Barn 123 (Ebrill 2019): Common Voice, Athrawon Robot, Beddau Megalithig, Poblogaeth Ewrop (40,000 CC)


Gobeithio’ch bod i gyd yn cyfrannu at Brosiect Common Voice. Ychydig funudau o’ch amser bob wythnos i wneud gwahaniaeth i ddyfodol y Gymraeg. Dyma un o negeseuon nawfed cynhadledd Hacio’r Iaith a gynhaliwyd ddechrau Chwefror. Prosiect gan gwmni Mozilla yw hwn a fydd yn galluogi cyfrifiaduron a theclynnau i ddeall Cymraeg. Nid mater hawdd yw hyfforddi peiriant i ddeall iaith. Un o’r sialensiau mwyaf yw’r ffaith bod pob un ohonom yn siarad yn wahanol – llais, acen, tafodiaith, cywirdeb. Nid yw’r anawsterau hyn yn unigryw i’r Gymraeg, wrth gwrs,  ond bod gan y  Saesneg a’r dyrnaid o ieithoedd “mawr” eraill fantais niferoedd ac adnoddau. Dyma bwysigrwydd amserol prosiect Mozilla i gasglu’r bas data a fydd ei angen i’n hoffer ein deall. Ond mae ei lwyddiant yn llwyr ddibynnu ar gael digon o gyfranwyr. Er nad wyf yn arbennig o “teci”, ‘rwyf wedi ceisio siarad â’m car a’m teledu yn Saesneg yn ddiweddar. Heb lawer o lwyddiant, rhaid dweud. (A chyn ichi ddechrau poeni am fy stad meddwl – ydynt, y maent i fod i fedru ymateb !) Chefais i fawr o hwyl gydag atebydd ffôn fy manc na’m cyflenwr ffôn ychwaith. Nid wy’n meddwl bod gennyf acen Gymraeg arbennig o gryf yn fy Saesneg (dylanwad 11 mlynedd yn byw yn Lloegr), ond mae’n amlwg ei bod yn ormod i’r teclynnau fedru dygymod.  Braf oedd clywed Tudur Owen yn gwneud hwyl am yr union beth ar Radio 4 yr wythnos o’r blaen wrth iddo ddynwared ymgais i brynu tocynnau i’r sinema yn Llandudno dros y ffôn.  Common Voice, a’r Gymraeg, amdani felly. Wrth imi ysgrifennu, mae 663 o wahanol leisiau Gymraeg wedi’u cynnwys. Y rhan fwyaf trwy lys enwau, yn ôl yr arfer. Ond mae’r dau ymgyrchydd dygn Dafydd Trystan a Rhoslyn Prys yn ymgiprys am y goron am y nifer mwyaf o gyfraniadau ! Nid oes rhaid gwneud hynny, ond un o bleserau’r wefan yw cyfrannu tuag at adolygu’r cyfraniadau. Mae clywed ystod gyfoethog ein hiaith – gan gynnwys dysgwyr o bob cwr o’r byd – yn fodd i godi calon y mwyaf pesimistaidd.

Un enghraifft o bwysigrwydd hyn i ni yw adroddiad o gynhadledd ddiweddar Cymdeithas Hyrwyddo Deallusrwydd Artiffisial (AAAI) yn Hawaii. Cyflwynwyd yno robot bach o’r enw Tega. (Tybed a oes cyswllt a’r gair “tegan” ?) Diben y robot yw adrodd straeon i blant bach. Ond mae technegwyr MIT yn Boston wedi creu mwy na chwaraewr co’ bach,  CD neu dâp (i’r rhai hynaf ohonom). Yn ogystal â symud yn giwt a darlunio’r cyflwyniad, mae Tega yn synhwyro ymateb y plant. Yn rhannol trwy holi eu barn am gymeriadau’r stori o bryd i’w gilydd ac yn rhannol trwy ganfod ymateb eu hwynebau a symudiadau eu cyrff. Mae gwyro tuag at Tega, er enghraifft, yn awgrymu ymateb positif. Ar ôl gorffen pob stori bu’r plant yn adrodd eu fersiwn nhw ohoni yn ôl  i Tega.  Am un awr yr wythnos am wyth wythnos,  defnyddiwyd Tega gan ddau grŵp o oddeutu 33 plentyn 4-6 oed. Roedd 81 llyfr yn “llyfrgell” y robot. Mewn un grŵp dewiswyd y llyfrau ar hap ond bob yn ail sesiwn fe’u cyflwynwyd mewn ffordd fwy anodd trwy ddefnyddio geirfa fwy soffistigedig. I’r ail grŵp dewiswyd y llyfr nesaf i’w hadrodd ar sail ymateb blaenorol y plant unigol – gan fwriadu cynnal diddordeb ac ymestyn y plant. Bob yn ail sesiwn newidid geiriau dethol yn ôl gwybodaeth y plant unigol. Roedd hefyd drydydd grŵp “control” na ddefnyddiodd y robot. Ychydig wythnosau wedi’r arbrawf mesurwyd safon geirfa’r plant. Nid oedd llawer o newid wedi bod ymhlith y criw “control” ond ‘roedd geirfa’r ddau grŵp Tega wedi’i hymestyn – yn arbennig y grŵp â’r Tega oedd yn ymateb yn unigol. Gan fod robot yn rhatach nag athro cig a gwaed, dadl Cynthia Breazeal, arweinydd tîm MIT, yw bod hwn yn gymorth i ysgolion meithrin ymestyn eu hadnoddau ac i gynorthwyo plant unigol gydag anghenion arbennig. Mae profion ar droed bellach yn ninasoedd Atlanta a Boston.

