Mae’r drafodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial yn aml yn codi gwên arnaf. Ar y naill law bydd y canlyniadau yn hollol chwyldroadol a buddiol. Yn fy maes i, yn ôl yn 2018 fel un o’r defnyddiau cyntaf ohono (Alphafold), ymestynnwyd ein gwybodaeth foleciwlar o ensymau a phroteinau eraill o ychydig ddegau o filoedd i ddau gan miliwn dros nos. Chwyldro nid yn unig yn ein dealltwriaeth o fecanwaith sylfaenol bywyd ond allwedd i drin cyflyrau iechyd di-rif. Cymerwyd 60 mlynedd i gyrraedd y degau o filoedd blaenorol, gyda Herbert Rees Wilson o Nefyn, un o’r tîm a ddatgelodd strwythur helics dwbl DNA yn 1953, yn chwarae rhan allweddol ynddo. Bellach, dim ond fore Gwener ddiwethaf, fel rhan o gyfres wych o ddarlithoedd agored yr Ysgol Feddygol ym Mangor, bu sôn am ddefnyddio AI i gyflymu diagnosis cancr. Ar y llaw arall, mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddefnydd (proffidiol) AI yn deillio o ddefnydd megis “adnabod eich cath mewn lluniau ar y we”.
Hoffwn feddwl bod paratoi’r golofn hon yn ddefnydd teilwng o’r we. Yn aml, hoffwn wybod rhywbeth megis “pwy oedd y cyntaf i ddefnyddio telesgop i edrych ar y planedau” wrth lunio cefndir erthygl ac yn rhy ddiog i chwilio. (Heb sôn am ysgrifennu’r holl erthygl !) Ond wrth ddefnyddio gwasanaeth AI fel hyn (ac yn ychwanegol wrth ddefnyddio’r Gymraeg) rwy’n ymwybodol iawn fy mod yn cyfrannu atun o broblemau amgylcheddol, os nad gwleidyddol, pennaf ein hoes. Sef yr angen aruthrol am ddarparu’r egni trydanol i gynnal yr holl AI. Clywais sawl sylwebydd yn egluro ymosodiad diweddar Trump ar Venezuela fel ei ffordd ef o sicrhau digon o olew i bweru’r AI “holl bwysig” ar gyfer economi’r UD. A hyn oll yn bennaf, nid i wella cancr neu hyd yn oed sicrhau goruchafiaeth filwrol, ond i “adnabod lluniau cathod” ac ateb cwestiynau hollol ddi-fudd.
Pwt byr yn rhifyn Ionawr o Chemistry & Industry yn cyfeirio at erthygl yn ACS Sensors ym mis Hydref a ysgogodd y bregeth hon. Wrth wraidd AI mae angen data priodol. Yn aml iawn data lled oddrychol sydd o ddiddordeb mwyaf inni. Yn achos erthygl Weijun Deng o Sefydliad Technoleg Shanghai a’i gydweithwyr, asesu bwyd “sbeisi” yw’r sialens. Rhaid cofio mai yn ymennydd y bwytäwr mae’r blas – nid oes gan gymysgedd o folecylau unrhyw “flas” cynhenid heb dafod ac ymennydd i’w “dehongli”. Wedi’u hysbrydoli gan y sylw bod llymaid o laeth yn lleddfu ychydig ar adwaith y tafod i capsaicin – y moleciwl wrth wraidd gwres cyri – aethant ati i ddyfeisio tafod artiffisial. Wrth wraidd y synhwyrydd mae haen o brotein llaeth sy’n creu signal trydanol y gellid ei fesur. Mesurir lefel capsaicin mewn llai na 10 eiliad. Canfyddir hefyd blasau cyffelyb o bupur du, garlleg a sinsir. Roedd cytundeb da rhwng y synhwyrydd â phanel o flaswyr dynol. Honna’r awduron bod hyn yn sylfaen dda ar gyfer robotiaid dynol-debyg (humanoid) a dyfeisiau blasu symudol. Hyd y gwelaf i, ni ddefnyddiwyd AI ar gyfer y gwaith arbennig yma – ond mae ei gymhwyster yn y maes ehangach o brofi pleserau bwyd yn amlwg. Fy nghwestiwn i yw, a yw hyn yn werth da neu ddrwg o gynnyrch nwyon tŷ gwydr yn y catastroffi hinsawdd sydd ar ein gwarthaf ? (Ond ‘rwyf yn cyfaddef bod y wyddoniaeth, os nad y cyri, yn cŵl !)
