Fe gofiaf heddiw’r wefr, ryw 45 o flynyddoedd yn ôl, o glywed cyfaill yn adrodd hanes darganfod sail clefyd o’r enw Kuru. Roedd yn stori ryfeddol. Yn stori dditectif. Brodorion y Ffore o Gini Newydd yn credu bod ysbrydion yn eu melltithio ac yn eu lladd. Yr awdurdodau yn meddwl mai adwaith seicosomatig i’r sioc o ddyfodiad pobl wyn oedd yn gyfrifol. Darganfod, ar ddiwedd y 60au mai canibaliaeth oedd yn ei ledaenu. Ac fel disgynnydd i ddirwestwyr mawr – yr enw “cwrw” yn rhagluniaeth ychwanegol i mi! Ond i fiocemegydd, rhyfeddach fyth oedd y ddealltwriaeth mai endid hollol newydd oedd wrth wraidd yr haint. Ers dros ganrif bu dealltwriaeth mai trwy ledaeniad microbau (bacteria, ffwng a phrotosoa) a firwsiau y rhennid clefydau o’r fath. Ond roedd Kuru yn wahanol. Erbyn 1982 rhoddwyd yr enw “prion” (o proteinaceous infectious particle – ddim i’w gamgymryd am bentref yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch) ar fath o brotein heintus oedd yn ymddwyn fel switch i ladd celloedd yr ymennydd. Wrth roi mymryn bach o ymennydd yr ymadawedig i’w plant ei fwyta, yn ddiarwybod ‘roedd y Ffore yn eu heintio. Wrth gwrs, ar y pryd, cyndyn iawn oeddynt i sôn am hyn wrth y gwyddonwyr oedd yn ceisio datrys y broblem. Anodd oedd deall yr epidemioleg. I gymhlethu pethau ymhellach, weithiau byddai chwarter canrif yn mynd heibio cyn i’r symptomau ymddangos. Gyda’r darganfyddiad daeth, hefyd, esboniad i glefyd ymhlith defaid yng Nghymru – y clefyd crafu (scrapie). Ac, yn fwy dramatig yn y blynyddoedd i ddilyn, clefyd y gwartheg gwirion (BSE) a fersiwn dynol y clefyd sef y Creutzfeldt-Jakob.
Bu arswyd cenedlaethol am flynyddoedd yn sgil BSE. Paratoad, efallai, at yr arswyd o sylweddoli bod cyflwr nid annhebyg yn wynebu nifer helaeth ohonom wrth fynd yn hŷn – sef clefyd Alzheimer. Dyma’r ffurf fwyaf cyffredin (60-70%) ar ddementia. Ar hyn o bryd, nid oes gwellhad o glefydau prion, nac o Alzheimer. Ond nid dyna’r unig gyswllt rhyngddynt. Ffurf anghyffredin a pheryglus ar brotein cyffredin yn yr ymennydd yw prion. Ffurf ddi-drefn o broteinau, a alwyd yn amyloid a tau, yn yr ymennydd yw prif darged ymchwil Alzheimer ers 1984. Roedd y cyswllt posib â Kuru yn amlwg. Onid oedd y proteinau hyn yn cyfateb, rhywsut, i brionau ? Gwariwyd biliynau o ddoleri a phunnoedd ar y gwaith. Yn 2018 yn unig, gwariwyd $1.9 biliwn gan NIH yr Unol Daleithiau. Hyn oll heb lwyddiant. Un ddadl yn erbyn y syniad oedd bod ambell unigolyn yn ei 90au yn marw a’i gof yn holliach er bod iddynt amyloid sylweddol yn eu hymennydd. Yn 2016 cyhoeddodd tri thîm o’r Unol Daleithiau a’r Almaen ganlyniadau a ddangosai bod amyloid yn lladd bacteria mewn ymennydd llygod. Ers diwedd y dimdegau sylwodd grwpiau ledled y byd bod cyswllt rhwng dementia â dannedd drwg (clefyd cig y dannedd). Y broblem oedd ei bod yn amlwg bod dannedd y rhan fwyaf ohonom yn dirywio wrth fynd yn hŷn – ac yn arbennig ar ôl i ddementia ymddangos. Beth ddaeth gyntaf – y dannedd drwg neu’r dementia ? Mewn papur yn Science Advances ar ddiwedd Ionawr, mae Stephen Dominy, Casey Lynch a Jan Potempa, ynghyd â llu o gydweithwyr o bob cwr o’r byd, wedi ceisio ateb y cwestiwn hwn. Eu targed oedd y bacteriwm Porphyromonas gingivalis – prif achos clefyd cig y dannedd. Yn fwy manwl, mesurasant ddau brotein gwenwynig ohono, a enwir yn gingipenau. Roedd y ddau brotein yma i’w canfod yn bron bob un (99% a 96%) o’r 54 ymennydd Alzheimer a astudiwyd – ac yn ymddangos