Ynghanol yr holl stŵr am fudo, cefais wefr y mis yma wrth ddarllen dwy erthygl am ddatblygiadau gwyddonol ym myd hanes Cymru. Un yn newydd sbon yn Nature a’r llall mewn cyfrol o 2018 rwyf newydd ei hailddarganfod ar fy silffoedd. Ym mis Chwefror, mewn papur gan David Reich o Brifysgol Harvard, cawn y diweddaraf am yr hyn mae DNA o sgerbydau archeolegol yn ei ddatgelu am hanes y Cymry. Agorwyd y bennod ymchwil hon, gan Reich a’i “ffatri” dadansoddi DNA, yn 2015 wrth iddo ddatgelu mudo rhyfeddol pobl Oes yr Efydd (tua 2500 cyn Crist). Fe’i galwodd yn Yamna (neu Yamnaya), ar ôl eu mamwlad, sef ardal yr Wcrain heddiw.
Dangosodd bod disgynyddion y Yamna wedi disodli bron yn llwyr boblogaeth flaenorol ynysoedd Prydain a’r cyfandir cyfagos. Nid yr un bobol gychwynnodd ag a orffennodd adeiladu Gôr y Cewri. O’r diwedd, esboniwyd un o’r cyfnodau archeolegol mwyaf amlwg ond enigmatig ein hanes – Pobl y Biceri a’r potiau patrwm cortynnog (gw. Shadowland, Wales 3000-1500 BC, Steve Burrow (2011). Dangosodd, hefyd, darddiad tebygol yr holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg a’r Saesneg (gw. Proto, Laura Spinney (2025) a The Indo-Europeans Rediscovered. How a scientific revolution is rewriting their story. J.P. Mallory (2025)).
Mae’r dadansoddiadau hyn yn cynnwys Ewrop gyfan a rhannau o Asia hyd at India a ffiniau Tsieina. Yn naturiol, bydd manylion amrywiol yn codi wrth i fwy a mwy o ddata ymddangos o’r esgyrn a’r pridd. Un manylyn felly yw cynnwys papur mis Chwefror.
Yn galon i’r gwaith y mae darganfod goroesiad annisgwyl poblogaeth o helwyr-gasglwyr yn yr ardal sydd heddiw’n cynnwys yr Iseldiroedd ac aberoedd y Rhein a’r Meuse. Ond i gamu’n ôl. Yn cychwyn tua 6500 cyn Crist (8500 o flynyddoedd yn ôl) ymledodd yr arfer o ffarmio, a’r ffermwyr eu hunain, o Anatolia, ar draws Ewrop gyfan. Cyraeddasant Gymru tua 6000 o flynyddoedd yn ôl. Y gred oedd bod y boblogaeth frodorol wedi’i hysgubo i’r neilltu. Ond bellach, trwy ddadansoddi olion 112 o unigolion a fu farw 8500 i 1700 o flynyddoedd cyn Crist o aberoedd y Rhein a’r Meuse, ymddengys i ynys o’r helwyr-gasglwyr gwreiddiol oroesi yno am 3000 o flynyddoedd – gydag ond ychydig o fewnlifiad o ferched y ffermwyr o’r tu allan. (Mae modd canfod rhyw y mudwyr trwy ddosbarthiad y cromosom Y, sy’n nodwedd o ferched, yn yr olion.) Mabwysiadwyd y steiliau crochenwaith newydd (cortynnog), gan wneud y bobl yn anweledig i’r archaeolegydd, ond heb lawer o newid yn achau’r boblogaeth. Awgrym y papur yw nad oedd tiroedd gwlyb a chorsiog yr ardal o ddiddordeb na defnydd i’r ffermwyr neolithig. Yna rhwng 3000 a 2500 cyn Crist cyrhaeddodd disgynyddion yr Yamna gyda’u biceri siâp cloch nodweddiadol. Y tro hwn, dechreuodd DNA’r helwyr-gasglwyr (gwryw a benyw) ddiflannu o’r boblogaeth – ond nid cyn i ddisgynyddion y cyfuniad arbennig yma (gyda thua 13-18% DNA’r helwyr-casglwyr) groesi i Ynysoedd Prydain gan gyflwyno metelau a disodli’r brodorion bron yn llwyr (mwy na 90%) unwaith eto.
Er iddynt gyflwyno llawer o arferion newydd i’r ynysoedd, mae’n ymddangos nad oeddynt yn wrthwynebus i’r hen grefyddau – gan iddynt ddal i ddefnyddio, a hyd yn oed ymestyn safleoedd megis Côr y Cewri ac Avebury. O esboniadau megis llyfrau Spinney a Mallory, mae’n ymddangos bod perthynas ieithoedd Celtaidd yr ynysoedd a’r cyfandir yn aneglur. Diddorol, felly, fydd clywed barn yr arbenigwyr iaith am ganlyniadau diweddaraf Reich.
Tua 2500 o flynyddoedd ar ôl ymddangosiad ein cyndeidiau, pobol y biceri cloch a’u genynnau arbennig, bu cynnwrf arall yn hanes Cymru a gweddill Ynys Prydain, sef diwedd Ymerodraeth Rhufain yma. Y tro hwn gellir synnu nad oes mwy o dystiolaeth glir am ddigwyddiadau. Mae gennyf gyfeilles o hanesydd proffesiynol (a gadwaf yn ddienw !) sy’n grediniol mai rhagfarn yr haneswyr Seisnig sy’n gyfrifol am hynny.
