Barn 182 (Nadolig 2024): Effaith Dogni Siwgr, Celloedd Cofio Blas, Cacwn Alcoholig


Diolch i’r drefn mae cyfyngiadau cryf yn ein cymdeithas ar y mathau o arbrofion meddygol y medrir eu cyflawni ar bobl. Ond o bryd i’w gilydd perfformir “arbrawf naturiol” lle y gellir dysgu ffeithiau meddygol defnyddiol ohonynt. Bu sawl enghraifft o hyn yn ystod yr ail ryfel byd. Ym mis Medi 1944 ataliwyd byddinoedd y Cynghreiriaid rhag croesi’r Afon Rhein ym mrwydr ddrwg-enwog Arnheim. Yn sgil hyn, galwodd llywodraeth alltud yr Iseldiroedd am streic trên genedlaethol yn ei mamwlad.  Ymateb yr Almaen oedd atal cyflenwi bwyd i holl orllewin y wlad. Cychwynnodd Gaeaf y Newyn. Cyn hyn, er gwaetha’r rhyfel, roedd cyflenwad bwyd y wlad wedi bod yn ddigonol.  Ond erbyn diwedd Tachwedd roedd y dogn a ganiatawyd yn ddyddiol wedi gostwng i 1000 calori. Erbyn Ebrill 1945, i 500. Ar gyfartaledd mae angen 2500 calori’r diwrnod ar ddyn a 2000 ar fenyw i gynnal bywyd. Ar Mai 5ed 1945 daeth yr artaith i ben yn fuan gyda diwedd y rhyfel.

Bu’r dioddef ar y pryd yn aruthrol. Ond yn 2008 cyhoeddwyd astudiaeth a ddadlennodd mai un o’r canlyniadau oedd newidiadau yn DNA plant o fu yn y groth yn ystod y 6 mis hwn. Parhaodd effaith y newidiadau epigenetig hyn, drwg a da, drwy gydol oes y plant hynny. Ac yn wir, yn fwy diweddar, canfuwyd eu heffaith yn y genhedlaeth nesaf, hefyd.

O ddigwyddiad cysylltiedig o’r un cyfnod daw adroddiad yn Science ddiwedd mis Hydref. Yn Ionawr 1940 cyflwynwyd dogni bwyd yng Ngwledydd Prydain. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngu pryniant siwgr oedolion i 33g a phlant i lai na 15g y diwrnod. Dim oedd dogn plant bach hyd at 2 oed. Mae’r ffigyrau hyn yn cyfateb yn fras i’r awgrymiadau bwyta’n iach heddiw. Parhaodd hyn hyd at Fedi 1953, pan dros nos fe ddyblwyd mewnbwn siwgr trwy’r wlad.

Mae Tadeja Gracner o Brifysgol De Califfornia a’i chydweithwyr wedi dadansoddi data 38,000 unigolyn a gyfrannodd i brosiect UK Biobank rhwng 2006 a 2019. Dewiswyd unigolion a genhedlwyd yn ystod blynyddoedd olaf y dogni. Cymharwyd hwy â data 22,000 a genhedlwyd flwyddyn neu ddwy wedi diwedd y dogni. Sicrhawyd detholiad tebyg o ran rhyw a hil – ond hefyd o ran cefndir teuluol Clefyd Siwgr math 2.

O’r ddau grŵp datblygodd 3900 unigolyn Glefyd Siwgr 2 a 19,600 wasgedd gwaed uchel. Ond  roedd gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau grŵp. Roedd plant y dogni yn 35% llai tebygol o ddioddef Clefyd Siwgr a 20% yn llai tebygol o gael gwasgedd uchel yn y gwaed erbyn canol eu 60au. Gyda’r cyflwr, pe ymddangosai, yn ymddangos yn hwyrach. Bedair blynedd yn achos Clefyd Siwgr a dwy flynedd yn achos pwysedd gwaed.

Tebyg iawn oedd cynnwys maethynnau eraill lluniaeth cynnar y ddau grŵp. Felly yn syml, siwgr oedd y gyfrifol. Roedd modd gweld o’r data bod traean o’r effaith yn digwydd yn y groth a’r gweddill yn nwy flynedd cyntaf bywyd. Roedd yr effaith yn gryfach ymysg merched na dynion sy’n adlewyrchu darganfyddiadau blaenorol mewn arbrofion ag anifeiliaid.

Afraid dweud bod y canlyniadau hyn yn arbennig o amserol. Mae’r Nadolig yn nesáu !

Ond na phoenwch ! Mae digonedd o bleserau bwyd eraill ar gyfer y plant a ninnau. Ac mae papur yn Nature ddechrau Hydref yn datgelu peth o fecanwaith y boddhad hwnnw.

