Barn 190 (Hydref 2025): Vera C. Rubin, Wyneb Denisofa, Hen Brotein Affrica, Mewnfudwyr


Yn 1948 fe geisiodd seryddydd ifanc disglair gofrestru ar gyfer rhaglen doethur yn Adran Seryddiaeth Prifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau. Fe’i gwrthodwyd am ei bod yn ferch. Parhaodd polisi dynion yn unig yr Adran hyd at 1975. Cafodd gynnig gan Harvard, ond dewisodd ymuno â Phrifysgol Cornell, lle’r oedd ei darpar ŵr yn astudio yn yr Adran Ffiseg. Er nad oedd Cornell yn enwog am Seryddiaeth, yn ystod y cyfnod hwn bu’n cydweithio â Hans Bethe a Richard Feynman. Dau a oedd i ennill gwobrau Nobel Ffiseg (1967 a 1965).

Yn 1965, hi oedd y ferch gyntaf i gael caniatâd i ddefnyddio telesgop enwog Mount Palomar (am gyfnodau byr yn unig am nad oedd yno ddarpariaeth toiledau i ferched). Yn ddiweddarach, wrth fesur patrymau annisgwyl cyflymder troelli galaethau, cyflwynodd y dystiolaeth gadarn gyntaf am fodolaeth mater tywyll. Bellach credir mai dyma yw 26.8% o’r bydysawd – o’i gymharu â dim ond 5% o’r mater sy’n gyfarwydd i ni. – am ei fod yn ferch medd rhai. Anwybyddwyd ei gwaith ar gyfer Gwobr Nobel;  a hynny, medd rhai, am ei bod yn ferch.

Bu farw Ddydd Nadolig 2016, yn 88 oed ar ôl bywyd o wyddoniaeth a hyrwyddo merched yn y maes. Ei henw oedd Vera Cooper Rubin. Ar 23 Mehefin eleni rhyddhawyd i’r cyhoedd luniau cyntaf telesgop arsyllfa enfawr newydd ar ben mynydd Cerro Pachon yn Chile. Enw’r Arsyllfa yw’r Vera C. Rubin – un o ryfeddodau gwyddonol ein hoes.  Mae i’r telesgop nifer o ddrychau, y mwyaf yn 8.5 m ar ei draws (5.1 m oedd Palomar). Ynddo mae’r camera digidol a’r lens mwyaf yn y byd – yn pwyso 350 tunnell. Un o’i briodoleddau yw bod modd ei symud yn sydyn iawn. Trwy wneud hyn bydd yn gallu delweddu holl ofod hemisffer y de mewn manylder bob tridiau – drosodd a throsodd am o leiaf ddeng mlynedd. Disgrifir hyn fel ffilm timelapse y Cosmos.  Cyn hyn cymerai wythnosau neu fisoedd i wneud un llun o’r hemisffer. Cymer tua 30 eiliad ar gyfer pob delwedd 32 gigapixel (maint un ffilm 4K). O fewn 10 eiliad gellir anfon hwn i sefydliadau ledled y byd i’w ddadansoddi. Yn wahanol i delesgop James Webb sy’n manylu ar wrthrychau unigol pell ac agos,  bydd Vera C. Rubin yn astudio cyfanwaith y Cosmos. (Canfod y goedwig yn hytrach na’r coed.) Gorchwyl hollol chwyldroadol. Bydd hefyd yn werthfawr trwy ein rhybuddio rhag gwrthrychau sy’n bygwth taro’r ddaear. Heddiw cedwir golwg ar tua 30,000 ohonynt. Bydd Rubin yn cynyddu hyn i 100,000. Bydd yn canfod gwrthrychau prin cyflym eraill, yn debyg i’r asteroid ‘Oumuamua (2017) a’r comedau Borisov (2019) a 3I/ATLAS (2025), sy’n gwibio trwy gysawd yr haul o bell y tu hwnt iddo, mewn digon o bryd i gael cyfle i gyfrifo o ble y maent yn tarddu yn y Galaeth.  Un prosiect fydd cadarnhau presenoldeb, neu absenoldeb, Planed Naw pump i ddeg gwaith maint y ddaear, sydd yn ôl rhai’n llercian yng Ngwregys Kuiper 30-50 gwaith pellter yr Haul oddi wrthym. Yn hollol briodol, o bosib bydd yn ein galluogi i ddarganfod beth yn union yw natur y Mater Tywyll a ganfuwyd gan Vera Rubin ei hun.

