2025/26
Hydref 13 2025 (7.30)
Iestyn Pierce (Bangor) “Rhwydweithiau o synwyryddion diwifr: yn fforestydd y canolbarth ac ar Ddelta’r Mekong”
Mae Iestyn Pierce yn hen gyfaill i’r Gymdeithas. Mae’n athro mewn peirianneg electronig a’i ymchwil wedi canolbwyntio ar fodelu rhifiadol systemau peirianneg, gan gynnwys cydrannau a systemau cyfathrebu optegol ac, yn fwy diweddar, ar systemau rheoli mewn ynni carbon isel. Bu’n arweinydd pecyn gwaith pŵer niwclear, a arweiniodd at ddiddordeb mewn rhwydweithiau synwyryddion diwifr dosbarthedig mewn rheoli coedwigaeth (yng nghanolbarth Cymru) ac mewn monitro ymyrraeth halen yn Nelta Mekong yn Fietnam.
Tachwedd 10 2025 (7.30)
Neal Hockley (Bangor). “Pwy fydd yn achub coedwigoedd trofannol? Cadwraethwyr, marchnadoedd, neu gymunedau?”
Mae Neal Hockley yn arbenigwr ar effeithiau economaidd-gymdeithasol cadwraeth, coedwigaeth a rheoli tir; cyfiawnder amgylcheddol; llywodraethu amgylchedd; deiliadaeth tir a choedwig; dadansoddiad cost-fudd a dulliau prisio amgylcheddol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng nghoedwigoedd Madagascar, ac yn rhugl yn yr iaith Malagasi.
Rhagfyr 8 2025 (7.30)
Rhodri Williams (Eryri Consulting, M-SParc). “Yr Argyfwng newydd: Rheoli Diogelwch Gwybodaeth a pham mae’n bwysig.”
Mae gan Rhodri, brodor o Fôn, trywydd gyrfa ddiddorol. Yn 2024 graddiodd â BSc mewn Seibrddiogelwch Cymhwysol o Brifysgol Bangor a hyn trwy gynllun Gradd-Brentisiaeth o dan nawdd M-SParc. (Fe oedd y gyntaf i ennill gwobr Arloeswr Ifanc y Flwyddyn M-SParc.) Ers graddio, bu’n gysylltiedig â mwy nag un o gwmnïau M-SParc. Yn ystod ei radd bu’n gweithio gyda thechnoleg dronau – a thraddododd cyflwyniad ar y pwnc yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Ymhlith ei aml ddiddordebau yw nofio tanddwr.
Ionawr 19 2026
Ynyr Harris (Universität Bonn). “Atlas Ffiseg yr LHC”. Bydd y cyflwyniad trwy cyfrwng Teams yn unig – gyda chynulleidfa fyw.
Mae Ynyr, sy’n Gymrawd Alexander von Humboldt yn ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Bonn, yn wreiddiol o Bwllheli. Mae ganddo gysylltiadau dwfn a’r Gymdeithas hon. Roedd ei daid, Alwyn Owens, yn allweddol yn hanes y gymdeithas (heb sôn am fod yn enillydd Medal Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a Phennaeth Ysgol Peirianneg Drydanol Bangor). Graddiodd Ynyr mewn Ffiseg, gradd Meistr yn y dosbarth gyntaf, o Brifysgol Manceinion, cyn ennill DPhil o Rydychen yn 2023. Yno bu’n ymchwilio i ddefnydd synhwyrydd ATLAS sy’n rhan o’r LHC yn CERN, Genefa. Yn 2024 ymunodd a grŵp ymchwil Matthias Schott ym Mhrifysgol Bonn gan barhau i weithio gyda’r ATLAS. Bu’n un o sêr rhaglen S4C Gronyn Gobaith – Cymry CERN – a ddarlledwyd yn gyntaf y llynedd.
Chwefror 16 2026 (7.00)
Eurig Druce (Stellantis). “Y sialens o gyflwyno ceir trydan”.
