Roedd fy nhad yn ddyn ei oes – neu o leiaf lle ‘roedd disgwyliadau ymddygiad cyhoeddus gŵr a gwragedd yn y cwestiwn. Cerdded ar y tu allan i’r palmant, cario eu cesys ar wyliau ac agor drysau ar eu cyfer, er enghraifft. Bu farw dros ugain mlynedd yn ôl. Wn i ddim sut y buasai’n ymdopi â mores yr oes bresennol. Meddyliais amdano, felly, wrth ddarllen erthygl yn Current Biology ddiwedd Mawrth. Ei theitl oedd “The “after you” gesture in a bird” gan ddau wyddonydd o Siapan, Gwlad Moesgarwch. Bu Toshitaka Suzuki a Norimasa Sugita, o Brifysgol Tokyo, yn astudio ymddygiad Titw Siapan. Fel ein titwod ni wrth imi ysgrifennu, mae’r rhain yn nythu mewn tyllau mewn coed (neu flychau nythu) ag iddynt fynedfa fechan. Mae’r fenyw a’r gwryw yn mynd i mewn un ar y tro wrth gario bwyd i’r cywion. Sylwodd y sŵolegwyr pan gyrhaeddai’r ddau ardal y bocs nythu’r un pryd, eu bod yn glanio ar frigau gerllaw. Yna, yn aml, byddai’r iâr yn ysgwyd ei hadenydd. Y ceiliog, wedyn, fyddai’n mynd i’r nyth yn gyntaf. Ar adegau eraill ni ysgydwai’r iâr ei hadenydd – ac yna hi fyddai’n mynd i mewn yn gyntaf. Arwydd oedd y symudiad. Un enghraifft yn unig fu o’r ceiliog yn ysgwyd – ac yna’r iâr oedd y gyntaf i’r nyth. (Byddai fy nhad wedi cymeradwyo’r aderyn anghyffredin hwn !!)
Mae ystumiau o’r fath yn gyffredin, a phwysig, ymhlith pobol, a bu ychydig ymchwil iddynt mewn epaod. Ond ychydig iawn sy’n wybyddus am ymddygiad tebyg mewn anifeiliaid eraill. Dadleua awduron yr ymchwil y byddai’n fuddiol ymestyn hyn er mwyn deall ei oblygiadau i esblygiad.
Nid annhebyg oedd trywydd gwaith pur wahanol ym Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Yno mae Hod Lipson a’i gydweithwyr o beirianwyr mecanyddol yn ceisio gwella’n perthynas â robotiaid. Mae deallusrwydd artiffisial wedi datblygu sgiliau iaith robotiaid i lefel ryfeddol, ond mae ei ddylanwad ar sgiliau ffisegol a gweledol yn arafach. Yn 1970 cyflwynodd robotegydd o Siapan, Masahiro Mori, ffenomen o’r enw “Bukimi No Tani” (Y Dyffryn Iasoer). Wrth agosau at fod yn realistig roedd robotiaid anthropomorffig yn ennyn mwy o arswyd arnom yn hytrach na’r gwrthwyneb. Rhaid oedd croesi “dyffryn” a chreu robotiaid mwy dynol fyth. Cymerodd ddegawdau i’r Gorllewin gymryd sylw, a sialens Hollywood wrth ymwneud â chartwnau a defnydd CGI (Creu Delweddau trwy Gyfrifiadur) o actorion yn rhoi sbardun i’w hymchwilio.
Y sialens yw efelychu’n naturiol yr ystumiau bach sy’n cyd-fynd â’r llais, megis symudiad adenydd y titw. Mewn gwaith a ddisgrifir yng nghylchgrawn Science Robotics ddiwedd Mawrth, aed ati i ddatrys dwy sialens. Creu ystumiau wyneb ystyrlon ac – yn llawn mor bwysig – eu hamseru’n iawn. Mae gan wyneb y robot Emo, 26 motor o dan ei chroen hyblyg silicôn a chamerâu cyflym yn ei llygaid. Yn y gorffennol efelychu wyneb person (ychydig yn hwyr) oedd y gorau posibl. Ond mae Lipson wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn i Emo ragweld pan fydd siaradwr ar fin gwenu – a gosod gwên (eto trwy gyfrwng AI) ar ei hwyneb i gyd-fynd.
Mae’n debyg bod yr ymateb yn rhyfeddol – a hyd yn oed Lipson yn cyfaddef na all beidio â gwenu’n ôl ar Emo wrth gyfathrebu ! Ond mae hefyd yn pwysleisio mai megis dechrau mae’r gwaith. Nid yn unig rhaid ei ymestyn i ystumiau eraill – ond bod gwahaniaethau sylweddol rhwng ymateb nid yn unig pobl o oedrannau gwahanol, ond rhwng grwpiau ethnig.
