Barn 184 (Mawrth 2025): Lifogydd Mwya’r Byd, Bwyta Dannedd, Bysedd Salamander


Yn y golofn hon ym mis Chwefror, disgrifiais wyddoniaeth sy’n galluogi’r meddwl i droi yn beiriant amser o bryd i’w gilydd. Profi eiliadau unigol yn hanes hirfaith y ddaear oedd y cyd-destun y tro hwnnw wrth ddarllen am ganfod olion traed miliynau o flynyddoedd oed mewn tywod.  Nid annhebyg oedd fy nheimlad ar droad y flwyddyn wrth ddarllen papur am dirwedd ynys Sicilia yn ne’r Eidal yn Communications Earth & Environment. Mae Aaron Micallef a thîm rhyngwladol wedi darganfod mwy o dystiolaeth am y gorlifiad mwyaf y gwyddom amdano yn hanes y ddaear – a gyda’r mwyaf yn hanes cysawd yr haul.

Yn Awst 1968 cychwynnodd y Glomar Challenger ar ei daith pymtheng mlynedd i astudio gwely cefnforoedd y byd.  Fe gofiaf ddarllen amdano yng nghylchgrawn Look and Learn, a fu mor ddylanwadol arnaf ar y pryd. Yn ei dymor cyntaf astudiodd gwyddonwyr y llong y gefnen danddwr enfawr sy’n dilyn canol Môr yr Iwerydd o’r de i’r gogledd – gan brofi’n ddiymwad ddamcaniaeth y platiau tectonig a oedd wedi araf dyfu dros y degawdau cynt. Y gefnen yw’r graith folcanig uwchben y rhwyg yng nghrofen y ddaear wrth i blatiau America ymbellhau o Ewrop ac Affrica.

Yn ystod haf 1970, a minnau’n paratoi am y brifysgol, daeth o’r fordaith ddarganfyddiad hynod a oedd ychydig yn haws ei ddeall ar raddfa ddynol. Ar waelod Môr y Canoldir darganfuwyd gwaddodion halen sydd dros filltir o drwch mewn mannau. Gan fod halen yn tueddu toddi mewn dŵr, ni fyddai gwaddodion o’r fath yn bosibl oni bai bod y môr wedi sychu am gyfnod gan adael yr halen, megis y calch sy’n casglu ar waelod tecell, mewn ardal o ddŵr caled, llawn calch.   Roedd modd amseru’r digwyddiad i 6 miliwn o flynyddoedd yn ôl, wrth i ymyl plât tectonig Affrica gyrraedd gwaelod Sbaen a chau culfor Gibraltar yn glep.  Heb gyflenwad o’r Iwerydd, am gannoedd o filoedd o flynyddoedd bu heulwen yr ardal yn ddigon i anweddu’r Môr bron yn llwyr. Bu gwaddodion hallt afonydd mawrion yr ardal – y Neil yn arbennig –  yn cyfrannu mwy fyth o halen bob blwyddyn. Fersiwn enfawr o’r Môr Marw – ond un â’i wyneb dros gilomedr o dan wyneb yr Iwerydd yr ochr draw i forglawdd  Gibraltar. Tua 5.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl daeth tro ar fyd. Megis Cantre’r Gwaelod, gorlifodd yr Iwerydd dros y llifddor yn un rhaeadr eithafol. I ddechrau ystyriwyd y byddai wedi cymryd degau o filoedd o flynyddoedd i ail lenwi basn enfawr y Môr. Yna yn 2009 darganfuwyd creithiau sgwrio dwfn yng ngwely’r culfor ger Gibraltar. Awgrymu maent i’r gorlifiad bara am ddim ond 2 – 16 mlynedd.  Anodd dirnad maint y rhaeadr !

Megalif Zancle yw’r enw a roddir i hyn gan ddaearegwyr. Fe ddaeth ag Argyfwng Halen Messina i ben. Enwyd y ddau ddigwyddiad yma ar ôl enwau Lladin a chyn-ladin yr un ddinas ar ynys Sicilia.  Trwy gyd-ddigwyddiad ar, ac oddiar, benrhyn deheuol yr ynys honno mae Micallef wedi canfod olion diweddaraf y gorlifo. Ymddengys i barth gorllewinol Môr y Canoldir lenwi’n gyntaf cyn ei atal gan argae naturiol rhwng Sicilia a Gogledd Affrica. Dengys yr olion newydd i’r argae yma dorri mewn dim ond ychydig ddiwrnodau – gyda’r dŵr, 130 troedfedd o ddyfnder, yn llifo bron gan milltir yr awr drosto. Jest digon am wibdaith fer ac ofnadwy ym mheiriant amser y dychymyg! Ni fûm erioed yn Niagra, nac yn Rhaeadr Victoria, ond rwy’n dal i golli cwsg ar ôl ymweld â Rhaeadr Iguazú yn ystod taith i’r Wladfa. Piso dryw o’i gymharu.  Er i’r creithiau ffurfio ar wely’r  gorlif, mae symudiadau tectonig wedi codi rhan ohonynt uwchlaw wyneb y môr. Mae hyn yn eu gwneud yn hwylus eu hastudio’n fanwl.