Eurig yw Is-lywydd Hyn a Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp, Stellantis UK a Chyfarwyddwr Vauxhall Motors Ltd. Cyn hynny bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr cwmnïoedd Citroën UK a Peugeot UK. Ar ôl graddio o Ysgol Peirianneg Electronig Bangor yn 2001 ymunodd Eurig a chwmni Peugeot. Yno gweithiodd ym maes gwerthiant ac ôl-werthiant, cyn dod yn Gyfarwyddwr Cydrannau a Gwasanaethau yn 2015 a Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Stellantis UK yn 2024. Stellantis yw un o brif wneuthurwyr ceir y byd, mae iddo restr hir o frandiau megis Abarth, Alfa Romeo, Chrysler, Citroën, Dodge, DS Automobiles, FIAT, Jeep®, Lancia, Maserati, Opel, Peugeot, Ram, Vauxhall, Free2move a Leasys. Trwy ei gynllun Dare Forward mae’n aneli at fod yn Garbon net Sero erbyn 2038.
Mawrth 9 2026 (7.30)
Gwion Evans (Aberystwyth). “Aber, Bangor, Caerdydd a Chymesuredd”.
Awn ar daith drwy ddatblygiad y cysyniad o gymesuredd mewn mathemateg, gan alw heibio i gyfraniadau o Gymru. Ar hyd y ffordd, cawn weld golygfeydd godidog o’i gymwysiadau yn y gwyddorau.
Graddiodd Gwion mewn Mathemateg yng Nghaerdydd yn 1998. Canolbwyntiodd ar algebrâu-C* sy’n gysylltiedig â graffiau ranc-uwch ar gyfer ei waith ymchwil tuag at ei ddoethuriaeth. Gweithiodd yn Copenhagen a Rhufain ar y cydadwaith rhwng algebrâu-C* a dynameg dopolegol, yn cynnwys dynameg symbolaidd aml-ddimensiynol. Yn 2005 dychwelodd Gwion i Prifysgol Aberystwyth, ar yr ochr weinyddol i ddechrau, ond yna cychwynnodd weithio fel darlithydd Mathemateg ran amser, gan gynorthwyo datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Adran, cyn cymryd darlithyddiaeth llawn amser, gyda chyfrifoldeb am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn 2011. Ar hyn o bryd, Gwion yw Pennaeth yr Adran Mathemateg. Mae Gwion yn awdurdod rhyngwladol mewn Algebrâu Gweithredyddion, yn enwedig algebrâu-C* a’i chydadwaith gyda dynameg dopolegol a gwybodaeth a rheolaeth cwantwm.
Ebrill 30 2026 (Dydd Iau)
Gwibdaith wyddonol i weld safleoedd metelau a mineralau Dyffryn Ogwen o dan arweiniad Howard Hughes (Bangor).
2024/25
Deri Tomos (Bangor). “Gwyddonydd ymysg y Gwenyn”
Rebecca Colley-Jones (Ynys Resources Ltd a Menter Môn). “Plastig: Rhyfeddod Modern a’i Ddifrod – Stori Dau Ochr”
Simon Moseley (Bangor). “Awtistiaeth yn y Byd Sydd Ohoni”
Bleddyn Bowen (Durham). “Pechod Gwreiddiol? Tarddiad a Pharhad Natur Milwrol-Gwleidyddol Oes y Gofod”.
Nia Jones (Bangor). “Y Gymraeg ag Ysgol Feddygol Bangor”
Gareth Wyn Jones a Prysor Williams (Bangor) a Tom Jones (Undeb Amaethwyr Cymru)
“Amaeth a’r amgylchedd: yr ateb, neu’r broblem?” (Melin Drafod ym maes amaeth a nwyon tŷ gwydr.)
Gwibdaith wyddonol i Fôn (Cemaes) yng ngofal Dei Huws (Bangor).
Daeareg sgist a ffosiliau stromatolitiau. Daeareg nodweddiadol yr ardal.
2023/24
Pryderi ap Rhisiart ac Emily Roberts (MSParc). “Tanio uchelgais ac arloesedd yng Nghymru”
Manon Owen (Leeds Institute of Cardiovascular and Metabolic Medicine, Prifysgol Leeds).
