
Bethan oedd ei henw. Ond efallai imi gamddeall. Beth bynnag am hynny, hi wnaeth fy eisteddfod i eleni. Roeddwn newydd fy siomi wrth ddeall nad oedd cystadlu yn y Cyflwyniad Gwyddonol fore Mawrth Gŵyl Pontypridd. Ond o’r herwydd fe gefais awr i grwydro’r Lloc Gwyddoniaeth yn yr haul braf. Taro ar gaban lle ‘roedd triawd o Ysgol Feddygol Caerdydd, Luned Badder o Bwllheli yn eu mysg, yn esbonio i griw ifanc beth oedd firysau a sut oedd modd eu defnyddio i drin cancr. Roedd un o’r criw, ryw ddeg oed, wedi llwyr ymgolli yn y dasg o adeiladu model adenofirws. Plygiad olaf y cardfwrdd yn sialens i’w bysedd ifanc. Rhaid oedd cael llun ar gyfer Barn, meddyliais. Gofynnais, ond roedd sylw’r crëwr firws yn bell i ffwrdd. Trois at y fam a gofyn eto. Gan bwyntio at ei merch, ei hymateb, diddeall ond gyda gwên falch, “She’s the Welsh speaker”. Ac roedd ymgom rugl y ferch ifanc o’r cymoedd a’r gwyddonydd o Bwllheli yn cadarnhau hynny tu hwnt i gred. “A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed.” Mae gwyddoniaeth Gymraeg mewn dwylo cadarn.
Roedd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 yn rhwym o fod yn un arbennig i mi. Fy Nghenedlaethol gyntaf oedd un Aberdâr 1956 – lle ‘roedd fy nhaid, y Deri gwreiddiol, ar y Pwyllgor Llên. Bu’n weinidog yn Nhre Hopcyn yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae pedair cenhedlaeth o ochr fy mam wedi’u claddu yn Aberdâr a Phenderyn. Ac ar ochr fy nhad, rwy’n rhannu’r un cromosom Y â Barwnediaid Ynys Hir (Y Rhondda). Syr William James Thomas, a wnaeth y cyfraniad ariannol mwyaf i sefydlu’r Ysgol Feddygol yng Nghaerdydd, lle astudiodd fy mab, Cynon, ganrif yn ddiweddarach.
Gyda balchder, felly, y croesais y bont o’r Orsaf i Barc Ynysangharad. Ac am ryfeddod. Ar faes a oedd yn ymdebygu i sglodyn silicon o safbwynt ei faint a dwyster ei gydrannau, roedd y Wyddoniaeth, y Llên, y Cymdeithasau a’r Celf o fewn tafliad talp glo Nantgarw i’w gilydd. A chaffi de hwylus yn eu canol pan ddaeth y glaw.
Ond haul oedd piau hi’r bore Mawrth hwnnw. A’r plant wrth eu boddau. Wrth stondin Cymdeithas Cemeg y Brenin roedd crwt ifanc o’r cwm yn pedlo nerth ei draed ar feic statig. Ei drydan yn cynhyrchu swigod helaeth o hydrogen mewn jar. Tanwydd y Dyfodol. A braf oedd trafod William Grove, o Abertawe, a gynlluniodd y gell danwydd yn 1839 â’r Sais o’r Gymdeithas a oedd ar ei ymweliad cyntaf ag Eisteddfod, ac, o bosib, ei gyflwyniad cyntaf i’r Gymraeg. Yn hwyrach yn yr wythnos, hydrogen a William Grove oedd pwnc erthygl wobrwyol Iwan Steele, Ffynnon Taf, yn y Traethawd Gwyddonol.
Yn y caban nesaf roedd hen gyfaill i’r Genedlaethol, Tony Thompson o Drelái yng Nghaerdydd. Ei gwmni (TSE) yn hyrwyddo pynciau STEM i’r to iau yn y Gymraeg. Model o’r crwydryn ofod Exo Mars oedd yn tynnu sylw. Ei gamera (o’r enw Enfys) yn gywaith rhwng Prifysgolion Wrecsam ac Aberystwyth a Qioptiq o Lanelwy. Wrth drafod Cymru yn y gofod, fe ddysgais gan Tony am ymdrechion Space Forge o Dredelerch yng Nghaerdydd wrth iddynt ddatblygu lloerennau masnachol i’w lansio ar rocedau Space X, Elon Musk.
