Barn 188 (Hâf 2025): Gwenyn a Pheilonau, Llif AMOC, Stormydd Trofannol, Cipio Carbon


Yr wythnos o’r blaen, a’r haul yn gwenu’n braf, cefais fy nghynhyrfu a’m drysu wrth ddarllen erthygl am fy annwyl wenyn ar wefan iScience. Y wyddoniaeth oedd yn gynhyrfus – ond rwy’n  dal yn ddryslyd am ei goblygiadau.  Gan mai bioffiseg yw’r wyddoniaeth – a minnau yn bioffisegydd – gobeithio y bydd fy nryswch yn galondid i’r rhai ohonoch nad ydych yn arbenigwyr wrth ichi geisio gwneud synnwyr o’r lli gwybodaeth sydd ar gael am newid hinsawdd a materion cyffelyb.

Astudiodd Liam O’Reilly a’i dîm o Brifysgol Bryste ymddygiad gwenyn wrth iddynt ymweld â blodau Napeta grandiflora a oedd wedi’u gosod mewn meysydd trydanol. Meysydd trydanol tebyg i’r rhai sydd i’w profi o fewn 100 metr i beilonau’r Grid Cenedlaethol (275 kV). Gan fod fy ngwenyn i’n byw o fewn 100m i’n peilonau 400 kV lleol, roedd hyn o ddiddordeb personol imi. Meysydd eiledol (AC) sydd i’r peilonau.

Gyda’r maes eiledol, roedd yr effaith yn ddramatig iawn yn ystod 10 munud gyntaf yr arbrawf. Disgynnodd ymweliadau’r gwenyn o’r 58.8 % control (sef y canlyniad heb faes trydanol)  i 5.9%. Dros ddwy awr yr arbrawf cynyddodd yr ymweliadau – i ryw 68% o’r control ar gyfartaledd. Cwymp o ryw draean.

Cynnyrch technoleg dyn yw meysydd eiledol – nid ydynt yn bodoli mewn natur ar y ddaear (nac o gwbl yma cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg). Felly gellir ei ystyried yn estron i wenyn. Dadleua O’Reilly y gall hyn fod o bwys i beillio yn y 70 mil cilomedr sgwâr a effeithir gan beilonau yng ngwledydd Prydain. Ei esboniad o’r canlyniad oedd mai ymddygiad naturiol y wenynen yn amau amgylchiad newydd ydoedd.  Fy syndod innau oedd gweld bod y wenynen yn dysgu i ddygymod gymaint o fewn 10 munud. Roeddwn, hefyd, am ofyn i’r ymchwilwyr a yw amaethwyr yn gweld streipiau o gynhaeaf gwan oddeutu’r peilonau ar draws eu caeau (rêp er enghraifft) ?

Rwy’n meddwl mai aros o dan y peilonau y bydd fy ngwenyn i am y tro.

Gyda Donald Trump yn arbrofi gydag amgylchedd yr Unol Daleithiau, diddorol oedd darllen dau adroddiad am ddyfodol dinasoedd ei wlad. Yn Nature Cities mis Mai, mae Leonard Ohenhen o Brifysgol Columbia a’i gydweithwyr wedi mesur y cyflymder sylweddol mae’r dinasoedd yn suddo (subsidence). Hyn yn bennaf oherwydd tynnu dŵr ar gyfer diwydiant ac yfed. Tra yn Science Advances yr un mis ceir adroddiad gan Liping Zhang o Labordy Llywodraeth yn New Jersey a’i gydweithwyr am ddylanwad dyn ar lefel Môr Iwerydd ar ddinasoedd arfordir dwyrain yr UD.

Er mai tynnu gormod o ddŵr ar gyfaer dibenion y trigolion yw’r prif achos, mae nifer o ffactorau naturiol, hefyd, yn cynllwynio yn erbyn y dinasoedd.  Ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, wrth i’r haenau trwchus a thrwm o rew doddi a llifo i’r môr, dechreuodd y tir godi. Mae’n dal i wneud hynny. Ond nid yw’r effaith yr un ym mhobman. Wrth ymffurfio, roedd blaenau’r rhewlifoedd wedi gwasgu’r tir i fyny – megis bysedd yn gwasgu draenen o gnawd.  Suddo, bellach yw hanes yr ardaloedd hyn – gan gynnwys Efrog Newydd, Washington a Chicago. Suddo tectonig, wrth i blatiau wyneb y ddaear symud, sy’n gyfrifol am suddo Seattle, Portland a San Fransisco. Cyfuniad o ffactorau sy’n gwobrwyo Fort Worth a Dallan yn Texas gyda’r suddo cyflymaf – 4 mm y flwyddyn.

Efrog Newydd a Washington sydd yn llygad yr effaith a ddisgrifir gan Zhang a’i gydweithwyr. Maent wedi defnyddio’r llu o fesuriadau ers 1966 o lefel wyneb gogledd orllewin yr Iwerydd. Mae’r holl arfordir o Florida i Newfoundland o dan ddylanwad cyd chwarae cymhleth o ffactorau lleol ac eang. Mae un o’r pwysicaf, sy’n gyfrifol am 20-50% o’r llifogydd ers 2005,  yn effeithio’r Iwerydd yn gyfan. Trwy ddefnyddio modelau cyfrifiadur manwl o un o batrymau cylchol llif-môr mwyaf dylanwadol y byd – y Cylch Troi-Drosodd Meridian yr Iwerydd (AMOC), brawd mawr Llif y Gwlff (Gulf Stream) – mae modd, bellach, ddarogan patrymau llifogydd yr arfordir hwn hyd at ddeng mlynedd i’r dyfodol. Bydd y wybodaeth yn holl bwysig i gynllunwyr a gwleidyddion nifer o ddinasoedd pwysicaf yr Unol Daleithiau. Y newyddion drwg iddynt yw bod y data a gasglwyd yn dangos yn ddiymwad bod llif yr AMOC yn gwanhau yn gyffredinol oherwydd newidiadau hinsawdd. Gwanhau sy’n cynyddu’r tebygolrwydd llifogydd.

