Gobeithiais erioed y byddai portholes yn y nefoedd, er mwyn gweld beth ddigwyddai ar y ddaear wedyn ! Wrth fynd yn hŷn, mae’r rhestr disgwyliadau unigol yn dechrau ymestyn. Un ohonynt yw llwyddiant, neu beidio, lloeren arfaethedig NASA – yr Arsyllfa Bydoedd Cyfannedd, ABC (Habitable Worlds Observatory). Efallai y gwêl golau ddydd yn y 2040au – ar gost o $11 biliwn.
Os gwireddir y prosiect, a argymhellwyd gan Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn 2021, dyma fydd y lloeren gyntaf i chwilio’n unswydd am arwyddion bywyd ar blanedau sy’n cylchdroi sêr eraill (ecsoblanedau). Yn wahanol i ambell archwiliad o blanedau a lleuadau cyfundrefn yr haul, ni fydd yr ABC yn teithio i’r planedau hyn – ond yn eu harsylwi a bell drwy delesgop anferth yn chwilio am y lliwiau (tonfeddi electromagnetig) sy’n nodweddu’r cemegolion a gysylltir â bywyd.
Ers 2020 mae NASA wedi rhyddhau rhestr o’r 164 sêr mwyaf hygyrch. Mewn papur ar wefan arχiv ddechrau Ionawr, mae Caleb Harada o Brifysgol Berkeley a’i gydweithwyr wedi dechrau paratoi rhestr o’r targedau mwyaf addawol. Maent wedi creu catalog o’r priodoleddau sy’n wybyddus – ac felly’r hyn y bydd angen eto eu mesur cyn penodi targedau’r ABC. O ystyried mai dim ond yn 1992 y gwelwyd y dystiolaeth gyntaf am fodolaeth ecsoblanedau, rhyfeddol yw’n gwybodaeth amdanynt. Mae Harada yn rhestru 1744 mesuriad o gemegolion – gan cynnwys 14 elfen – a bron i fil o sbectrymau gan 6 delesgop-lloeren. Mae hefyd yn rhestru pa mor stormus yw’r sêr a’u hallyriadau pelydr-X. Nodweddion a allai gyfyngu ar bosibilrwydd bywyd. Un gwendid presennol, er enghraifft, yw ein hanwybodaeth am ddosbarthiad ffosfforws, elfen hollbwysig i unrhyw fywyd tebyg i’n bywyd ni, ymysg yr ecsoblanedau.
I ymestyn fy metaffor diwinyddol agoriadaol. Gobeithio na fydd ymgecru cenhedloedd y ddaear yn dod â’r ymgais hon i gyrraedd y nefoedd i ben – megis ym Mabel gynt ! Hefyd, sylwaf mai Caleb oedd un o’r deuddeg anturwr a anfonodd Moses i arsyllu tir Canan ymlaen llaw.
Ond fel Gwyddonydd Bywyd, fy mhryder i o hyd wrth drafod bywyd yn y gofod yw beth yw’r hyn yr ydym yn ei chwilio amdano? Beth yw bywyd ? Nid oes gennym ond un enghraifft o’r hyn yr ydym yn ei alw’n fywyd ar y ddaear. Pa mor nodweddiadol yw hwnnw ? Disgrifiad, nid diffiniad, sydd gennym.
Hen ddadl ymysg pobl fel fi yw a yw firysau – megis Covid-19 – yn fyw neu beidio ? Wedi’r cwbl, mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu gweld yn debyg i facteria o’r canlyniadau clinigol. “Germs” yw’r ddau. Pethau byw yn bendant yw bacteria, ond fel arfer, ni ystyrir bod firysau yn fyw. Ddiwedd Ionawr, ymddangosodd papur ar wefan bioRχiv gan Andrew Fire, yr enillydd Gwobr Nobel o Brifysgol Stanford, a’i gydweithwyr sy’n ychwanegu at y drafodaeth yma.
Clwstwr o enynnau gweithredol (DNA neu RNA) wedi’i amgylchynu â chragen o brotein yw firws. Yn y 1970au darganfuwyd math heintus o RNA heb y gragen brotein. Fe’i galwyd yn firoidau. Er eu bod yn achosi clefydau mewn planhigion, nid oedd iddynt enynnau sy’n creu protein.
Yn awr mae Fire wedi disgrifio endid newydd. Fel firoid, RNA heb gragen yw hwn. Ond y tro yma y mae’n cynnwys genynnau gweithredol; er nad yw’n hysbys eto beth yw swyddogaeth y proteinau yma. Gan fod strwythur yr RNA yn peri iddo ffurfio roden – yn hytrach na’r cylch agored arferol – fe’u henwyd yn “obelisciaid” ar ôl creiriau’r hen Aifft.
Darganfuwyd yr obelisciaid gyntaf wrth ddadansoddi RNA carthion a phoer dynol. Er eu bod yn newydd i wyddoniaeth, nid ydynt yn anghyffredin – maent yn bresennol yn hanner y samplau o boer – ac i’w cael o bob cyfandir dan haul.
Nid oes eto wybodaeth am eu dylanwad ar ddyn. Ond mae Fire wedi dangos eu bod i’w cael mewn Streptococcus sanguinis, bacteriwm llesol ceg iach, ond sy’n peri haint os â i’r gwaed. Un gobaith yw y bydd modd defnyddio’r obelisciaid wrth drin clefydau bacteraidd yn y dyfodol.
