Ar ôl treulio mwy na’m siâr o amser yn pendwmpian ar ôl cinio dros yr Ŵyl a’r Flwyddyn Newydd, hyfryd oedd gweld bod pysgod jeli yn mwynhau’r un ddefod ! Mae’n debyg bod rhythmau cysgu i’w gweld ym mhob math o anifail sydd â rhwyd nerfau yn rhan o’u cyfansoddiad. Popeth, sef, o’r pysgod jeli (y cnidariaid) i ni. Yn ôl Lior Appelbaum o Brifysgol Barilan, Israel, awgryma hyn i’r arfer ymddangos yn ystod y cyfnod anturus yn hanes y byd a elwir y Ffrwydrad Cambriaidd, tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd cymaint o’r patrymau corff sy’n bodoli hyd heddiw. Y dybiaeth yw bod cwsg yn hanfodol i berchnogion ymennydd cymhleth; trwy ganiatáu cael gwared â’r gwastraff metabolig sy’n cronni yno yn ystod yr oriau effro. Ond pam y byddai angen seibiant ar rwydwaith syml niwronau pysgod jeli ? Yn arbennig felly o ystyried peryglon cysgu mewn byd llawn o elynion !
Yn Nature Communications ar ddechrau Ionawr, mae Appelbaum a’i dîm yn disgrifio arbrofion ar ddau gnidariad (un anemoni môr ac un pysgodyn jeli gyda’r enw seryddol a chwedlonol hyfryd – Cassiopea andromeda). I ychwanegu at ryfeddod yr enw, mae’r pysgodyn jeli yma yn byw yn gorwedd ar ei gefn ar waelod y môr.
Mae’r ddau greadur yn treulio tua wyth awr, traean y diwrnod, yn cysgu. Yn hynod o debyg i ni. Mae iddynt glociau ac maent yn ymateb i rhythmau golau. Mae Cassiopea yn cysgu drwy’r nos ac yn cael cyntun (“nap” y papur) o awr neu ddwy dros amser cinio. Tra bod Nematostella yn fwy swrth tua thoriad y wawr. Pan ymyrrir â’u cwsg maent yn cysgu’n hirach y diwrnod wedyn.
Astudiodd y niwrolegwyr effaith colli cwsg ar DNA y niwronau – gan weld dirywiad tebyg i bresenoldeb mwtagenau a phelydredd uwch-fioled. Tra bod cwsg naturiol – neu wedi’i sbarduno gan yr hormon melatonin – yn amddiffyn a thrwsio’r DNA a’r genynnau.
Dengys hyn bod cwsg wedi esblygu yn annibynnol ar ymddangosiad yr ymennydd, a bod iddo swyddogaeth bwysig wrth amddiffyn niwronau unigol rhag stres a niwed i’r genynnau. Mae gennyf gyfiawnhad gwyddonol i bendwmpian o hyn allan !
Ryw fore Sadwrn, flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn yn gweithio mewn labordy bioffiseg ymhell o Fangor, daeth cyfaill ataf a gofyn am ddogn o waed. Doedd ei gyflenwad arferol o gelloedd coch ddim ar gael dros y penwythnos. Awr neu ddwy yn ddiweddarach, fe brofais un o olygfeydd rhyfeddotaf fy mywyd. Trwy’r microsgop roeddwn yn syllu ar fy nghelloedd coch i wedi’u hasio â chelloedd gwyrdd o ddeilen planhigyn. Cloroplastau yn nofio yn fy sytoplasm coch ! Roeddwn yn hanner dyn, hanner planhigyn. Roedd Frankenstein hyd yn oed heb wneud hynny!
Byrhoedlog iawn oedd fy modolaeth fel hybrid ond fe’m hatgoffwyd o’m profiad gan ddau hanes hollol wahanol y mis diwethaf. Yn y New Scientist y darllenais (gan y colofnydd Michael Le Page) am y cyntaf. Yn anghyffredin i’r cyfnodolyn hwn, nid oes hyd yma bapur swyddogol y tu ôl i’r hanes, ac yn wir, efallai mai arbrawf “bore Sadwrn” fel f’un i fydd ei dynged. Ond ysbrydolwyd Brett Adey ac Austen Ganley o Brifysgol Auckland, gan waith o Brifysgol Kobe, Japan, ddechrau’r ddegawd. Roedd y grŵp o Japan wedi creu celloedd dynol hybrid (mewn potel, nid mewn corff !) yn cynnwys cromosomau o’r planhigyn Arabidopsis. Goroesodd yr uniadau hyn yn fyw am rai misoedd, gan ganiatáu dysgu gryn dipyn am fioleg y cromosom.