“Effaith miR-375 ar Dyfiant ac Iechyd Hirdymor Cardiometabolig Ffetws mewn Beichiogrwydd Diabetig”
Llinos Spencer (Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol Bangor). “Costau pryder amenedigol a defnyddio’r gwasanaeth iechyd: Dadansoddiad economeg iechyd”.
Merfyn Williams (Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol Bangor). “Deugain mlynedd o wrthfiotigau”
Elin Rhys (Cwmni Telesgop). Bywyd mewn Gwyddoniaeth ar S4C.
Dei Huws (Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor). “Gwyddor Môr ac Archaeoleg llongau tanfor y Rhyfel Byd Cyntaf”
Gwibdaith wyddonol i ardal Porthmadog yn cynnwys cyflwyniad ym Mhlas Brondanw gan Seran Dolma (Sefydliad Susan Williams-Ellis) am ei hen nain, Amabel Williams-Ellis.
2022/23
Deri Tomos (Bangor). “DNA a Herbert Wilson. Bioffisegydd o Nefyn.”
Angharad Rayner (Rheolwr Safle) a Richard Owen (Prif Beiriannydd Safle) (Trawsfynydd). “Digomisiynu Atomfa Trawsfynydd.”
Huw Morgan (Aberystwyth). “Tywydd y Gofod: Peryglon a Rhagolygon”
Haydn Edwards (Bangor). “Griffith Davies FRS – Arloeswr”
2021/22
Rowland Wynne (Caerdydd). ZOOM. “E.J. Williams – ffisegydd yr atom”
Erin Owain (Willis, Towers, Watson. Caerdydd). “Modelau hinsoddol: Sicrwydd mewn ansicrwydd”
Jack Wilson (Bangor). “Adweithyddion Modiwlaidd Bach yng Ngogledd Cymru & Gweithgareddau’r Sefydliad Dyfodol Niwclear”
Nia Jones (Bangor). “Problem macro o’r byd micro: beth allwn ni ei ddysgu o’r broblem llygredd microplastig?”
Simon Ward (Caerdydd). Darganfod meddygyniaethau
2020/21
Deri Tomos (Bangor). “Afal Drwg Adda – a hanes ambell ffrwyth a llysieuyn arall”
Gareth Ffowc Roberts (Bangor). “Cyfri’n Cewri”
Dyfed Morgan (Bangor). “Mesur ôl traed amgylcheddol bragdai crefft yng Nghymru”
Guto Owen. “Tyfiant hydrogen yng Nghymru”
2019/20
Osian Roberts (Cwmni Minesto). “Ynni Morol”
Awen Iorwerth (Caerdydd). “Llawfeddygaeth yr Ysgwydd”
Erica Roberts (Bangor). (Cemeg)
Awel Vaughan-Evans (Bangor). “Iaith yr ymenydd”
Rhodri Mir Williams (Rhydychen). “Cemeg Lanthanidau”
Ifan Wyn Hughes (Durham). “Cyfrifiaduron Cwantwm: Ydy’r dyfodol wedi cyrraedd?”
2018/19
Gareth Cemlyn Jones (Peiriannydd Siartredig Annibynnol). “Defnyddio Grym yr Afon”
Emyr Lloyd-Evans (Caerdydd). “Datblygu’r driniaeth feddygol gyntaf i glefyd Huntington”
Andrew Davies (Bangor). “Chwarae Teg? Defnyddio Mathemateg i Ennill Gêm Monopoly”
Rhys Jones (Uwch Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd). “Cyfri’r Trochydd Mawr”
Non Williams (Bangor). “Gwella rheolaeth porfa’r ucheldir er budd yr amgylchedd”
Sioned Llywelyn (Aberystwyth). “Sut i fanteisio ar wybodaeth geomorffoleg i hyrwyddo geotreftadaeth Cymru?”
