Un o’r llyfrau gwyddonias cyntaf imi ei brynu oedd The Day it Rained Forever gan Ray Bradbury. Yr ail stori fer ynddo a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf. Mae’n debyg yn Playboy yn 1957 yr ymddangosodd In a Season of Calm Weather am y tro cyntaf. Daw’r adroddwr ar draws dyn ar draeth pellennig yn tynnu llun yn y tywod gyda darn o bren. Disgrifiad teimladau’r gwyliwr yw’r hanes. Yn ystod y stori daw’r llanw yn araf i lyncu’r llun. A’r artist ? Picasso.
Daeth yr atgof yma yn ôl imi wrth ddarllen dau hanes tua’r Nadolig. Datganiad i’r wasg ar ddechrau Ionawr oedd un, a rhaglen Dros Frecwast Radio Cymru wedi gofyn imi drafod stori nad oedd i’w rhyddhau tan ddwy awr cyn oedd angen imi wneud sylw amdani. Dihunais braidd yn bryderus y bore hwnnw, ond nid oedd angen imi boeni. Roedd hanes darganfod olion traed dinosoriaid o gyfnod y Jwrasig mewn chwarel yn Swydd Rhydychen yn adrodd y stori ei hun.
Ar draeth pellennig 166 miliwn o flynyddoedd yn ôl ymlwybrodd gyrr o ddinosoriaid enfawr tebyg i’r Diplodocus heddychlon gan adael olion eu traed enfawr, 3 troedfedd o led, yn y tywod. Yn eu dilyn yr oedd Megalosaurus, cigysydd mwyaf y cyfnod ym Mhrydain. Trywydd ei draed dwy-troedfedd o led yntau yn croesi olion y llysysyddion.
Yn wahanol i hanes Bradbury, am ryw reswm ni ddaeth y llanw i ddileu’r olion y diwrnod hwnnw. Efallai y bu storm enfawr a’u claddu dan orchudd o waddod a’u gwarchod. Yn y 1990au daethant eto i’r wyneb ar waelod chwarel galchfaen yn Ardley ger Rhydychen. Maent yn ymestyn dros gannoedd o fetrau – un o’r enghreifftiau mwyaf eang y byd.
Bu cloddio brwd yno ers hynny, a chanlyniadau ymgyrch haf 2024 gan baleontolegwyr o brifysgolion Birmingham a Rhydychen a ddatgelwyd eleni. Maent i’w gweld yn rhan o’r gyfres ddiweddaraf o Digging for Britain (BBC2) sydd i’w gweld ar i-Player am weddill y flwyddyn. (Sylw: Ym mis Hydref 2025 dadlennwyd mwy o’r olion hyn yn ymestyn am 220 m.)
Mae ffisegwyr damcaniaethol yn dweud na fyddwn byth yn gallu adeiladu Peiriant Amser, er gwaethaf gobeithion H.G. Wells ac awduron Doctor Who. Ond mae darganfyddiadau o’r math yma yn galluogi ein dychymyg i symud yn ôl mewn amser mewn ffordd hollol wyddonol. Sylw hyfryd y chwarelwr a ddaeth o hyd i’r olion oedd am y wefr a brofodd wrth sylweddoli mai ef oedd yr aelod cyntaf o ddynoliaeth erioed i’w gweld. Roedd ei ddychymyg yntau wedi ei dywys yn ôl 166 miliwn o flynyddoedd i ychydig funudau arbennig yn hanes hir y byd.
Roeddwn eisoes wedi fy nghynhyrfu gan hanes hynod o debyg a gyhoeddwyd yn Science ddiwedd mis Tachwedd. Nid dinosoriaid y tro hwnnw ond pobl – ond nid rhai fel ni. Koobi Fora ger llyn Turkana yn Kenya yw un o safleoedd mwyaf ffrwythlon y byd am olion ein cyndeidiau ffosil. Yn y papur mae Kevin Hatala a’i gydweithwyr yn disgrifio olion traed mewn gwaddodion tywod 1.52 miliwn o flynyddoedd oed. Yno mae cofnod deuddeg cam ym mywyd un hominin (yr enw arnom ni a’n perthnasau diflanedig agosaf). Mae’n debyg ei fod yn perthyn i rywogaeth Paranthropus boisei a fu’n byw yn yr ardal 2.5 i 1.15 miliwn o flynyddoedd yn ôl. O’i amgylch mae olion traed anifeiliaid ac adar, gan gynnwys o bosib un o’r adar hedegog mwyaf erioed – storc o’r enw Leptoptilos falconeri. Ond tri ôl troed hominin arall yn eu plith yw’r darganfyddiad mawr. O fewn cyfnod rhwng munudau i ychydig ddiwrnodau i ymlwybriad y Paranthropus, roedd tri o’n cyndadau Homo erectus wedi mynd heibio. Unwaith eto digon o dystiolaeth i lywio trên y dychymyg.