Mae hyn sawl cam oddi wrth ddefnydd cynharaf dynoliaeth o dechnoleg. Eto, mae’n debyg mai ymwneud â phrosesu bwyd blasus oedd pwrpas yr offer hynaf o bren y gwyddom amdano. Mewn erthygl yn PNAS ar ddiwedd Ionawr, disgrifir offer pren sy’n tua 430,000 blwydd oed. Mae’n debyg bod ein cyndeidiau a neiniau yn defnyddio offer pren ers miliynau o flynyddoedd. Yn wir un o ddarganfyddiadau dadlennol Jane Goodall, a fu farw fis Hydref, oedd bod tsimpansïaid yn defnyddio offer o’r fath. Ond prin iawn yw’r gwrthrychau pren sy’n goroesi’r milenia yn y pridd.
Canol y Peleponîs yn ne wlad Groeg, oedd un o’r ychydig rannau cyfannedd o Ewrop ynghanol un o gyfnodau oeraf Oesoedd yr Ia, 400,000 o flynyddoedd yn ôl, pan ledaenodd y rhewlifoedd dros y cyfandir. Yno roedd noddfa i anifeiliaid a hominidau. Rhwng 2013 a 2019 wrth gloddio mewn chwarel glo-brown darganfuwyd sgerbwd eliffant hynafol o’r cyfnod ag olion bwtsiera arno. O’i amgylch roedd olion planhigion ac anifeiliaid eraill, roedd modd eu dyddio’n fanwl, ynghyd â thros 2000 o offer carreg. O 144 darn o bren a ddiogelwyd gan y glo-brown, canfuwyd dau gydag olion naddu arnynt. Un, ffon 81 centimedr o hyd, wedi’i llunio o wernen ag un pen crwn a’r llall wedi’i lyfnhau, megis rhaw. A dyna y tybir oedd ei ddefnydd. Y pen llyfn yn dangos olion cryn ddefnydd arno. Nid yw’n amlwg beth oedd diben yr ail arf – sy’n ymdebygu i ben clwb golff !
Ni ddarganfuwyd unrhyw olion y bobol oedd yn byw ar y safle. Ond mae’r oedran yn eu gwneud yn annhebygol iawn mai Homo sapiens, neu hyd yn oed Neanderthal, oeddynt. Yn sicr ‘roeddynt ymhell cyn i’n cyndeidiau ni gyrraedd o Affrica ryw 60,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn berthnasol i hyn, ychydig wythnosau cyn papur PNAS, roedd Jean-Jacques Hublin o Athrofa Max Planck, Leipzig, a’i gydweithwyr wedi cyhoeddi yn Nature ddarganfyddiad olion hominin (dyn cynhanes) ger Casablanca ym Moroco yn dyddio o 773,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddengys yn bosib mai rhagflaenydd agos Homo sapiens, Neanderthal a’r Denisofaid yw’r olion hyn. Ychwanegu/ ychwanegir/ychwanegiad gwybodaeth i’r drafodaeth bresennol am ai o Affrica y daeth ein cyndadau o’r cyfnod yma.
Yn sicr o’r sêr, biliynau o flynyddoedd yn ôl, y daeth yr hyn y gwneir ein cyrff ohono. Ein cyndadau elfennol. Mae’r telesgopau diweddaraf, megis Telesgop Ofod James Webb yn ymestyn ein gwybodaeth o’r prosesau ymhell bell i’r gorffennol. Yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr, Hydrogen (H) a Heliwm (He) (ynghyd â’r mymryn lleiaf o Lithiwm) oedd yr unig elfennau i ymffurfio cyn ymddangosiad y sêr cyntaf. O’r elfennau hyn yn unig y’u gwnaed. Marwolaeth ffrwydrol y sêr yma yw tarddiad gweddill yr elfennau (o Feryliwm i Wraniwm a thu hwnt). Ond pan ffurfiwyd y sêr cyntaf, nid oedd y bydysawd yn dryloyw, nid oedd golau’n treiddio trwyddo. Oes Dywyll y Bydysawd. Ni fydd byth, felly, fodd eu gweld. Ond rhwng 400 a 500 miliwn o flynyddoedd ar ôl y Glec, “cliriodd” y bydysawd. Yn Ionawr, ar wefan arXiv, disgrifiwyd gan David Coulter a thua chant o gyd-awduron, ganfyddiad ffrwydrad seren dim ond ychydig can miliynau o flynyddoedd ar ôl yr Oleuedigaeth yma. Chwinciad chwannen i gosmolegwyr ! Yn unol â’r ddamcaniaeth ychydig iawn o elfennau eraill, heblaw H a He, oedd i’w gweld yn ei sbectrwm. Mae’r ychydig “amhuredd” yn dangos nad oedd hon yn un o’r genhedlaeth gyntaf o sêr – ond roedd mewn cenhedlaeth gynnar iawn. I’w gweld roedd angen cymorth natur ar hyd yn oed y James Webb. Rhaid oedd manteisio ar lens disgyrchiant galaethau enfawr yn union rhyngom a’r seren i chwyddo’r ddelwedd ddeg o weithiau. Er mai ym Medi 2025 croniclwyd y ffrwydrad gan y James Webb, ‘roedd modd gweld delwedd ohono gan Delesgop Gofod Hubble o 2012. Awgryma’r data bod y delwedd honno yn dangos y seren dim ond 5 diwrnod ar ôl ffrwydrad y seren ryw 13 biliwn o flynyddoedd yn ôl !