John Llywelyn Williams (Bethesda). “Rhyw biltran yn anwybodus gyda Gwyddoniaeth – cyffes archeolegydd”
2017/18
Gareth Griffiths (Aberystwyth). “Ffyngau Anaerobic”
Geraint Jones (CP Llundain). “ Anturiaethau Cassini yng Nghysawd y Blaned Sadwrn, 2004-2017”
Dei Huws (Bangor). “Taith Ddaearegol Môn”
Ken Brassil (Amgueddfa Genedlaethol). “Taith Darwin o gwmpas Gogledd Cymru”
Hywel Madog Jones (Trawsfynydd). “Adweithyddion Niwclear”
Huw Green (Cyfoeth Naturiol Cymru). “Dosbarthiad cennau coetir hynafol o fewn coedwig law Geltaidd”
2016/17
Deri Tomos (Bangor). “Agor drws bywyd. Beth yn union ddarganfu Robert Hooke wrth ganfod y gell ?”
Dewi Bryn Jones (Bangor). “Datblygu Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg”
Dyfrig Roberts (Bae Colwyn). “Gwên yn y gwaith”
Rhys Davies (Ysbytai Gwynedd a Walton). “Deall yr Ymennydd: Gwyddoniaeth i Feddygaeth”
Siwan Davies (Abertawe). “Newid Hinsawdd Ddoe a Heddiw”
(Methodd Arwel Owen (Genus) a Math Williams (Daearegydd Annibynnol) ddod)
2015/16
Geraint Wyn Jones (First Hydro, Dinorwig). “O Grombil y Mynydd i’r Farchnad Drydan”
Daniel Rhys Griffin Roberts (Bangor). “Dyfeisiadau Lled-Ddargludyddol ar Gyfer Creu Ymbelydredd Terahertz”
Ieuan Wyn Jones (Parc Gwyddoniaeth Menai). “Man Gwaith Man Draw – Datblygiad Parc Gwyddoniaeth”
Rhodri Evans (Caerdydd). “Gwneud seryddiaeth o awyren Boeing 747, pam a sut”
2014/15
Cai Ladd (Bangor). “Y frwydr rhwng tir a mor, ecoleg y morfa heli”
Elain Gwilym (Cyfoeth Naturiol Cymru). “Cynllun Perlau mewn Perygl – Gwarchod y Fisglen Berlog”
Jason Saunders Williams (Bangor). “Cemotherapi o’r Rhyfel Byd i’r Rhyfel a Canser”
Emyr Macdonald (Caerdydd). “Electroneg gyda Moleciwlau”
Daniel Williams (Siemens).
2009/10
Owain Llyr Roberts (Bangor). “Atal ERK5 i atal cancr ? Dadansoddiad o swyddogaeth y protein negeseuol ERK5 mewn angiogenesis”
Arwyn Tomos Jones (Caerdydd).
Hywel Meilyr Griffiths (Aberystwyth). “Ansefydlogrwydd fertigol ar afonydd Cymru”
Tegai Andrews (Bangor). “Peidiwch gwrando ar y bwlis iaith ! Pwysigrwydd cysyniadau gwyddonol wrth safoni termau”
2008/9
Geraint Vaughan (Manceinion). “Newid hinsawdd: gwir neu gau ?”
H Merfyn Williams (Bangor). “MRSA: ddoe a heddiw”
Prysor Williams (Bangor). “Bio-bydredd”
Hefin Jones (Caerdydd). “Dirgelion bioamrywiaeth”
Richard Owen (Wylfa). “Dyfodol Ynni Niwcliar”
Alwyn Owens (Bangor). (Arwain) Trafodaeth ar ragoriaethau a gwendidau ffynonellau ynni adnewyddol.
2007/8
Gareth Wyn Jones (Bangor). “Dŵr”
Gareth Roberts (Cyngor Cefn Gwlad). “Harddwch naturiol a newid agweddau at dirlun”
Paula Roberts (Bangor). “Gwyddoniaeth yn yr Antarctig”
2005/6
Dei Huws (Bangor). “Ynni o’r môr”
Prysor Williams (Bangor). “E. coli O157 – y bacteriwm bygythiol”
Enlli Thomas (Bangor) “Caffaeliad o systemau cystrawennol cymhleth yn y Gymraeg gan blant: Rhai dulliau arbrofi”
2004/5
O.P. Jones (Picosorb, Caernarfon). “Garlleg”
N. Roberts (WDA). “Petentau”
Iestyn Pierce (Bangor). “Neuronau Electroneg”
Diweddarwyd: 17/7/2026
