Cymdeithas Wyddonol Gwynedd

Gwybodaeth am weithgareddau Cymdeithas Wyddonol Gwynedd

Sefydlwyd y Gymdeithas ym Mangor yn yr 1970au, fel un o rwydwaith cysylltiedig Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol. Cynhaliwyd cyfarfodydd (cyflwyniadau llafar yn bennaf) yn ddi-dor ers bron i hanner can mlynedd. Diben y gymdeithas yw diddanu, addysgu a hyrwyddo gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg ac ati trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae aelodaeth yn agored i bawb, ac er bod tâl aelodaeth, mae croeso i unrhyw un ddod i gyfarfodydd unigol am ddim i’w profi.

Cynhelir y cyfarfodydd am 7.30 ar ail nos Lun pob mis trwy dymor y gaeaf (Hydref-Mawrth). Ers sawl blwyddyn fe’u cynhelir yn Ystafell 1.07 Canolfan Bedwyr (Neuadd Dyfrdwy), Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG.

Fel arfer mae cyfle i aelodau o’r Gymdeithas ymuno a’r siaradwr dros bryd o fwyd ym Mwyty 1884 y Brifysgol am 6.00 cyn y cyflwyniad. Os hoffech ddod, cysylltwch â’r Ysgrifennydd o flaen llaw er mwyn iddo archebu lle, os gwelwch yn dda. (Byddwch yn barod i fynegi’ch dewis ( bwydlen Bwyty 1884 ) er mwyn osgoi oedi ar y noson.)

Bwriedir darlledu ein cyflwyniadau trwy Microsoft Teams. Os hoffech ymuno felly, cysylltwch â’r Ysgrifennydd am y manylion cysylltu. Y bwriad yw agor y cyswllt am 7.00 cyn cychwn bob cyflwyniad.

Tal aelodaeth (2025-26). Cyffredin £10. Myfyrwyr am ddim. (Croesewir, am ddim, ymweliadau unigol.)

Ffurflen Ymaelodi a manylion BACS


Rhaglen 2025-26

Hydref 13 2025 (7.30)
Iestyn Pierce (Bangor) “Rhwydweithiau o synwyryddion diwifr: yn fforestydd y canolbarth ac ar Ddelta’r Mekong”

Mae Iestyn Pierce yn hen gyfaill i’r Gymdeithas. Mae’n athro mewn peirianneg electronig a’i ymchwil wedi canolbwyntio ar fodelu rhifiadol systemau peirianneg, gan gynnwys cydrannau a systemau cyfathrebu optegol ac, yn fwy diweddar, ar systemau rheoli mewn ynni carbon isel. Bu’n arweinydd pecyn gwaith pŵer niwclear, a arweiniodd at ddiddordeb mewn rhwydweithiau synwyryddion diwifr dosbarthedig mewn rheoli coedwigaeth (yng nghanolbarth Cymru) ac mewn monitro ymyrraeth halen yn Nelta Mekong yn Fietnam.

Tachwedd 10 2025 (7.30)
Neal Hockley (Bangor). “Pwy fydd yn achub coedwigoedd trofannol? Cadwraethwyr, marchnadoedd, neu gymunedau?”

Mae Neal Hockley yn arbenigwr ar effeithiau economaidd-gymdeithasol cadwraeth, coedwigaeth a rheoli tir; cyfiawnder amgylcheddol; llywodraethu amgylchedd; deiliadaeth tir a choedwig; dadansoddiad cost-fudd a dulliau prisio amgylcheddol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng nghoedwigoedd Madagascar, ac yn rhugl yn yr iaith Malagasi.

Rhagfyr 8 2025 (7.30)
Rhodri Williams (Eryri Consulting, M-SParc). “Yr Argyfwng newydd: Rheoli Diogelwch Gwybodaeth a pham mae’n bwysig.”

Mae gan Rhodri, brodor o Fôn, trywydd gyrfa ddiddorol. Yn 2024 graddiodd â BSc mewn Seibrddiogelwch Cymhwysol o Brifysgol Bangor a hyn trwy gynllun Gradd-Brentisiaeth o dan nawdd M-SParc. (Fe oedd y gyntaf i ennill gwobr Arloeswr Ifanc y Flwyddyn M-SParc.) Ers graddio, bu’n gysylltiedig â mwy nag un o gwmnïau M-SParc. Yn ystod ei radd bu’n gweithio gyda thechnoleg dronau – a thraddododd cyflwyniad ar y pwnc yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Ymhlith ei aml ddiddordebau yw nofio tanddwr.

Ionawr 19 2026 [Sylwch – y drydedd nôs Lun]
Ynyr Harris (Universität Bonn). “Atlas of Ffiseg yr LHC”. Bydd y cyflwyniad trwy cyfrwng Teams yn unig – gyda chynulleidfa fyw.

Mae Ynyr, sy’n Gymrawd Alexander von Humboldt yn ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Bonn, yn wreiddiol o Bwllheli. Mae ganddo gysylltiadau dwfn a’r Gymdeithas hon. Roedd ei daid, Alwyn Owens, yn allweddol yn hanes y gymdeithas (heb sôn am fod yn enillydd Medal Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol a Phennaeth Ysgol Peirianneg Drydanol Bangor). Graddiodd Ynyr mewn Ffiseg, gradd Meistr yn y dosbarth gyntaf, o Brifysgol Manceinion, cyn ennill DPhil o Rydychen yn 2023. Yno bu’n ymchwilio i ddefnydd synhwyrydd ATLAS sy’n rhan o’r LHC yn CERN, Genefa. Yn 2024 ymunodd a grŵp ymchwil Matthias Schott ym Mhrifysgol Bonn gan barhau i weithio gyda’r ATLAS. Bu’n un o sêr rhaglen S4C Gronyn Gobaith – Cymry CERN – a ddarlledwyd yn gyntaf y llynedd.

Chwefror 16 2026. [Sylwch – y drydedd nôs Lun]
Eurig Druce (Stellantis). Y sialens o gyflwyno ceir trydan.

Mawrth 9 2026 (7.30)
Gwion Evans (Aberystwyth). Agweddau o Fathemateg Bur (union destun i’w gadarnhau).

Ebrill/Mai 2026
Gwibdaith wyddonol i weld safleoedd metelau a mineralau Dyffryn Ogwen o dan arweiniad Howard Hughes (Bangor). Manylion i ddilyn

Swyddogion (2025-26)
Cadeirydd: Gareth Tilsley
Trysorydd: Hywel Madog Jones
Ysgrifennydd: Deri Tomos (01248 601176, a.d.tomos@bangor.ac.uk)


Archif ag Eraill
Detholiad o gyn-gyflwyniadau
Cysylltiadau o ddiddordeb gwyddonol 


Diweddarwyd 11/1/26