Barn 181 (Tachwedd 2024): Rhythmau Bywyd, Effaith Dofi Moch, Enwau Personol


Ynghanol holl arwyddion ymyrraeth dynoliaeth â’r hinsawdd, y mae o leiaf un agwedd sydd y tu hwnt i’w grafangau. Ar hyn o bryd, ni ellir dylanwadu ar fesur y diwrnod a’r rhythmau hyd y dydd a’r nos a ddaw yn nhreigl y tymhorau. Tu hwnt i’n hymyrraeth yw’r pedwar awr ar hugain a’r albanau (Arthan, Eilir, Hefin ac Elfed). Deilliant oll o gylchdro’r ddaear o amgylch yr haul a’r ffaith bod y ddaear yn gwyro 23.4 gradd i’r cylchdro hwnnw.  Er, efallai, nad yw hyn y llawer o gysur yn yr ardd pan fydd ambell haf yn teimlo fel gaeaf yno.

Ond, nid garddwyr yn unig sy’n newid eu hymddygiad wrth i un tymor newid i’r nesaf. Cyffredin yw i anifeiliaid a phlanhigion baratoi ar gyfer yr hyn a ddaw.  Mae ganddynt glociau a chalendrau. Bu cryn ddiddordeb ym mecanwaith y clociau hyn dros y degawd neu ddwy  ddiwethaf, gan gynnwys eu dylanwad ar iechyd corff a meddwl.

Darganfuwyd mai’r un cyfundrefnau moleciwlar sydd y tu ôl i ymddygiad ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion. Y rhain sydd wrth wraidd amserau mudo, blodeuo a geni tymhorol epil, er enghraifft. Oherwydd hyn gwyddom i’r clociau ddatblygu yn gynnar yn hanes bywyd ar y ddaear – cyn y rhaniad rhwng anifeiliaid a phlanhigion.

Ond mae papur a gyhoeddwyd yn Science ddechrau mis Medi yn dangos bod y ffenomen yn hŷn o lawer na’r disgwyl. Fe’i gwelir yn rhai o organebau hynaf a symlaf y ddaear – y syanobacteria microsgopig ag iddynt ond un gell. Yn eu harbrofion dangosodd Luísa Jabbur o Brifysgol Vanderbilt, Nashville, a’i chydweithwyr, bod yr organebau ffotosynthetig hyn yn mesur y newid yn hyd y dydd – ac yn paratoi ar gyfer (nid dim ond ymateb i) tymheredd oer y gaeaf a gwres a golau llachar uwch fioled yr haf yn ôl y tymor.

Mae syanobacteria wedi bodoli ers dros 2 biliwn o flynyddoedd. Ond yn ogystal â datgelu hynafiaeth y broses, mae agwedd hynod i’r darganfyddiad. Pan fo anifail neu blanhigyn yn mesur hyd diwrnod mae’n rhaid iddo ddygymod â’r ffaith bod tywydd yn gallu newid hyd ymddangosiadol diwrnod. Nid yw ambell ddiwrnod tywyll ym mis Awst ddim yn golygu bod y gaeaf ar fin dod. Eu hateb yw mesur dros nifer o ddiwrnodau – ac ymateb i’r cyfartaledd.

Dangosodd Jabbur a’i thîm bod hyn hefyd yn wir am y syanobacteria. Yn y labordy, roedd angen rhwng 4 a 6 cylch diwrnod goleuni/tywyllwch i sbarduno’r newidiadau. Ond dim ond ychydig oriau yw hyd oes y celloedd ! Nid yw hyn yn ddigon i fesur un cylch, heb sôn am bedwar. Golyga hyn bod y celloedd unigol yn trosglwyddo gwybodaeth i’w disgynyddion – nad yw ond yn “ddealladwy” ar ôl nifer sylweddol o genedlaethau. Amgyffred torf yn hytrach nag unigolyn.

Mae ymddygiad tymhorol syanobacteria (y cyfeirir atynt yn aml fel algâu glaswyrdd) yn cyrraedd penawdau’r cyfryngau o bryd i’w gilydd, gan fod yr organebau yn rhyddhau cemegau gwenwynig. Daw hyn yn broblem ar adegau pan fydd gordyfiant ohonynt ar draethau neu lynnoedd Cymru.   Bydd newid hinsawdd anthropogenig yn cael effaith, ond ar ôl dros 2 biliwn o flynyddoedd mae’r pethau bychain hyn yn hen arfer ailosod eu clociau er eu mantais.

Roedd newidiadau trwy law dynoliaeth yn bendant i’w gweld mewn adroddiad yn Current Biology  ddiwedd Medi, ac “Anthroposen” yw’r gair olaf yng nghorff y papur. Ond mae hanes darganfyddiadau Matthew Walls o Brifysgol Calgari a’i gydweithwyr yn darllen fel ffuglen wyddonol i hen fiocemegydd fel fi.  Dengys pa mor anhygoel yw’r datblygiadau yng Ngwyddor DNA mewn cyd-destun archaeoleg a hanes.

Cymerodd y tîm samplau o bridd hyd at 2.5 metr o’r wyneb o lawr ogof Velký Mamuťák ym Mhohemia yng Ngweriniaeth Tsiec.  Yno bu bugeiliaid ac anifeiliaid yn cysgodi dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Bu archeolegwyr clasurol cynt yn dadansoddi’r olion a’r ffosiliau o’r gwaddodion. Maent yn cynrychioli hanes 11,000 o flynyddoedd o’r rhanbarth coediog hon.

