O’r diwedd mentro i’r Blogosffêr. Mae gennyf sawl bwriad. Un syml yw paratoi gwefan hygyrch cart achau i’m teulu. (Bûm yn casglu gwybodaeth ers blynyddoedd ac mae’n well i’r cenhedloedd sy’n dod ei gael; a’r genhedlaeth a fu ei gywiro a’i ymestyn lle bo angen.) Hefyd hoffwn osod fy nghyfraniadau i’r cylchgrawn Barn ar gadw. Tan 2016 nid oedd archif electronig ohonynt. Mae gennyf ganiatâd llafar i’w defnyddio felly. Nid y Golofn Gwyddoniaeth fel yr ymddangosodd sydd yma, ond yr ysgrifau fel e’u cyflwynwyd gennyf i’r golygyddion. Fy ngobaith yw ychwanegu atynt gyfeiriadau at y ffynonellau gwreiddiol i’r gwahanol adroddiadau. Yn olaf, ac yn fwy annelwig, hoffwn ddefnyddio’r “Blog” fel ychwanegiad at fy nghyfraniadau o bryd i’w gilydd i raglenni BBC Radio Cymru. Yn y pair, yn rhywle hefyd, rhagwelaf dynnu sylw at fy nghyfraniadau (a chyfraniadau gan eraill) mwy ffurfiol i Wicipedia. Gwyddoniaeth yw fy nghefndir, ac felly mi ddylwn gadw at y Ffydd honno; ond hwyrach ni fydd modd imi osgoi ambell sylw ar ddigwyddiadau cyfredol y cilcyn o ddaear hon yr ydym yn ei alw’n Gartref.
Croeso

Da iawn Deri. Edrych ymlaen at weld dy flogiau yn 2018.
Gareth a Margaret
HoffiHoffi
Diolch o galon. Arbrawf newydd !
HoffiHoffi
Hi Deri, I’ve been trying to contact you but your bangor.ac email bounces. Can you let me have your email please. Mine is judy.all……gmail.com (abbreviated for security reasons).
Judy (Part 2 Biochem and Don Northcote’s group)
HoffiHoffi
Hi Judy ! Greetings. I haven’t had a message to my WordPress account before, How exciting. I don’t know why my bangor.ac.uk account bounces – I still use it (one of the perks of emeritusness). I’ll try it out the link now. The other address I use is deritomos@btinternet.com. I hope all is well with you both. Will you be coming to the 50 year reunion(s) in September ? I heard from Simon and Sue Bright at Christmas – Simon finally retired from all Rothamsted committees. Hwyl, Deri
HoffiHoffi
Sorry message has been mangled but I hope you get the gist.
HoffiHoffi
Yes ! I’ll e-mail you directly also. 🙂
HoffiHoffi