Barn 180 (Hydref 2024): Cantorion hŷn, Amser y Lleuad, Cydymblygu a’r Farchnad, Masnach Bwyd


Tan yn lled ddiweddar bûm yn hoff o ddawnsio.  Rwy’n argyhoeddedig y bu hyn o les i’m hiechyd yn ystod y blynyddoedd gwyllt – gan gynnal tipyn ffitrwydd a’m cadw ychydig o’r ciwiau wrth y bar. Mae’n bosib imi etifeddu’r hoffter gan fy rhieni – plant oes dawnsio ffurfiol y waltz a’r foxtrot. Estynnodd hoffter fy nhad o rhythmau Jazz cyn belled ag iddo chwarae’r drwm mewn band tra roedd yn y coleg ger y lli. Ond daeth hyn i ben ar ôl cyfarfod mam. Yn y dyddiau hynny roedd merched yn disgwyl dawnsio gan gydio yn eu partneriaid, nid dawnsio’n unig gan syllu arnynt ar y llwyfan !!

Meddyliais am hyn, a’m cysylltiadau mwy diweddar ag unigolion o’r byd  canu poblogaidd, wrth weld adroddiad â’r teitl “The ageing musician” ar wefan bioRχiv ddechrau Gorffennaf. Mae Geoff Luck ag Alessandro Ansani o Ganolfan Miwsig, Meddwl, Corff ac Ymennydd, Prifysgol Jyväskylä yn y Ffindir wedi mynd ati i astudio dylanwad eu hoed ar dempo cerddorol 207 artist poblogaidd dros yrfaoedd oedd yn para o leiaf 20 mlynedd. Defnyddiwyd bas data Spotify sy’n cynnwys gwybodaeth tempo mwy na 1.2 miliwn o ganeuon gan 165,356 artist (gan gynnwys Dafydd Iwan, Meic Stevens, Geraint Jarman a Steve Eaves). Nid oes modd gwybod o’r papur a gynhwyswyd y cerddorion o Gymru, ond dewiswyd ystod steil eang – o Roc i Ladin (fe enwir Judas Priest, Pearl Jam, Barbara Steisand, Dolly Parton, a Juan Gabriel  yn eu plith). 

Yn eu harddegau, 120 curiad y funud oedd cyfartaledd bît yr artistiaid. Cynyddodd hyn i 123 erbyn eu 30au cynnar. O hynny ymlaen bu arafu cyson o 2 curiad y funud am bob degawd. Dadleua’r awduron bod hyn yn adlewyrchu’n union y newid sydd i’w ddisgwyl yng nghyflymder cerdded a thempo motor cefndir pob un ohonom wrth inni heneiddio, boed yn artistiaid pop neu beidio. Mae Luck ac Ansari, hefyd, yn holi beth yw dylanwad hyn ar werthfawrogiad y cynulleidfaoedd (sydd hefyd o oedrannau gwahanol) dros amser ?

Mewn astudiaeth lai yn 2023 o ddeg o’r artistiaid mwyaf poblogaidd, darganfuwyd mai Michael Jackson, Elvis Presley a Whitney Houston a arafodd y fwyaf. Gan Madonna ac Elton John yr oedd yr amrywiaeth mwyaf. Yn achos Madonna, hyn o bosib yn adlewyrchu gwahanol gyd-weithwyr a steiliau.

Ond beth yw amser ? Unwaith eto, dros yr haf, bu ymdriniaeth ohono mewn nifer o adroddiadau gwyddonol. Un ohonynt yn trafod beth i’w wneud am y lleuad ! Yng nghynulliad XXXII yr Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) yn Ne’r Affrig, pleidleisiwyd ddechrau Awst ar gynnig diffinio amser ar ein “chwaer ddaearen”. Gyda dynoliaeth yn bwriadu dychwelyd i’r lleuad yn ystod y blynyddoedd nesaf fe gofiwyd am bwysigrwydd darganfyddiadau Albert Einstein am amser a disgyrchiant. Mae disgyrchiant yn dylanwadu ar dreigl amser. Os ydych mewn oriel capel, er enghraifft, gan eich bod ymhellach o ddylanwad y ddaear na’r seddi ar y llawr, mae amser yn symud yn gynt. Ac rydych, o’r herwydd yn heneiddio’n gyflymach !

Gan fod y lleuad yn llai na’r ddaear, mae grym disgyrchiant yn wannach ar ei hwyneb – ac felly yno, hefyd, mae amser yn treiglo’n gynt nag ar wyneb y ddaear. Ceir y manylion a’r awgrymiadau mewn papur ar wefan arχiv  ddiwedd Mehefin gan Slava Turyshev o’r Labordy Gyriant Jet (JPR), Califfornia, a’i gydweithwyr. Mae cloc ar wyneb y lleuad yn tician 0.0000575 eiliad y diwrnod yn gynt yno nag yma. Petai astronot yn byw am 50 mlynedd ar y lleuad fe fyddai’n un eiliad yn hŷn nag y byddai pe bai wedi aros gartref. Dim llawer, efallai, ond hen ddigon i fod yn bwysig lle bo cyflymder cyfrifiadur yn y cwestiwn. Cyn bo hir bydd yn rhaid i’r Bureau Rhyngwladol ar Bwysau a Mesuriadau a’r IAU ddatgan ar hyn. Ac yna gwledydd unigol, megis Tsieina a’r Unol Daleithiau derbyn neu beidio. Bydd yn rhaid, hefyd, penderfynu ar ddechreubwynt. Pan gytunwyd ar ddechreubwynt amser y  ddaear, dewiswyd Dydd Sadwrn, Ionawr 1 1977.

