Barn 86 (Hâf 2015): Machiavelli, Te, Parkinson, Ossinodus

Wrth paratoi’r golofn hon, rwy’n aros yn eiddgar i weld beth fydd yn digwydd yn rhifyn nesaf y gyfres Parch.  Nid wyf fel arfer yn un i wylio dramâu teledu, ond mae rhywbeth am Myfanwy Elfed a’r criw a’i helyntion wedi fy nal. Un o hanfodion cyfres o’r fath yw bod rhaid cael o leiaf un cymeriad hunanol a slei. Yn rhyfedd iawn, yn ôl erthygl yn y Journal of Research in Personality, nid yw’r fath yma o gymeriad wedi bod yn rhan o ymchwil gwyddonwyr sy’n astudio personoliaeth. Mae’r profion safonol yn mesur pump gwedd cymeriad wrth asesu pob unigolyn. Y rhain ydy rhadlondeb, allblygrwydd, niwrotiaeth, cydwybodolrwydd ac agoredrwydd. Bellach mae Taya Cohen o Brifysgol Carnegie Mellon, Pittsburg, yn dadlau nad ydy’r rhain yn medru disgrifio cymeriad slei, anonest ac hunanol. Nid diffyg rhadlondeb yw’r rhain, meddai, ond agwedd mwy bositif y cysylltwn a gwaith yr athronydd Niccolò Machiavelli. Enw Cohen ar y  wedd hwn yw gonestrwydd-gwyleidd-dra ac fe’i cynhwysir yn ei  holiaduron chwech-gwedd newydd.  Yn ei herthygl diweddar disgrifir arbrawf ar 88 o wirfoddolwyr a oedd yn cynnwys rhai oedd a’r arfer o dwyllo wrth gamblo a deis. Nid oedd yr ymddygiad hwn yn dilyn y sgôr y pum mesur traddodiadol – ond mi roedd yn cydgysylltu’n agos a’r mesur gonestrwydd-gwyleidd-dra. Un anhawster wrth gyflwyno’r ffactor newydd yma, yw y bydd yn anodd cymharu canlyniadau y prawf chwe-phlyg gyda’r holl ymchwil yn defnyddio’r prawf pum-plyg presennol.  Testun ymchwil cyfredol Cohen yw’r rhai hynny sy’n twyllo yn y gweithle wrth llenwi’r taflenni-amser holl-bresennol a dwyn nwyddau swyddfa. Maent hefyd yn dueddol o fod yn gas i’w cydweithwyr. Os oes gennych y duedd – gofal pia hi wrth lenwi’r holiadur ar gyfer y swydd nesaf !

Efallai mai dyma’r ffactor cymeriad sy’n nodi’r rhai hynod hynny sy’n ymwrthod a rôl dyn yn newid hinsawdd. Nid ydynt yn absennol o’n sianel Cymraeg, hyd yn oed.  Efallai y bydd adroddiad diweddar gan y Gymdeithas Ymchwil i De ynghyd â Phrifysgol Southampton yn gymorth i newid eu meddyliau. Mae argyfwng ar lethrau’r planhigfeydd te yn Assam, nepell o Fryniau Casia, a fyddai wedi poeni’r cenhadon yno’n arw.  Dros y ganrif diwethaf mae’r tymheredd ar gyfartaledd wedi cynyddi o 1.3°C a’r glaw wedi lleihâi o 20 centimedr y flwyddyn. Yn ogystal, fel yng Nghymru, mae’r cyfnodau o dywydd eithafol wedi cynyddi. Mae’r newid hinsawdd yn gorfodi’r tyfwyr i ddyfrhau’r te ac mae’r tywydd sych yn arwain at fwy o glefydau a phlaoedd ar y perthi. Canlyniad hwn yw cynnydd yn nefnydd plaladdwyr –  gyda’u cost a pherygl i iechyd. Ar ben hyn, mae safon y te yn dirywio – ac mae’n debyg mae ychydig o’r safon gorau y gwelwn eleni.  Yn sgil hyn mae nifer o’r ffermwyr te du yn troi at mathau eraill, mwy proffidiol, tra bo eraill yn ymchwilio ar sut i warchod adnoddau dwr yr hinsawdd leol.

