Barn 85 (Mehefin 2015)

Yn Nature Neuroscience mis Mawrth mewn stori sy’n atgoffa rhywun o ffilm wyddonias, disgrifiwyd yn arbrawf lle gosodwyd “atgof” newydd mewn ymennydd llygod a oedd yn cysgu. Enghraifft arall o’r camau breision mewn niwrobioleg.  Llynedd enillodd John O’Keefe, May-Britt Moser ac Edvard Moser y wobr Nobel am Ffisioleg neu Feddygaeth am ddarganfod celloedd yn yr ymennydd sy’n ymwneud â chofio am lefydd unigol. Rhywle yn fy mhen i ymddengys bod o leiaf un gell ar gyfer fy hen gartref yng Nghaerdydd, un arall ar gyfer traeth Niwbwrch ac un ar gyfer fy swyddfa lle’r  ysgrifennaf hyn heno. Yn ôl yn 2005 darganfuwyd celloedd a oedd yn cynrychioli unigolion – y Beatles, neu Bill Clinton.  Dangoswyd 80 o luniau “selebs” i un wraig yn yr arbrawf – a’r canlyniad oedd i un gell anwybyddu pob un ond y 7 a ddangoswyd iddi o actores hirwallt y gyfres Friends. Wrth gwrs bedyddiwyd y math yma o gelloedd yn “Gelloedd Jennifer Aniston” gan y wasg.  Ond y celloedd lleoliad oedd targed yr arbrawf diwethaf gan Karim Benchenane a’i gydweithwyr ym Mharis. Yn ystod y dydd roedd modd monitro’r celloedd a darganfod pa rai oedd yn gysylltiedig â llefydd arbennig mewn campfa lygod. Yna, yn y nos pan oedd y llygod yn cysgu roedd modd dilyn breuddwydion y llygod wrth iddynt ail adrodd gweithgareddau’r diwrnod. Yn yr arbrawf, bob tro y “taniodd” cell ar gyfer un lle arbennig, cynhyrfodd y biolegwyr y rhan o’r ymennydd sy’n ymwneud â phleser a gwobr drwy electrod arall.  Pan ddihunodd y llygod aethant yn syth i archwilio’r lle yn y gampfa a oedd yn gysylltiedig â’r gell a fonitrwyd. Bellach roedd ganddynt “atgof” pleserus am y lle ac roeddent yn chwilio amdano.  Trwy hyn, am y tro cyntaf erioed, crëwyd atgof ymwybodol artiffisial.  Y mae hyn yn wahanol i’r therapi atgasedd a ddefnyddiwyd gan therapyddion i greu cysylltiadau yn yr isymwybod rhwng ysmygu ag arogl wyau a physgod pydredig, er enghraifft. Mewn sylw ar y gwaith yn New Scientist, nododd Neil Burgess o Brifysgol Llundain bod y canlyniad yn awgrymu y byddai modd gwneud i rywun awchu (neu rywun ?) er nad ydynt go iawn yn gwneud hynny.  Ar hyn o bryd, teg dweud fod yr arbrofion yma yn anodd iawn i’w gwneud – ac mai cyfyngedig iawn yw’r atgofion lleoliad fel y cyfryw.  Ond onid ydynt yn enghraifft arall i’w chynnwys ar y rhestr technegau lle y bydd rhaid i’r dyfodol ddewis a dethol defnydd derbyniol-therapiwtig ar un llaw ac annerbyniol ar y llaw arall.

Hanes arall am ymddygiad anifeiliaid a dynnodd fy sylw yn y Journal of Ethology. Ystyr “Etholeg” yw astudiaeth ymddygiad o dan amgylchiadau naturiol. Penderfynwch chi a oedd hyn yn wir y tro hwn !  Ym mis Ebrill 2013 anfonwyd 15 gecko i’r gofod o Rwsia ar y lloeren Bion-M1. Yr ymlusgiaid bychain hyn oedd yr unig griw byw. Llwyddodd un ohonynt i ddiosg ei goler adnabod cyn dechrau’r daith ac am 30 diwrnod gweddill y siwrnai ffilmiwyd y criw bach o “geconawtiaid” yn chwarae pêl gyda’r coler. Roedd eu crwyn gludiog yn eu hangori i ochrau’r gawell, ond roedd modd iddynt ddefnyddio’u trwynau i bwnio’r goler o fan i fan megis tîm pêl fasged. Mae’n debyg bod y fath yma o chwarae yn anghyffredin iawn ymysg ymlusgiaid gwaed oer – ond, yn ôl Gordon Burghardt o Brifysgol Tennessee, efallai bod absenoldeb disgyrchiant yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu hegni gwerthfawr i gael ychydig o hwyl !

