Rai misoedd yn ôl fe froliais fy sgiliau dynwared cath yn canu grwndi wrth geisio difyrru’r wyrion. Mwy o sialens o lawer fu dynwared gweryru ceffyl – er bu’n syndod i mi fod yr hogiau yn ei adnabod o gwbl. Pryd glywsoch chi geffyl yn gweryru ddiwethaf ? Iddynt hwy cynnyrch pwyso botwm ag arno lun cartŵn ceffyl yn un o’u llyfrau-creu-sŵn oedd y profiad. Ond ddiwedd Chwefror eleni bu goleuni mawr, diolch i William Tecumseh Fitch o Brifysgol Wien (Fienna) a’i gydweithwyr a’u herthygl yn un o’m hoff gylchgronau – Current Biology.
Mae’n debyg bod gweryru ceffyl yn hollol wahanol i sŵn unrhyw anifail arall. Cyn yr ymchwil yma nid oedd esboniad llawn ohono. A rhaid dweud bod y disgrifiad yn hynod o debyg i gynnyrch bît-bocswyr megis Ed Holden, Mr Phormula, o’i stiwdio yn Llanfrothen !
Fel rheol mae traw sŵn creadur yn cyd-fynd â’i faint. Po fwyaf y bo’r anifail, isaf fo’r traw. Mae hyn oherwydd bod maint y laryncs a’r tannau o’u mewn yn dilyn maint y corff. Fel ar delyn, tannau mwy i’r nodau is. (Mae eithriadau, fel hyddod brith a mwncïod udo sy’n tyfu laryncs pwrpasol anarferol o fawr.) Sain ddisgwyliedig, o ryw 200 Hz (tua G3 ar delyn), sy’n dod o laryncs y ceffyl yw rhan o’r gweryru. Ond bu’n hysbys bod hefyd elfen arall, llawer uwch, i’w chlywed yr un pryd; dros 1000 Hz (tua B5). Proses o ddau-lefaru (biphonation).
Nid yw dau-lefaru’n anghyffredin, ac mae modd i ambell anifail greu synau uchel drwy ddefnyddio rhannau eraill o’r geg a’r gwddf. Rydym ni’n chwibanu â’n gwefusau, er enghraifft. Ond y cwestiwn oedd o ble daw nodyn uchel y ceffyl?
Gwnaed cyfres o arbrofion ar gyrn gwddw ceffylau o ladd-dai (gan gynnwys defnydd o’r nwy heliwm). Hefyd bu sganiau CT ac endosgopi o geffylau byw a dadansoddi gweryru ceffylau oedd yn dioddef o nam niwrolegol ar eu “lleisiau”. Y canlyniad oedd canfod culhau y glotis – rhan o’r laryncs ar wahân i’r tannau. I wneud y sŵn uchel, mae’r ceffyl yn chwibanu trwy wasgu’r awyr drwy’r gulfan hon. Mae’n debyg bod llygod, hefyd, yn chwibanu yn y modd yma – ond ei bod yn nodyn rhy uchel i’r glust ddynol ei ganfod.
Dyma’r tro cyntaf y darganfuwyd unrhyw anifail, heblaw am deulu’r llygod, sy’n gwneud hyn. Pobl a cheffylau (gan gynnwys eu cefndryd y Wapiti a cheffyl Przewalksi – ond nid yr Asyn na’r Sebra) yw’r unig famaliaid mawr sy’n chwibanu.
Dadlennol oedd deall o’r papur, mai padiau arbennig yn eu tannau llais sy’n gyfrifol am sŵn grwndi unigryw cathod. Beth amdani, Mr Phormula ? Cydganu cath a cheffyl !
Hyd y gwn i, nid yw lleisiau bît-bocswyr a chantorion poblogaidd yn esblygu’n fiolegol i gadw i fyny â’r “trend” diweddaraf (nurture nid nature). Ond mae cryn ddiddordeb mewn esblygiad pethau byw o bob math yn sgil cyflymder digynsail newid hinsawdd. Fel y dadlennodd Wallace a Darwin, mae newid yn yr amgylchedd wrth wraidd eu damcaniaethau esblygiad. Ond cwestiwn mawr ar hyn o bryd ydyw a yw’r newidiadau presennol yn gyflymach na modd bywyd i newid ? A fydd rhywogaethau’n diflannu cyn cael y cyfle i’w genynnau ymateb ?
Yn Science ganol mis Mawrth disgrifiwyd yr enghraifft gyntaf o’r gwyllt lle gwelir rhywogaeth wedi goroesi trwy esblygu. Y term technegol amdano yw Achub trwy Esblygu. Ers blynyddoedd fe’i trafodwyd yn ddamcaniaethol ac mewn labordai (trwy ddefnyddio bacteria, er enghraifft). Cyn y gellir cadarnhau’r broses, mae angen dangos tair nodwedd. Mae’n rhaid profi bod lleihad yn y boblogaeth oherwydd y newid yn yr amgylchedd. Mae’r rhaid dangos bod newid wedi bod yng ngenynnau’r boblogaeth o’r herwydd a bod y newid yma wedi galluogi’r boblogaeth i oroesi. Er bod hyn yn swnio’n syml a rhesymol, bu’n anodd iawn profi’r newidiadau tu allan i’r labordy.