Nid y ddadl newid hinsawdd yw’r unig pwnc technegol sy’n codi cwestiynau moesol. Ar ddiwedd mis Mai codwyd materion defnydd celloedd ymennydd ffetws unwaith eto wrth i ŵr yn ei 50au derbyn cyflenwad ohonynt mewn triniaeth o’r clefyd Parkinson. Nid yw ceisio’r driniaeth hwn yn newydd, ond ni chafodd ei ddefnyddio ers 90au’r ganrif diwethaf. Y pryd hwnnw, ar ôl dechrau addawol yn Sweden, dangosodd ddau dreial yn yr Unol Daleithiau nad oedd unrhyw arwyddion o wellhad ar ôl dwy flynedd o driniaeth. Aethpwyd ati i ddefnyddio triniaethau eraill. Bellach sylweddolwyd mai dim ond ar ôl tair blynedd a mwy y gwelir gwellhad wrth i’r celloedd gorffen tyfu i’w lleoedd priodol yn yr ymennydd a dechrau cynhyrchu cyflenwad iach o ddopamine.  Erbyn hynny, er fod nifer sylweddol o gleifion wedi gwella’n rhyfeddol,  ‘roedd y treialon wedi gorffen ac ni chofnodwyd y manteision. Bellach mae Roger Barker o Ysbyty Addenbrooke Caergrawnt yn ceisio adfer y driniaeth ac ar Fai 18 trawsblanwyd y celloedd cyntaf. Ond dyma’r ddilema foesol. Rhaid wrth ffetysau a erthylwyd i gynaeafu’r celloedd. Tri ar gyfer pob hanner o’r ymennydd. Yn yr enghraifft gyntaf yma nid oedd ond digon o gelloedd ar gyfer yr hanner hwn. Y gobaith yw bydd llwyddiannau’r triniaethau presennol yn ysgogi datblygiad bôn-gelloedd nerfau o ffynonellau eraill.  Ar hyn o bryd mae sawl tîm wedi llwyddo’n arbrofol i’w hennill o embryonau. Proses nad sydd heb eu dadleuon foesol hefyd. Y gwahaniaeth yw bod modd epilio’r celloedd  yma yn y labordy. Yn bellach i’r dyfodol mae ymchwilwyr yn Japan wrthi’n perffeithio’r broses o greu bôn -gelloedd priodol o gelloedd cyffredin corff oedolion. Yn sicr byddwn yn gweld mwy o’r fath yma o dechnoleg yn y dyfodol.

Disgrifir un cyflwr meddygol na chafodd ei thrin, yn y cylchgrawn PLoS yn ddiweddar. Nid oherwydd problemau’r Gwasanaeth Iechyd oedd hwn ond am iddo ddigwydd 333 miliwn o flynyddoedd cyn geni Aneurin Bevan a Lloyd George. Ar ryw ddiwrnod bell, pell yn ôl, ar dir sydd bellach yn rhan o Awstralia, llithrodd creadur pedwar-troed a syrthio ryw 85 cm i’r llawr gan dorri ei goes. Ffosiliwyd ei gorff gan cynnwys tystiolaeth o’i ddamwain. Bellach yr asgwrn coes torredig hwn yw’r tystiolaeth cynharaf o anifeiliaid tir sych.  Tua 360 miliwn o flynyddoedd yn ôl esblygodd coesau o esgyll pysgod. I ddechrau fe’u defnyddiwyd i “gerdded” ar waelod y dwr. Erbyn 330 miliwn o flynyddoedd yn ôl mae ffosiliau pendant o anifeiliaid tir sych. Ond mae bwlch o 30 miliwn o flynyddoedd rhyngddynt. Yno, rhywle, oedd yr anifail tir sych gyntaf. Wrth dadansoddi sgerbwd y pedwar-troed newydd prin, o’r enw Ossinodus, dyfarnir fod ei goesau yn digon cryf i’w gynnal ar dir sych – a bod y toriad yn profi ei bod yn ei defnyddio i’r perwyl hynny. Ni fyddai wedi cael yr un anaf wrth ddisgyn yn y dŵr. A’r manylyn am pellter y cwymp ?  Yn ôl y bioffisegwyr, dyma’r pellter angenrheidiol i asgwrn o’r gwytnwch yma dorri. Cofnod o funud fach anghofiedig a ddatgelwyd yn awr yn llwch yr amser gynt. Gobeithio eich bod ar fin, yn, neu wedi, mwynhau’r Eisteddfod. Peidiwch anghofio’r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg !


Pynciau: Machiavelli, Te, Parkinson, Ossinodus.