Yn 2015, yma yn Barn, disgrifiais ddarganfyddiad “niwron Jennifer Aniston” yn 2005 – sef un gell yn ymennydd un o wirfoddolwyr yr arbrawf a anwybyddodd 80 llun o selebs eraill ond ymateb bob tro i’r 7 a ddangoswyd iddi o’r actores o Friends. Yn y gell hon trigai ei chof amdani. Enw arall ar y ffenomen yw “niwron nain”. Bellach mae Florian Mormann o Ysbyty Prifysgol Bonn wedi ychwanegu niwronau blas i’r cawl.

Dadansoddwyd data 17 claf a oedd yn derbyn triniaeth epilepsi trwy osod electrodau yn yr ymennydd. Gofynnwyd iddynt brofi 15 arogl yn cynnwys banana, licris, garlleg a choffi. Defnyddiwyd AI (deallusrwydd artiffisial) i ddehongli ymateb grwpiau o gelloedd a chelloedd unigol gyda chywirdeb o 60%. Roedd un gell yn yr amygdala (organ tebyg ei ffurf i gneuen almon sy’n chwarae rhan bwysig yn yr emosiynau) yn ymateb i arogl banana. Ond yn fwy nodweddiadol fyth oedd ei fod hefyd yn ymateb i lun banana ac i’r gair ysgrifenedig “banana”. Darganfuwyd un gell yn y cortecs piriffurf a oedd yn ymateb nid yn unig i arogl, llun a’r gair “liquorice” – ond hefyd i arogl anis. Cemegyn gwahanol, ond un a ddefnyddir yn aml yn yr un losin â licris.

Megis yr hanes am effaith newyn siwgr ar iechyd, mae’r ymchwil hwn yn manteisio ar gyfle prin i bontio arbrofion ar anifeiliaid a rhai ar bobol. Yn yr achlysur hwn cyd-ddehongli signalau o synhwyrau gwahanol (llygad, tafod a chlust). Codio amlfodd (cross-modal).

Digon o waith meddwl ac ystyried, felly, wrth fwynhau danteithion yr ŵyl. Ond un gair o gyngor gan Sofia Bouchebti a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Tel Aviv mewn papur yn PNAS ddiwedd mis Hydref. Os digwydd ichwi  daro ar gacynen meirch o’r dwyrain (Vespa orientalis) mewn parti ‘Dolig. Peidiwch, da chi, ag ymuno mewn gornest yfed â hi.

Nid yw’n anghyffredin i anifeiliaid fwyta (a mwynhau ?) alcohol mewn ffrwythau sydd wedi eplesu. Cyffredin yw’r straeon am foch yn meddwi ar afalau ar lawr perllan seidr. A dyma’r arfer. Dim ond hyd at oddeutu 4% alcohol (cryfder cwrw) y gall pry-ffrwythau (pry-finegr) ei oddef. Ond yn eu harbrofion ‘roedd y gacynen arbennig hon yn hapus i fwyta dim byd ond hyd at 80% alcohol am wythnos gron. Mae hyn bedair gwaith yn fwy nag unrhyw ffynhonnell mewn natur. (40% yw cryfder arferol gwirodydd masnachol o’r fath yng Nghymru). Rhan o’i chyfrinach yw meddu ar nifer o gopïau o’r gennyn dehydrogenas alcohol, y protein o hwn sy’n treulio’r cemegyn.

Mae’n debyg bod cacwn (gwenyn meirch) o bob math yn hoff o ddiodydd alcoholig (oenoffilia), ac fe’u defnyddir i’w dal a’u difa’n ddewisol yng ngwledydd megis Portiwgal er mwyn gwarchod gwenyn mêl rhagddynt. Ond Vespa’r dwyrain yw brenhines y bar.


Pynciau: Effaith Dogni Siwgr, Celloedd Cofio Blas, Cacwn Alcoholig


Cyfeiriadau

Effaith Dogni Siwgr: Tadeja Gracner, Claire Boone a Paul J. Gertler (2024) Exposure to sugar rationing in the first 1000 days of life protected against chronic disease. Science 386, (6725), 1043-1048

Celloedd Cofio Blas: Marcel S. Kehl, Sina Mackay, Kathrin Ohla, Matthias Schneider, Valeri Borger, Rainer Surges, Marc Spehr a Florian Mormann (2024) Single-neuron representations of odours in the human brain. Nature 634, 626–634

Cacwn Alcoholig: Sofia Bouchebti , Yael Gershon, Alexander Gordin, Dorothée Huchon ac Eran Levin (2024) Tolerance and efficient metabolization of extremely high ethanol concentrations by a social wasp.  PNAS 121 (44) e2410874121


<olaf nesaf>