Caewyd pen mwdwl Cymdeithas Wyddonol Gwynedd am y tymor gyda thrafodaeth ym Mangor am y cysylltiad rhwng amaeth yng Nghymru ag allyriadau nwyon tŷ gwydr – methan a deuocsid carbon. Un o’r sleidiau dadlennol oedd data a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd 2022 am gyfraniad nifer o sectorau yng Nghymru i’r cyfanswm o tua 37 miliwn tunnell o’r nwyon (wedi’i gyfrifo yn gyfwerth deuocsid carbon) a rhyddhawyd yn 2021. Tua 6 miliwn tunnell oedd cyfraniad amaeth. Cyflwynwyd data pellach, o Fwrdd Datblygu Amaeth a Garddwriaeth am 2021, bod hyn wedi’i ddosbarthu’n bennaf drwy’r sectorau cig eidion (34%), llaeth (28%) a defaid (34%).
Fel arfer, sonnir am ddeuocsid carbon wrth drafod newid hinsawdd, gan mai dyma gynnyrch llosgi tanwydd ffosil y mae cymaint o ymdrech i’w leihau. Yn y sector amaeth mae’r nwy methan hefyd yn bwysig. Fesul tunnell mae methan 28 gwaith yn fwy dylanwadol ar yr hinsawdd na deuocsid carbon. Felly cyfunir trafod y ddau mewn unedau “cyfwerth â’r deuocsid”. Rhyddheir methan yn naturiol fel rhan o’r broses cnoi cil a chyfranna hyn yn sylweddol at y ffigyrau uchod.
Mae’n debyg mai gan yr India y mae’r sialens fwyaf. Yn ôl Anuja Samal o Brifysgol Utkal, Bhubaneswar, India, a’i chydweithwyr, mewn papur yn Aerosol and Air Quality Research ym Mehefin 2024, daw 12.74 miliwn tunnell methan (357 miliwn tunnell cyfwerth deuocsid carbon) o’i da byw bob blwyddyn. Dros y byd i gyd mae anifeiliaid cnoi cil amaeth yn cynhyrchu 1820-2800 miliwn tunnell (cyfwerth deuocsid carbon) o fethan bob blwyddyn (Li ag eraill, 2011).
Ond nid da byw yw unig ffynhonnell methan amaethyddol. O reis, sy’n gynhaliaeth i hanner poblogaeth y byd, y daw cyfran sylweddol ohono. Mae reis dŵr dwfn (paddy) yn cynhyrchu 700-4200 miliwn tunnell (cyfwerth deuocsid carbon) o fethan bob blwyddyn trwy’r byd.
Ond efallai bod gobaith newid hyn yn y dyfodol agos. Yn fiocemegol, daw’r nwy wrth i facteria yn y mwd anaerobig dreulio sylweddau organig sy’n llifo’n naturiol o wreiddiau’r reis. Yn rhyfeddol, er gwaethaf degawdau o ymchwil, nid oedd natur y sylweddau yma’n hysbys. Fel adroddwyd yn Molecular Plant dechrau mis Chwefror newidiodd hyn wrth i Anna Schnürer o Sweden a’i chydweithwyr yn Tsieina astudio math GM o reis o’r enw SUSIBA2. Mae allyriadau methan hwn yn llawer llai na’r rhywogaethau arferol. Gwelwyd bod gwreiddiau SUSIBA2 yn rhyddhau llai o’r asid ffwmarig a ddefnyddir gan y bacteria i greu methan. Ond hyd yn oed ar ôl atal y ffwmarad, crëwyd llai fyth o fethan.
Yr ateb oedd bod SUSIBA2 yn rhyddhau lefelau sylweddol o ethanol (alcohol) a hyn yn arafu gweithrediad y bacteria i greu methan a hefyd yn lleihau rhyddhau’r ffwmarad.
Aethpwyd ati i fridio math o reis tebyg i SUSIBA2 trwy ddulliau confensiynol (gan osgoi’r technegau GM drwg-enwog). Dros ddwy flynedd o waith maes yn Tsiena gwelwyd gostyngiad o 70% yn y methan a chafwyd cynhaeaf reis o 8 tunnell yr hectar. Tua 4 tunnell yw’r cyfartaledd arferol trwy’r byd.
Llygedyn o oleuni mewn maes dryslyd, i ddweud y lleiaf.
Bwyd, neu o leiaf ein blys rhyfeddol am ei orfwyta, oedd testun papur yn y cylchgrawn Science ganol Chwefror.
Pa mor aml, ynghanol pryd mawr, y clywir y geiriau cyfarwydd “Mae’n rhaid cadw ychydig o le am bwdin !” cyn derbyn y fwydlen yn ôl ? Bellach mae Henning Fenselau o Athrofa Max Plank Cwlen a’i gydweithwyr wedi darganfod bod yr ymennydd wedi “cadw lle” yn barod (o leiaf mewn llygod).
Astudiodd Fenselau a’r tîm niwronau (celloedd yr ymennydd) yn y thalamws a’r hypothalamws sy’n rheoli ein harferion bwyta. Wrth inni lenwi, yn gyffredinol mae’r hypothalamws yn rhyddhau hormonau i’r thalamws sy’n diwallu ein hawydd am fwyd. Teimlwn yn fodlon a llawn. Ond, yn annisgwyl, darganfu’r gwyddonwyr bod yr union un niwronau yn rhyddhau hormon arall i’r thalamws sy’n cryfhau ein hawydd am bethau melys, er ein bod yn llawn. Mae hyn yn digwydd cyn inni weld bod pwdin ar gael, hyd yn oed. Ond yna rhyddheir mwy ohono wrth i’r geg synhwyro presenoldeb siwgr. Mae pwdin o’i hanfod yn “moreish” ! Rydym, hefyd, yn cael blys amdano ar ddiwedd pryd, yn hytrach na’r dechrau. Melys moes mwy !