Roedd wyneb Vera yn gyfarwydd o fewn cylchoedd Seryddiaeth, os nad i’r lleygwr cyffredin. Ond wyneb newydd sbon a ymddangosodd wedi cyhoeddiad gan Qiaomei Fu, o Athrofa Paeleoanthropoleg Beijing, a’i chydweithwyr yn Science ym mis Mehefin.  Neu o leiaf wyneb nas gwelwyd ers rhyw 30,000 o flynyddoedd.  Yn 2018 derbyniodd Prifysgol Hebei, yn Tsieina, benglog a ddarganfuwyd flynyddoedd ynghynt yn Harbin yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Roedd y penglog yn anghyffredin ac yn 2021 cofrestrwyd enw rhywogaeth newydd Homo longi (Dyn y ddraig) ar ei gyfer. Mae’n o leiaf 146,000 o flynyddoedd oed.

Fel y disgrifiwyd yn y golofn hon ar sawl achlysur, ers ei ganfyddiad yn 2010 bu cynnwrf mawr ym myd paeleontolegwyr Asia ynglŷn â phoblogaeth o bobl gynnar a enwir y Denisofaid, ar ôl enw’r ogof lle darganfuwyd yn gyntaf eu hesgyrn.  Yn wahanol i’r arfer, nid oddi wrth ffurf yr esgyrn yr adnabuwyd hwy. Ychydig iawn o esgyrn oedd – a dim penglog. Canfuwyd eu bod yn wahanol i Homo sapiens drwy ddadansoddi’r DNA mewn asgwrn bys bach merch a fu farw’n 13 mlwydd oed. Hyd eleni ni lwyddwyd â’r technegau moleciwlar i gadarnhau mai Denisof oedd y nifer gynyddol o ffosiliau mwy cyfan a amheuwyd o fod felly. Yna aeth Fu ati, yn gyntaf i ddatgelu olion proteinau o benglog Harbin ac yna, fymryn bach o DNA mitochondriaidd o gen (plaque) y dannedd, a oedd yn profi mai Denisofad ydoedd. Erys y ddadl ynglŷn ag union berthynas y Denisofaid, y Neanderthal a ni – yn enwedig oherwydd y ffaith bod y DNA yn profi ein bod wedi rhyng-genhedlu. (Ai un rhywogaeth neu dri ?) Mae poblogaeth de-ddwyrain Asia yn cario hyd at 5% o DNA Denisovaidd. Ceir peth o’r hanes yng nghyfres ddiddorol Aalaa Al-Shamahi, Human, a ddarlledwyd ar BBC2 yn gynharach eleni.

Un peth a gadarnheir gan y canlyniad yw ei bod yn ymddangos bod y Denisofaid yn fawr o gorff – yn pwyso tua 100 kilogram (16 stôn) heb gynnwys unrhyw fraster. Yn fwy na’r Neanderthal o Ewrop, ac yn llawer mwy na Homo sapiens.  Ac hefyd, o’r diwedd mae modd ail-greu wyneb o leiaf un ohonynt.

