Barn 115 (Mehefin 2018): Roboteg biolegol, Cost twristiaeth a heddwch, Addysg


Am flynyddoedd yn yr Ysgol Gwyddorau Bioleg ym Mhrifysgol Bangor cafwyd gwasanaeth amhrisiadwy aelod o’r staff a alwyd gan bawb yn “Supertech”. Ei enw go iawn oedd Andrew Davies. Mae colled fawr ar ei ôl, gŵr bonheddig a chymwynasgar tu hwnt. Un o’r dyfeisiadau lu a gynlluniodd oedd pecyn telathrebu i eistedd ar gefn adar wrth iddynt hedfan. Rai blynyddoedd ar ôl marwolaeth Andrew, bu cryn gyhoeddusrwydd wrth i ddatblygiad o’i becyn groesi mynyddoedd yr Himalaia ar gefn gŵydd fudol gan brofi galluoedd rhyfeddol yr adar yma i hedfan o wastatir India i’r uchelfannau ar eu taith i’r gogledd. Fe’m hatgoffwyd o Supertech wrth ddarllen erthygl yn y cylchgrawn Soft Robotics ddechrau Mai. Chwilen fionig, yn wir ystyr yr ymadrodd, yw dyfais Hirotaka Sato a’i ddau gydweithiwr o Singapore. Yn lle ceisio adeiladu drôn robot mecanyddol ar egwyddorion biolegol (biomimeteg), am y tro cyntaf, cynlluniwyd modd i reoli llwybr hedfan chwilen fyw. Trwy gwneud hyn mae modd manteisio’n llwyr ar holl gyfundrefn soffistigedig rheoli acrobatig y pryfyn ac nid oes angen egni batri i’w gynnal yn yr awyr. I hwyluso’r gwaith dewiswyd chwilen arbennig o fawr. Mae cyrff gwrywod Mecynorrhina torquata yn 55-85mm o hyd, a bu modd gosod cylched rheoli a batri lithiwm yn pwyso 1.3g ar eu cefnau. Cysylltwyd y rhain ag electrodau wedi’u gosod ym mhedwar o gyhyrau hedfan y chwilen. Trwy wneud hyn bu modd rheoli’r llwybr hedfan gyda chywirdeb o 79%. Mae’n debyg nad oedd y driniaeth yma yn effeithio ar hyd oes 3-6 mis yr anifeiliaid. (Mater arall, efallai, yw safon eu bywydau !)  Y bwriad yw gwella cywirdeb y rheoli nes bydd modd defnyddio’r “dyfeisiadau” hyn wrth chwilio ac achub ar ôl trychineb megis daeargryn trwy osod synwyryddion gwres a charbon deuocsid yn y pecynnau. Yn holl bwysig, oherwydd nad oes galw ar y batri i gynnal y symud, mae modd ystyried eu defnyddio am oriau ar y tro yn lle’r ychydig funudau yn unig sy’n bosibl gyda drônau mecanyddol presennol.

Pwy a ŵyr beth fydd bwriad y creaduriaid sy’n suo o gwmpas ein bwrdd picnic mewn blynyddoedd i ddod ? Ysbïo, efallai. Fe fyddai hynny’n un modd o hel gwybodaeth am dwristiaeth. Yn ôl erthygl yn y rhifyn diweddaraf o Nature Climate Change  gan Arunima Malik a’i chydweithwyr o Brifysgol Sydney bydd angen mwy a mwy o’r wybodaeth hon wrth ymgodymu â newid hinsawdd. Yn ôl y papur,  twristiaeth yw un o ddiwydiannau twf pwysica’r blaned, gyda darogan twf parhaol o ryw 4% y flwyddyn. Darganfu Malik bod hyn yn gyfraniad sylweddol at droednod carbon y byd – ryw 8% o’r cyfan rhwng 2009 a 2013. Mae hyn bedair gwaith yr hyn a dybiwyd gynt. Daw’r ail asesiad trwy iddynt gynnwys amcangyfrif am allyriadau anuniongyrchol y diwydiant o 160 o wledydd. Felly, yn ogystal ag effaith hedfan a môr-deithio, cynhwyswyd y gwledda, y swfenîrs a chyfraniad cynnal gwestai yn y cyfrif. Dadleua Malik y bydd y cynnydd, gyda thwristiaid o Tsieina a gwledydd tebyg yn prysur ddal i fyny â’r Unol Daleithiau, yn diddymu unrhyw ymgais i arbed y difrod trwy dechnoleg, megis cynllunio awyrennau mwy effeithlon.

