Bum yn ffodus imi erioed ddechrau ysmygu – heblaw am ddyrnaid o sigarau tew ffuantus pan oeddwn yn fyfyriwr. Bu fy nhad, hefyd, yn ffodus. Ar ôl dechrau ‘smygu yn y fyddin rhoddodd y gorau iddi dros nos, bron, pan oeddwn ryw wyth oed. Ond yn gyffredinol, mae’n amlwg ei fod yn rhywbeth sy’n gafael. Yn ôl ffigurau y mudiad ymgyrchu, Ash,yn 2015 mae rhwng traean a hanner y rhai sy’n dechrau yn datblygu i fod yn ysmygwyr rheolaidd; a dau draean ohonyn nhw’n cychwyn cyn cyrraedd 18 oed. Yn 2013 ‘roedd 21% o drigolion Cymru yn ysmygu – bydd tua’u hanner yn marw o ganlyniad. Ond daeth tro ar fyd. Yn ddiau nid yw ysmygu bellach mor dderbyniol yn gymdeithasol ag yr oedd pan oedd fy nhad yn ifanc. Yn ôl Ash byddai dau draean yn hoffi rhoi’r gorau iddi, a bellach daeth techneg newydd i ymladd y frwydr, sef yr e-sigarét. Y bwriad yw caniatáu effaith y nicotîn heb effeithiau andwyol gweddill y cymysgedd. Ond llugoer yw’r croeso, gyda e-sigarennau wedi cipio penawdau’r mis hwn gyda’r gwaharddiad ar draeth Little Haven. Y traeth cyntaf yn y wlad i wneud hyn. Beth yw gwyddoniaeth yr e-sigarét ? Yng nghynhadledd flynyddol yr AAAS (Cymdeithas Wyddonol America) yn Washington y mis diwethaf cafwyd adroddiadau am effeithiau iechyd y sigarennau “iach” yma. Mewn adroddiad gan Iona Jaspers o Brifysgol Gogledd Carolina, y maent yn gwanhau imiwnedd y trwyn dynol yn sylweddol fwy na sigarennau confensiynol, hyd yn oed. O edrych ar ymateb ryw 600 o enynnau y gyfundrefn imiwnedd, ymyrrwyd ar weithgaredd 358 ohonynt – bron saith gwaith yn fwy na chan dybaco. Dadleua’r gwyddonwyr bod hyn yn adlewyrchu gwanhad sylweddol o ran amddiffyn y trwyn a’r ysgyfaint. Mewn gwaith ar lygod, dangosodd grwpiau eraill bod cynnydd sylweddol yn atherosglerosis a gostyngiad yn nifer y sberm mewn oedolion ac effeithiau hir dymor ar ymennydd y ffetws a fyddai, mewn pobl, yn gysylltiedig â phryder a gorfywiogrwydd. Barn Judith Zelikoff o Brifysgol Efrog Newydd, a wnaeth y gwaith ar lygod, oedd bod y canlyniadau yma’n dystiolaeth glir nad yw’r cynhyrchion tybaco amgen yma yn fwy diogel na’r sigarennau gwreiddiol. Bydd yr ymchwil hwn yn sicr yn parhau.