Daw’r darganfyddiadau newydd o ddadansoddi dros 400 miliwn o ddarnau o DNA a gasglwyd o’r pridd. (sedaDNA – sef sedimentary ancient DNA – yw’r llysenw ar gyfer y math yma o archwiliad.) Dônt o anifeiliaid (a’u carthion) ac o blanhigion. Gellir eu canfod hyd yn oed pan nad oes unrhyw dystiolaeth facrosgobig. Nid oedd modd gweld DNA anifeiliaid o’r gwaddodion hynaf, ond gan ddechrau tua 7000 o flynyddoedd yn ôl daw manylion am yr hyn oedd yn digwydd yn y goedwig gerllaw. I ddechrau DNA o eifr sydd i’w weld. O 6000 blwyddyn yn ôl mae modd adnabod geifr dof. Roedd amaethwyr cynnar y neolithig yn bugeilio eu hanifeiliaid trwy’r goedwig. Dros amser daw defaid yn gyffredin – weithiau ynghyd â gwartheg.  O’r DNA mae modd casglu gwybodaeth am y bridiau – a’r cymysgu gyda’r gwartheg gwyllt a oedd yn dal i fodoli.

I Gymro mae’r ffaith bod modd gweld tystiolaeth yn DNA y gwaddodion o’r defnydd o’r hafod a’r hendref yn y cyfnod hwn yn arbennig o gynhyrfus.

Tua 4000 o flynyddoedd yn ôl cyrhaedda moch.  Ac ar unwaith gwelir eu dylanwad ar y llystyfiant a’r ecoleg yn gyffredinol. Ar anterth yr Oes Efydd, rhyw 1000 o flynyddoedd wedi hynny, moch yw’r prif anifeiliaid dof. Tybed ai rhagflas o hanes Pryderi a’i obsesiwn â moch sydd yma ?

Yn wahanol i eifr, defaid a gwartheg, mae moch yn eithaf dinistriol. Fel y’n hatgoffwyd gan Saunders Lewis ym Muchedd Garmon ! Mae’r gollen, y fasarnen a’r llwyfen flasus gynhenid yn diflannu i foliau’r moch – gan adael i’r ffawydd a’r fyrwydden (spruce) feddiannu’r goedwig. A dyna’r sefyllfa o hyd, 3000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Dadleua’r awduron mai yma, nid yn y Chwyldro Diwydiannol, y mae modd gweld gwreiddiau unrhyw oes Anthroposen.

Ond i orffen gyda hanes mwy positif am ddarganfyddiadau technoleg ein hoes. Tan eleni, heblaw am bobl, dim ond ar gyfer dolffiniaid roedd tystiolaeth eu bod yn cyfarch unigolion trwy ddefnyddio enwau personol – ond hynny drwy efelychu synau nodweddiadol o berchennog yr enw. Yna eleni, trwy ddefnyddio grym AI i ddadansoddi 50,000 recordiad, canfuwyd bod hyn hefyd yn wir am eliffantod yr Affrig (Michael Pardo a’i gydweithwyr yn Nature Ecology & Evolution ym mis Gorffennaf) a marmosetiaid (David Omer a’i gydweithwyr yn Science ddiwedd Awst). Primat fel ni, yw’r marmoset. Mae ei fywyd cymdeithasol, hefyd, yn debyg i’n un ni. Mae Omer, felly, yn trafod oblygiadau hyn i esblygiad iaith mewn pobl. Yn aml ystyrir mai rhywbeth cymharol ddiweddar, unigryw, yn hyn. Ond rhaid bellach ystyried y ffaith bod 35 miliwn o flynyddoedd yn rhannu ein hymennydd ni o un sydd, o bosib, yn defnyddio’r un gyfundrefn sylfaenol â ni.

Mae hyn i gyd yn fy atgoffa o’r jôc. Mae dyn yn gofyn i ferch fach beth yw enw ei chi. Yr ateb yw “Dw’i ddim yn gwybod, ond rydym ni’n ei alw’n “Pero”.”


Pynciau: Rhythmau Bywyd, Effaith Dofi Moch, Enwau Personol


Cyfeiriadau

Rhythmau Bywyd: Maria Luísa Jabbur, Benjamin P. Bratton a Carl Hirschie Johnson (2024) Bacteria can anticipate the seasons: Photoperiodism in cyanobacteria. Science 385, (6713) 1105-1111

Effaith Dofi Moch: Giulia Zampirolo, Luke E. Holman, Rikai Sawafuji, Michaela Ptáková, Lenka Kovačiková,Petr Šída, Petr Pokorný, Mikkel Winther Pedersen a Matthew Walls (2024) Tracing early pastoralism in Central Europe using sedimentary ancient DNA. Current Biology 34 (20) p4650-4661.E4

Enwau Personol: Michael A Pardo, Kurt Fristrup, David S Lolchuragi, Joyce H Poole, Petter Granli, Cynthia Moss, Iain Douglas-Hamilton a George Wittemyer (2024) African elephants address one another with individually specific name-like calls.  Nature Ecol Evol 8 (7) 1353-1364


<olaf nesaf>