Roedd dau bar o dadau a meibion yn allweddol i wyddoniaeth yr Ŵyl eleni. Dafydd Roberts oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Ei waith trylwyr a gwreiddiol yn adlewyrchu ei dad Guto a fu’n Gadeirydd a Llyw i’r Pwyllgor Canolog am flynyddoedd. Droeon bu Guto yn bensaer modelau enfawr i ddifyrru ymwelwyr y Babell Wyddoniaeth. Eleni, dau fodel ychydig llai oedd ei gyfraniad. Un o beiriant ager Newcomen – hebryngwr y Chwyldro Diwydiant – y llall, a gymerodd dair blynedd i’w adeiladu, o locomotif enwog Richard Trevithick a wnaeth y daith epig o Ben y Darren i Abercynon ym mis Chwefror 1804.
Guto gyflwynodd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni. Y derbynnydd oedd Rhodri Jones, Pennaeth y Pelydrau yn CERN yn Genefa. Rhodri oedd rheolwr y Gwrthdarwr Hadron Mawr (LHC) wrth iddo gadarnhau bodolaeth Boson Higgs yn 2012. Y flwyddyn honno, Rhodri draddododd y Ddarlith Wyddonol Flynyddol. Eleni, ym Mhontypridd cafwyd ganddo ddiweddariad ar yr hanes a’i oblygiadau i’r dyfodol.
Roedd deigryn yn llygad Guto Roberts yn ystod cyflwyno, gan y bu yntau yn gyfaill ac yn gyd sefydlwr y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn 1971, â’r diweddar Dyfrig, tad Rhodri. Bu Dyfrig yn gweithio ym Mrwsel i Asiantaeth Gofod Ewrop cyn symud i Gaergrawnt. O ganlyniad dim ond yn ystod blynyddoedd coleg yn Abertawe (ac adeg ei eni) y bu i Rhodri fyw yng Nghymru. Eto mae ei Gymraeg, a Chymraeg ei bedair merch, yn hollol rugl, fel y tystia ei aml gyfraniadau i raglenni dogfen gwych Elin Rhys.
Gan Rowland Wynne, un arall o sylfaenwyr y Gymdeithas Wyddonol, y cafwyd cadwyn gyswllt amserol rhwng Robert Oppenheimer â’i arwr y ffisegydd Evan James Williams.
Ond gyda Dyletswyddau Taid yn fy ngalw, a gwibdaith pum niwrnod yn cyfyngu, fe gollais gymaint, gan gynnwys cyfres o gyflwyniadau clasurol gan gewri megis Ifan Hughes am Gyfrifiaduron Cwantwm, Rhys Morris am Delesgop Gofod Webb, Hywel Griffiths am lifogydd hanesyddol yr ardal, Gareth Roberts am gysylltiad Treorci â geni’r Rhyngrwyd a Guto Roberts am ddylanwad peiriannau ager ar gymoedd y De.
Collais hefyd y cyfle i ymuno a chyfres o weithdai adeiladu roced yn y Lloeren. Mae’n debyg mai eu penllanw oedd gweld lansiad preifat ar y penwythnos olaf.
Fe gafodd pawb a gollodd ddarlith Neville Evans am rai o raddedigion gwyddonol ysgolion y fro gyfle i wneud iawn am hynny wrth dderbyn ganddo lyfryn cynhwysfawr (GwMPaTh-iaid RhCT) am hanner cant ohonynt. Trafododd sawl un ohonynt gydag Elin Rhys ar Radio Cymru brynhawniau Sul wedi’r Ŵyl.
Ond fe gefais flas o ddarlithwyr y dyfodol wrth wrando ar gyflwyniad campus Carys Bill o Goleg Imperial am yr holl wrthrychau o’r gofod sydd wedi taro’r ddaear, ac ar Ali Roberts o Brifysgol De Cymru a lenwodd yn wych fwlch yn absenoldeb ei chydweithwyr o banel trafod deallusrwydd artiffisial mewn addysg.
Er trafod AI yn helaeth eleni, doedd dim byd artiffisial am frwdfrydedd Cymraeg gwyddoniaeth a thechnoleg Pontypridd. DNA oedd testun un ymgais am y Fedal Ddrama, o barchus goffadwriaeth, hyd yn oed. Diolch i bawb.
Pynciau: Eisteddfod Genedlaethol Rhondda, Cynon, Taf
Cyfeiriadau
Tudalen Gwe Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
