Eleni bu’r Genedlaethol yn siop ffenest a melin drafod wych i bob math o wyddoniaeth a thechnoleg sy’n berthnasol i’r Gymru Gymraeg. Roeddwn wedi hen golli fy ngwynt a’m llais cyn diwedd yr wythnos !
Efallai mai’r uchafbwynt i mi oedd Dewi Bryn Jones yn ennill y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Ers 2002 bu Dewi yn rhan allweddol o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Bellach Dewi sy’n arwain tîm sy’n rhan allweddol o sicrhau bod y Gymraeg yn gartrefol a hylaw ym myd y “scrîns”. Mae’n debyg nad wyneb, nac enw, cyfarwydd i’r genedl yw un Dewi ond bob dydd mae nifer cynyddol ohonom yn ddibynnol ar yr hyn y mae ef a’i dîm yn ei wneud. Er enghraifft, Dewi a ailysgrifennodd gôd cywirwr sillafu a gramadeg Cysill ar gyfer y cyfrifiaduron a rhwydweithiau cyfredol ac arwain datblygiad Cysgliad. Bu’n rhan o ddatblygiad ap y To Bach. Ond yn ogystal â’r arfau traddodiadol hyn ynghyd â basau data digidol termau digidol, Dewi sydd ar flaen y gad wrth ddatblygu technoleg lleferydd Cymraeg, megis Macsen, y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg. Ochr yn ochr â hyn, trwy’r ap Lleisiwr, bu’n datblygu lleisiau synthetig Cymraeg ar gyfer y GIG i gynorthwyo pobl sydd wedi colli’r modd i siarad. Megis dechrau mae dylanwad y datblygiadau hyn, sy’n allweddol i barhad y Gymraeg.
Cafwyd enghraifft o hyn mewn sesiwn yr un diwrnod ag urddo Dewi. Mirain Iwerydd, y gyflwynwraig ac wyneb cyfarwydd yn y sîn bop yn canmol argaeledd Cysill wrth iddi gadeirio trafodaeth am gerddoriaeth Gymraeg a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn uchafbwynt arall, fe’m swynwyd gan y ddwy gyflwynwraig Ffion Medi a Sioned Morgan o sefydliad M-SParc yn y Gaerwen. Hysbysebwyd eu sioe lwyfan gynhyrfus Tonnau fel un i bawb o 1 i 100 oed, a gwir y gair. Wn i ddim am rhai un oed, ond roedd y plantos a phawb ar eu traed am ymuno yn yr hwyl o ddysgu beth oedd tonnau (bu slinky hir yn hynod ddefnyddiol) ac ymhle yr ydym yn eu profi – o’r perfedd a’r galon i’r clustiau. Ar un pwynt casglwyd rhes hir o wirfoddolwyr o 86 i 6 oed ar y llwyfan. Wrth wrando ar sain a oedd yn codi ei draw dros amser croesodd pawb eu breichiau wrth iddynt fethu a chlywed y sŵn. Gwych oedd gweld y don o ymateb ar hyd rhes y gwirfoddolwyr – ac ymateb y gynulleidfa. Arbrawf cyhoeddus yn gweithio ! Peth anodd a phrin! Llongyfarchiadau i Pryderi ap Rhisiart, Nia Siân Jones a gweddill criw M-SParc am eu gwaith drwy’r wythnos.
Pryderi oedd cadeirydd sesiwn ffres ac eang yn trafod Arloeswyr Byd Amaeth yng Nghymru. Roedd ganddo banel o bedwar, ond fe’m trawyd yn arbennig gan y drafodaeth rhwng Geraint Hughes (Lafan) a Rhodri Owen (Coleg Glynllifon) ynglŷn â rôl amaethwyr, gwyddonwyr a thechnolegwyr. Synhwyrais ychydig wahaniaeth barn, ond cytundeb am bwysigrwydd addysg ac arloesi.
Ehangach fyth oedd cynfas yr Athro Gareth Wyn Jones yn ei ddarlith dydd Iau ar gyfer Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn 2019 cyhoeddwyd ei lyfr Energy the Great Driver yn olrhain camau allweddol yn hanes y ddaear, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd presennol, lle bu cynnydd argaeledd ynni yn ganolog. Y tro hwn canolbwyntio ar ddylanwadau argaeledd ynni thermodynamegol ar ddefnyddio bŵer gwleidyddol gan unigolion megis Donald Trump oedd ganddo, ac oblygiadau negyddol hyn i ddyfodol gwareiddiad.