Un o’r clefydau a gysylltir yn bennaf ag ysmygu yw cancr yr ysgyfaint. Cynigir sawl math o driniaeth gan gynnwys llawdriniaeth, therapi cemo a radio. Fel gyda phob cancr, y nod, yw ceisio difa’r holl gelloedd sy’n tyfu’n afreolus. Un broblem gyffredin yw bod y celloedd cancr yn datblygu gwrthiant i’r driniaeth ac mae’r tyfiant yn ail-ffyrnigo. Mae’n sefyllfa sy’n ein hatgoffa am sialens arall meddygaeth heddiw – gwrthiant bacteria i antibiotigion. Yn yr achos hwnnw mae lladd yr holl bacteria sy’n ymateb i’r cyffur yn creu cynefin ecolegol di-wrthwynebiad i unrhyw facteriwm sy’n digwydd miwtantio i ffurf sy’n ei wrthsefyll. Yr ateb yw defnyddio sawl gwrthfiotig ar yr un pryd i orfodi cael mwy nag un mwtantiad ar yr un pryd cyn bod y cynefin yn glir i fanteisio arno; digwyddiad llawer prinnach. Ym myd cemo-therapi, mae lladd celloedd cancr yn creu “cynefin” diwrthwynebiad tebyg yn y corff ar gyfer celloedd cancr sydd wedi miwtantio. Mae eu cystadleuaeth naturiol “Darwinaidd”, sef y celloedd cancr gwreiddiol, wedi mynd – ac yn unol â rheolau esblygiad detholus mae’r cancr newydd yn lluosogi i lenwi’r bwlch. Nid syniad newydd yw ceisio ymyrryd â rhain, ond mewn papur yn rhifyn diwethaf Science Translational Medicine mae Robert Gatenby o Ganolfan Gancr Moffitt yn Tampa, Fflorida wedi mesur yr effaith ar gancr y fron mewn llygod. Yn gyntaf, defnyddiodd y cyffuriau arferol i drin y cancr. Cafwyd ymateb rhwng 10 a 20 diwrnod. Ond yna dechreuodd y tyfiant o’r newydd. Yn ei arbrawf, ar ôl 20 diwrnod, dilynodd Gatenby yr egwyddor “gwrth-esblygiad” o osgoi lladd y cancr wreiddiol – dim ond ei gadw rhag tyfu. Roedd presenoldeb yr “hen” gancr yn ormod o gystadleuaeth i’r miwtantiadau newydd – ac nid oeddynt yn goroesi. Roedd y driniaeth yn cadw’i grym. Yn wir, ar ôl 155 diwrnod ‘roedd modd rhoi gorau i’r driniaeth heb i’r cancr dim mwy mewn 60% o’r anifeiliaid. Defnyddio’r cancr i drin ei hun. Bellach mae Gatenby wedi cychwyn treialon gyda chancr y prostad sydd wedi datblygu gwrthiant i’r driniaeth gyntaf.
Wrth i driniaethau o’r fath dyfu’n fwy manwl, mae cadw cofnodion meddygol cywir yn gynyddol bwysig. Ond yn ddiweddar daethant yn darged diweddaraf “hacwyr” y we. Daeth gair newydd i’r maes – sef “Ransomware”. Ym mis Chwefror bu rhaid i Ganolfan Feddygol B resbyteraidd Hollywood dalu $17,000 mewn bitcoin i ailfeddiannu ei holl gofnodion ar ôl i hacwyr ei engriptio a mynnu $3.6 miliwn o bridwerth amdano. Wrth ddarllen am yr hanes yn y New Scientist, fe ddois ar draws cyfeiriad at un o’r cwmnïau blaengar sy’n ceisio amddiffyn y we. Enw’r cwmni yw Team Cymru, sy’n gweithredu o Lake Mary, Fflorida. Enw ei wefan ddiddorol yw Dragon News, a’i sylfaenydd yw Rabbi Rob Thomas. Beth yw ei hanes e’ a’r cwmni tybed ? Dywedodd Steve Santorelli, aelod o’r tîm a chyn dditectif ym Mhrydain, wrth y New Scientist fod un pecyn ransomware, o’r enw CryptoLocker 3.0, yn unig wedi costio $325 miliwn i’w hysglyfaeth yn ystod 2015.
Cyn ymadael â thudalennau technoleg New Scientist, daliwyd fy sylw gan gyfeiriad Cymreig arall ynddo’r mis hwn. Gyda’r holl sôn am gwmnïau Aston Martin a TVR yn dod i Sain Tathan (heb sôn am General Dynamics ym Merthyr), da oedd darllen am gwmni Riversimple o Landrindod. Mae eu gwefan hwythau yn disgrifio un wedd ychydig yn fwy eco-gyfeillgar ar drafnidiaeth y dyfodol; y Rasa, sef cerbyd arbrofol chwyldroadol wedi’i bweru gan gelloedd tanwydd hydrogen. Roedd y manylion yn ddigon i dynnu dŵr i ddannedd unrhyw deci ! Da oedd gweld y ddraig goch yn glir ar eu plât rhif adnabod yn gyrru o gwmpas heolydd Powys. Yn bendant nid oes fwg o unrhyw fath yn dod allan o’i egsôst. Gwyliwch amdani !
Pynciau: Ysmygu, Cancr, Ransomware, Rasa