Rwy’n siŵr imi rincian fy nannedd yn yr hofrennydd uwchben dwndwr yr afon Iguazú. A rhincian dannedd yw testun papur a ymddangosodd yn y Veterinary Journal ym mis Chwefror. Nid dannedd twristiaid, ond dannedd cwningod. Mae’r anifeiliaid yma yn araf falurio eu dannedd (gan gynnwys y cilddannedd) wrth iddynt falu eu bwyd. I wneud yn iawn am hyn, mae’r dannedd yn dal i dyfu trwy gydol eu hoes. O ganlyniad mae angen cryn dipyn o galsiwm yn ymborth i’r creaduriaid. Aeth Jean-Michel Hatt o Brifysgol Zurich, a’i dîm, i astudio o ba le y daw’r calsiwm yma. Rhannwyd criw o gwningod yn ddau grŵp. Am 11 diwrnod derbyniodd un ohonynt ddiet a oedd yn cynnwys ychwanegiad calsiwm carbonad a ffosffad pur, a’r llall yr un faint o ddeunydd dannedd cwningod (eraill) wedi’i falu. Yna ffeiriwyd y ddau grŵp ac ail adrodd yr arbrawf. Yn y ddau arbrawf amsugnwyd 33 y cant o’r dannedd mâl, ond dim ond 20 y cant o’r ychwanegiad artiffisial. Y canfyddiad yw, felly, bod cwningod wedi esblygu ffordd i beidio gwastraffu treuliadau eu dannedd ond eu llyncu a’u treulio’n fwy effeithiol na chalsiwm “newydd”.  Yr awgrym o’r papur yw bod hyn hefyd yn debygol o fod yn wir am anifeiliaid “hypselodontaidd” eraill, megis moch cwta. Mae’n bwysig, felly, peidio â brwsio  a golchi dannedd yr anifeiliaid anwes yma cyn noswylio !

Tric ffisiolegol arall oedd testun erthygl yn y Journal of Morphology ganol Ionawr. Bu’n syndod oesol i naturiaethwyr a gwyddonwyr sut bod mathau o fadfall yn mordwyo mor rhwydd ar hyd arwynebau fertigol neu ar y goriwaered. Yn y gorffennol bu cryn drafod yn y llenyddiaeth wyddonol am fanylion electronig traed y gecko. Nawr, ar ôl syllu’n fanwl ar ffilmiau traed salamanderau yn dringo coed redwood lleol ei brifysgol yn Nhalaith Washington, mae Christian Brown a thîm o ffisiolegwyr wedi mynd ati i astudio’n bellach i gyfrinachau’r creaduriaid hyn. Roeddynt wedi sylwi bod lliw blaen y bysedd yn newid i gyd-fynd â phob cam. Canfuwyd bod math o bledren waed ym mlaen pob un o ddeunaw bys y salamander. Roedd hon yn llenwi â gwaed wrth godi’r droed ac yn gwagio wrth osod y droed i lawr. Gan gymryd ryw 25 eiliad i gwblhau’r broses. Yn wahanol i’r gecko, mae’n ymddangos mai mwcws gludiog sy’n sicrhau bod modd cydio ym môn y coed, ond yn lle defnyddio bôn braich (yn llythrennol) i ryddhau’r gafael, mae pen y bysedd yn chwyddo yn debyg i’r Dyn Michelin gan leihau’r cyswllt rhwng y glud a’r rhisgl. Aeth y gwyddonwyr ymlaen i ddisgrifio manylion y peiriannau bach hydrolig hyn trwy astudio ffurf ac ymddygiad rhydwelïau’r bysedd.

Yn ogystal â deall mwy am natur, mae’n debyg y bydd y darganfyddiad hwn o ddefnydd wrth greu robotiaid arbenigol yn y dyfodol. Enghraifft arall o biomimeteg – efelychu natur i’n dibenion ein hunain.


Pynciau: Lifogydd Mwya’r Byd, Bwyta Dannedd, Bysedd Salamander


Cyfeiriadau

Lifogydd Mwya’r Byd: Aaron Micallef, Giovanni Barreca, Christian Hübscher, Angelo Camerlenghi, Paul Carling, Jose Maria Abril Hernandez, Raúl Periáñez, Daniel Garcia-Castellanos, Jonathan Ford, Benedikt Haimerl, Matthias Hartge, Jonas Preine a Antonio Caruso (2024) Land-to-sea indicators of the Zanclean megaflood. Communications Earth & Environment 5, Erthygl Rhif: 794

Bwyta Dannedd: J. Mäkitaipale, H. Opsomer, J.-M. Hatt, B. Riond, M. Clauss a A. Liesegang (2025) Rabbit teeth serve as a calcium source for rabbits (Oryctolagus cuniculus).  The Veterinary Journal 309, Chwefror 106268

Bysedd Salamander: Christian E. Brown, William P. Goldenberg, Olivia M. Hinds, Mary Kate O’Donnell a Nancy L. Staub (2025) Vascular and Osteological Morphology of Expanded Digit Tips Suggests Specialization in the Wandering Salamander (Aneides vagrans). Journal of Morphology 286, (1) e70026


<olaf nesaf>