Mae’r darganfyddiad hwn yn cymhlethu’r ffin rhwng y byw a’r anfyw ymhellach. Mae rhai, megis Beatriz Navarro o Athrofa Gwarchod Planhigion, Bari yn yr Eidal, wedi awgrymu eu bod yn olion o gyfnod dechrau bywyd tua 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae tystiolaeth gref y bu i fywyd y cyfnod, cyn ymddangosiad DNA, lle mai RNA yn unig oedd yn cynnal swyddogaethau proteinau a’r genynnau a oedd yn eu creu. Efallai ein bod wedi dod o hyd i’r hyn a fu’n union cyn, neu ar ôl (gan ddibynnu ar eich dewis), ymddangosiad bywyd ar y ddaear.
Yn sicr un o “hen bethau anghofiedig teulu dyn” yw’r Byd RNA, os y bu erioed. Ond mae ceisio cryfhau’r pethau cofiedig wedi bod yn destun sawl papur safonol eto’r mis hwn. Ddiwedd Ionawr gwelwyd papur gan Ruud ac Audrey van der Weel o Brifysgol Trondheim yn Norwy, yn Frontiers of Psychology, am y gwahaniaeth a welir yn ymennydd myfyriwr yn y dosbarth wrth ysgrifennu nodiadau â llaw o’i gymharu â’u teipio. Cysylltodd y gwyddonwyr bennau 36 o fyfyrwyr i fesurydd EEG wrth wneud y gymhariaeth. Bu gwahaniaeth sylweddol yn y cydweithio rhwng rhannau o’r rhanbarth parietal a chanol yr ymennydd. Wrth ysgrifennu â llaw gwelwyd cynnydd sylweddol yn y rhannau yma, sef y rhannau a gysylltir a ffurfio atgofion a chofnodi gwybodaeth newydd. Mae’r awduron, yn ymbil bod rhaid i blant ifanc, o’r oedran cynharaf, ysgrifennu â llaw. Dylid dal i ystyried hyn o bwys yn y dosbarth i fyfyrwyr o unrhyw oed wrth i dechnolegau dysgu newid. Gwers a rhybudd pendant i’r colofnydd presennol !!
Bu cryn gyhoeddusrwydd i waith Alicja Olszewska o Athrofa Nencki yn Warsawa, a’i thîm a ymddangosodd ar wefan bioArxiv ganol Ionawr. Trwy ddefnyddio sganio fMRI, dilynwyd newidiadau yr ymennydd mewn 24 merch rhwng 18 a 23 oed wrth iddynt ddysgu canu’r piano dros gyfnod o chwe mis. Bu tonnau o newidiadau gwahanol dros y cyfnod. I ddechrau yn y rhannau yn ymwneud â’r clyw a symud. Cynnydd hefyd yn y rhannau yn ymwneud â’r cof ac intergreiddio a phrosesu symbyliadau. Ond gydag amser, fe welwyd lleihad yn y prosesau “uchel” yma – wrth i’r ymennydd optimeiddio. Yn sicr, mae’r gwaith yn atgyfnerthu’r hen bwyslais ar ymarfer !
A’r portholes yn galw, ofnaf ei bod yn rhy hwyr i mi fynd ati i ddysgu canu’r piano, ond cefais ychydig galondid wrth weld adroddiad yn yr American Journal of Clinical Nutrition ganol Ionawr. Am y trydydd tro mewn prawf ystadegol gofalus, mae Chirag Vyas o Brifysgol Havard, a’i gydweithwyr, wedi dangos bod cymryd tabled aml-fitamin bob dydd yn gymorth i’r cof wrth inni heneiddio. Un arferiad hawdd a di-boen, felly, y medraf ei ymarfer bob dydd.
Pynciau: Ecsoblanedau, Obelisciaid, Gwella’r Cof
Cyfeiriadau
Ecsoblanedau: Caleb K. Harada, Courtney D. Dressing, Stephen R. Kane a Bahareh Adami Ardestani (2024) Setting the stage for the search for life with the Habitable Worlds Observatory: Properties of 164 promising planet survey targets. arχiv:2401.03047 [astro-ph.EP]
Obelisciaid: , ,, , ,
Gwella’r Cof: F. R. (Ruud) Van der Weel ac Audrey L. H. Van der Meer (2024) Handwriting but not typewriting leads to widespread brain connectivity: a high-density EEG study with implications for the classroom. Frontiers of Psychology. 14 (2023) doi.org/10.3389/fpsyg.2023.1219945
, , , ,
Chirag M Vyas, JoAnn E Manson, Howard D Sesso, Nancy R Cook, Pamela M Rist, Alison Weinberg, M Vinayaga Moorthy, Laura D Baker, Mark A Espeland, Lok-Kin Yeung, Adam M Brickman ac Olivia I Okereke (2024) Effect of multivitamin-mineral supplementation versus placebo on cognitive function: results from the clinic subcohort of the COcoa Supplement and Multivitamin Outcomes Study (COSMOS) randomized clinical trial and meta-analysis of 3 cognitive studies within COSMOS. American Journal of Clinical Nutrition 119 (3) 692-701
<olaf nesaf>