Yn ddiweddar, bu stŵr wrth i’r Cynulliad gamfarnu effaith polisi cyflwyno Saesneg i’n hysgolion meithrin Cymraeg. Cywirwyd hynny. Petai symud i ddysgu trwy robot ni fyddai mor hawdd amddiffyn y Gymraeg oni bai ein bod yn sicrhau yn fuan bod y dechnoleg ar gael yn yr iaith honno.

Da gweld bod y Llydaweg, hefyd, yn rhan o gynllun Common Voice; gyda 106 o gyfranwyr presennol (sylweddol fwy na’r 59 Gwyddel). Mae’n debyg, ysywaeth, nad y Llydaweg oedd i’w chlywed yn Llydaw 6500 o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod, mae’n debyg, cyn i’r ieithoedd  Indo-ewropeaidd gyrraedd y gorllewin. Ond yn ôl papur diweddar yn PNAS, yn y fan a’r lle yma y cychwynnodd yr arfer o godi meini hirion ar safleoedd cysegredig. Mae pensaernïaeth o’r fath – megis Clachan Chalanais (ynysoedd Heledd) neu Gôr y Cewri – yn gymharol gyffredin dros Ewrop gyfan ond nid oedd sicrwydd o ba le y daeth y syniad gwreiddiol. Bellach mae Bettina Schulz Paulsson o Brifysgol Gothenburg, Sweden, wedi dadansoddi oed tros ddwy fil o safleoedd ledled y cyfandir ac yn awgrymu i’r arfer megalithig gychwyn dros gyfnod o ryw 200-300 mlynedd oddeutu 4500 CC. Ac ymhle ? Yn Llydaw. Yng Ngharnac ceir yr enghreifftiau cynharaf (tua 4650 CC yn nhomen Sant Mikael). Rhaid dweud mai yn ardal Passy, i’r de o Baris, y ceir y beddi enfawr cyffelyb cynharaf (tua 4900 CC) ond yn Llydaw y mae’r cerrig enfawr yn dod i ffasiwn ! Dros y ddwy fil o flynyddoedd canlynol lledaenodd yr arfer ar draws gorllewin Ewrop. Mae’r dosbarthiad yn awgrymu’n gryf mai ar fôr y digwyddodd hyn. Prawf od doniau mordwyo ein cyndadau yn sylweddol hŷn nag y tybiwyd gynt.  Capten llong oedd Obelix wedi’r cyfan.

Mae rhai yn dadlau mae cynnydd poblogaeth yn sgil datblygiadau amaethyddol a ryddhaodd ddigon o bobl i ymroi i’r adeiladu mawreddog hwn. Yn sicr nid felly oedd hi’n nyddiau cynharaf Homo sapiens yn y rhan hon o’r byd. Ym mis Chwefror cyhoeddodd Isabell Schmidt ac Andreas Zimmermann o Brifysgol Cwlen (Köln) amcangyfrif poblogaeth Ewrop rhwng 42,000 a 33,000 o flynyddoedd yn ôl (cyfnod Aurignac). Tua diwedd y cyfnod hwn ‘roedd trigolion ogof Pen y Fal (Paviland) yn byw.  Defnyddiwyd data o’r ardal rhwng lle mae gogledd Sbaen a Gwlad Pwyl heddiw a throsglwyddo’r canlyniad i’r cyfandir cyfan. Eu canlyniad, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn PLoS One, yw tua 1,500. A’r rhain yn byw mewn llai na 35 grŵp mewn tua 13 ardal, gyda chryn dipyn o gysylltiad diwylliannol rhyngddynt, er bod y rhan fwyaf o’r cyfandir yn anghyfannedd.   Dyma tua’r un nifer o gymiunedau ag sydd o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd heddiw.  Mae’n debyg mai dim ond ar ddiwedd y cyfnod y mentrodd ambell un ohonynt i Benrhyn (fel yr oedd ar y pryd) Prydain. Tybed ai eu gwreiddiau mwy diweddar yno sy’n gwneud H. sapiens yr ynys (bellach) yn llai cymdeithasol na’i berthnasau cyfandirol heddiw ?  Tyrd yn ôl Obelix, rydym yn dy garu !


Pynciau: Common Voice, Athrawon Robot, Beddau Megalithig, Poblogaeth Ewrop (40,000 CC)


Cyfeiriadau
Common Voice
https://voice.mozilla.org/cy (Gwefan rhyngweithio)

Athrawon Robot
Donna Lu. Smart and fluffy storytelling robot to be trialled in US classrooms. New Scientist Chwefror 20 2019. 

Beddau Megalithig
B. Schulz Paulsson. Radiocarbon dates and Bayesian modeling support maritime diffusion model for megaliths in Europe. PNAS 116 (9) 3460-3465 (2019)

Poblogaeth Ewrop
Isabell Schmidt & Andreas Zimmermann. Population dynamics and socio-spatial organization of the Aurignacian: Scalable quantitative demographic data for western and central Europe. PLoS One Chwefror 2019


<olaf nesaf>