Cofio cawr academaidd arall ddilynodd gyflwyniad Gareth ddydd Iau, sef coffâd o fywyd a chyfraniad yr Athro Glyn O Phillips a fu farw yn 2020. Yn frodor balch o Rosllannerchrugog gerllaw’r Maes, gellir dadlau mai Glyn O. oedd y prif ddylanwad yn natblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg trwy’r Gymraeg ers ei ail-ddeffro (fel sawl peth arall yn ein gwlad) yn negawd cynhyrfus yr 1960au. Diolch i Elin Rhys, Telesgôp, am gadeirio trafodaeth – ac am ailddangos y ffilm a gynhyrchodd am y cemegydd aml-ddawnus ar gyfer yr Eisteddfod AmGen.
Cafodd Elin Rhys sylw dyledus, hefyd, yn Sinemaes ddydd Mawrth wrth iddi dangos a thrafod detholiad o’i rhaglen Gronyn Gobaith: Cymry CERN a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C. Trwy ganolbwyntio ar sawl Cymro balch sydd wedi gweithio ar yr hyn a ddisgrifir fel Arbrawf Fwya’r Byd mae Elin wedi dod â hud a lledrith y ffiseg ddiweddaraf i’n haelwydydd Cymreig a Chymraeg.
Mae ffilmiau Elin yn cyfleu cyfanwaith rhyfeddod enfawr peiriant CERN yn Genefa. Ddydd Gwener cafwyd cyflwyniad byr, ond hynod, am ddarn bach o beiriant enfawr arall ym myd ffiseg. Darn bach o strwythur a fydd erbyn 2032 yn un arall o beiriannau gwyddonol mwyaf y byd. Hwn yw’r ELT (Telesgop Mawr Eithafol) a adeiladir ar ben mynydd Cerro Armazones yn anialwch yr Atacama, Chile. Bu Jack Morris a’r tîm yn OpTIC Llanelwy wrthi am ddwy flynedd yn llathru i berffeithrwydd ddarn bach o’r drych. I osgoi unrhyw ddifrod i’r drych bydd yn rhaid ei symud i Dde’r Amerig yn ofalus ar long yn hytrach na mentro taith awyren sigledig.
Y peirannau diweddaraf, hefyd, oedd gan Dewi Owen fore Gwener yn Lloeren y Pentref Gwyddoniaeth. Ond dônt o gyd-destun pur wahanol i archwilio’r gofod a’i ronynnau. Cafwyd cyfres o gyflwyniadau gan dimau troseddau economaidd a seiber Heddlu Gogledd Cymru, gan ddechrau gyda “Syrjeri” lle dangoswyd pob math o offer twyllo a gwarchod rhag twyll. Un ohonynt, sy’n drysu a ffugio signalau GPS, dim ond trwy lun ar y sgrin – gan nad yw’n gyfreithlon iddo fod mewn man cyhoeddus. Erbyn gwrando ar Dewi a’r Ditectif Arolygydd Iolo Edwards, ‘roeddwn am ruthro gartref i newid fy holl gyfrineiriau. A pheidio byth ateb y ffôn eto rhag ofn fy sgamio ! Cyflwyniadau hynod o ddadlennol i bawb a oedd yn bresennol.
Yn ogystal â’r heddlu fore Gwener, allan yn y lloc o flaen y pebyll darlithio roedd nifer o’r criwiau’n difyrru’r bobl ifanc drwy’r wythnos. Dei Huws â’i dîm o Ysgol Gwyddor Môr Bangor a’i gramenogion a sêr môr. Goroeswyr Ysgol Cemeg Bangor â’u hadweithiau lliwgar. Ffisegwyr a thechnegwyr roboteg Wrecsam a’r cylch. Diolch i’r drefn ‘roedd y tywydd yn arbennig o garedig iddynt. Gyda jest digon o wynt i Gareth Cemlyn, un o hoelion wyth y Pentref Gwyddoniaeth, â’i gyd-beirianwyr unwaith eto eleni gyflyru diddordeb mewn peirianneg ymhlith y to iau.
Bydd yn rhaid cyfeirio rywbryd eto at nifer o weithgareddau eraill y Maes – o Gwis Egni bywiog Gareth yr Orangutan trwy hanes gwyddonwyr Cymru a nifer o gyflwyniadau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, egni adnewyddol, newid hinsawdd ac ailgylchu plastig i’r pleser a gefais wrth weld yr Athro Simon Ward, un o gewri’r Gymraeg mewn gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei dderbyn i’r Orsedd fore Gwener. Hefyd cyfeillion, a merch i hen gyfaill, yn ennill ar y Cystadlaethau Gwyddoniaeth.
Ond efallai mai’r sgwrs fwyaf gwyddonol a gefais drwy’r wythnos oedd un ar hap gyda’r crochenydd Lowri Davies, Caerdydd, am ddefnydd cobalt a metelau eraill yn y byd creadigol. Ffiseg, Cemeg a Chaethwasiaeth. Priodas go iawn rhwng gwyddoniaeth ac ystyriaethau dyrchafol. Lle felly yw’r Eisteddfod !
Pynciau:
Cyfeiriadau
<olaf nesaf>
