Tudalen heb ei orffen
Roedd wedi trefnu pethau i’r dim ! Ganol Chwefror traddododd yr Athro Huw Morgan (Huw Haul), Aberystwyth, ddarlith hynod ddiddorol ar wyntoedd a stormydd yr haul, a’u heffaith ar y Ddaear i Gymdeithas Wyddonol Gwynedd ym Mangor. Chwe noson yn unig wedyn gwelwyd dros y wlad un o’r sioeau gorau o’r Aurora Borealis ers blynyddoedd. Roedd doniau’r Athro cerddorol i ddarlunio ei gyflwyniad wedi cyrraedd yr entrychion! Da oedd dysgu am enwau Cymraeg y digwyddiad – Ffagl neu Lewyrch yr Arth, ac (ar Dros Frecwast) am ddiddordeb rhai fel Dafydd Morgan o Dregaron sydd, trwy rwydwaith “ap”, yn disgwyl mewn gobaith ei weld bob dydd o’r flwyddyn.
Wn i ddim ai J. Glyn Davies fathodd yr ymadrodd “asgwrn yn ei cheg” ar gyfer y don wrth drwyn llong yn hwylio trwy’r môr – ond mae’n cyfleu’n dda y don yn y gofod wrth i faes magnetig y Ddaear wthio gwynt yr haul i’r neilltu. Effaith weladwy o’r don yma yw Ffagl yr Arth. Mae’n amlwg i “long” y Ddaear daro ton mwy na’r arfer ddiwedd Chwefror.
Roedd Huw hefyd wedi trefnu i erthygl-glawr y New Scientist yr union wythnos honno drafod agwedd arall ar yr un egwyddor. Gan ehangu gorwelion yn sylweddol, disgrifiodd y colofnydd Jonathan O’Callaghan yr ymchwil diweddaraf i’r “asgwrn” sydd yng ngheg cysawd cyfan yr haul wrth iddo symud trwy stormydd y “moroedd” rhwng y sêr. Dyma’r Heliopôs lle gwthir gwyntoedd yr haul o’r neulltu gan sylwedd y gofod rhwng y sêr. Dyma derfyn Cysawd yr Haul. Yn 2012 croesodd Voyager 1, lloeren a lansiwyd yn 1977 i astudio’r planedau allanol, y ffin hon ac anfon gwybodaeth amdano yn ôl i’r ddaear am y tro cyntaf. Roedd Voyager ar y pryd 122-gwaith pellter y Byd o’r Haul i ffwrdd (tua 12 mil miliwn milltir). Yn 2018 croesodd Voyager 2 yr un terfyn mewn cyfeiriad arall. Yr efeilliaid mordwyol yma yw’r unig wrthrychau o wneuthuriad dynol i adael Cysawd yr Haul.
Ond yr hyn a’m cynhyrfodd yn erthygl O’Callaghan oedd y dystiolaeth am y tywydd amrywiol (i gadw’r trosiad) sy’n ein disgwyl wrth i deulu’r Haul symud rhwng y sêr. Yn 1992 darganfu Rosine Lallement o Brifysgol Paris, ein bod yn mordwyo cwmwl rhwng y sêr ryw 10 blwyddyn goleuni ar ei thraws – Y Cwmwl Rhwng y Sêr Lleol. Aethom i’r parth yma ryw 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond bellach mae disgwyl symud i gwmwl arall (Cwmwl-G) mewn cwta 2000 o flynyddoedd. Hyd y gwyddom, tebyg iawn yw “tywydd” y ddau gwmwl – ond erys y cwestiwn a oes bwlch rhyngddynt ? Efallai y bydd tywydd y bwlch yn cyfateb i’r amgylchiadau a arweiniodd at Ffagl yr Arth ddramatig ddiwedd Chwefror a chaniatáu cynnydd digroeso yn y pelydrau cosmig peryglus sy’n taro’r Ddaear.
Dylanwad mwy cyfarwydd yr haul oedd testun papur yn Applied Animal Behaviour Science mis Ionawr. Bu Emma Kampherbeek o Brifysgol Wageningen a chydweithwyr o San Luis Obispo yng Nghaliffornia yn astudio rhywbeth o ddiddordeb cynyddol i ni yng Nghymru. Ymddygiad defaid yn pori mewn caeau amaethyddol a ddefnyddir ar gyfer paneli solar. Defaid Dorper, yn wreiddiol o Dde Affrica, oedd gwrthrychau’r gwaith a chymharwyd eu pori rhwng caeau solar â chaeau cyfatebol heb baneli. Ym misoedd yr Hydref a’r Gaeaf y bu’r gwaith – pan nad oedd y borfa’n tyfu rhyw lawer oherwydd sychdwr naturiol a gyda thymheredd dydd yn 17.5°C ar gyfartaledd.
Gorchuddiwyd 60% o arwynebedd y caeau solar gan y paneli. I’r cynhyrchwyr trydan, diben presenoldeb y defaid oedd cadw trefn ar y llystyfiant. Byddai hyn yn osgoi cysgodion ar y paneli – ac yn lleihau perygl tanau gwyllt. Mae’r drefn, hefyd, yn caniatáu hybu pryfed peillio a gosod cychod gwenyn. Gelwir y rhain yn ffermydd Agrifolteig.