Fel y dysgwyd o raglen ryfeddol y BBC, Hunt for the Oldest DNA, am waith Eske Willerslev a ddarlledwyd tua diwedd 2024, anodd iawn yw darllen DNA mewn samplau dros ychydig gannoedd o filoedd o flynyddoedd oed, hyd yn oed o rew’r Arctig. Ond, fel y gwnaeth Qiaomei Fu a’i thîm, mae modd dysgu llawer oddi wrth broteinau (sy’n cadw cysgod o wybodaeth y DNA diflanedig) mewn ffosiliau. Tan eleni 3.8 miliwn oed oedd y protein ffosil hynaf. Ond ym mis Gorffennaf, yn Nature, cyhoeddodd Daniel Green, o Harvard, a nifer o wyddonwyr o Kenya ddisgrifiad o broteinau dannedd ffosil 18 miliwn mlwydd oed o Ddyffryn Hollt y wlad honno. Cyndeidiau eliffantod a rhinoseros oedd y tarddiad. Fe’i gwarchodwyd, mae’n debyg,  gan haenau o ludw folcanig.

Efallai nad yw’n werth dal anadl i ddisgwyl darganfyddiadau gwyrthiol, ond amhosibl peidio â sylwi bod Dyffryn Hollt yr Affrig yn lle ffrwythlon iawn am olion esgyrn ein cyndadau ni dros filiynau o flynyddoedd. Er enghraifft yr awstralopithecin Lucy a rhai o’r olion cynharaf Homo sapiens.

Ond gyda rhai o’n cyd-Gymry am rwystro crwydro’r cyfandiroedd, diddorol oedd gweld defnydd o dechnoleg DNA mwy diweddar ar olion sgerbydau o ddau fedd Eingl Sacsonaidd o Swydd Caint a Swydd Dorset o’r 7fed ganrif. Yn Antiquity ym mis Awst, dadlennodd Duncan Sayer o Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn a’i gydweithwyr, bod teidiau’r ddau (a fagwyd yn yr ardal lle y claddwyd hwynt) yn hanu o ardal yr Yoruba a Mende yng Ngorllewin yr Affrig. Nid peth newydd, felly, yw cyrraedd Ynys Prydain ar longau bach.


Pynciau: Vera C. Rubin, Wyneb Denisofa, Hen Brotein Affrica, Mewnfudwyr


Cyfeiriadau

Vera C. Rubin: Vera C. Rubin Observatory (2025) Ever-changing Universe Revealed in First Imagery From NSF–DOE Vera C. Rubin Observatory. Newyddion. Mehefin 23

Wyneb Denisofa: Qiaomei Fu, Fan Bai, Huiyun Rao, Shaokun Chen, Yannan Ji, Aoran Liu, E. Andrew Bennett, Feng Liu a Qiang Ji (2025) The proteome of the late Middle Pleistocene Harbin individual. Science 389, (6761) 704-707
Qiaomei Fu, Peng Cao, Qingyan Dai, E. Andrew Bennett, Xiaotian Feng, Melinda A. Yang, Wanjing Ping, Svante Pääbo a Qiang J (2025) Denisovan mitochondrial DNA from dental calculus of the >146,000-year-old Harbin cranium. Cell 188, (15) 3919-3926

Hen Brotein Affrica: Daniel R. Green, Kevin T. Uno, Ellen R. Miller, Craig S. Feibel, Eipa Emmanuel Aoron, Catherine C. Beck, Aryeh Grossman, Francis M. Kirera, Martin M. Kirinya, Louise N. Leakey, Cynthia Liutkus-Pierce, Fredrick K. Manthi, Emmanuel K. Ndiema, Isaiah O. Nengo, Cyprian Nyete, John Rowan, Gabrielle A. Russo, William J. Sanders, Tara M. Smiley, Patricia Princehouse, Natasha S. Vitek a Timothy P. Cleland (2025) Eighteen million years of diverse enamel proteomes from the East African Rift.
Nature 643, 712–718 

Mewnfudwyr: Duncan Sayer, Joscha Gretzinger, John Hines, Michael McCormick, Keziah Warburton, Erin Sebo, Katharina Dulias, Maria Pala, Martin Richards, Ceiridwen Jane Edwards a Stephan Schiffels (2025) West African ancestry in seventh-century England: two individuals from Kent and Dorset. Antiquity 99, (407) 1341-1355


<olaf nesaf>