Yn sicr, busnes cymhleth yw Achub y Blaned; fel yr eglurwyd mewn erthygl gan Luke Taylor yn New Scientist ganol Mai. Ar ddiwedd 2016 daeth rhyfel cartref 52 mlynedd i ben yng Ngholombia. Ers dwy genhedlaeth bu’r Fuerzas Armadas Revolucionarias de Colombia (y FARC) yn ymladd yn erbyn llywodraethau’r wlad. Yn ystod y cyfnod bu 200,000 farw a chrëwyd 7 miliwn ffoadur. Bendithion ddaw gyda’r heddwch. Un ohonynt yw’r modd y tyfir rhosod bellach yn hytrach na chocên felltith. Y llynedd allforiwyd 4 biliwn blodyn i’r Unol Daleithiau, lle mae eu diwydiant tyfu rhosod hwy wedi bron ddiflannu dros nos. (Nid yw Trump wedi cwyno hyd yma am golli swyddi yn America, diolch i’r drefn.) Bellach daw 20% o allforion Colombia drwy’r gweithgaredd hwn. Ond yn ôl Taylor mae pris arall i’w dalu ac nid newyddion da yw’r heddwch i ranbarth yr Amazon o’r wlad. Yno, yn nhalaith Guaviare, ‘roedd FARC yn arfer rheoli’n ddigyfaddawd. Er mai cocên oedd un o sylfeini’r economi, ‘roedd FARC yn ystyriol o’r amgylchedd – gan gosbi’r sawl a oedd yn cymryd mwy o’r fforest nag oedd ei angen ar gyfer cynhaliaeth. Cyfnod gweddol sefydlog i 400 o dylwythau brodorol a channoedd o rywogaethau o dan fygythiad yn yr ardal.   Ers yr heddwch diflannodd y rheolaeth lem, a bellach grwpiau afreolus sy’n teyrnasu ac mae yno argyfwng. Cynyddodd y raddfa torri a llosgi’r fforest yn aruthrol, 44% y flwyddyn ers 2016 ! Adlewyrchiad trist o’r drefn gyfalafol yw bod grwpiau hap-fasnach (speculative) yn anrheithio ardaloedd eang gan ddisgwyl y bydd modd eu hawlio fel rhan o’r cytundeb heddwch.

Efallai y dylai’r masnachwyr barus ddarllen astudiaeth Wolfgang Lutz ag Endale Kebede o’r Athrofa Dadansoddi Systemau yn Laxenburg, Awstria, yn Population and Development Review mis Ebrill.  Nid oes amheuaeth bod amgylchiadau iechyd a disgwyliadau hyd oes wedi cynyddu law yn llaw â datblygu cymdeithas dros y ganrif a hanner diwethaf. Yn 1976, mewn llyfr dylanwadol, dadleuodd Thomas McKeown mai newidiadau cymdeithasol, yn hytrach na thechnoleg feddygol, oedd yn gyfrifol am hyn. Bu gweithwyr, megis Samuel Preston, yn holi pa ffactorau oedd bwysicaf. Eu canlyniad oedd mai cyfoeth personol oedd y ffactor pwysicaf. Mae angen arian i fod yn iach ac i fyw yn hir.  Yn eu hadolygiad mae’r ddau o Awstria yn dadansoddi data 174 gwlad am y cyfnod 1970 – 2010, gan gymharu cyfoeth personol, hyd oes a hyd y cyfnod y bu’r trigolion mewn addysg.  Ar y wyneb, roedd y cysylltiad rhwng hyd oes a chyfoeth yn amlwg. Ond ‘roedd ei gyswllt â’r blynyddoedd mewn ysgol a choleg yn gryfach. Yn wir, ar ôl cywiro i ystyried y cysylltiad rhwng cyfoeth ac addysg daeth i’r amlwg nad oedd cyfoeth ynddo’i hunan yn cyfrannu nemor dim – ac mai addysg sydd wrth wraidd y datblygiad.  Gwelir hyn yn glir wrth ddarllen hanes Cuba, gwlad dlawd yn ariannol ond yn gyfoethog o ran cyfundrefn addysg.  Yno mae ei brodorion yn byw yn hirach nag yn yr Unol Daleithiau ariannog.  Ar y llaw arall, bydd brodorion cyfoethog, ond di-addysg,  Guinea Ecuatorial, yn ffodus o gyrraedd eu trigain.

Crêd Lutz na fydd croeso i’w syniadau gan rai yn y byd meddygol wrth iddynt glywed bod buddsoddi mewn ysgolion yn hytrach nag ysbytai hi-tech yn well ffordd o wella iechyd.  A oes yma neges i’r Cynulliad yn ei drafodaethau poenus diddiwedd am sut i ddosbarthu cyllid Cymru ?


Pynciau: Roboteg biolegol, Cost twristiaeth a heddwch, Addysg


Cyfeiriadau

Roboteg biolegol
Feedback Control-Based Navigation of a Flying Insect-Machine Hybrid Robot. Yao Li, Jinbin Wu, and Hirotaka Sato. Soft Robotics, Mai 3 2018

Cost twristiaeth a heddwch
The carbon footprint of global tourism. Manfred Lenzen, Ya-Yen Sun, Futu Faturay, Yuan-Peng Ting, Arne Geschke a Arunima Malik. Nature Climate Change 8, 522–528 (2018)
The dark side of Colombia’s peace. Luke Taylor. New Scientist. Mai 12 2018, tud 7

Addysg
Education and Health: Redrawing the Preston Curve. Wolfgang Lutz  Endale Kebede.  Population and Development Review 44 (2), 343-361 (2018)


<olaf  nesaf>