Pynciau: Tafod Artiffisial, Offer Pren Cynharaf, Uwchnofa Gynharaf
Cyfeiriadau
Tafod Artiffisial: Weijun Deng, Jinzhi Yang, Huitao Wen a Jing Hu (2025) A Soft and Flexible Artificial Tongue for Pungency Perception. ACS Sensors 10 (11), 8331–8341.
Offer Pren Cynharaf: Annemieke Milks, Maria Ntinou, Stylianos Koutalis, Dimitrios Michailidis, George E. Konidaris, Domenico Giusti, Nicholas Thompson, Georgia Tsartsidou, Eleni Panagopoulou, Vangelis Tourloukis, Panagiotis Karkanas, a Katerina Harvati (2026) Evidence for the earliest hominin use of wooden handheld tools found at Marathousa 1 (Greece) PNAS 123 (6) e2515479123
Uwchnofa Gynharaf: David A. Coulter, Conor Larison, Justin D. R. Pierel, Seiji Fujimoto, Vasily Kokorev, Joseph F. V. Allingham, Takashi J. Moriya, Matthew Siebert, Yoshihisa Asada, Rachel Bezanson, Maruša Bradač, Gabriel Brammer, John Chisholm, Dan Coe, Pratika Dayal, Michael Engesser, Steven L. Finkelstein, Ori D. Fox, Lukas J. Furtak, Anton M. Koekemoer, Thomas Moore, Minami Nakane, Masami Ouchi, Richard Pan, Robert Quimby, Armin Rest, Johan Richard, Luke Robbins, Louis-Gregory Strolger, Fengwu Sun, Tommaso Treu, Hiroto Yanagisawa, Abdurro’uf, Aadya Agrawal, Ricardo Amorín, Joseph P. Anderson, Rodrigo Angulo, Hakim Atek, Franz E. Bauer, Larry D. Bradley, Volker Bromm, Mateusz Bronikowski, Christopher J. Conselice, Christa DeCoursey, James M. DerKacy, Guillaume Desprez, Suhail Dhawan, Jose M. Diego, Eiichi Egami, Andreas Faisst, Brenda Frye, Sebastian Gomez, Mauro González-Otero, Massimo Griggio, Yuichi Harikane, Kohei Inayoshi, Saurabh W. Jha, Yolanda Jiménez-Teja, Jeyhan S. Kartaltepe, Patrick L. Kelly, Lindsey A. Kwok, Zachary G. Lane, Xiaolong Li, Ivo Lobbe, Paulo A. A. Lopes, Ray A. Lucas, Georgios E. Magdis, Nicholas S. Martis, Jorryt Matthee, Ashish K. Meena, Rohan P. Naidu, Gaël Noirot, Masamune Oguri, Estefania Padilla Gonzalez, Massimo Pascale, Tanja Petrushevska, Massimo Ricotti, Daniel Schaerer, Stefan Schuldt, Melissa Shahbandeh, William Sheu, Koji Shukawa, Akiyoshi Tsujita, Eros Vanzella, Qinan Wang, John Weaver, Robert Williams, Rogier Windhorst, Yi Xu, Yossef Zenati, Adi Zitrin (2026) arXiv: 2601.04156
