Mewn Undeb mae Nerth ! Daeth ystyr newydd, llythrennol, i’r hen ddihareb ar dudalennau Scientific Reports y mis diwethaf. Am y tro cyntaf, dolennwyd ymenyddiau anifeiliaid â’i gilydd er mwyn datrys problem. Problem weddol syml y tro hwn – rheoli symudiad llun braich robot ar sgrin gyfrifiadur. Wrth ei symud at darged enillodd yr anifeiliaid wobr o sudd blasus. Ym mis Mai adroddwyd hanes Erik Sorto, gwr 34 oed o’r Unol Daleithiau a gollodd ddefnydd ei freichiau a’i goesau pan saethwyd ef yn ei wddf mewn ffrwgwd pan oedd yn 21 oed. Yn 2013 aethpwyd ati i osod dau gasgliad o electrodau yn rhannau ei ymennydd a fu’n rheoli ei fwriad i ymestyn a chydio â’i law. Ym mhob casgliad, sy’n mesur 4 x 4 mm, y mae 96 electrod, pob un yn synhwyro ymddygiad un niwron – celloedd unigol yr ymennydd. Bu enghreifftiau gynt o osod electrodau yn rhannau motor yr ymennydd, ond y tro hwn cysylltwyd yn uniongyrchol â rhannau “uwch” yr ymennydd sy’n ymwneud â’r penderfyniad i wneud rhywbeth. O ganlyniad cafwyd symudiadau mwy naturiol a llai herciog. Yn ddiweddar bu modd i Erik gyflawni un o’u ddyheadau; yfed gwydriad o gwrw ar ei liwt ei hun heb wneud dim mwy na meddwl am y weithred. Cam aruthrol ymlaen wrth drin pobl ag anabledd o’r fath.
Datblygiad uniongyrchol o hyn (y dechnoleg, nid yr yfed cwrw !) yw’r cyhoeddiad newydd. Daw pob math o bosibiliadau wrth gysylltu’r meddwl â chyfrifiadur. Y tro yma cysylltwyd ymennydd tri mwnci â chyfrifiadur er mwyn i’r tri gydweithio i gyflawni’r tasgau. Dim ond un dimensiwn o’r symud – fyny/lawr, ochr/ochr, pell/agos – roedd pob mwnci yn ei reoli. Mewn arbrawf mwy blaengar fyth, cysylltwyd ymenyddiau pedair llygoden fawr â’i gilydd, yn ogystal ag â’r cyfrifiadur. Bu modd plannu signal ym mhen un o’r anifeiliaid, a mesur hwnnw yn symud o un anifail i’r llall, cyn cyrraedd y cyfrifiadur. Mewn un arbrawf anfonwyd gwybodaeth feterolegol iddynt. Mesuriadau gwasgedd awyr i ddwy ohonynt ac am newid tymheredd i’r ddwy arall. Wrth i’r anifeiliaid syncroneiddio eu meddyliau roedd modd iddynt ddarogan a fyddai’n bwrw glaw ai peidio yn sylweddol well na phetaent yn darogan y tywydd ar hap. Atgynhyrchiad “bionig” yw hyn o’r arfer o gynyddu pŵer cyfrifiaduron trwy gysylltu nifer ohonynt â’i gilydd – prosesu cyfochrog. Nawr te’. Beth am gysylltu ymenyddiau Steffan, Yvonne a Chris ? Byddai modd darogan y tywydd yn berffaith wedyn !! Ond efallai eu bod yn ddiogel am y tro, bydd angen technegau synhwyro-o-bell cyn symud y dechnoleg yn gyffredinol i bbl iach. Er, wrth feddwl, mae gennyf un myfyriwr yn y Brifysgol sydd â magned wedi’i osod o dan croen un o’i bysedd – a hynny er mwyn tipyn o hwyl.