Grym y cyfrifiadur oedd arwr yr hanes yna. Yn aml, clywir y bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gymorth ychwanegol i’n gwarchod. Ond yn y cylchgrawn pwysig PNAS ar ddiwedd Mai, disgrifiodd Qiang Sun o Brifysgol Chicago, a’i grŵp, diffyg llwyr AI i ddarogan y stormydd trofannol gwaethaf diweddar (categori 5). Achlysuron lle mae’r angen am wybodaeth ar ei fwyaf. Y broblem yw bod angen hyfforddiant priodol ar yr AI. Rhywbeth sy’n tanlinellu nad yw AI yn “ddeallus” o gwbl. Gan fod y stormydd yma’n brin, nid oes digon i’w cynnwys yn y cronfeydd data hyfforddi.

Dechreuais y tro hwn gyda’m dryswch wrth ddehongli un adroddiad gwyddonol. Nid wyf yn beiriannydd, ond mae un o’r atebion a gynigir i broblem Newid Hinsawdd yn ddryswch parhaol imi. Dyma dechnoleg Cipio Carbon yn uniongyrchol o’r awyr. Sonnir amdani’n rheolaidd gan wleidyddion gwledydd Prydain a thu hwnt. Y stori yw bod modd amsugno’r Deuocsid Carbon, sy’n bennaf gyfrifol am Gynhesu Byd Eang, a’i gosod mewn storfa ddiogel o’r neilltu. Daw fy nryswch trwy ystyried Deddfau Thermodynameg sylfaenol. I wyrdroi unrhyw broses mae’n rhaid defnyddio mwy o egni nag a gynhyrchir gan y broses honno. Rhaid datrys hyn i ddefnyddio’r egwyddor. Dros y blynyddoedd cynigir nifer o syniadau ffisegol, cemegol a biolegol – a buddsoddwyd llawer o arian ynddynt gan lywodraethau’r byd.

Beth bynnag am ei rôl hir dymor, cyhoeddwyd rhyw fath o garreg filltir mewn cyfarfod grŵp  Carbon Unbound o fusnesau yn Efrog Newydd ym mis Mai. Yn ôl Alexander Rink o gwmni CDR.fyi, bydd miliwn o dunelli o ddeuocsid carbon wedi’u tynnu yn uniongyrchol o’r awyr gan brosesau Cipio Carbon erbyn diwedd 2025. Yn ôl gwefan CDR.fyi, ar hyn o bryd mae hyn yn cymharu â’r cynnydd o 40 biliwn tunnell y flwyddyn ! Sylw un sylwebydd, David Ho o Brifysgol Hawaii, oedd bod y miliwn tunnell yn cyfateb i wrthdroi cynnydd o 13 munud mewn blwyddyn. Mewn adroddiad yn y New Scientist, gan James Dineen, honnwyd nad rhyw ddiwydiant trwm a dalodd am y rhan fwyaf o’r dechnoleg hon eleni – ond cwmni Microsoft, a fu’n gyfrifol am fwy na 90% – trwy daliadau “offset”.

Mwynhewch yr haf. Mae’n debyg y bydd yn un cynnes!


Pynciau: Gwenyn a Pheilonau, Llif AMOC, Stormydd Trofannol, Cipio Carbon


Gwenyn a Pheilonau: Victoria J. Mallinson, Fraser A. Woodburn a Liam J. O’Reilly (2025) Weak anthropogenic electric fields affect honeybee foraging. iScience 28, (6) 112550

Llif AMOC: Leonard O. Ohenhen, Guang Zhai, Jonathan Lucy, Susanna Werth, Grace Carlson, Mohammad Khorrami, Florence Onyike, Nitheshnirmal Sadhasivam, Ashutosh Tiwari, Khosro Ghobadi-Far, Sonam F. Sherpa, Jui-Chi Lee, Sonia Zehsaz a Manoochehr Shirzaei (2025) Land subsidence risk to infrastructure in US metropolises. Nature Cities 2, 543–554

Liping Zhang, Thomas L. Delworth, Vimal Koul , Andrew Ross, Charles Stock, Xiaosong Yang, Fanrong Zeng, Andrew Wittenberg, Jian Zhao, Qinxue Gu a Shouwei Li (2025) Skillful multiyear prediction of flood frequency along the US Northeast Coast using a high-resolution modeling system. Science Advances 11, (20) DOI: 10.1126/sciadv.ads4419

Stormydd Trofannol: Y. Qiang Sun, Pedram Hassanzadeh, Mohsen Zand, Ashesh Chattopadhyay, Jonathan Weare a Dorian S. Abbot (2025) Can AI weather models predict out-of-distribution gray swan tropical cyclones? PNAS 122, (21) e2420914122

Cipio Carbon


<olaf nesaf>