Fy ymchwil i’r modd y mae cnydau yn goddef sychdwr a dŵr hallt sydd wedi dod â mi i Dde Awstralia’r mis hwn. Anghenion arbennig ei hinsawdd sydd wedi troi Prifysgol Adelaide yn ganolfan arbenigedd byd-eang yn y maes. Adelaide yw’r ddinas sychaf yn y dalaith sychaf ar y cyfandir sychaf yn y byd. Y mis gwlypaf yma yw Gorffennaf, gyda 1.2 modfedd o law. Rhyw 0.4 modfedd y gellir ei ddisgwyl ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr. Eleni, dim ond 11% o hynny sydd wedi cyrraedd! Mae’r rhan fwyaf o’r dalaith yn sylweddol sychach. Rhyw 48 modfedd y flwyddyn y gellir ei ddisgwyl yng Nghaerdydd – a gwell peidio â sôn am Flaenau Ffestiniog. Dim rhyfedd bod yr Awstraliaid mor hoff o’u barbies. Y broblem ydy fod y dalaith yn bur ddibynnol ar ei chynnyrch amaethyddol, a hwnnw’n llwyr ddibynnol ar ddŵr. Bu cyflenwad dŵr Awstralia yn amrywiol erioed. Mudodd nifer yma yn y 1870au mewn cyfnod cymharol laith – dim ond i gael eu siomi pan ballodd y glaw yn yr 1880au. Er hynny, o’r 1960au hyd ddiwedd y ganrif parodd y ‘Chwyldro Gwyrdd’ gynnydd aruthrol mewn tyfu ŷd, yn arbennig gwenith, ar yr un arwynebedd tir. Rhaid cofio i fanteision y Chwyldro Gwyrdd ddibynnu ar gyflenwadau helaeth o wrtaith artiffisial; rhywbeth sydd nid yn unig yn amhoblogaidd ymysg amgylcheddwyr ond sydd bellach (yn arbennig ffosffad) wedi cynyddu yn ei bris ddengwaith drosodd.
Yn dilyn y llwyddiannau yn sgil darllen dilyniant DNA reis a chnydau eraill, mae genetegwyr moleciwlar gwenith yn gobeithio’n arw y gallant hwythau lwyddo yn y dyfodol agos. Y broblem sylfaenol sydd wedi eu harafu yw cymhlethdod anhygoel gwenith. Mae deall ffurf DNA gwenith yn astrus ac yn anodd tu hwnt. Er gwaethaf hyn, mae gwyddonwyr gwenith Adelaide (a mannau eraill ledled y byd) yn dechrau troi’r wybodaeth hon yn fathau newydd o ŷd. Wedi’r cyfan, nid Awstralia yn unig fydd yn wynebu argyfwng wrth i hinsawdd y byd newid dros y degawdau nesaf. Ond nid ar fara yn unig y bydd byw trigolion De Awstralia. Oddi yma y daw 40% o winoedd y cyfandir hwn, diwydiant enfawr sydd wedi tyfu o hedyn bychan iawn dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn Adelaide mae canolfan ymchwil gwin gyda’r fwyaf llewyrchus yn y byd. Yn ddiweddar darganfuwyd yma’r genyn sy’n gyfrifol am droi grawnwin gwyrdd yn goch. Peth hawdd iawn fyddai creu fersiynau coch o’r holl winoedd gwyn clasurol (ac i’r gwrthwyneb). Datblygiad rhyfeddol! Yma hefyd mae’r ymchwil yn amrywio o’r cemegyn ‘hud’ resveritrol a’r honiadau ei fod yn gwneud i bobl fyw’n hŷn, at y taninau a’u blasau. Un ffaith amdanynt yw nad y gwahaniaeth yn y gwinoedd sy’n pennu ein hoffter ohonynt – ond y gwahaniaethau ynom ni. Efallai fod gwin sy’n wych i Wncwl Dei ar ford y Nadolig yn blasu’n bur wahanol i Anti Ann. Ond yr agwedd a ddaliodd fy sylw yma mewn cynhadledd yn ddiweddar oedd y wyddoniaeth sydd bellach ar droed i saernïo’r burum bach hwnnw sy’n troi sudd grawnwin yn win. Math o ffwng ydy burum gyda thua 100 