Nid oes angen yr “uwchorganeb” broffwydol hon i sylweddoli bod hinsawdd y ddaear yn newid, a hynny’n gyflymach nag erioed. Digalon iawn oedd darllen sawl erthygl y mis hwn yn rhybuddio na fyddwn yn cyfyngu cynhesu’r byd i’r 2 radd canradd yr ystyriwyd gan nifer yn drothwy argyfwng. Un o eiconau effaith y newid yw dyfodol yr Arth Wen. Ar dudalennau Science mis Gorffennaf gwelwyd erthygl besimistaidd iawn am fiocemeg y creaduriaid dramatig hyn sy’n dibynnu’n helaeth ar hela morfilod o orchudd ia wyneb moroedd yr Arctig. Gyda’r rhew yn cilio o’r môr dros fisoedd yr haf, o Awst hyd Hydref, mae mwy a mwy ohonynt yn llwgu ar dir sych wrth aros am y rhew. Y gobaith oedd eu bod yn medru arafu eu metabolaeth yn ystod y cyfnod llwm hwn i lefelau tebyg i’r lefel gaeafu, ond heb syrthio i gysgu. Wrth astudio 30 arth o Fôr Beaufort yng Nghanada, darganfuwyd gostyngiad bychan yn eu gweithgaredd a thymheredd eu cyrff – ond dim byd tebyg i’w gaeafgwsg, a dim digon i gynyddu eu siawns o oroesi. Dywed John Whiteman o Brifysgol Wyoming, a wnaeth y gwaith, mai dyma oedd un o’r gobeithion olaf y byddai modd i’r creaduriaid addasu yn wyneb newid hinsawdd eu cynefin.
Hanes mwy optimistaidd a ddaeth o ben arall y byd. Bu Philip Munday a’i gydweithwyr o Brifysgol James Cook yn Townsville, Awstralia, yn astudio goroesiad mursennod môr wrth i’w cynefin hwythau gynhesu. Dros ddwy genhedlaeth, tyfodd heigiau ohonynt 1.5 °C neu 3 °C yn uwch na’r arfer a mesur eu metabolaeth a gweithgaredd eu genynnau. Y canlyniad oedd i’r pysgod cynhesach addasu eu cyfundrefnau imiwnedd ac ymateb i stres, gan cynefino â’r amgylchedd newydd. Newyddion da. Ond fel y dywed Munday yn ei erthygl yn Nature Climate Change, ‘does dim i’w gael am ddim. Mae’r pysgod sy’n byw ar y tymheredd uwch yn llai o faint.
Wrth sôn am bysgod yn goroesi, newyddion da arall a ddaeth i’n bro o Grand Banks, Newfoundland. Dyma gynefin y penfras, sydd o’r diwedd yn dechrau ymateb i’r ymdrechion i’w hachub. Am ddegawdau lawer bu gorbysgota, gymaint felly fel y bu hyd yn oed i elynion Rhyfel y Penfras gytuno i leihau eu cwotâu yn aruthrol ym mlwyddyn y mileniwm – 2000. Araf iawn fu’r adferiad. Yna yn 2013 amcangyfrifwyd bod yr oedolion wedi cyrraedd 120,000 tunnell ym Môr y Gogledd – am y tro cyntaf ers 1983. Dyma drothwy poblogaeth gynaliadwy yn ôl ICES, y corff sy’n cadw llygad ar ein defnydd o’r moroedd ac y maent wedi caniatáu’r helfa sylweddol gyntaf yno ers 2000. Ar y Grand Banks, dechreuodd y boblogaeth gynyddu yn 2006. Eleni disgwylir cynnydd sylweddol arall yno. Ond gymaint fu’r dinistr, mae’r gwaharddiad llwyr ar bysgota, a osodwyd yno yn 1992, yn dal mewn grym. Ond o leiaf medraf bellach fwyta fy nghinio o benfras a sglodion yng Nghaffi Vallas ar Stryd Fawr Bangor gyda chydwybod lanach – cyhyd â’u bod yn dod o Fôr y Gogledd.
Pynciau: Cysylltu ymennydd, Arth wen a mursennod mor, Penfras