Wrth ymarfer ar gyfer cyngerdd L’homme armé Karl Jenkins ym Merlin ar ddechrau Tachwedd fe’m hatgoffwyd am anferthedd y côr (tua 1600 o gantorion) gan y seinydd “monitor” bach o’m blaen ym mherfeddion y côr. Onid oedd rhywbeth o’i le ar leisiau’r unawdwyr ? Y geirio’n aneglur ? Yna sylweddolais beth oedd yn bod. Roeddynt yn sefyll tua 30 metr i ffwrdd ohonof ac roeddwn yn eu clywed ddwywaith. Yn gyntaf trwy’r seinydd ac yna, amrantiad yn ddiweddarach, yn “fyw”. Ryw 343 metr yr eiliad yw cyflymder sain mewn awyr. Felly, roedd yn cymryd degfed ran o eiliad (sef 100 milieiliad) i’m cyrraedd o gegau’r unawdwyr – yn sylweddol hwy na’r amser i dreiddio’n drydanol o’r meic i’r seinydd o’m blaen. Wn i ddim sut oedd y sopranos ar y dde imi yn medru cydganu â’r altos ar fy chwith – pellter o dros 60 metr ? Ni fu erioed yn bwysicach canolbwyntio ar arweinydd. Diolch byth, roeddem ni’n ei weld ar gyflymder goleuni (tua 300 miliwn metr yr eiliad). Yn ystod seibiannau’r ymarfer, crwydrodd fy meddwl i’r un ffenomen (lle mae golau yn y cwestiwn) yn ystod y Glec Fawr ar gychwyn y Bydysawd, a rhoddais heibio geisio deall beth oedd yn digwydd, a phwy oedd yn clywed beth yn Arena Mercedes Benz. Nid syndod felly, oedd i hyd yn oed Syr Karl fethu â’n cael i gyd-fartsio (un o nodweddion dramatig agorawd y darn ar record) ar ddechrau’r perfformiad. Treiglai’r sain megis ton Fecsico ar draws y llwyfan bob tro inni geisio cydsymud.
Roedd hyn oll o ddiddordeb arbennig i mi gan fy mod yn ymfalchïo ychydig yn fy nawn amseru wrth ganu. (Mater gwahanol yw taro’r nodyn iawn !) Ond fe’m dadrithiwyd gan gynnwys papur Alice Tomassini o Ferrara yn yr Eidal a’i chydweithwyr yn y Proceedings of the Royal Society B ym mis Hydref. Mae clociau mewnol ein cyrff yn bwysig iawn i’n hiechyd yn gyffredinol – yn ogystal ag wrth ganu mewn côr. Maent yn destun ymchwil sylweddol ar draws y byd. Yn ystod yr arbrofion, gofynnodd Tomassini i’r gwirfoddolwyr ddilyn rhythm pedwar curiad – un bob eiliad, ac yna tapio â’u bysedd yr un rhythm am bedwar curiad arall. Cyn hyn, ‘roeddynt wedi’u hymarfer i weld golau melyn yn fflachio; ddwywaith gyda seibiant 150 milieiliad yn union rhyngddynt. Yn ystod yr arbrawf tapio bysedd, goleuwyd y fflach ddwbl melyn ar adegau gwahanol rhwng y trydydd a’r pedwerydd curiad. Ond y tro hwn amrywiwyd y seibiant (ar hap) rhwng 70 a 300 milieiliad. Roedd yn rhaid i’r gwirfoddolwyr ddweud a oedd y seibiant arbrofol yn hirach neu’n fyrrach na’r 150 milieiliad ‘roeddent wedi arfer â hi. Cyson fu’r ymateb. Yn agos i’r (cyn neu ar ôl) tap bys, roedd canfyddiad fod amser yn cyflymu – ond canfyddiad ei fod yn arafu hanner ffordd rhwng y tapiadau. Roedd synnwyr amser yn rhywbeth goddrychol. Y wers yw bod rhyw ran o’n system motor (oedd yn gyrru’r tapio) yn gloc feistr sy’n rheoli (ac amrywio) curiad nifer o glociau eraill y corff. O hyn allan bydd gennyf esgus gwych wrth gam-amseru fy demi-semi-cwaferau (hannerchwartercwafer) ac ati. I mi, maent yn newid ei hyd yn ddibynnol ar eu lleoliad yn y bar ! Ond nid felly i’r gwrandäwr, wrth gwrs – oni bai ei fod yn tapio’i droed i’r gerddoriaeth.
Rai blynyddoedd yn ôl, clywais am arbrawf nid annhebyg i fesur yr ystod leiaf canfyddadwy rhwng dwy fflach (cyn iddynt ymddangos fel un fflach). Pan wnaed y mesuriadau wrth neidio “byngi” roedd yr ymennydd yn medru canfod ystodau llawer byrrach na’r arfer ! Arwydd o hyblygrwydd ein cyrff i ymdopi ag adegau o straen.
