Barn 187 (Mehefin 2025): Gwella Archollion, Anafiadau Llosgi, Adlam Aral


Mae’r wyrion bach yn Llanuwchllyn wedi cyrraedd yr oedran o anafu pengliniau a rhannau cornelog eraill eu cyrff yn rheolaidd. Pwy fagai blant ?!  Ond mewn gwirionedd, braf gwybod eu bod yn mentro a chael ambell dro trwsgl yn yr awyr agored.  Ond, ar ôl darllen papur yn Proc Roy Soc B yr wythnos o’r blaen ‘rwy’n bwriadu cymryd fymryn mwy o sylw.

Rydym yn ymweld yn rheolaidd bob wythnos, felly nid anodd fydd nodi pa mor gyflym mae gwahanol anafiadau yn gwella. Graff amdani – un uned amser yn un wythnos. Ond beth yn y papur gwyddonol barodd yr ysgogiad ? Yn y gwaith roedd Akiko Matsumoto-Oda o Brifysgol Ryukyus yn Siapan a’i chydweithwyr wedi cymharu cyflymder gwella anafiadau yng nghnawd pobl â’n perthynasai agosaf – y primadau, a hefyd â llygod.  Eu darganfyddiad oedd ein bod ni dair gwaith yn arafach na’r mwncïod a’r llygod yn gwella ar ôl anaf.

Mae ymchwil milfeddygol i anifeiliaid dof yn dangos bod cryn amrywiaeth yn y broses ymhlith yr anifeiliaid hyn. Briwiau llygod a merlod, er enghraifft, yn gwella wrth iddynt grebachu. Tra bo briwiau moch a cheffylau yn gwella’n bennaf wrth i groen newydd dyfu heb i arwynebedd y briw grebachu. Mae cŵn a chathod, hefyd, yn wahanol. Briwiau cathod yn crebachu – a rhai cŵn yn gwella yn gynt drwy ffurfio croen newydd. Er, mae’n debyg, bod milfeddygon yn tueddu eu trin yr un fath.

Ychydig wybodaeth sydd am gyflymder gwella anafiadau anifeiliaid gwyllt, a’r cam cyntaf oedd sicrhau bod canlyniadau triniaethau labordy yn cyfateb i’r hyn a welir yn y gwyllt.  A hyn oll o fewn terfynau rheolau etheg llym. Yn y gwaith defnyddiwyd mwncïod melfed a Sykes’ ynghyd â’r babŵn olewydd a tsimpansïaid. Ar gyfer y mesuriadau ar bobl, archwiliwyd 24 claf yn ysbyty’r brifysgol a gafodd driniaeth tynnu tiwmorau o’r croen.

Ar raddfa 0.25 mm y diwrnod oedd cyflymder gwella yn y bobl.  Yn ddiddorol, ni welwyd gwahaniaeth yn ôl oedran y cleifion, a oedd yn amrywio o 25 i 99 oed. Rhyfeddol o gyson oedd y raddfa gwella ymysg y mwncïod a’r llygod – tua 0.61 mm y diwrnod.

Bydd y wybodaeth hon o gymorth i’r meddyg, ond wrth geisio esbonio arwyddocâd esblygiadol y canlyniad mae’r tîm wedi archwilio dylanwad blew yn y croen. Ar y cyfan mae mwy o fôn gelloedd (stem cells) mewn croen blewog y llygod a’r rhan fwyaf o’r mwncïod, a allai arwain at y canlyniad. Ond, er nad yw’n amlwg, yr un nifer o flew unigol sydd gan Tsimpansî â pherson. Y gwahaniaeth yw eu trwch. Mae’n debyg bod mwy o fôn gelloedd iddynt na’n ffoleciwlau tila ni. Ond mae gan bobl hefyd lawer mwy o chwarennau chwys na’r Tsimpansî – ac mae’n croen yn sylweddol fwy trwchus. Tŷb yr ymchwilwyr mai cyfuniad o’r ffactorau hyn sy’n gyfrifol am arafwch ein gwella.

Er nad ydynt yn cynnig tystiolaeth, mae Matsumoto-Oda a’i thîm yn mentro cynnig mai’r gofal cymdeithasol i’r hen ac anafus sy’n rhan o esblygiad y genws Homo a ganiataodd esblygiad y prosesau hyn yn eu tro.

Trwy gyd-ddigwyddiad, mewn papur a gyflwynwyd i gyfarfod blynyddol yr American Burn Association a gynhaliwyd eleni yn Phoenix (lle arall ?) Arizona, mae Joshua Cuddihy o Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain a’i gydweithwyr yn cyflwyno tystiolaeth enetig uniongyrchol i’r ddawn arbennig sydd gan Homo sapiens i oroesi anafiadau llosgi cymedrol.

Dechreuodd ein cyndadau homininaidd ddefnyddio tân o leiaf filiwn o flynyddoedd yn ôl. Yn 2016 canfuwyd un effaith hyn ar ein hesblygiad. Esblygodd Homo sapiens enyn i’n cynorthwyo i wrthsefyll effeithiau gwenwynig mwg. Mantais nad oedd gan ein cefndryd y Neanderthal.

