Ers degawd bûm yn sganio casgliad enfawr o dafluniau fy nhad. Ymgais sicr-ffaeliedig i gadw mân ddelweddau’r gorffennol yn ddigidol at y dyfodol. Nid wyf eto wedi mentro gwneud yr un peth â’r pentyrrau Babelaidd o “albums” lluniau print fy mam – a’n rhai ni ! Braf, felly oedd gweld Megan, fy ngwraig, yn estyn un ohonynt dros y Nadolig er mwyn i’n merch yng nghyfraith gael gweld ei gŵr yn hogyn !
O brofiad personol, mae’r pleser sydd i’w gael o weld lluniau o’n hunain, ein teulu neu’n cyfeillion yn gyffredin i bob cefndir a diwylliant drwy’r byd. (Mae’r eithriadau yn ymwneud â pharchus ofn o’r pleser hwnnw, yn hytrach na diffyg diddordeb.) Mae’n syndod i mi fod rhwyddineb a chyffredinedd y dechnoleg yn ein cymdeithas Whatsapaidd heb bylu dim ar y chwilfrydedd. Ceir rhywfaint o’r esboniad am hyn mewn papur a ymddangosodd yn PNAS yr wythnos cyn y Nadolig. Mae’n ymddygiad greddfol ynom ers ymhell cyn dyfodiad y camera.
Bu Laura Lewis o Brifysgol Berkeley a’i chydweithwyr yn dangos lluniau’r teulu i bonobos a tsimpansïaid mewn sawl Sŵ yn Siapan, Gwlad Belg a Gwledydd Prydain. (Lluniau’r mwncïod, nid lluniau teuluoedd yr ymchwilwyr !) Yn yr arbrawf gwelodd yr anifeiliaid yn eu tro barau o luniau ar sgrin am 3 eiliad. Roedd un o bob pâr yn fwnci estron, ond roedd y llall yn llun o bonobo neu tsimpansî a oedd wedi bod yn gyfarwydd i’r gwyliwr o leiaf flwyddyn ynghynt. Gyda chamera tracio-llygaid ‘roedd modd olrhain sylw’r anifeiliaid. Roeddynt yn syllu ar y ddelwedd gyfarwydd am chwarter eiliad yn fwy nag ar yr un estron. Ac yn hwy na hynny ar ddelweddau anifeiliaid ‘roeddynt wedi cael perthynas bositif â nhw, yn ôl atgofion gweithwyr y Sŵ.
Ymatebodd un bonobo, a alwyd yn Louise, i luniau o’i chwaer Loretta a’i nai Erin nad oedd wedi’u gweld ers dros 26 mlynedd. (Mae’r primadau hyn yn byw am ryw 40-60 mlynedd.)
Mae’n debyg mai dyma’r atgof cymdeithasol hiraf i’w ganfod mewn anifail. Braf byddai dychmygu teulu o tsimpansïaid ar soffa adeg ‘dolig yn bodio drwy albymau’r teulu (wrth yfed eu PG-tips, wrth gwrs) !
Ymddygiad, felly, sydd wedi goroesi miliynau o flynyddoedd o esblygiad. Pur wahanol i’r hyn a welwyd ymysg tylwyth o fwncïod eraill ar ynys Koh Ped yng Ngwlad Thai a ddisgrifiwyd yn yr American Journal of Primatology ar ddiwedd Tachwedd.
Un o olygfeydd truenus wythnosau cyntaf y pandemig Covid oedd gweld yr heidiau o fwncïod llwglyd yn rhuthro’n wyllt ar hyd strydoedd dinasoedd de-ddwyrain Asia. Am ddegawdau ‘roedd yr anifeiliaid sanctaidd yma wedi ffynnu ar roddion hael yr holl dwristiaid. Dros nos, wrth i’r ymwelwyr peidio/ gilio, diflannodd eu cyflenwad bwyd. Anodd oedd i’r pentrefwyr lenwi’r bwlch a dechreuodd yr heidiau ymosod arnynt. Mewn o leiaf un lle, Lopburi, er mwyn ceisio cadw trefn dechreuodd yr awdurdodau hel a sterileiddio’r anifeiliaid.
Ond ar ynys Koh Ped, ger Pattaya, bu rhyfeddod bychan. Am y tro cyntaf erioed gwelwyd y macacod cynffon-hirion yno yn defnyddio arfau i gasglu bwyd – sef wystrys o’r traeth. Cyntefig oedd eu hymdrechion – taflu cerrig i falu’r cregyn – ond ‘roedd yn effeithiol. Trwy gyd-ddigwyddiad, ‘roedd gwyddonwyr eisioes wedi dangos diddordeb ynddynt. Yn 2018 aethpwyd ati i weld a oedd modd eu hyfforddi i ymddwyn fel eu cefndryd – macacod cynffon hir Burma. Dyma un o bum rhywogaeth o brimadau, gan gynnwys y tsimpansî a tair rhywogaeth capwtsin, a welwyd eisioes yn defnyddio arfau i hel bwyd. Methiant llwyr bu’r ymdrechion y pryd hwnnw. Ond eto profodd y ddwy flynedd o absenoldeb twristiaid yn ddigon o sbardun i gymell arloesi ar Koh Ped. Yn y papur mae dadansoddiad manwl o DNA a genynnau’r ddau fath o facac – sydd â lle arbennig o ddiddorol yn ein dealltwriaeth o sut mae ymddygiad o’r fath yn esblygu. Wrth drafod eu gwaith mae ei awduron yn tristau, braidd, wrth feddwl y bydd yr ymddygiad newydd rhyfeddol hwn yn debyg o ddiflannu – ac na fydd modd gweld sut y byddai’n datblygu – wrth i’r twristiaid ail ymddangos yn yr ardal. Y sŵolegwyr hyn fydd un o’r grwpiau hynny – heblaw am y rhai a wnaeth elw mawr ohono – a fydd yn gweld eisiau’r pandemig !