yn yr un rhannau a’r tau a’r difrod. Roedd y bacteria a’r proteinau i’w gweld ar lefelau isel mewn rhai o’r samplau o unigolion iach. Felly gellir eu gweld pan na fo Alzheimer yn bresennol. Nid yw’n foesol ac ni chaniateir cyflwyno bacteria i gleifion iach. Felly cyflwynodd Dominy a’r tîm P. gingivalis i ddannedd lygod. Llwyddodd y microbau i gyrraedd yr ymennydd a gwelwyd ymddygiad, amyloid, tau a’r difrod a gysylltir ag Alzheimer mewn pobl. Hefyd, pan roddwyd cyffuriau a oedd yn atal y gingipenau, neu a oedd yn lladd y bacteria, bu gwellhad yn y symptomau dirywiad. Yr awgrym yw mai amddiffyniad (aflwyddiannus) yn erbyn bacteria yw’r amyloid a tau, yn hytrach nag achos y salwch. Mae clefyd Alzheimer yn gymhleth ac mae’n ddyddiau cynnar o hyd. Ond mae’r ymchwil diweddaraf yn agor trywydd newydd cynhyrfus, fel y bu i Kuru a chlefydau ymennydd yn yr 1970au. Yr hyn sy’n holl bwysig, yn awr, yw bod gennym gryn brofiad o sut i drin clefydau bacteria. Yn y cyfamser, byddaf i yn llawer mwy gofalus o iechyd fy nannedd nag y bûm, er ei bod yn bwysig peidio â niweidio cig y geg trwy frwsio yn rhy ffyrnig. Byddai gwneud hyn yn rhyddhau unrhyw facteria i’r gwaed. Y cam gyntaf at yr ymennydd.
Gyda gordewdra, bellach, yn cystadlu ag ysmygu fel achos marwolaeth gynnar, y mae gofalu am yr hyn sy’n mynd rhwng y dannedd, hefyd o bwys i’r iechyd. Efallai y daw cymorth yma o gyfeiriad annisgwyl – newid hinsawdd. Byddai dyn yn disgwyl i hinsawdd gynhesach a mwy o ddeuocsid carbon yn yr awyr gynyddu cynhaeaf cnydau. Ond yn adroddiad Recipe for Disaster y garfan pwyso Climate Coalition a gyhoeddwyd ddechrau Chwefror, ceir gwybodaeth am gynnyrch ffrwythau a llysiau gwledydd Prydain dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd oerfel hwyr ddechrau’r 2017 a gwres a sychdwr haf 2018, gwelwyd cwymp sylweddol yn y cnwd. Afalau 25% i lawr yn 2017, a nionod a moron i lawr 30-40% yn 2018. Bu cwymp o 20% yn nhatws 2018 – y 4ydd cnwd gwaethaf ers 1960. Yn ychwanegol at hyn ‘roedd y tatws yn llai ac, yn ôl un adroddiad, roedd sglodion yn fwy na modfedd yn fyrrach ar gyfartaledd trwy’r wlad ! Wrth edrych i’r dyfodol, honna’r adroddiad, na fydd tri chwarter y tir tyfu tatws presennol yn addas ar eu cyfer erbyn 2050.
Yn eu diniweidrwydd, roedd y Ffore yn ceisio gwella’r dyfodol drwy fwydo anian y gorffennol i’w plant. Tybed pa fyd yr ydym ni yn ewyllysio iddynt ? Ond rhaid derbyn bod hefyd lwyddiant. I’r cwestiwn sut oedd ein cyndadau yn osgoi clefyd Alzheimer cyn dyfodiad y brws dannedd, fflos a’r hygenist ? Cafwyd yr ateb – nad oeddent yn byw yn ddigon hir iddo daro.
Pynciau: Bacteriwm Alzheimer, Newid Hinsawdd ac Amaeth
Cyfeiriadau
Bacteriwm Alzheimer
Stephen S. Dominy, Casey Lynch, Florian Ermini, Malgorzata Benedyk, Agata Marczyk, Andrei Konradi, Mai Nguyen, Ursula Haditsch, Debasish Raha, Christina Griffin, Leslie J. Holsinger, Shirin Arastu-Kapur, Samer Kaba, Alexander Lee, Mark I. Ryder, Barbara Potempa, Piotr Mydel, Annelie Hellvard, Karina Adamowicz, Hatice Hasturk, Glenn D. Walker, Eric C. Reynolds, Richard L. M. Faull, Maurice A. Curtis, Mike Dragunow & Jan Potempa. Porphyromonas gingivalis in Alzheimer’s disease brains: Evidence for disease causation and treatment with small-molecule inhibitors. Science Advances 5, (1) 2019
Newid Hinsawdd ac Amaeth
The Climate Coalition. Recipe for Disaster: How climate change is impacting British fruit and vegetables. (2019)
<olaf nesaf>