Braf, a syndod felly, oedd darllen pennod Janet Kay, ymchwilydd o Brifysgol Princeton, yn y gyfrol The Welsh and the Medieval World (2018), yn cyhoeddi data ar ddosbarthiad isotopau mewn esgyrn archeolegol o Gymru a Lloegr yn dyddio o’r bedwaredd a’r bumed ganrif. Y cyfnod y gadawodd llengoedd Rhufain ein hynys, cyfnod Macsen. Dyddia ymchwil Kay o’r cyfnod blwyddyn neu ddwy cyn chwyldro genomaidd David Reich a’i debyg. Yn lle technoleg DNA, ei sylfaen technegol yw dadansoddiad cemegau anorganaidd yr olion archeolegol. Nid yw hyn yn datgelu achau’r olion ond y mae yn arwydd ymhle y’u magwyd ledled Cymru a Lloegr. Mae elfennau cemegol, Strontiwm ac Ocsigen yn yr achlysur yma, yn bodoli mewn sawl ffurf, neu isotop. Mae canran y gwahanol isotopau yn amrywio o le i le ar draws y map yn ôl natur y creigiau neu’r dŵr lleol. Oherwydd patrymau daeareg ein hynys mae cymhareb 87Sr/86Sr y creigiau yn newid o’r Gogledd-orllewin i’r De-ddwyrain mewn modd cyson. Yn yr un modd mae cymhareb 18O/16O yn y dŵr yfed yn newid yn gyson yn ôl patrymau glawiad a thymheredd.
Wrth lwc i’r haneswyr – os nad i ni – mae’r ddwy ffactor yma yn gosod nodweddion sy’n para tu hwnt i’r bedd yn enamel dannedd ac esgyrn ein cyndadau. Mae olion trigolion y Gorllewin gwlyb, oer a chreigiog yn dangos cymarebau gwahanol o Sr ac Ocsigen, sy’n para o’u plentyndod i’w marwolaeth. Gellir dyfalu, felly, ym mhle y magwyd cyrff unigolion ledled Prydain. Yn arbennig wrth gymharu’r gorllewin a’r dwyrain.
Yn ôl Kay, yr hanes a dderbyniwyd yn arferol, hyd yn oed gan haneswyr proffesiynol, yw un o’r Sacsoniaid yn cyrraedd o’r dwyrain ac yn gwasgu’r Brythoniaid yn fwyfwy i’r gorllewin ar ôl “diflaniad” y Rhufeiniaid. Ond, o’i thystiolaeth o 161 unigolyn mewn 11 mynwent ledled Cymru a Lloegr, dadleua bod hyn yn anghywir a chamarweiniol. Rhanna’r canlyniadau yn dri grŵp; I, tua 350-425/450; II, tua 400-tua 500; III tua 450-550+. Yn ystod cyfnod I mudodd traean y boblogaeth i’r dwyrain o Gymru a’r Gogledd. Erbyn cyfnod II, roedd hyn wedi cynyddu i hanner. Mae mwy o ymfudwyr Germanaidd erbyn cyfnod III, ond nid yw’n dal ond 20% o’r cyfan. Trwy’r cyfnodau mae merched yn fwy tebygol na dynion o fudo, ond am yr ychydig fudo o ogledd y cyfandir yn y 4edd ganrif – lle gwelir mwyafrif o ddynion.
Yn sicr, fe fydd mwy o ddefnydd o’r dechneg yma, ynghyd â dadansoddi DNA yn parhau i’n goleuo am y cyfnod holl bwysig yma yn hanes Cymru. Fe fydd pobol yn cofio Macsen !
Erbyn i chi ddarllen hyn, efallai y bydd dynol ryw wedi ail ymweld â’r lleuad am y tro cyntaf ers hanner canrif. Prosiect Artemis – gyda merched yn dechrau’r daith am y tro cyntaf. Gobeithio’r gorau iddynt. Tybed sut y bydd ein disgynyddion mewn 1500 o flynyddoedd yn edrych yn ôl ar y mudo yma !
Pynciau: Brodorion y Rhein/Meuse, Mudo’r Brythoniaid, Artemis
Cyfeiriadau
Brodorion y Rhein/Meuse: Iñigo Olalde, Eveline Altena, Quentin Bourgeois, Harry Fokkens, Luc Amkreutz, Steffen Baetsen, Marie-France Deguilloux, Alessandro Fichera, Damien Flas, Francesca Gandini, Jan F. Kegler, Lisette M. Kootker, Judith van der Leije, Kirsten Leijnse, Constance van der Linde, Leendert Louwe Kooijmans, Roel Lauwerier, Rebecca Miller, Helle Molthof, Pierre Noiret, Daan C. M. Raemaekers, Maïté Rivollat, Liesbeth Smits, John R. Stewart, Theo ten Anscher, Michel Toussaint, Kim Callan, Olivia Cheronet, Trudi Frost, Lora Iliev, Matthew Mah, Adam Micco, Jonas Oppenheimer, Iris Patterson, Lijun Qiu, Gregory Soos, J. Noah Workman, Ceiridwen J. Edwards, Iosif Lazaridis, Swapan Mallick, Nick Patterson, Nadin Rohland, Martin B. Richards, Ron Pinhasi, Wolfgang Haak, Maria Pala & David Reich (2026) Lasting Lower Rhine–Meuse forager ancestry shaped Bell Beaker expansion.
Nature 652, 938–946
Mudo’r Brythoniaid: Janet Kay (2018) Moving from Wales and the west in fifth-century: isotope evidence for eastward migration in Britain. The Welsh and the Medieval World (Gol. Patricia Skinner) Gwasg Prifysgol Cymru
Artemis: Artemis II. Wicipedia.