Nod Adey a Ganley yw ateb un o ddirgelion y genom. A oes diben a defnydd i bob rhan ohono ? Hyd yn oed cyn cadarnhau rôl DNA mewn geneteg, yn yr 1940au roedd tystiolaeth nad oedd holl ddefnydd etifeddol celloedd yn bwysig. Erbyn y 1960au roedd cryn drafod am “junk DNA”, sydd wedi para hyd heddiw. Yn 2012 daeth prosiect enfawr o’r enw ENCODE i’r casgliad er nad oedd pwrpas 80% o’r genom dynol yn hysbys – ‘roedd yn gwneud “rhywbeth”. Nid “junk”, felly, oedd y DNA nad yw’n codio ar gyfer rhywbeth ymarferol.
Ond mae Adey a Ganley wedi taflu cryn amheuaeth am hyn. Trwy ddefnyddio techneg y Japaneaid, maent wedi profi bod DNA (nad sy’n codio) y planhigyn yn ymddangos bron mor “weithredol” â’r DNA dynol yn y celloedd hybrid o dan amodau ENCODE. Dadleuant na fedr hyn fod at unrhyw bwrpas – “junk” go iawn. Efallai bod rhaid aros i weld y gwaith wedi’i gyhoeddi’n iawn cyn barnu.
Ymddangos fel rhan o stori dditectif go iawn wnaeth yr ail hanes am hybridiau. Yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn Forensic Science International: Genetics ceir papur gan Jiangwei Yan a’i gydweithwyr yn disgrifio hanes gwraig a lofruddiwyd yn Tsiena yn ddiweddar. Wrth ddadansoddi ei gwaed canfuwyd ynddo celloedd â’r cromosom Y (sef y cromosom gwryw). O ddadansoddi’n bellach darganfuwyd bod ei chorff yn gymysgedd o gelloedd XX (benyw) a XY (gwryw). Gelwir y cyflwr hwn yn gimera ar ôl y creadur chwedlonol a grëwyd o lew, gafr a sarff. Mae cimerâu o’r math yma yn brin iawn ac yn dod i’r amlwg fel arfer oherwydd eu dylanwad allanol. Ond yn yr achos hwn nid oedd unrhyw arwydd o’r cyflwr ac mi roedd gan y wraig mab iach.
Weithiau mae arwyddion allanol o’r cyflwr ac mae’r gantores Taylor Muhl wedi defnyddio hyn i dynnu sylw ar y ffenomen. Mae lliw croen Muhl wedi’i rannu’n ddau bob ochr i’w chorff – ac mae’n debyg ei bod yn gimera o ddwy efaill. Asiodd y ddau wy yn un yn gynnar yn ei beichiogrwydd. Gan nad yw’r ddwy ochr yn hollol yr un fath mae’n dioddef o gyflyrau awtoimiwn.
Esboniad tebyg i hyn a gynigiwyd gan Yan. Ond mewn adolygiad New Scientist o’r hanes dyfynnir barn Michael Gabbett o Brifysgol Technoleg Queensland ar ôl darllen manylion y gwaith, bod rhywbeth mwy cymhleth a phrin iawn wedi digwydd yma. Cred bod un ŵy wedi’i ffrwythloni gan ddau sberm i greu wy ag iddo tri set o gromosomau (dau yw’r arferol). Holltodd yr ŵy yn dair cell – ond collwyd yr un oedd yn cario dim ond genynnau’r ddau sberm, gan adael i’r ddwy gell arall ffurfio’r cimera.
I’r awdurdodau mae deall canlyniadau profion fforensig yn fwyfwy dylanwadol. Mae’r enghraifft hon yn dangos pa mor bwysig yw peidio â dibynnu ar brofion elfennol. Bellach yn Tsiena a gwledydd eraill, mae’r canllawiau yn mynnu arbrofion moleciwlar (STR) a fyddai’n canfod cymhlethdodau prin o’r math yma.
Pynciau: Cwsg Pysgod Jeli, DNA Diwerth, Cimera Dynol
Cyfeiriadau
Cwsg Pysgod Jeli: Raphaël Aguillon, Amir Harduf, Dana Sagi, Noa Simon-Blecher, Oren Levy a Lior Appelbaum (2026) DNA damage modulates sleep drive in basal cnidarians with divergent chronotypes. Nature Communications 17, Erthygl Rhif 3
DNA Diwerth: Michael Le Page (2025) Human-plant hybrid cells reveal truth about dark DNA in our genome. New Scientist 29 Rhagfyr 2025
Yikun Liu, Yeng Mun Liaw, Chee How Teo, Petr Cápal, Naoki Wada, Kiichi Fukui, Jaroslav Doležel a Nobuko Ohmido (2021) Molecular organization of recombinant human-Arabidopsis chromosomes in hybrid cell lines. Scientific Reports 11, Erthygl Rhif : 7160
Cimera Dynol: Linlin Gao, Chenxia Li, Yuntian Xiao, Wenyan Ren, Shujuan M, Jingjing Zhang a Jiangwei Yan (2026) Forensic analysis of a parthenogenetic 46, XX/46, XY congenital chimera: A case report. Forensic Science International: Genetics 81, Chwefror 2026, 103394
Michael Le Page (2026) Murder victim discovered to have two sets of DNA due to rare condition. New Scientist, 2 Ionawr 2026
<olaf nesaf>