Treuliodd y defaid 70% o’u hamser yng nghysgod y paneli gan bori 8% yn hirach na’u chwiorydd yn y caeau heb baneli. Treuliasant 71% mwy o amser yn gorwedd a 16% llai o amser yn sefyll heb bori. Dau beth sy’n awgrymu bodlonrwydd – efallai yn sgil y cysgod a ddaw rhag yr haul a’r gwynt a’r glaw. Yn ei dro roedd llai o garbon ond mwy o nitrogen yn y porthiant. Ffactorau sy’n cynyddu ychydig ar ei safon – er na fesurwyd y gwahaniaeth yn natblygiad y defaid yn y gwaith.
Honna’r awduron mai hwn oedd yr ymchwil cyntaf o’i fath. Diddorol fyddai gweld rhywbeth tebyg yng Nghymru. Yn enwedig os bydd newid hinsawdd yn troi caeau misoedd yr haf yma yn debycach i rai gaeaf Califfornia.
Mae’n debyg ei bod yn anochel y bydd technoleg newydd yn dal i ddylanwadu ar ein cyflenwad bwyd. Mwy anochel fyth yw ei effaith ar ryfeloedd ein hamserau.
Fel nifer, mae’n debyg, fe’m synnwyd wrth ddysgu am y defnydd eang a llwyddiannus o ddroniau bach gan y ddwy ochr yn Rhyfel Wcráin. Rhaid cyfaddef mai fel teganau dynion canol oed ac ifanc yr oeddwn yn dal i’w hystyried. Ac mae’n debyg mai dyna yn union oedd un elfen wrth wraidd llwyddiant byddin yr Wcráin i atal ymosodiad Rwsia i gyfeiriad Kyiv yn wythnos gyntaf y rhyfel presennol. Llywiwyd y teclynnau gan grŵp bach o hobïwyr ac arbenigwyr Technoleg Gwybodaeth a aeth ati i sefydlu uned Aerorozvidka naw mlynedd yn ôl. Yn ôl y Guardian bu’r rhain yn elfen allweddol yn yr ymgyrch Dafydd a Goliath a fu yno.
Un agwedd yn unig o ymfyddiniad awyrennau (a llongau a cherbydau) di-beilot yw hyn. Mae gan Rwsia ei hun raglen i’w datblygu. Israel, Iran a Thwrci sy’n arwain y gwledydd llai yn y ras i adeiladu (a gwerthu) awyrennau rhyfel di-beilot. Mae Twrci, eisioes, wedi gwerthu dwsinau o’i Bayraktar TB2 i Wcráin ar gost o $5 miliwn yr un. Tra bod gan yr Unol Daleithiau y RQ-9 Reaper (snip am £50 miliwn – efallai y byddant yn ymddangos yn Wcráin os pery’r rhyfel yn hir) – a’r RQ-4 Global Hawk am £200 miliwn yr un. Yn ôl gwefan Al Jazeera, Tsieina bellach sy’n arwain pac allforwyr y math yma o dechnoleg (er enghraifft, i fyddinoedd Cynghrair Sawdi yn y rhyfel yn Iemen). Y Caihong (Enfys) 5 yw eu fersiwn nhw o’r Reaper.
Mae rhyfel Wcráin-Rwsia yn cynnig siop ffenest dda i’r diwydiant. Ond yn fwy peryglus bydd hefyd yn arwain technoleg rhyfel i groesi ffiniau moesol newydd. Ar ddechrau Chwefror datgelwyd rhaglen AMASS (Automated Multi-Domain Adaptive Swarms-of-Swarms) asiantaeth ymchwil amddiffyn yr Unol Daleithiau. Y syniad yw manteisio ar lwyddiant y dronau bach yn yr Wcráin – a’u darparu ar raddfa enfawr. Cymysgedd o gerbydau awyr, tir a môr ag iddynt ddoniau telegyfathrebu a fyddai’n osgoi’r angen am lywiwr unigol i bob un (fel yn Wcráin). Gallai miloedd ohonynt gyd-reoli dros wlad gyfan – ni fyddai angen rheolaeth o’r tir, er sonnir y byddai ymyrraeth ddynol pe bai angen. Ond wrth i’r nifer luosogi, dadleua Zak Kallenborn, arbenigwr o Brifysgol George Mason, Virginia, na fyddai’n ymarferol i’r fath ymyrraeth weithio. Disgrifia’r canlyniad yn Arf Dinistr Torfol newydd.
Mae’n debyg nad dim ond Cysawd yr Haul fydd yn mordwyo i foroedd newydd ansicr yn y blynyddoedd i ddod.
Pynciau: Cysawd yr Haul, Defaid Solar, Droniau Wcráin
Cyfeiriadau
Cysawd yr Haul: Jonathan O’Callaghan (2023) We’re hurtling into a new region of interstellar space. What now? New Scientist. 15 Chwefror 2023
Defaid Solar: Emma W. Kampherbeek, Laura E. Webb, Beth J. Reynolds, Seeta A. Sistla, Marc R. Horney, Raimon Ripoll-Bosch, Jason P. Dubowsky, Zachary D. McFarlane (2023) A preliminary investigation of the effect of solar panels and rotation frequency on the grazing behavior of sheep (Ovis aries) grazing dormant pasture. Applied Animal Behaviour Science 258, Ionawr 2023, 105799
Droniau Wcráin: Roberto J. González (2023) Drones over Ukraine: What the war means for the future of remotely piloted aircraft in combat. The Conversation. Chwefror 23, 2023
