Barn 177 (Mehefin 2024): Rhosynnau, Mwynhau Cerddoriaeth, Tylino Planed


Yn 1800 roedd llai na chant o fathau o rosod (Rosa) yn harddu gerddi’r byd. Er y bu iddynt hanes domestig hir cyn hynny; o bosib yn ymestyn yn ôl dros 4-5000 o flynyddoedd. Yn gymysgedd o ryw ddwsin o rywogaethau gwyllt, roedd garddwyr yn Ewrop a Tsieina (lle mae cofnodion ohonynt o’r Cyfnod Han – amser Iesu Grist) wedi bod yn eu meithrin a’u bridio’n ofalus dros y canrifoedd.
Erbyn 1900, yn dilyn cyfnod o rosomania yn yr 1880au, roedd y dewis wedi cynyddu i 8000 math. Erbyn heddiw mae tua 35,000. Yn ôl yr OEC, maent yn werth dros $3 biliwn i economi’r byd.
Ar wefan bioRχiv ym mis Ebrill trôdd Thibault Leroy, o Brifysgol Angers, a phymtheg o gydweithwyr at dechnegau bioleg foleciwlar i ddadansoddi beth yn union a ddigwyddodd i enynnau’r rhosod gwyllt dros y cyfnod. Hyn gyda golwg ar weld cyflwr iechyd bioamrywiaeth y blodyn, a’i barodrwydd i wrthsefyll treialon newid hinsawdd.

Un priodoledd tyfu rhosod yw eu bod, fel rheol, yn impiad wedi’i osod ar wreiddyn gwydn amlbwrpas, yn hytrach na phlanhigyn newydd wedi tyfu o hedyn. Mae genynnau’r impiad yn aros heb eu newid dros gyfnod hir o drosglwyddo, yn “ffosil” o’r foment y crëwyd y math arbennig. Dewisodd Leroy a’i griw 204 math a grëwyd yn ystod y cyfnod o 1800-1910. Bu gwaith blaenorol clasurol ar ddisgynyddion Old Blush (o linach Rosa chinensis), sef y rhosyn cyntaf o Tsieina i gyrraedd Ewrop tua’r flwyddyn 1750, yn ddefnyddiol iawn.

Croesiadau newydd rhwng y mathau Asiaidd ac Ewropeaidd oedd yn bennaf gyfrifol am gynnydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd ffasiynau. Mae pum petal gan rhosod gwyllt. Erbyn canol y ganrif, roedd ambell math â thros 200 – cyn i’r ffasiwn droi at lai erbyn ei diwedd. Cafwyd hefyd liwiau newydd a diddordeb mewn blodau persawrus.

Cyfeiria’r awduron at y farn gyffredin bod rhosod heddiw yn llai persawrus. Ond o ddadansoddi’r elfennau persawr yn fanwl , er y bu ychydig golled ar ddechrau’r bedwaredd ganrif, nid yw hyn yn ystadegol wir. Mae’r mathau ar gael; ein dewis ni yw eu hanwybyddu neu beidio !

Ond ymddengys wrth i’r gwahanol fathau o hybrid tea hynod boblogaidd ymddangos yn Ffrainc ganol y ganrif, bu tuedd i’w croesi yn ôl gyda mathau Asiaidd. O ganlyniad collwyd nifer sylweddol o’r genynnau Ewropeaidd. Bellach dim ond chwarter eu genynnau sy’n tarddu o Ewrop – sef colled sylweddol yn eu bioamrywiaeth. Fe all hyn arwain at broblemau wrth i hinsawdd y byd newid. Pwysleisia Leroy, felly, bod rhaid i gasglwyr a gerddi botaneg warchod yr hen fathau o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n dal i gynnwys yr holl fioamrywiaeth wreiddiol.

Wn i ddim a fu unrhyw astudiaeth erioed yn ystyried amrywiaeth gwerthfawrogi prydferthwch blodau ymysg pobol. Ond ddechrau Ebrill bu adroddiad ar wefan bioRχiv am yr amrywiaeth cyffelyb mewn hoffter o gerddoriaeth. A hynny gan Giacomo Bignardi o Athrofa Max Planck Seicoieithyddiaeth, Nijmegen, a’i gydweithwyr.

Maent yn cychwyn eu hadroddiad gyda dyfyniad o bapur a gyhoeddwyd yn 2006 gan Oliver Sacks (awdur The Man Who Mistook His Wife for a Hat). “Peth rhyfedd yw gweld rhywogaeth gyfan – biliynau o bobl – yn chwarae gyda gwrando ar batrymau tonyddol diystyr, yn cael eu meddiannu a’u swyno am lawer o’u hamser gan yr hyn y maent yn ei alw’n “gerddoriaeth”.”

Cofrestrwyd dros 9000 o efeilliaid, 3400 ohonynt yn unfath, ar gyfer holiadur cerdd pwrpasol (BMRQ: sy’n cynnwys alaw, rhythm a thraw) a’u holi ynglŷn â’r boddhad a gawsent wrth wrando ar gerddoriaeth. O’r canlyniadau gwelwyd elfen etifeddol gref – gyda’r efeilliaid unfath yn ddwywaith mwy tebyg i’w gilydd na’r rhai heb fod yn unfath. Hyn yn annibynnol ar unrhyw debygrwydd mewn canfyddiad cerddoriaeth, neu sensitifrwydd boddhad cyffredinol. Roedd hefyd yn annibynnol ar unrhyw ddawn creu cerddoriaeth. (Sydd, hefyd, yn ôl ymchwil blaenorol ag iddi elfen etifeddol.)
Ond o’r canlyniadau daeth dealltwriaeth ddyfnach fyth. Mae mwy nag un llwybr etifeddol annibynnol o brofi’r boddhad mewn cerddoriaeth. Er enghraifft, adwaith emosiynol personol neu’r boddhad a geir drwy gymdeithasu drwy gyfrwng cerddoriaeth.

Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd modd ymestyn i’r lefel biolegol, moleciwlar, ein dealltwriaeth o ddylanwad pwerus y “patrymau tonyddol diystyr” yn ein bywydau.

Yn y Canol Oesoedd yn y Gorllewin bu ymgais i esbonio symudiad y planedau a’r sêr drwy gerddoriaeth. Musica universalis (cerddoriaeth y sfferau), syniad a gychwynnodd yn hen Wlad Groeg, ac a ddatblygwyd gan Johannes Kepler yn yr unfed ganrif ar bymtheg oedd hwn. Credodd Kepler, a gyfrannodd yn sylweddol i’n dealltwriaeth o’r bydysawd, gan gynnwys ei ddylanwad ar Isaac Newton, bod modd i’r enaid – ond nid y glust – glywed y miwsig yma.

Efallai nad yw ei gred yn yr enaid wedi goroesi i wyddoniaeth uniongred ein hoes ni, ond fe welir adlais o’r musica universalis wrth astudio coreograffi planedau, lleuadau a sêr yn cyd-droi o dan ddylanwad disgyrchiant ei gilydd. Weithiau mae eu cylchdroeon wedi’u harmoneiddio mewn modd y byddai Kepler yn falch iawn ohono. (Ar You Tube mae artist o Arsyllfa Ewropeaidd y De (ESO) wedi creu animeiddiad cerddorol o bum planed cyfundrefn o’r enw TOI-178.)

Meddyliais am hyn, gyda boddhad, wrth ddarllen adroddiad ar wefan arXiv ar ganol Ebrill. Mae hyd yn oed ei deitl “Storm Berffaith” (A Perfect Tidal Storm) yn awgrymu darn o gerddoriaeth ! Defnyddiodd Steven Kane o Brifysgol Califfornia, Riverside, a’i gydweithwyr, ddata o loeren TESS, sy’n arsylwi planedau sêr y tu hwnt i gysawd yr haul. Roedd gwaith blaenorol wedi canfod planed enfawr yn troelli seren o’r enw HD104067, sy’n 66 blwyddyn goleuni o’r ddaear. Yn gyntaf, gwelodd Kane a’r criw dystiolaeth am blaned sylweddol arall yn troelli’r seren. Yna tystiolaeth un arall, dim ond ychydig mwy na’r ddaear, yn chwipio o amgylch y seren bob 2.2 diwrnod. Ond roedd disgyrchiant “dawns” Kepleraidd y pedwar corff (seren a thair planed) yn tylino’r blaned fach fel darn o glai yn nwylo plentyn. Ffrithiant y tylino sy’n meddalu’r clai i’r plentyn, ac mae’r un ffrithiant yn toddi a meddalu corff y blaned. Mae ei thymheredd yn uwch nag ambell seren.

Yn nes adref. Yn ôl Katherine de Kleer yn Athrofa Technoleg Califfornia, Pasadena, a’i chydweithwyr mewn papur yn Science, a hefyd mewn llun sy’n harddu’i glawr fis Ebrill, mae disgyrchiant y blaned Iau wedi bod yn tylino ei lleuad Io, gan greu llosgfynyddoedd o sylffwr yno, ers rhwng 2.5 a 4 biliwn o flynyddoedd ! Eitha’ symffoni !

Hanesion digon i’m bodloni i wrth eu darllen. Tybed a yw f’enaid yn eu clywed ?


Pynciau: Rhosynnau, Mwynhau Cerddoriaeth, Tylino Planed


Cyfeiriadau

Rhosynnau: Thibault Leroy, Elise Albert, Tatiana Thouroude, Sylvie Baudino, Jean-Claude Caissard, Annie Chastellier, Jérôme Chameau, Julien Jeauffre, Thérèse Loubert, Saretta Nindya Paramita, Alix Pernet, Vanessa Soufflet-Freslon, Cristiana Oghina-Pavie, Fabrice Foucher, Laurence Hibrand-Saint Oyant, Jérémy Clotault (2024) Dark side of the honeymoon: reconstructing the Asian x European rose breeding history through the lens of genomics. bioArχiv https://doi.org/10.1101/2023.06.22.546162 

Mwynhau Cerddoriaeth: Giacomo Bignardi, Laura W. Wesseldijk, Ernest Mas-Herrero, Robert. J. Zatorre, Fredrik Ullén, Simon E. Fisher, a Miriam A. Mosing (2024) Distinct genetic pathways to music enjoyment. bioArχiv https://doi.org/10.1101/2024.04.04.588094 

Tylino Planed: Stephen R. Kane, Tara Fetherolf, Zhexing Li, Alex S. Polanski, Andrew W. Howard, Howard Isaacson, Teo Močnik a Sadie G. Welter (2024) A Perfect Tidal Storm: HD 104067 Planetary Architecture Creating an Incandescent World. arXiv:2403.17062

Io: Katherine de Kleer, Ery C. Hughes, Francis Nimmo, John Eiler, Amy E. Hofmann, Statia Luszcz-Cook a Kathy Mandt (2024) Isotopic evidence of long-lived volcanism on Io. Science 384, 6696 682-687


 

<olaf nesaf>