Ar yr un wefan ddiwedd Awst ceir enghraifft hollol ymarferol o ddylanwad ffiseg ddamcaniaethol  Einsteinadd amser ar ein bywydau. Yn eironig, ni pherswadiwyd Einstein ei hun am wirionedd effaith gydymblygu cwantwm. Bu rhaid aros tan y ganrif hon cyn ei weld yn y byd go iawn. Tan hynny bu’n destun straeon gwyddonias yn unig. Canlyniad y ffenomen hon yw bod modd trosglwyddo gwybodaeth rhwng dau wrthrych ar unwaith. Mae trosglwyddo “arferol” gwybodaeth wedi’i gyfyngu gan gyflymder goleuni. Sy’n gyflym, ond nid yn aneirif. Yn eu papur mae Dawei Ding o Brifysgol Tsinghua a Liang Jiang o Brifysgol Iâl yn dangos bod modd, bellach, cysylltu Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NYSE) â chanolfan gwybodaeth y NASDAQ, pellter o 35 milltir, trwy gydymblygu cydrannau cwantwm.  Cymer 0.000188 eiliad (188μeil) i oleuni groesi’r pellter hwn, hen ddigon o amser i gynnal dwsinau o drafodion ariannol. Mae unrhyw ddarllenydd sy’n cofio ffilm 1973 Paul Newmann a Robert Redford, The Sting, yn gwybod oblygiadau’r fath beth.

Mewn erthygl yn y New Scientist ganol Awst dadleua rhai y gall hyn ansefydlogi’r farchnad – ac ni atebwyd cais gan ei hymchwilydd am ymateb gan Gomisiwn Rheoli Masnach yr Unol Daleithiau. Ond mae Ding a Jiang yn fwy ffyddiog. Credant y defnyddir unrhyw ddatblygiad o’r fath i wella effeithiolrwydd y farchnad yn hytrach na’i dinistrio.

Effeithlonrwydd marchnad bur wahanol, ond llawn mor bwysig i ni yng Nghymru, oedd pwnc papur sylweddol yn PNAS ganol Awst. Trafodaeth am effeithiolrwydd hinsawdd amaethyddiaeth ac am gynhyrchu cig yn arbennig. Mae Lin Ma o Academi Gwyddoniaeth Tsieina, Shijiazhuang a’i gydweithwyr wedi amcangyfrif effeithiolrwydd y diwydiant trwy ddilyn hynt cynhyrchu protein. Maent yn dadlau bod hyn yn fwy ystyrlon na thrwy ystyried calorïau, fel y gwneir yn aml.

O 1961 hyd at tua 2010 gwelwyd cwymp sylweddol o ddau draean yn allyriadau nwyon tŷ-gwydr yn y sector trwy’r byd yn ôl y mesuriad hwn. Ond ers hynny, ni welwyd unrhyw wellhad. Gan fod amaeth yn gyfrifol am draean yr allyriadau ar hyn o bryd, a bod disgwyl i’r galw am fwyd gynyddu 50% erbyn 2050, golyga hyn y bydd yr allyriadau, hefyd, yn cynyddu o 50%.

Mae Ma a’i gydweithwyr wedi dosbarthu 180 o wledydd y byd yn ôl eu harferion cynhyrchu protein a’u harferion yn ei fewnforio neu ei allforio. Mae’r arferion yn dibynnu ar hinsawdd a thirwedd lleol yn ogystal â phoblogaeth a safle datblygiad. Y bwgan mawr yw clirio mwy o dir ar gyfer protein, gan golli fforestydd a bioamrywiaeth. Canlyniad y tîm yw nad trwy newidiadau bach unigol mae symud ymlaen ond trwy gynyddu rhyddid masnach a sicrhau bod gwledydd unigol yn chwarae eu rhan fel tîm yn ôl eu proffil.

Rhaid byw mewn gobaith.


Pynciau: Cantorion hŷn, Amser y Lleuad, Cydymblygu a’r Farchnad, Masnach Bwyd


Cyfeiriadau

Cantorion hŷn: Geoff Luck a Alessandro Ansani (2024) The aging musician: Evidence of a downward trend in song tempo as a function of artist age. bioRχiv. 2 Gorffennaf 

Amser y Lleuad: Slava G. Turyshev, James G. Williams, Dale H. Boggs a Ryan S. Park (2024) Relativistic Time Transformations Between the Solar System Barycenter, Earth, and Moon. arXiv 23 Mehefin

Cydymblygu a’r Farchnad: Dawei Ding a Liang Jiang (2024) Coordinating Decisions via Quantum Telepathy. arXiv 
Karmela Padavic-Callaghan (2024) Existing quantum devices could be used to disrupt the stock market. New Scientist. 8 Awst

Masnach Bwyd: Zhaohai Bai, Nannan Zhang, Wilfried Winiwarter a Lin Ma (2024) Decline in carbon emission intensity of global agriculture has stagnated recently. PNAS. 121 (34) e2317725121


<olaf nesaf>