Barn 186 (Mai 2025): Y Wawr Gosmig, Ton Radcliffe, Cerrig Titan


O’m blaen wrth imi deipio mae gennyf lyfr o’m llencyndod. Cyhoeddwyd Atlas of the Universe (o’r Iseldireg gwreiddiol gan Bruno Ernst a Tjomme Edzard De Vries) yn 1961 am 42 swllt. Rwy’n cofio ei brynu fel “remainder” mewn siop lyfrau ar gornel Churchill Way, Caerdydd rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Wrth imi ei agor syrthiodd sgrap o bapur allan ohono. Llun a dynnais (pen ac inc) o’r blaned Iau a’r seren Regulus ar nos Fawrth y 5ed o Fawrth 1968. Gyda nodyn bod y ddau ond 0.8 gradd ar wahân. Cafodd y gyfrol ddylanwad parhaol arnaf – ac mae olion fy mysedd yn drwch ar y tudalennau.

Caf wefr o hyd wrth edrych ar y cynnwys gwyddoniadurol. Ond mae’r llu o luniau du a gwyn yn datgelu faint sydd wedi digwydd yn y 64 mlynedd ers eu cyhoeddi. Un o “gampweithiau mwyaf technoleg fodern” yw llun amrwd cefn y lleuad a dynnwyd gan Lunik 3 ar 26 Hydref 1959. Mae ynddo, hefyd, lun o Edwin Hubble, ei bib yn ei geg, yn syllu i lens y telesgop 48 modfedd Schmidt ym Mynydd Palomar – mangre sancteiddiolaf cryts y cyfnod. Mae ambell dudalen yn egluro pa faint gwell yw lluniau’r cyfnod o’u cymharu â lluniau Charles Messier o 1774. A dyna’r traw !

Bob wythnos, os nad bob dydd, cyhoeddir lluniau diweddaraf Telesgop Gofod James Webb (JWST) (mangre sancteiddiolaf cryts heddiw, hoffwn feddwl). A sylweddolaf wrth edrych ar y ffotograffau o’r 1950au eu bod yn debycach i luniau’r ddeunawfed ganrif nag ydynt i’r delweddau diweddaraf.

Cyhoeddwyd rhai o ganlyniadau diweddaraf o’r telesgop gofod yn Nature  ddiwedd mis Mawrth. Yn 1964, a’m Atlas wedi’i argraffu, canfuwyd tystiolaeth o oleuni cynharaf y bydysawd –  y Cefndir Microdon Cosmig. Prawf cryfaf disgrifiad cychwyn y bydysawd mewn Clec Fawr. Ond nid oes dim i’w weld a’r goleuni hwn sy’n dod o bob cyfeiriad yn ddiwahân – sef cefndir. Yn dyddio o tua 370,000 o flynyddoedd o’r cychwyn nid oedd sêr yn bodoli – dim ond nwyon oer.

Ni ffurfiwyd rhagor o oleuni nes crynhowyd a thaniwyd y sêr cyntaf tua chan miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach. I ddechrau byddai pob un wedi’i hamgylchu â nwy tywyll. Ond byddai eu hallyriadau uwch fioled yn ddigon egnïol i ddechrau ïoneiddio’r hydrogen a heliwm o’i hamgylch – gan eu troi’n dryloyw. Gwawriodd y cosmos.

Yn eu papur yn Nature, mae Joris Witstock o Brifysgol Copenhagen a’i gydweithwyr yn disgrifio galaeth (o’r enw hwylus  JADES-GS-z13-1-LA) a gofnodwyd gan  y JWST. Yn dyddio o 330 miliwn o flynyddoedd yn unig ar ôl y Glec Fawr, dyma un o’r galaethau hynaf y gwyddom amdano. Mae offer y JWST yn datgelu manylion sbectrwm uwch fioled y galaeth. A’r manylion hyn yn caniatáu canfod y broses lle mae’r sêr yn allyrru golau sy’n ïoneiddio’r cwmwl hydrogen sy’n gorchuddio’r galaeth a’i droi’n dryloyw – ac yn caniatáu inni ei weld dros 13 biliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach ! Y cipolwg cynharaf o godi llen y Wawr Gosmig.

Rhaid cael golwg clir i weld y galaethau a’r sêr ac mae digon o gymylau nwy a llwch i’w cuddio rhagom.  Ar hyn o bryd ‘rydym mewn rhan gymharol glir o’r gofod. Ond yn 2020 darganfuwyd Ton Radcliffe, cwmwl o’r fath yma tua 400 blwyddyn golau i ffwrdd yn rhan o’n galaeth ni. Dyma un o’r bylchau a welwn wrth edrych ar y Llwybr Llaethog ar noson glir (yn ymestyn o Deneb, yng nghytser yr Alarch, i’r heliwr Orion).

Roedd agosatrwydd y cwmwl yn annisgwyl. Ond yn awr, mewn papur yn Astronomy & Astrophysics fis Chwefror mae Efrem Marconi o Brifysgol Vienna a’i gydweithwyr wedi defnyddio data o Delesgop Gofod Gaia i ddangos i Gysawd yr Haul, gan gynnwys y Ddaear, basio drwy’r Don rhwng 11 a 18 miliwn o flynyddoedd yn ôl ar ein taith drwy’r gofod.  Os edrychwch i gyfeiriad gwregys Orion cewch syniad o’r lle’r oeddem ni yng nghanol yr Oes Mïosen pan gyrhaeddodd plât tectonig yr Affrig gyfandir Ewrasia – a gwahanu Môr y Canoldir o Gefnfor India.

