Barn 127 (Medi 2019): Eisteddfod Llanrwst


Roedd y plentyn wedi curo’r peiriant !   Strwythur Lego Techno yn plycio’n ffyrnig mewn anobaith hollol an-Legoaidd.  Y peiriannydd, awdur y meddalwedd, yn twt-twtio ac yn holi’i hun pam y bu  rhaid i’r plentyn fod mor drylwyr wrth osod y dasg. Chwarae teg, o’i brofiad helaeth yn ymwneud â phobl ifanc, fe ddylai fod wedi gwybod y byddai’r bychan yn gwneud ei orau. Y dasg ? Ailgymysgu Ciwb Rubik a’i gyflwyno i’r robot Lego i’w datrys.  Y peiriannydd yn esbonio fod ei algorithm yn iawn at ryw ddeg o gamau – ond y plentyn wedi sicrhau bod angen mwy. Moment hyfryd a nodweddiadol ym Mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Sir Conwy.

Sioe Gwyddoniaeth y Genedlaethol yw un o’r sioeau mwyaf o’i fath yng Ngwledydd Prydain, gydag ar draws 20,000 yn mentro drwy’r drysau bob blwyddyn. Mae ei dawn i ddifyrru plant – yn arbennig ar ddiwrnod glawog – bellach yn ddiarhebol (megis ergyd un o’r jôcs cyntaf a glywais o lwyfan y Babell Lên yn Llanrwst). O’i wreiddiau cynhanes yn babell i’r Gymdeithas Wyddonol, fe drôdd yn Bafiliwn. Yng Nghaerdydd mentrwyd, yn llwyddiannus, i  droi’r Pafiliwn hwnnw yn bentref. Eleni yn Nyffryn Conwy ehangwyd ar y syniad hwnnw mewn cilgant eang o bebyll a stondinau rhwng Llwyfan y Maes a’r Lle Celf ac yn hwylus o agos i’r Pentre’ Plant.

Pentyrrwyd pob math o bethau i’r prif adeilad. Yn gymysgedd braf o dechnoleg, gwyddorau a diddordebau gwahanol.  Nid oedd yno arddangosfeydd gosod mawr eleni, ond yn eu lle bob math o weithgareddau. Teg dweud mai’r Peirianwyr oedd wedi meddiannu cryn dipyn o’r gofod – gyda gwirfoddolwyr Grŵp Peirianneg a Gwyddoniaeth Gogledd Cymru a’r Athrofa Ffiseg yn prysur hyfforddi’r genhedlaeth nesaf i adeiladu a rheoli pob math o robotiaid bach. Mae ein dyfodol yn ddiogel. Roedd gweld prysurdeb a brwdfrydedd y plant llai â’u Lego yn gwneud i ddyn amau a oeddent erioed wedi gweld lego o’r blaen ! Oes modd eu diwallu ? Mae gan ambell gorff, megis y DVLA a Thechniquest,  swyddogion proffesiynol profiadol – a da oedd cael sgwrs i ddarganfod pa feddalwedd a chaledwedd sy’n gyffredin mewn ysgolion. Da clywed, hefyd, bod agwedd ansicr ambell un o’r cyrff mawr tuag at y Gymraeg yn gwella o flwyddyn i flwyddyn.

Wrth gwrs, ‘roedd mwy na pheirianneg ar gael yn y neuadd. I mi, roedd ryw eironi personol wrth weld criw profiadol cemegwyr Bangor yn arddangos ochr yn ochr ag Ysgol Feddygol y brifysgol honno. Un Adran yn cau ei drysau, y llall ar fin croesawu ei myfyrwyr cyntaf yn yr hydref.  Y tu allan, pebyll prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd yn wynebu’i gilydd ar draws cilgant y pentref. Prif ddarlithydd Gwyddoniaeth yr Ŵyl yn manylu ar wenyn yn un a chadeirydd y Pwyllgor Gwyddoniaeth Canolog yn arwain teithiau o amgylch y Blaned Mawrth yn y llall. I fynd yn bellach hawdd oedd cael tocyn i dywyllwch y Planetariwm i ymuno a chriw Techniquest Glyndŵr ar daith o gwmpas y planedau i gyd.

Daeth Aberystwyth a Chaerdydd at ei gilydd ym Mhabell y Cymdeithasau ar brynhawn Iau, wrth i Andrew Evans gadeirio darlith Arwyn Tomos Jones. Apoptosis, sef marwolaeth naturiol celloedd iach y corff (diflaniad cynffon penbwl oedd un o’i enghreifftiau), oedd y testun.  Bu eiliadau dirdynnol tua diwedd y ddarlith wrth i’r gwyddonydd o Landdoged ddefnyddio lluniau o’i gancr ymennydd ei hun i ddarlunio celloedd marwol nad oes ganddynt y ddawn i farw. (Braf gwybod bod Arwyn bellach yn holliach.)