Enghreifftiau posib yw’r modd mae rhai chwyn wedi esblygu gwrthiant sy’n ymateb i ddefnyddio chwynladdwyr mewn amaethyddiaeth; ymddangosiad gwrthiant i gancr heintus marwol diweddar mewn Diafoliaid Tasmania ac ymateb hynod mathau o killifish a lwyddodd i oddef llygredd môr drwy ffeirio genynnau rhwng rhywogaethau gwahanol. Rhywogaethau na fyddai byth wedi cyfarfod heb ymyrraeth ddamweiniol dyn. Ond nid yw un o’r enghreifftiau hyn wedi cyrraedd holl ofynion y prawf.
Dewisodd Daniel Anstett o Brifysgol Cornell a’i gydweithwyr astudio blodyn o Galiffornia sy’n tyfu ar lannau afonydd – Blodyn Sgarled y Mwnci (Mimulus cardinalis). Dewiswyd 55 poblogaeth ohonynt o wahanol bellteroedd o’u hafonydd- ac felly yn dangos amrywiaeth cynhenid yn y genynnau (yr amrywiad naturiol Darwinaidd). Manteisiwyd ar y sychdwr eithafol a fu yn Califfornia rhwng 2012 a 2015 a oedd yn “benllanw” 22 mlynedd o Arch-Sychdwr anghyffredin. Y rhain oedd y 4 mlynedd sychaf ardal y Dalaith mewn 10,000 o flynyddoedd.
Y dechnoleg hanfodol newydd oedd bod modd dadansoddi holl ddilyniant DNA 347 unigolion – ac adnabod dros ddwy filiwn o amrywiaethau un llythyren yn eu genomau (SNPau). (Hawdd anghofio mai dim ond yn y flwyddyn 2000 y darllenwyd dilyniant un planhigyn syml, Arabidopsis thaliana, am y tro cyntaf. I fiolegwyr o’m cenhedlaeth i mae’r ffaith bod hyn bellach yn dechneg gyffredin bob dydd o hyd yn dal yn destun rhyfeddod.
O ddadansoddi ymateb dosbarthiad yr holl SNPau yn ystod y cyfnod cyn 2012 (1980-2009), roedd modd cysylltu rhai ohonynt â newidiadau ysbeidiol amgylchedd (gwres neu ddiffyg glawiad, er enghraifft). Yn ystod 2012-2015 crebachodd holl boblogaeth wyllt y Blodyn Mwnci yn sylweddol oherwydd y sychdwr. O’u dadansoddi roedd modd dangos cynnydd sylweddol yng nghanran nifer o’r SNPau a oedd wedi’u cysylltu ag ysbeidiau sych ynghynt. Gwireddu, felly, dwy amod gyntaf Achub trwy Esblygu.
Yna aed ati i ddadansoddi genynnau goroeswyr y sychdwr, a’u cynnydd, yn y cyfnod o 2015 i 2018. Roedd modd dangos bod y goresgynwyr yn gyfoethog yn yr SNPau cysylltiedig â goddef y cyfnodau sych blaenorol. Yn wir, o’u hastudiaeth byddai modd darogan pa boblogaethau a fyddai wedi goroesi. Gwireddu, felly, drydedd amod Achub trwy Esblygiad.
Ond mae’r awduron yn pwysleisio, er bod hyn yn dangos Esblygid Darwinaidd yn digwydd, nid yw’n arwydd y byddai pob poblogaeth o’r Blodyn Mwnci, heb sôn am y myrdd o blanhigion ac anifeiliaid eraill, mor llwyddiannus. Hyn yn enwedig yn dilyn cylchoedd o newid hinsawdd gan y byddai colli llawer o’r amrywiaeth holl bwysig yn dilyn pob goroesiad.
Megis dechrau mae ein dealltwriaeth o sut bydd Natur yn dygymod neu beidio â’r newidiadau mae ei hymddygiad yn eu gorfodi ar y Ddaear.
Pynciau: Gweryru, Goroesi trwy Esblygiad
Cyfeiriadau
Gweryru: Romain Adrien Lefèvre, Lucie Barluet de Beauchesne, Florent Sabarros, Sabrina Briefer Freymond, Alessandra Ramseyer, Matthieu Keller, David Reby, William Tecumseh Fitch a Élodie Floriane Briefer (2026) The high fundamental frequency in horse whinnies is generated by an aerodynamic whistle. Current Biology 36 (4) 902-911.e4
Goroesi trwy Esblygiad: Daniel N. Anstett, Julia Anstett, Seema N. Sheth, Dylan R. Moxley, Haley A. Branch, Mojtaba Jahani, Kaichi Huang, Marco Todesco, Rebecca Jordan, Jose Miguel Lazaro-Guevara, Loren H. Rieseberg a Amy L. Angert (2026) Rapid evolution predicts demographic recovery after extreme drought. Science 391 (6790) 1172-1176
<olaf nesaf>