genws yn bodoli – a thua 700 rhywogaeth. Yn draddodiadol, defnyddiwyd burum gwyllt a oedd eisoes yn tyfu ar y ffrwyth. Ledled y byd gwelir tua 17 genws mewn gwinoedd. Y brenin yw Saccharomyces cereviciae, a defnyddir rhwng 200 a 500 straen ohono yn y diwydiant gwin. Ym mis Ebrill 1996 cyhoeddwyd dilyniant DNA’r burum cyntaf. I wneud hyn bu 70 labordy yn gweithio’n galed am 7 mlynedd. Eleni cyhoeddwyd dilyniant y burum gwin cyntaf. Yn brawf o sut y datblygodd y dechnoleg chwyldroadol hon dros y degawd diwethaf, y tro hwn cyflawnwyd hyn gan un gwyddonydd yn gweithio am chwe mis mewn labordy o robotiaid. Mae tua 0.6% o’r DNA yn wahanol (sef tua’r un gwahaniaeth ag sydd rhwng DNA dyn a tsimpansî.) Bellach mae dilyniant 6 straen arall ar y gweill – gan gynnwys dwy gan gwmni Fosters. (Lager, wrth gwrs, ac nid gwin yw eu cynnyrch hwy.) Trwy gymharu’r 7 a mwy o straeniau bydd modd darogan yn fwy cywir flâs gwin neilltuol. Nod y diwydiant fydd darganfod beth yn union yw hoff win unrhyw grŵp targed (defnyddiwyd fel enghraifft grŵp o ferched cyfoethog 25 -35 oed yn Shanghai) a’i baratoi yn union yn ôl eu dymuniad. Os bydd y ffasiwn yn newid, hawdd fydd ei dilyn.
Ond, nodyn gwahanol i orffen. Er fy hoffter o win, darn o garreg a enillodd serch fy nghalon wyddonol y mis hwn. Ychydig iawn o Gymry sy’n sylweddoli ein bod, ers canol y 19g., wedi meddiannu y rhan fwyaf o hanes y byd. Pan fedyddiwyd y cyfnodau Silwraidd, Ordofisiaidd a Chambriaidd (a’r Cyn- Gambriaidd o’i flaen) gan y daearegwyr, roedd stamp Cymru yn ddi-dor ar bron 4 biliwn o tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yr hen fyd yma. Yn dra phwysig, roedd hyn yn cynnwys ymddangosiad bywyd macrosgopig – a’i olion ffosil – ar ddechrau’r Cambriaidd. Yna, yn 2003, difethwyd popeth. Ar ôl pleidlais gan Is-gomisiwn y Proterosoaid Terfynol, dyfarnwyd bodolaeth cyfnod newydd gan Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Daearegol (IUGS) – sef yr Ediacaraidd – rhwng y Cambriaidd a’r Cyn-Gambriaidd. Bedyddiwyd hwn ar ôl bryniau Ediacara, ym mryniau Fflinders ychydig i’r gogledd o Adelaide. Yno y gwelais garreg ar waelod clogwyn mewn cafn o’r enw Brachina. Arni roedd dwy enghraifft hyfryd o fath o Dicksonia, un o’r anifeiliaid cyntaf erioed, a ymddangosodd tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bu rhaid aros yn hir cyn eu darganfod oherwydd nad yw ffosiliau cyrff meddal yn gyffredin o gwbl. Bugail lleol oedd yn ein hebrwng, ac wrth iddo ddangos yr olion imi sylwodd eu bod wedi eu difrodi’n ddiweddar. Rhyw ddaearegwr gor-frwdfrydig ond trwsgl yn ceisio’u casglu? Neu tybed ai rhyw Gymro o waed coch cyfan a fu yno’n ceisio dileu tystiolaeth y ‘cyfnod’ newydd Awstralaidd? Mae ennill gem rygbi o bryd i’w gilydd yn un peth – byddai tarfu ar ddilyniant 4 biliwn o flynyddoedd yn rhywbeth arall!
(Scan yw hwn o’r erthygl a ymddangosodd yn Barn (Rhif 551/2 91-92). Diolch i’r Athro Roger Leigh am ei wahoddiad i ymweld a gweithio yn ei Adran. )