Mae’r awduron yn myfyrio ar ddylanwad y digwyddiad ar hinsawdd y ddaear, trwy effeithio gwynt yr haul a hefyd y ddaear yn uniongyrchol.  Awgrymant y dylai bod modd canfod radio-isotopau nodweddiadol yn y creigiau o’r cyfnod.  Yn sicr, byddai wedi bod yn gyfnod diflas i unrhyw seryddwyr a oedd wedi ymweld (dros dro !) â’r ddaear.

Yn ôl i’r presennol, ddechrau Mawrth cyhoeddodd y Ganolfan Planedau Llai ddarganfyddiadau 128 lleuad newydd i’r blaned Sadwrn, gan ddod â’r cyfrif swyddogol, bellach, i 274. Rhwng 2 a 4 cilomedr o led yw’r cohort newydd ac unwaith eto clywir y cwestiwn beth yw’r ffin rhwng lleuad a thalp o graig yn amgylchynu planed.

Ond does dim amheuaeth am statws Titan, lleuad fwyaf Sadwrn, a’r ail fwyaf yng nghysawd yr haul.  Mae hyd yn oed fy Atlas yn dweud bod modd ei weld yn hawdd â thelesgop 2-fodfedd. Fe’i darganfuwyd gan Christiaan Huygens, o’r Hâg,  yn 1655 (yr un flwyddyn, yn Amsterdam, y gwerthodd Rembrandt ei holl luniau i geisio’n aflwyddiannus osgoi troi’n fethdalwr). Yn 2005 treuliodd y glaniwr robot Huygens tua 90 munud ar wyneb y lleuad i’w dadansoddi.

Yn sicr, celfyddyd fodern ddylanwadodd ar deitl papur John Marshall a Lori Fenton o Galiffornia, yn Planetary and Space Science ym mis Ebrill – “Rolling stones on Titan”. Ond nid rhaghysbyseb am daith nesaf y grŵp pedwar-ugeinmlwydd mohono.

Yn 2028 bwriedir anfon glaniwr arall i Titan – Gwas y Neidr (Dragonfly). Y gobaith yw rhyddhau’r drôn yma i hedfan dros wyneb y lleuad yng nghanol y 2030au. Ei nod fydd chwilio am adnoddau craidd bywyd. Er nid yw’n disgwyl darganfod bywyd ei hun yno.

Ond yn eu herthygl mae Marshall a Fenton yn rhybuddio am berygl anghyffredin – cerrig mawr symudol yn rowlio ar draws y twyni a welwyd o bell gan fam-loeren Huygens, Cassini.  Nid craig, ond cymysgedd o rew-dŵr a pholymer organaidd a elwir yn Thiolin, yw cyfansoddiad y “cerrig” yma. (Maent yn f’atgoffa o “gerrig” cyfoes yr Orsedd.) A hwythau draean dwysedd creigiau’r ddaear, ni fyddai’n anodd eu symud yn nisgyrchiant isel Titan (1/7 yr hyn ar wyneb ddaear) gan y gwyntoedd nitrogen a methan (eu dwysedd bedair gwaith dwysedd ein hawyr ni). Gwell osgoi glanio wrth ymyl carreg fawr, yw ateb Marshall a Fenton. Yn sicr, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld mireinio dawn drônau i osgoi pethau symudol yn awtomatig.

Braf deall i Bruno Ernst (un o chwe ffugenw Hans de Rijk o Rotterdam) a fu’n fynach am 26 mlynedd, cyd-awdur fy Atlas, fyw tan Tachwedd 2021.  Ni chollodd ei frwdfrydedd am wyddoniaeth nac am ei throsglwyddo. Ar ddydd Nadolig blwyddyn ei farw, yn 95 oed, lansiwyd y JWST.


Pynciau: Y Wawr Gosmig, Ton Radcliffe, Cerrig Titan


Cyfeiriadau

Y Wawr Gosmig: Joris Witstok, Peter Jakobsen, Roberto Maiolino, Jakob M. Helton, Benjamin D. Johnson, Brant E. Robertson, Sandro Tacchella, Alex J. Cameron, Renske Smit, Andrew J. Bunker, Aayush Saxena, Fengwu Sun, Stacey Alberts, Santiago Arribas, William M. Baker, Rachana Bhatawdekar, Kristan Boyett, Phillip A. Cargile, Stefano Carniani, Stéphane Charlot, Jacopo Chevallard, Mirko Curti, Emma Curtis-Lake, Francesco D’Eugenio, Daniel J. Eisenstein, Kevin N. Hainline, Gareth C. Jones, Nimisha Kumari, Michael V. Maseda, Pablo G. Pérez-González, Pierluigi Rinaldi, Jan Scholtz, Hannah Übler, Christina C. Williams, Christopher N. A. Willmer, Chris Willott a Yongda Zhu (2025) Witnessing the onset of reionization through Lyman-α emission at redshift 13. Nature 639, 897–901

Ton Radcliffe: E. Maconi, J. Alves, C. Swiggum, S. Ratzenböck, J. Großschedl, P. Köhler, N. Miret-Roig, S. Meingast, R. Konietzka, C. Zucker, A. Goodman, M. Lombardi, G. Knorr, G. Lohmann, J. C. Forbes, A. Burkert a M. Opher (2025) The Solar System’s passage through the Radcliffe wave during the middle Miocene. Astronomy & Astrophysics, 694, Rhif erthygl A167

Cerrig Titan: John R. Marshall a Lori K. Fenton (2025) Rolling stones on Titan. Planetary and Space Science 258, Ebrill 106076


<olaf nesaf>