Amrywiaeth ethnig, hefyd, sydd wrth wraidd adroddiad a ymddangosodd ar wefan arXiv ym mis Chwefror. A rhaid cyfaddef imi gael boddhad wrth weld cadarnhau rhywbeth sydd wedi fy nharo ers darganfod bod apiau cyfathrebu artiffisial, megis ChatGPT, yn gweithio’n ddidrafferth drwy’r Gymraeg. Sef bod teithi’r iaith Saesneg yn chwarae rhan bwysig. Mae Chris Wendler o Ganolfan Ffederal Technoleg y Swistir yn Lausanne a’i gydweithwyr wedi ymchwilio i sut mae Llama 2, un o’r modelau a grëwyd gan Meta (perchnogion Facebook), yn ymdrin â gwahanol ieithoedd. Eu problem yw nad oes neb yn deall yn union sut mae’r modelau yn mynd at eu gwaith. Dyna eu cryfder – y maent yn dysgu a “gwella” yn annibynnol ar y rhaglennydd gwreiddiol. Ond eu craidd yw defnydd cronfeydd data digidol y We. Felly, ‘roedd rhaid i Wendler a’r criw greu cwestiynau y byddai eu hatebion yn adlewyrchu peth o lwybr ieithyddol y broses o’u hateb. Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i neb geisio gwneud hyn. Gofynnwyd cwestiynau mewn Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg. Nid yn annisgwyl, efallai, gwelwyd bod y broses yn arwain trwy barthau Saesneg. Hyd yn oed pan ofynnwyd am gyfieithu Rwsieg i’r Tsieni (y ddwy iaith heb lythrennau Lladin) roedd hyn yn amlwg. Nid dim ond maint y gronfa ddata Saesneg fyd eang oedd yn gyfrifol, ond bod y Saesneg, yn ieithyddol ac yn syniadol, yn dylanwadu ar weithredu’r deallusrwydd artiffisial ei hun. Gobeithia Wendler y bydd y math hwn o ymchwil yn sicrhau lleihau dylanwad angloganolig y model presennol – a chreu byd seibr mwy cyfartal. Da gwybod nad consýrn unigryw i’r Gymraeg, ac ieithoedd bychain eraill, yw hyn.
Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn ymwybodol o’m diddordeb arbennig yn yr hyn y mae’r dechnoleg darllen DNA, defnydd ein genynnau, yn ei ddatgelu am hanes dynoliaeth dros y degau a channoedd o filoedd o flynyddoedd diwethaf. Yn awr mae mawrion y maes wedi troi eu golwg at is-gyfandir yr India, a’i phoblogaeth o biliwn a hanner ohonom. Dengys dilyniannau 2762 unigolyn o hyd a lled y wlad eu bod yn hanu o dri grŵp, sef ffermwyr Iran, bugeiliaid crwydrol paith Ewrasia a Helwyr-Gasglwyr De Asia. Yn eu tro, daeth y tri yma yn un don o fewnfudo o’r Affrig tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond, fel yn ein genynnau ni, mae olion pobloedd llawer hŷn yn llechu yn DNA poblogaeth heddiw. Arwydd o gyd-briodi miloedd lawer o flynyddoedd yn ôl. Daw 1-2 % o’n cyndadau Neanderthal a Denisofa. Nid yr un darnau sydd ym mhawb ac un canlyniad cynhyrfus yw bod tua 90% o enom cyfan y Neanderthal a 20% o’r Denisofaid o hyd i’w gweld yn yr India heddiw. Tua 70% oedd wedi ei ganfod o samplau Neanderthal cynt o Ewrop.
Nid oes cwestiwn nad ydy Homo sapiens wedi gadael ei farc ar weddill y ddaear. Ac nid, o bell ffordd, er ei les ei hun. Dros y pymtheng mlynedd diwethaf aethpwyd ati i weld a ddylid cofrestru’r dylanwad hwn drwy osod yr enw Anthroposen yn swyddogol ar y cyfnod daearegol presennol. Bu cryn drafod, a phoblogeiddiwyd y term. Ond, yn ôl y cylchgrawn Nature, mewn cyfarfod o is-Gomisiwm Stratiograffaeth y Cwaternari (SQS) ddechrau Mawrth, gwrthodwyd y syniad. Er y siom i nifer, ac mae rhai yn apelio yn erbyn y dyfarniad, mae Mike Walker o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a oedd yn aelod o’r is-Gomisiwn, yn esbonio y byddai canolbwyntio ar y 75 mlynedd olaf, a chychwyn y Cyfnod newydd yn 1952, yn anwybyddu holl ddylanwad dynoliaeth ar ei hamgylchedd cyn hyn.
Pynciau: Adar moesgar, Cyfarch Robot, AI ac iaith, DNA Neanderthal, Dim Anthroposen
Cyfeiriadau
Adar moesgar: Toshitaka N. Suzuki a Norimasa Sugita (2024) The ‘after you’ gesture in a bird. Current Biology 34, 6 R231-R232
Cyfarch Robot: Yuhang Hu, Boyuan Chen, Jiong Lin, Yunzhe Wang, Yingke Wang, Cameron Mehlman a Hod Lipson (2024) Human-robot facial coexpression. Science Robotics 9, Rhif 88
AI ac iaith: Chris Wendler, Veniamin Veselovsky, Giovanni Monea a Robert West (2024) Do Llamas Work in English? On the Latent Language of Multilingual Transformers. arXiv:2402.10588
DNA Neanderthal: Elise Kerdoncuff, Laurits Skov, Nick Patterson, Wei Zhao, Yuk Yee Lueng, Gerard D. Schellenberg, Jennifer A. Smith, Sharmistha Dey, Andrea Ganna, AB Dey, Sharon L.R. Kardia, Jinkook Lee a Priya Moorjani (2024) 50,000 years of Evolutionary History of India: Insights from ∼2,700 Whole Genome Sequences. bioArχiv https://doi.org/10.1101/2024.02.15.580575
Dim Anthroposen: Alexandra Witze (2024) Geologists reject the Anthropocene as Earth’s new epoch — after 15 years of debate. Nature (News). Mawrth 6.
<olaf nesaf>