Dirgel ffyrdd esblygu sydd hefyd wrth wraidd ymchwil a thrafodaeth feddygol o bwys a ymddangosodd yn y cylchgrawn Brain ym mis Tachwedd. Clefyd Huntington yw sylfaen y gwaith. Papur gan Peter McColgan o Goleg y Brifysgol, Llundain a’i gydweithwyr yw cnawd yr ymchwil diweddaraf, ond trafodaeth gan Jordan L Schultz, Mohit Neema a Peg Nopoulos o Brifysgol Iowa sy’n archwilio oblygiadau esblygiad hyn.
Cyflwr etifeddol prin ond creulon yw clefyd Huntington. Ymddengys y symptomau cyntaf yn y 30au. Symudiadau afreolus ac yna dirywiad meddyliol sy’n arwain yn anochel at farwolaeth. Nid oes triniaeth. Un nodwedd o’r cyflwr, oherwydd eu hoedran, yw yn aml bydd gan y dioddefwyr blant. 50-50 yw’r tebygrwydd y byddant hwythau’n dilyn yr un trywydd yn eu tro.
Trwy ddefnyddio technegau bioleg foleciwlar, mae’n hysbys mai mwtaniad yng ngenyn y protein huntingtin sydd wrth wraidd y cyflwr. Y gred gyffredinol yw bod y protein mwtaniedig yn wenwynig i gelloedd yr ymennydd. Oherwydd hyn bu ymdrechion, aflwyddiannus hyd yma, i atal ei weithgaredd.
Ond mae sganiau ymennydd plant gyda’r mwtaniad yn datgelu ffactor arall. Y mae huntingtin yn chwarae rhan yn natblygiad yr ymennydd. Yn y groth ac yn ystod plentyndod mae’r ymennydd yn datblygu mewn modd y bydd yn ei wneud yn fwy tebygol o ddioddef o ddirywiad normal henaint.
Ond yn ystod plentyndod a llencyndod mae Nopoulos wedi dangos bod cynnydd sylweddol yn sgôr IQ yr unigolion hyn. Cefndir i hyn yw er bod ymchwil bellach wedi cadarnhau bod elfen etifeddol sylweddol i ddeallusrwydd (o leiaf lle bo sgôr IQ yn y cwestiwn), effaith nifer fawr o enynnau unigol, pob un ag effaith bychan iawn a ystyrir yn gyfrifol. Byddai’n syfrdanol petai un genyn â chymaint o ddylanwad ac sy’n ymddangos yn yr achlysur yma. Mae manylion y mwtaniad a’i effaith yn wahanol i fwtaniadau arferol – sy’n cymhlethu’r drafodaeth ymhellach.
Cyfeiriais at esblygiad wrth gyflwyno’r hanes hwn. Nid yw o bwys uniongyrchol i waith y meddyg – ond mae tîm Iowa yn codi’r cwestiwn ai oherwydd y fantais ymenyddol yn ystod cyfnod cenhedlu plant y mae’r mwtaniad angheuol wedi’i gynnal yn y boblogaeth ? Priodoledd holl bwysig deddfau Darwin, wedi’r cyfan, yw bod esblygiad yn dueddol o waredu’r boblogaeth o briodoleddau anfanteisiol.
Pynciau: Cofio’r Teulu, Offer Macac, Clefyd Huntington
Cyfeiriadau
Cofio’r Teulu: Laura S. Lewis, Erin G. Wessling, Fumihiro Kano, Jeroen M. G. Stevens, Josep Call a Christopher Krupenye (2023) Bonobos and chimpanzees remember familiar conspecifics for decades. PNAS 120 (52), e2304903120
Offer Macac: Raza Muhammad, Titiporn Kaikaew, Suchada Panjan, Suthirote Meesawat, Wipaporn Thabthimthong, Sunchai Payungporn, Jirawat Apipattarachaiwong, Sreetharan Kanthaswamy, Yuzuru Hamada, Lydia V. Luncz a Suchinda Malaivijitnond (2023) Influence of COVID-19 on the emergence of stone-tool use behavior in a population of common long-tailed macaques (Macaca fascicularis fascicularis) in Thailand. American Journal of Primatology 86, e23580.
Clefyd Huntington: Carlos Estevez-Fraga, Andre Altmann, Christopher S Parker, Rachael I Scahill, Beatrice Costa, Zhongbo Chen, Claudia Manzoni, Angeliki Zarkali, Alexandra Durr, Raymund A C Roos, Bernhard Landwehrmeyer, Blair R Leavitt, Geraint Rees, Sarah J Tabrizi a Peter McColgan (2023) Genetic topography and cortical cell loss in Huntington’s disease link development and neurodegeneration. Brain 146 (11), 4532–4546
Jordan L Schultz, Mohit Neema a Peg C Nopoulos (2023) Unravelling the role of huntingtin: from neurodevelopment to neurodegeneration. Brain 146 (11), 4408–4410
<olaf nesaf>