Ond efallai bod, megis yn yr Hitch Hikers Guide to the Galaxy, Douglas Adams,  anifeiliaid y byd yn dechrau dangos eu bod wedi gwybod sut i ymddwyn fel ni ers y cychwyn.  Mae Marie Cibot o Amgueddfa Hanes Naturiol Paris wedi sylwi ar ymddygiad tsimpansïaid gwyllt yn Sebitoli yn Uganda lle mae priffordd brysur yn croesi eu tiriogaeth, gyda cheir yn gwibio heibio ar 100 km yr awr..   Gwelwyd bod 92% o’r anifeiliaid wedi dysgu eu Côd Croes Werdd gan edrych i’r dde neu chwith, neu’r ddau gyfeiriad cyn ac wrth groesi’r ffordd – gyda’r rhan fwyaf wedyn yn rhedeg yn syth ar draws.  Tybed pryd fyddant yn dysgu sut i ddefnyddio’r Zebra ?

Ond mae pobl hefyd y medru croesi’r ffin sy’n gwahanu pobl oddi wrth anifeiliaid.  Yn rhifyn ar-lein mis Mai o Neurocase mae hanes rhyfedd dyn dall sydd â’r ddawn i synhwyro’i amgylchedd yn yr un modd ag ystlum. Ganwyd Brian Borowski yn ddall 59 mlynedd yn ôl. Pan oedd mor ifanc â thair blwydd oed fe ddechreuodd ddysgu sut i ddehongli adleisiau sain o’i amgylch. Bellach, wrth symud o gwmpas mae Brian yn clicio’i fysedd neu’i dafod ac yn ddiymdrech yn defnyddio’r adlais i greu ymwybyddiaeth o’i leoliad. Er nad yw’n unigryw, mae dawn Brian yn anghyffredin iawn. Dengys sganiau MRI ohono, ac o’r rhai eraill tebyg iddo, eu bod yn defnyddio’r un rhan o’r ymennydd ag y mae’r gweddill ohonom yn ei ddefnyddio i ddehongli’r byd gweledol.  Yn yr erthygl ddiweddar mae Brian wedi cydweithio a thîm o Brifysgol Durham i weld sut mae adnabod y gwahaniaeth rhwng rhywbeth bach agos a rhywbeth mawr, pellach i ffwrdd.  Er bod pobl sydd yn gweld yn gwneud hyn yn ddidrafferth, nid yw’n hollol amlwg sut. Y cwestiwn oedd a fyddai modd i Brian Borowski wneud yr un peth gyda’r adleisiau. Fe wnaeth hynny’n rhwydd – yn wahanol iawn i grŵp o wirfoddolwyr dall a rhai eraill a oedd yn medru gweld. Mae’n amlwg bod rhaid datblygu’r sgil dros amser.  Ers diwedd y ddegawd diwethaf mae dyn o’r enw Daniel Kish yn Califfornia wedi bod yn rhedeg cyrsiau yno, ond nid yw eto wedi cyrraedd ysgolion plant ddall.  Bellach mae Lore Thalen, arweinydd y grŵp o Durham, yn cynorthwyo’r Cyngor Sir yno i redeg gweithdai ar y pwnc. Nid oes neb yn honni y bydd hyn mor effeithiol â gweld go iawn – ond mae’n enghraifft arall o ba mor hyblyg yw’r ymennydd.  Tybed beth yw sŵn adlais Jennifer Aniston ? Mae’r gell ym mhen Brian Borowski a’i debyg yn aros amdano !