall yn well fanylion eu harbrofion a’u mesuriadau. Problemau eraill yw diffyg cynllunio, hyfforddiant a thrylwyredd. Mae sefydliadau, cyrff cyhoeddus a’r cwmnïau yn ymateb i’r bygythiad hwn. Ond erys y cymhelliad gwaelodol yn y byd academaidd presennol lle mae grantiau, sicrwydd swydd a dyrchafiad yn llwyr ddibynnol ar ymddygiad felly, i gyhoeddi canlyniadau dramatig ac yna symud ymlaen i’r nesaf (neu at weinyddiaeth).
Nid yn y gwyddorau biofeddygol yn unig y gwelir y broblem. Mewn adroddiad yn Science ym mis Awst, disgrifiwyd sut aeth tîm ati i geisio ailadrodd nifer o astudiaethau Seicolegol o’r flwyddyn 2008. Allan o 100 ohonynt, dim ond 39 y llwyddwyd i’w hailadrodd. Yn 2008 adroddwyd bod 97% o’r canlyniadau yn arwyddocaol yn ystadegol. Yn arolygon 2015 dim ond 36% oedd felly.
Un peth a welir yn gyson yn ddiweddar yw’r dadlau ynglŷn â defnyddio technegau moleciwlar i addasu pethau byw – peirianneg genynnau. Dros yr haf, mae Seneddau Cymru a’r Alban wedi manteisio ar newid y rheolau a gyhoeddodd yr Undeb Ewropeaidd ddechrau’r flwyddyn gan symud tuag at wahardd tyfu cnydau GM yn eu gwledydd. Ym mis Ionawr cyhoeddodd y Comisiwn mai’r gwledydd a rhanbarthau datganoledig sydd bellach â’r hawl i ddeddfu yn y maes hwn – yn hytrach na’r Undeb yn ganolog. Mae gwleidyddion yr Alban wedi cyfeirio’n arbennig at ddelwedd iach ei diwydiant Chwisgi; sy’n braidd yn eironig wrth ystyried y problemau a ddaw yn sgil camddefnyddio alcohol yn ein cymdeithas ! Ond “sbin” o du’r technolegwyr a ddaliodd fy llygad yn New Scientist ganol Awst (a minnau’n digwydd bod yn yr Alban yn mwynhau’r Dyfroedd Bywiol Malt). Ers dyddiau’r Flavr Savr, yr ymgais i farchnata tomato GM a fyddai’n para ar silff y siop a’r pantri heb bydru, codwyd bwgan Bwydydd Frankenstein. Roedd hynny oherwydd defnyddio gennyn o bysgodyn, yn yr enghraifft hwnnw, i addasu’r ffrwyth. Ers degawdau bu hyn yn wir. Gennyn dynol, er enghraifft, mewn bacteriwm sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r cyffur Inswlin a ddefnyddir i drin clefyd siwgr. Ond daeth tro ar fyd i’r gornel goch (os mai dynna’r gwrthwyneb i’r gornel werdd). Dros yr haf bu cryn sôn am y dechneg o “Olygu Genynnau”. Mewn un adroddiad ar raglen Today, Radio 4, disgrifiwyd hwn fel ryw daflegryn o dan reolaeth GPS a oedd yn darganfod yr union darged yn y cromosom a’i ddileu neu ei olygu. Yn yr Unol Daleithiau mae Adran Amaeth y Llywodraeth eisioes wedi datgan nad oes angen rheolaeth arbennig ar y dechneg hon – a elwir yn CRISPR – gan na throsglwyddir genynnau estron. Wn i ddim am hynny – ond mae cefnogwyr y dechnoleg yn gwneud yr un ddadl yr ochr yma i’r Iwerydd. Tybed beth fydd ymateb Carwyn, Leanne a’r criw yng Nghaerdydd sy’n weddol unfryd am hyn ? Yn eironig efallai daw’r defnydd cyntaf i’r cae o flaen ein tŷ ni yma yn Llanllechid. Yno mae gyrr hyfryd o wartheg duon Cymreig. Yn anffodus – o’m rhan esoterig i – mae fy nghymydog yn dilyn yr arfer o dorri cyrn yr anifeiliaid hardd yma. Deallaf yn iawn bod hyn oherwydd y perygl i weithwyr fferm ac i anifeiliaid eraill. Llifio neu losgi bôn y corn yw’r arfer. Proses, mae’n debyg, a all fod yn boenus i’r anifail. Ond efallai y daw CRISPR i achub y sefyllfa ar fferm yn agos i chi. Eleni mae cwmni o Minnesota, o’r enw Recombinetics, wedi defnyddio’r dull i ddileu gennyn sy’n hanfodol i wneud i gyrn gwartheg dyfu. Dyma’r gyntaf o gyfres o anifeiliaid fferm fydd wedi’i newid gyda’r dechneg newydd. Y sôn yw y bydd hâd teirw o’r fath ar gael, yn yr Unol Daleithiau beth bynnag, cyn diwedd y flwyddyn. Eisioes mae ymchwilwyr yn paratoi gwartheg sy’n gwrthsefyll y Diciäu (perthnasol iawn i Gymru) a dofednod a moch sy’n gwrthsefyll y ffliw. Ychydig ymhellach i’r dyfodol bydd gwartheg godro sydd ddim ond yn bwrw lloi benyw – ac wyau ieir lle mae modd adnabod ai gwryw neu benyw ydynt cyn deor. Ar hyn o bryd lleddir nifer helaeth o loi gwartheg godro a chywion gwryw. Ac er mwyn tarfu ymhellach ar yr hanner ohonoch sy’n wryw – sicrhau baeddod heb geilliau effeithiol y gellir bwyta eu cig heb y blas nodweddiadol sy’n dod yn sgil y rhannau hyn. Dyma ddod â mi yn ôl at ddarlithwyr Caergrawnt a’r Tŵr Ifori. Bûm yn fyfyriwr yn Ngholeg y Brenin – coleg Alan Turing y bu’r ffilm The Imitation Game amdano y llynedd. Un o aml anwireddau’r ffilm, mae’n debyg, oedd ei ddioddefaint ar ôl ei ysbaddiad cemegol am fod yn hoyw. Yn ôl eraill, fe gymerodd fantais o’i gyflwr i astudio mathemateg ei ymateb ei hun. Arbrawf na ddymunir ei ailadrodd !
Pynciau: Ail Adrodd Arbrofion biofeddygol, CRISPR, Turing