Homo erectus oedd un o’n cyndadau mwyaf llwyddiannus. Fe fudodd trwy’r holl hen fyd, a dysgodd sut i ddefnyddio tân. Goroesodd am ddwy filiwn o flynyddoedd cyn diflannu tua 110,000 o flynyddoedd yn ôl. Dengys y darganfyddiad diweddaraf ei fod wedi cyd-fyw (yn lled fodlon ?) ag o leiaf un hominin arall yn yr un ardal. O dystiolaeth arall mae Hatala a’i dîm yn dadlau ei fod wedi llwyddo i wneud hynny am o leiaf 100,000 o flynyddoedd.
Er y mudo eang yn ei hanes, ni chyrhaeddodd Homo erectus gyfandir America. Bu rhaid aros i’n rhywogaeth ni, Homo sapiens, wneud hynny tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu ymchwil academyddion gwyn i hanes cynnar brodorion America yn anffodus o gaeth i agweddau hiliol. Am flynyddoedd bu dadlau am darddiad y gelfyddyd Clovis o’r cyfnod cynharaf a oedd yn hysbys dim ond trwy wrthrychau megis pennau saeth cain. Yna yn 1968 darganfuwyd olion plentyn 1-2 mlwydd oed yn gysylltiedig â gwrthrychau Clovis. Dyma’r unig ddarganfyddiad o’i fath hyd heddiw. Bu hanes gweddillion plentyn Anzick-1 yn drobwynt ym mherthynas gwyddonwyr â brodorion America, gyda’r paleontolegydd rhyfeddol o Ddenmarc, Eske Willerslev, yn chwarae rhan bwysig. Ei lwyddiant oedd gwyrdroi agwedd Sefydliad America, gan gynnwys Amgueddfa’r Smithsonian, tuag at hawl y brodorion i’w gweddillion hynafol. Trwy ddadansoddi DNA Anzick-1, fe brofodd Willerslev ei fod yn perthyn yn uniongyrchol i drigolion presennol ei ardal. Claddwyd holl weddillion Anzick-1 gan ddisgynyddion ei deulu yn 2014. Oherwydd ei ymdriniaeth mabwysiadwyd Willerslev gan y bobl Crow yn 2014. (Gellir gweld mwy o hanes y Danad hynod hwn yn Hunt for the Oldest DNA ar i-Player ar hyn o bryd.)
Ond wrth ddadansoddi DNA’r corff bach, casglwyd mwy o wybodaeth amdano na’i berthynas a’r presennol. Mesurwyd hefyd natur isotopau ocsigen a nitrogen protein ei esgyrn a chofnodwyd y canlyniadau. Mae archeolegwyr ledled y byd yn defnyddio patrymau isotop o’r math yma i ddysgu am amgylchiadau bywyd olion. Gan fod corff yn gynnyrch yr hyn mae person yn eu bwyta, mae’r isotopau yn gofnod o hyn. Yn Science Advances ym mis Rhagfyr datgelodd James Chatters, o Brifysgol McMasters, Canada, bod olion Anzick-1 yn awgrymu bod cig Mamoth wedi cyfrannu at 40% o’i ddiet. O ystyried ei bod yn debygol mai llaeth ei fam oedd y rhan fwyaf o’i fwyd, mae hyn yn awgrymu mai’r anifail yna oedd prif ymborth y teulu. Y “paleo-ddiet” go iawn. Dadl arall o blaid y ddamcaniaeth mai dyfodiad y Clovis oedd yn gyfrifol am ddiflaniad nifer o anifeiliaid mawr Gogledd America yn y cyfnod hwn.
Petai modd dadansoddi fy mhrotein innau ar hyn o bryd, y canlyniad fyddai twrci, twrci a thwrci. Ymlaen yr â pheiriant amser y dychymyg !
Pynciau: Olion traed ffosil (dinosor a dyn), Bwydlen Americanaidd
Cyfeiriadau
Olion traed ffosil (dinosor): Rebecca Morelle ac Alison Francis (2025) UK’s biggest ever dinosaur footprint site unearthed. BBC News Ionawr 2. (gw hefyd Rebecca Morelle, Alison Francis, Kevin Church a thîm newyddiaduraeth weledol y BBC. (2025) How a huge dinosaur trackway was uncovered in the UK (2025). BBC News Hydref 14.)
Olion traed ffosil (hominin): Kevin G. Hatala, Neil T. Roach, Anna K. Behrensmeyer, Peter L. Falkingham, Stephen M. Gatesy, Erin Marie Williams-Hatala, Craig S. Feibel, Ibrae Dalacha, Martin Kirinya, Ezekiel Linga, Richard Loki, Apolo Alkoro, Longaye, Malmalo Longaye, Emmanuel Lonyericho, Iyole Loyapan, Nyiber Nakudo, Cyprian Nyete a Louise N. Leakey (2024) Footprint evidence for locomotor diversity and shared habitats among early Pleistocene hominins. Science 386, (6725)1004-1010
Bwydlen Americanaidd: James C. Chatters, Ben A. Potter, Stuart J. Fiedel, Juliet E. Morrow, Christopher N. Jass a Matthew J. Wooller (2024) Mammoth featured heavily in Western Clovis diet. Science Advances 10, (49) DOI: 10.1126/sciadv.adr3814
