Blynyddoedd yn ôl cefais ymwelydd â’r labordy o Israel. Bu Dov Koller yn arwain tanc yn ystod Rhyfel Yom Kippur – ac roedd yn dipyn o gymeriad. Gobeithiai ennill grantiau ymchwil o NASA i ymchwilio i sut yr oedd dail rhai planhigion yn dilyn yr haul ar draws y ffurfafen. Roedd yn gyfarwydd â’m gwaith ar fiomecaneg ac am gael fy nghymorth. Diddordeb NASA fyddai darganfod dulliau mwy effeithlon o symud darnau o loerennau – megis paneli solar a dysglau cyfathrebu. Rwyf wedi trafod Biomimeteg – copïo cynlluniau natur i’n peirannau ni ein hunain – o’r blaen yn y golofn hon. Er na chafwyd arian o America, cawsom gryn hwyl ar ddatrys mecaneg dail ffa wrth iddynt ddilyn ein seren agosaf. Bu cyfeillion o Japan yn fwy llwyddiannus, wrth iddynt efelychu agor blagur dail coed hicori wrth gynllunio dadbacio codennau gofod.
Daeth hyn i gyd yn ôl yn fyw imi wrth fwynhau cinio Nadolig blasus eleni. Un fantais bod yng nghwmni pobl ifanc yw eu bod, o bryd i’w gilydd, yn cyfeirio at eu ffonau. Bendithiais frawd “bach” fy merch yng nghyfraith wrth iddo fy ngoleuo ar lansiad hanesyddol telesgop James Webb wrth iddo ddigwydd.
I bawb sydd â hanner diddordeb mewn gwyddoniaeth dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, bu lluniau anhygoel Telesgop Ofod Hubble o ryfeddodau’r Bydysawd yn bleser os nad yn addysg bur. Heb sôn am angen anthropomorffig bron yr Hubble i wisgo sbectol i gywiro’i olwg ! Mae dyn yn cydymdeimlo wrth fynd yn hŷn. Ond ers dros bymtheng mlynedd bu aros mawr am ei olynydd. Bu cryn oedi, ac yn 2011 pleidleisiodd y pwyllgor cyllid perthnasol i ddileu’r prosiect oherwydd ei gost gynyddol. Ond erbyn diwedd y flwyddyn honno penderfynodd Cyngres yr UD barhau. A bellach, ar gost o ryw $10 biliwn, ni fedrwn ond dychmygu’r straen ar y miloedd oedd ynghlwm âr gwaith wrth bwyso botwm tanio’r roced (Ewropeaidd) Ariane 5 ar Ddydd Nadolig yn Kourou, Guyane. Ond bu perfformiad y roced mor dda, arbedwyd cryn dipyn ar y tanwydd oedd wrth law i symud Webb ymlaen i’w safle barhaol. Bydd hyn yn ei alluogi i weithio yn sylweddol hirach i’r dyfodol nag a gynlluniwyd. Ond ar ôl y lansiad cynhyrfus, roedd yn rhaid dadbacio’r holl gydrannau heb gymorth yr un gofodwr – fel y bu yn hanes Hubble. Un rheswm yw y bydd y telesgop yn cylchdroi o amgylch yr haul (yn hytrach na’r ddaear, fel yn achos Hubble) tua miliwn o filltiroedd o’n planed – bedair gwaith yn bellach na’r lleuad.
Da gennyf ddweud, erbyn imi ysgrifennu hyn daeth y newyddion mai llwyddiannus fu’r 200 o gamau “Origami” angenrheidiol i nid yn unig agor flat pack y lloeren, ond ei ddrych euraid 6.5 metr ar ei draws a’r darian maint cwrt tenis a fydd yn ei warchod rhag gwres yr haul. Y dadbacio yma oedd un o’r sialensiau technegol mwyaf heriol yn hanes mordwyo’r gofod. [Cyrrhaeddodd y JWT ei safle barhaol ar Ionawr 24 2022.]