Yn awr, mae Cuddihy a’i dîm wedi darganfod tri genyn sy’n ymwneud â gwella llosgiadau sy’n llawer mwy gweithredol ynom ni nag yn ein perthnasau megis y Tsimpansî, nad yw’n defnyddio tân. Wrth edrych ar 94 genyn sy’n weithredol wrth wella llosgiadau mewn llygod a phobl, gwelwyd bod deg ohonynt yn fwy gweithredol ynom ni nag yn y Tsimpansî. A thri, yn ymwneud â phoen, ffurfio craith, llid imiwnolegol a chau’r archoll, yn arbennig felly.

Yn ôl yr ymchwilwyr, byddai hyn wedi cyflymu cau ac ymladd haint llosgiadau bychain. Mantais yn wir i greaduriaid oedd yn byw mor agos i dân yn feunyddiol. Dadleuant bod yma enghraifft o ymddygiad yn gyrru esblygiad.

Ond ‘roedd pris i’w dalu. Mae’r union brosesau yma yn ei gwneud yn fwy anodd i oroesi llosgiadau mwy difrifol.  Mae’n debyg nad oedd hyn yn ffactor gan na fyddai wedi bod gobaith o gwbl goroesi’r rhain yn y cyfnod. Unwaith eto bydd y wybodaeth hon o ddefnydd wrth ddyfeisio triniaethau llosg newydd.

Effeithiau esblygiad dyn ar ymateb ei groen sy’n cysylltu’r hanesion yma. Ond effeithiau dynoliaeth ar natur dyfnderoedd croen y ddaear ei hun oedd testun papur Sylvain Barbot o Brifysgol De Califfornia ag eraill yn Nature Geoscience ym mis Ebrill.

Cyn yr 1960au, Môr Aral yng Nghanolbarth Asia oed un o groniadau mwyaf o ddŵr ar wyneb y ddaear. Roedd iddo arwynebedd o 70,000 cilomedr sgwâr; maint Gweriniaeth Iwerddon. Yna cychwynnwyd ar gyfres o gynlluniau enfawr dyfrhau’r ardal gan yr awdurdodau Sofietaidd. Ail gyfeiriwyd dŵr y Syr a’r Amu Darya i gynnal amaethyddiaeth yr hyn sydd bellach yn Kazakhstan, Uzbekistan a Turkmenistan. Dros nos diffoddwyd y ffynonellau oedd yn cynnal Môr Aral. Erbyn 2018 roedd wedi crebachu i 10% o’i faint gan golli tua 1000 cilomedr ciwb o ddŵr.

Mae lluniau’r llongau pysgota mawr rhydlyd yn gorwedd ar ganol diffeithwch llychlyd a fu unwaith yn borthladdoedd yn un o eiconau eco-fandaliaeth ein hoes.

Bellach mae Wang Teng o Brifysgol Peking a thîm o ddaearegwyr wedi mesur dylanwad y diflaniad hwn ar strwythur creigiau’r ddaear oddi tanodd. Defnyddiwyd mesuriadau lloeren i fesur uchder gwely sych yr Aral rhwng 2016 a 2020 a chanfuwyd codiad o 7 mm bob blwyddyn. Yna aethpwyd ati i fodelu beth oedd arwyddocâd hyn.

Nid yw adlam wyneb y ddaear ar ôl colli pwysau mawr o ddŵr yn anghyfarwydd i ddaearegwyr. Mae Cymru a rhannau o Orllewin Ewrop yn dal i godi ychydig bob blwyddyn ers colli pwysau’r capiau ac afonydd rhew Oes yr Ia mwy na 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth sydd rhaid ei hystyried wrth ddarogan effeithiau newid lefel y môr trwy newid hinsawdd.

Yn ôl Teng mae’r effeithiau yn ardal yr Aral  yn ymestyn cyn ised â 190 cilomedr o dan y wyneb – yng nghreigiau hylifol uchaf y fantell – sy’n sylfaen i gramen ein planed. Pan ddiflannodd pwysau’r dŵr, ymsythodd y gramen – gan ysgogi rhan uchaf y fantell (yr asthenosffêr) i lifo yn araf i lenwi’r gofod uwch ei ben. Dadleuant mai dyma ddylanwad dyfnaf dynoliaeth ar ein planed. A’r Anthroposen, bellach, yn ymestyn yr holl ffordd i’r fantell.


Pynciau: Gwella Archollion, Anafiadau Llosgi, Adlam Aral


Cyfeiriadau

Gwella Archollion: Akiko Matsumoto-Oda, Daisuke Utsumi, Kenzo Takahashi, Satoshi Hirata, Atunga Nyachieo, Daniel Chai, Ngalla Jillani a Michel Raymond (2025) Gwella Archollion: Inter-species differences in wound-healing rate: a comparative study involving primates and rodents. Proc Roy Soc B.  292, 20250233

Anafiadau Llosgi:  Joshua S. Cuddihy, Yuemin Li, Matteo Fumagalli, Marcela Vizcaychipi, Declan Collins, Dominic Friston, Dr Istvan Nagy (2025) Cyfarfod Flynyddol American Burn Association (Phoenix). Poster  (Adolygiad yn New Scientist)

Adlam Aral: Wenzhi Fan, Teng Wang, Sylvain Barbot, Dong Fang, Jiangjun Ran a Heng Luo (2025) Weak asthenosphere beneath the Eurasian interior inferred from Aral Sea desiccation. Nature Geoscience 18, 351–357


<olaf nesaf>