Bydd rhaid ymdopi yn helaeth wrth wynebu’r newidiadau a ddaw yn sgil ein hymddygiad trachwantus dros y ganrif ddiwethaf. Bu adroddiadau trwy gydol 2018 am ein methiant i ymrafael ag achosion newid hinsawdd yn dorcalonnus. Ond, a chofio ein bod yn y tymor optimistaidd, adroddiad ychydig yn fwy gobeithiol a ymddangosodd yn Chemistry and Industry dros yr haf. Ynddo roedd Michael Gross, sylwebydd ar wyddoniaeth a thechnoleg, yn trafod mwyngloddio yn y ddinas (urban mining). Wrth drafod yr angen i ailgylchu plastigion, yn aml anghofir am yr angen dybryd i ailgylchu metelau a mwynau prin eraill ein byd. O’m plentyndod cofiaf y dyn sgrap, á la Steptoe a’i Fab, yn hel haearn, copr a phlwm o gwmpas strydoedd Caerdydd a’r cymoedd. Bellach ychwanegir alwminiwm i gyfundrefn casglu cyfundrefnol ein cynghorau. Ond y metelau prin “newydd” sydd mor anhepgor i’n bywyd technolegol, trydanol, yw testun bas data ProSUM, prosiect Ewropeaidd a lansiwyd ar lein ym mis Ionawr 2018. Mae’r Urban Mine Platform yn cynnwys data o bob un o 28 gwlad yr Undeb, ynghyd â Norwy a’r Swistir.

Tair prif elfen a nodwyd gan y prosiect; cerbydau, cynnyrch electronig a batris. Ar unrhyw adeg, ar gyfartaledd, mae pob un ohonom yn Ewrop yn berchen ar 17kg o fatris, 250kg o nwyddau trydanol a 600kg o gerbyd. Mae’r bas data yn rhestru 28 elfen; o alwminiwm i sinc (sy’n gyffredin) ac o geriwm i ytriwm (sydd yn brin). Er enghraifft, rhyngddynt, mae ceir domestig ein cyfandir yn cynnwys 400 tunnell o aur (mewn cydrannau trydanol, nid teganau tywysogion tra chyfoethog !). Trwy’r trosiant arferol, collir tua 20 tunnell o hwn pob blwyddyn – gwerth ryw £624 miliwn. Yn llai cyfarwydd – ond yn fwy anhepgor i’r dechnoleg electronig – y mae metelau megis neodymiwm. Erbyn 2020 bydd ceir yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys 18,000 tunnell ohono. Naw gwaith yn fwy nag yn 2000. Yn anffodus, yn wahanol i nwyddau electronig eraill, nid oes gan yr Undeb Ewropeaidd reolau ynglŷn â chasglu’r metelau hyn o geir sgrap. Wrth i’w technoleg droi o’r nicel/cadmiwm hen ffasiwn i lithiwm, ceir symiau sylweddol o lithiwm (7800t), manganîs (114,000t) a chobalt (21,000t) mewn batris diffygiol. Mae’r cobalt yn tanlinellu problem arall. Daw dau draean y mwyn o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, lle mae rhyfel a’r clefyd Ebola wedi arwain at ansicrwydd mawr. Mae pris y metel wedi codi o £12/pwys ar ddiwedd 2016 i £43/pwys yng ngwanwyn 2018. Er gwaethaf ymdrechion sylweddol a deddfwriaeth, dengys ProSUM mai dim ond hanner batris Ewrop a ailgylchir ar hyn o bryd.
Ar yr ochr bositif, mae Diwydiant yn dihuno i’r ffaith bod mwyngloddio’r sgrap (sef urban mining) yn rhatach a mwy effeithiol na thynnu’r mwyn o’r ddaear. Un enghraifft gan Gross yw bod crynodiad aur mewn hen ffôn clyfar yn 25-30 yn fwy na chynnwys mwyn gorau’r byd. Yn wir, mae’n adrodd sut mae un orsaf puro dŵr yn Suwa, Japan, yn ennill bron 2kg o aur am bob tunnell o ludw llosgi carthion. Mae hyn yn 50 gwaith mwy nag sydd i’w gael o fwynfeydd cyfoethoga’r byd. Efallai bod hyn yn annodweddiadol, gan fod y carthion yn dod o ardal ddiwydiannol iawn. Ond mae gan Toyota waith tebyg yn Nagano sy’n ennill 22kg o Aur bob blwyddyn o 70t o ludw.
Felly, wrth wynebu’r flwyddyn newydd; y mae haul ar ambell fryn. Gallwn oll gyfrannu trwy sicrhau, wrth osod holl anrhegion technegol newydd y Nadolig yn eu lle, bod yr hen rai (heb sôn am holl wastraff arall) yn ymuno â’r mwynglawdd dinesig. Wn i ddim am y Thus a Myrr, ond byddai’n braf meddwl y bydd anrhegion Aur y dyfodol wedi’i wneud o fetel a fu unwaith yn carlamu o dan fonet car ar hyd heolydd Cymru – neu’n rhan o ffôn a fu’n anfon negeseuon cariadus (neu o leiaf luniau cathod pert) o law i law. Pob hwyl dros yr Ŵyl.
Pynciau: Sŵn, Canfod amser, Ailgylchu metelau
Cyfeiriadau
Sŵn a Chanfod amser: Rhythmic motor behaviour influences perception of visual time. Alice Tomassini, Tiziana Vercillo, Francesco Torricelli, Maria Concetta Morrone. Proc Roy Soc B. 3 Hydref (2018).
Does Time Really Slow Down during a Frightening Event? Chess Stetson, Matthew P. Fiesta, David M. Eagleman. Plos One 12 Rhagfyr (2007)
Ailgylchu metelau: Urban Mining. Michael Gross Chemistry & Industry. 7, (12 Medi) 2018. (Cysylltwch â Deri Tomos os ydych yn cael anhawster i agor y cyfeiriad hwn ac am ei ddarllen.)