Bellach disgwylir i’r lluniau cyntaf ymddangos dros yr haf. Ac fe ddisgwyliaf innau ddarganfyddiadau hanesyddol rheolaidd i rywun eu cynnwys yn Barn am flynyddoedd i ddod – ac a fydd yn fy nghynhyrfu a’m difyrru innau am weddill fy oes. Nid yn unig y mae Webb yn ddeng i ganwaith cryfach na Hubble, ond mae ei offer yn cynnwys chwarter canrif o ddatblygu technegau dadansoddi. Mae telesgop o’r fath yn Beiriant Amser gan fod angen amser ar y goleuni i’n cyrraedd o’r pellteroedd. Mae popeth a wêl Webb yn rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol – ac fe fydd y pethau pellaf mor bell fel y byddant yn cynrychioli genedigaeth y sêr a’r galaethau cyntaf a ffurfiodd o dan amgylchiadau pur wahanol i’r presennol, tua tair ar ddeg a hanner biliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ychydig yn ddiweddarach na dechrau amser, a thua’r un amser ag ymweliad Dov Koller â’m labordy, derbyniodd biolegydd planhigion disglair ei ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor. Bellach Julian Hibbard yw un o fotanegwyr mwyaf blaenllaw Prifysgol Caergrawnt. Ychydig cyn y Nadolig cyhoeddodd ef a’i gydweithwyr ganlyniad arbrawf nad oedd neb yn disgwyl iddo weithio. Fe lwyddodd i impio bonyn wrth wraidd math arbennig iawn o blanhigyn.
Nid yw impio llwyddiannus yn rhywbeth newydd mewn amaeth. Mae’n bosib bod ambell ddarllenydd Barn yn feistr ar impio rhosynnau – neu goed afalau. Yn wir, heb impio ni fyddai modd tyfu’r math o afalau sy’n ein bodloni heddiw o gwbl. Mae’r broses hefyd yn bosibl mewn anifeiliaid – er ar raddfa llai cyffredin. Fe fydd y newyddion cynhyrfus am drawsblannu calon mochyn er mwyn ceisio ymestyn bywyd David Bennett ym Maltimore ar ddechrau Ionawr yn sicr o godi proffil impiadau o’r fath.
Yn ffodus i Julian Hibbard, nid yw ei impiad ef yn debygol o dynnu sylw’r wasg yn yr un modd. Ond fe all fod o ddylanwad llawer mwy sylweddol i’n dyfodol. Beth, felly, sydd mor arbennig am ei waith a llwyddiant syniad ei fyfyriwr PhD, Gregory Reeves ? Yr hyn a lwyddwyd i’w wneud oedd impio bôn a gwreiddyn math o blanhigion sy’n cynrychioli canran fawr o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta – sef y monocotyledonau. Enw anghyfarwydd, efallai, ond cynrychiolant tua 20% o holl blanhigion tir sych. Yn bwysicach, nid yn unig y maent yn cynnwys yr holl ydoedd (gwenith, reis, india-corn, haidd ac ati) ond hefyd gnydau o bwys masnachol megis datys a phalmwydd eraill, bananas, pinafalau a nionod.
Gellir disgwyl i labordai ymchwil a masnachol ledled y byd fanteisio ar y dechneg. Mae tîm Caergrawnt eisioes wedi dangos bod modd cyfleu gwrthiant i ymosodiad mathau o ffwng o’r pridd ar wenith trwy ddefnyddio gwreiddyn ceirch priodol. Gellir disgwyl manteision mawr i dyfwyr bananas. Nid yw’r fanana math Cavendish – sy’n sail i ran fwyaf o fasnachu’r ffrwyth yn fyd eang – yn tyfu o had. Mae’n rhaid ei dyfu o doriadau – yn glôn unffurf sy’n agored i bob math o glefydau. O’r herwydd y fanana yw un o’r bwydydd sydd angen y mwyaf o driniaethau cemegol i’w hamddiffyn. Byddai impio bonyn Cavendish i wreiddyn “gwyllt” yn dilyn y patrwm cyffredin gydag afalau.
I lwyddo bu rhaid i’r tîm ddefnyddio math o fôn gelloedd o hadau newydd eu hegino fel cyfrwng i gyflwyno dwy ochr yr impiad i’w gilydd. Maent nid yn unig wedi cyflwyno ymarferiadau newydd, ond trwy ddadansoddi’r cydweithio rhwng genynnau’r tri phartner maent wedi dadlennu llawer am y prosesau a ddatblygodd yn y monocotyledonau yn ystod y 130 miliwn o flynyddoedd ers iddynt dorri ffwrdd o’u gefeilliaid, y dicotyledonau yng Nghyfnod y dinosoriaid. Yn ystod yr ysbaid yma mi fydd goleuni’r sêr pellaf a hynaf wedi teithio’r 1% olaf ei daith ar y ffordd i ddrych telesgop Webb ac i’n canfyddiad ni.
Pynciau: James Webb, Impiadau
Cyfeiriadau
James Webb: Gwefan NASA.
Impiadau: Gregory Reeves, Anoop Tripathi, Pallavi Singh, Maximillian R. W. Jones, Amrit K. Nanda, Constance Musseau, Melanie Craze, Sarah Bowden, Joseph F. Walker, Alison R. Bentley, Charles W. Melnyk a Julian M. Hibberd (2022) Monocotyledonous plants graft at the embryonic root–shoot interface. Nature (602) 280–286