Damcaniaeth Fenselau yw bod yr ymddygiad yma yn tarddu o’r dyddiau pam nad oedd siwgr yn gyffredin – a’r ymennydd o hyd yn barod i gymryd mwy o’r tanwydd hawdd-ei-dreulio yma. Yn y byd gor-felys sydd ohoni, gall hyn arwain at fwyta binge. Y gobaith yw defnyddio’r wybodaeth yma i gynorthwyo rhai sy’n dioddef oherwydd anhwylder bwyta’n afreolus.
A hithau’n dymor ciniawa Gŵyl Dewi, priodol oedd darllen adroddiad yn y New Scientist ar Ddydd Gŵyl ein nawddsant am y fantais sylweddol sydd gennym wrth siarad mwy nag un iaith. Bwyta pwdin, neu beidio.
Mae’n debyg mai Ellen Bialystock o Brifysgol York yn Toronto, yn 2007, oedd y gyntaf i wneud y cysylltiad rhwng dwyieithrwydd a gohirio effeithiau dementia. Gwelodd bod unigolion dwyieithog a gyfeiriwyd i’w chlinig cof yn dueddol o fod, ar gyfartaledd, bedair blynedd yn hŷn na’r rhai uniaith. Ar y pryd bu ansicrwydd nad effaith eilaidd oedd hwn. A oedd pobl ddwyieithog yn gyfoethocach, er enghraifft ? Ond erbyn 2013, roedd Suvarnba Alladi ym Mangalore, India, wedi profi bod y rhai dwyieithog yn osgoi dementia am 5.4 mlynedd, er gwaethaf ystyriaethau eraill (megis bywoliaeth, rhyw ac addysg).
Canolbwynt yr adroddiad yw papur gan labordy Natalie Phillips o Brifysgol McGill a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Bilingualism: Language and Cognition fis Medi 2024. Yn y papur hwnnw, mae Phillips a’i myfyriwr Kristina Coulter yn disgrifio rhai o’r gwahaniaethau sylfaenol. Yn y bôn nid yw bod yn ddwyieithog yn osgoi lledaenu Clefyd Alzheimer yn yr ymennydd, ond mae cynnydd ym maint cyffredinol y cortecs yn codi’r trothwy a gohirio ymddangosiad y symptomau. Hefyd mae dwyieithrwydd yn creu mwy o lwybrau cydweithio rhwng rhannau yn yr ymennydd trwy gydol bywyd. Wrth i rannau ddioddef, mae mwy o wytnwch wrth i weddill yr ymennydd fanteisio ar y llwybrau ychwanegol i osgoi’r rhannau sy’n dadfeilio. Megis osgoi goleuadau traffig dros dro ar yr A470 ! Wrth wneud sylw ar y gwaith, mae Bialystok yn pwysleisio mai un effaith annisgwyl yw cynnal iechyd yr hipocampws ar ôl i’r clefyd gychwyn. Prif ganolfan y cof yw hwn, nid rhan o’r drefn iaith.
Yn anffodus, pan egyr y llifddorau, mae symptomau unigolion dwyieithog yn gwaethygu yn gynt. Mae Bialystok o’r farn bod hyn yn gymorth i ddioddefwyr a’u teuluoedd a chynorthwywyr yn yr hir dymor.
Pynciau: Nwyon Tŷ Gwydr Reis, Pwdin, Dwyieithrwydd a Dementia
Cyfeiriadau
Nwyon Tŷ Gwydr India: Anuja Samal, Saroj Kumar Sahu, Ashirbad Mishra, Poonam Mangaraj, Shantanu Kumar Pani a Gufran Beig (2024) Assessment and Quantification of Methane Emission from Indian Livestock and Manure Management. Aerosol and Air Quality Research 24, (6) doi.org/10.4209/aaqr.230204
Nwyon Tŷ Gwydr Reis: Yunkai Jin, Tong Liu, Jia Hu, Kai Sun, Lihong Xue, Mathilde Bettembourg, Girma Bedada, Pengfu Hou, Peiying Hao, Jintian Tang, Zihong Ye, Chunlin Liu, Peng Li, Aihu Pan, Lushui Weng, Guoying Xiao, Ali A. Moazzami, Xiaoping Yu, Anna Schnürer a Chuanxin Sun (2025) Reducing methane emissions by developing low-fumarate high-ethanol eco-friendly rice. Molecular Plant 8, (2) 333-349
Pwdin: Marielle Minère, Hannah Wilhelms, Bojana Kuzmanovic, Sofia Lundh, Debora Fusca, Alina Claßen, Stav Shtiglitz, Yael Prilutski, Itay Talpir, Lin Tian, Brigitte Kieffer, Jon Davis, Peter Kloppenburg, Marc Tittgemeyer, Yoav Livneh a Henning Fenselau (2025) Thalamic opioids from POMC satiety neurons switch on sugar appetite. Science 387, (6735) 750-758
Dwyieithrwydd a Dementia: Kristina Coulter, Natalie A. Phillips a grwpiau CIMA-Q a COMPASS-ND (2024) Bilinguals show evidence of brain maintenance in Alzheimer’s disease. Bilingualism: Language and Cognition 27, (5) 1029-1038