Roedd un arall o feibion y sir, Prysor Williams o Bandy Tudur, hefyd yn taro nodyn optimistaidd wrth drafod problem arall sy’n wynebu dynoliaeth – newid hinsawdd.  Yn ei ddarlith yntau yn y gyfres ddyddiol wyddonol,  dadleuodd cadeirydd y Pwyllgor Gwyddonol Lleol mai da i’r amgylchedd oedd dewis i’n bwydlen gigoedd oen ac eidion Cymru. Neges boblogaidd iawn i’r gynulleidfa o’r Dyffryn a thu hwnt.

Ennill ffafr y gynulleidfa oedd nod sesiwn Darlith Goffa Eilir Hedd Morgan, un arall o’r gweithgareddau dyddiol. Soapbox Science go iawn.  Cyn dechrau, y gynulleidfa yn pleidleisio dros un o bedwar datblygiad gwyddonol o’r ganrif ddiwethaf. Yna, megis hysting gwleidyddol,  pedwar yn dadlau eu hachos cyn pleidlais arall. Rhaid cyfaddef mai un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod i mi oedd dysgu gan Awen Iorwerth, Caerdydd, mai yn ddiweddar iawn – ac yng nghymoedd De Cymru – y mabwysiadwyd yr egwyddor o sylfaenu triniaethau meddygol ar dystiolaeth, yn hytrach nag ar arfer.  Papur a gyhoeddwyd yn 1971 gan Albanwr o’r enw Archie Cochrane oedd wrth galon ei chyflwyniad.  Siwan Davies, Abertawe, yn dadlau dros ddarganfyddiad Newid Hinsawdd, a enillodd yn y diwedd gyda hanner yr 80 oedd yn bresennol yn pleidleisio drosti. Daniel Roberts a Carwyn Edwards oedd y ddau wron arall a ddadleuai dros y transistor a’r rhyngrwyd.

Gŵr nad wyf yn ei gysylltu â byd y transistor na’r rhyngrwyd ond sydd wedi cyfrannu’n aruthrol i wyddoniaeth y Cymry a thu hwnt a enillodd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg am fywyd o wasanaeth i Wyddoniaeth a’r Gymraeg. Defnyddiwyd y gair “unigryw” sawl gwaith, ac yn haeddiannol felly, ar lwyfan y Brifwyl yn ystod y seremoni ddydd Iau i ddisgrifio’r unigryw Twm Elias. Anodd oedd peidio â meddwl am yr Eben Fardd barfog wrth i Twm godi i gydnabod tyrfa’r pafiliwn, yn wên o glust i glust.

O’r hŷn i’r ifanc. Myfyrwraig feddygol o bentref Rhostryfan, nepell o ardal Twm ac Eben, yw Ffraid Gwenllian, enillydd yr Erthygl Wyddonol eleni. Wrth bori’r Cyfansoddiadau dros y gaeaf, cofiwch ddarllen ei hesboniad am sut y defnyddir bôn-gelloedd i geisio gwella clefydau Huntington a Parkinson. Hefyd, ysgrif hyfryd Gerwyn James o Lanfairpwll ar hanes y Frân, a gipiodd wobr cystadleuaeth erthygl addas i’r Naturiaethwr.

Cacen CyfnodolBu newid mawr ers fy Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i yng Nghaerdydd yn 1960 a’i model deniadol i grwt wyth oed o waith dur arfaethedig Llanwern, a hynny’n unig yn cynrychioli Gwyddoniaeth a Thechnoleg (yn Saesneg, mae’n debyg). Bellach mae modd treulio’r wythnos gyfan ym myd y gwyddorau (yn Gymraeg) pe dewisech. Diolch am gwmni Chwilerod Du Madagascar Sŵ Bae Colwyn (a oedd yn dioddef o’r tywydd Cymreig erbyn diwedd yr wythnos) , Past Dannedd Eliffant y Sioe Wyddoniaeth Wych, campau hudolus theatr di-eiriau Experimentrics, cacen (ac ap) Tabl Cyfnodol Andrew Davies a’i dîm, a llu o ddarlithoedd a gweithgareddau difyr eraill.  Diolch i bawb du wrthi’n ti’n paratoi a chyflawni.

A’r hyn sy’n wych. Cawn edrych ymlaen â sicrwydd at yr un fath o beth yn Nhregaron y flwyddyn nesaf !!



<olaf  nesaf>