Heb ei orffen
Un o bleserau mawr gyrfa ymchwil mewn gwyddoniaeth yw’r cyfleoedd diderfyn i gyfarfod a chydweithio â phobl o bob rhan o’r byd, ym mhob rhan o’r byd. Yn naturiol, bydd ein diddordeb ym manylion y wyddoniaeth yn ein huno’n llwyr – ond, efallai yn fwy difyr – bydd y gwahaniaethau yn ein cefndiroedd ac agweddau cymdeithasol yn dadlennu hyd yn oed mwy am gyflwr y byd.
Enghraifft o hyn i mi oedd prosiect oedd gennyf ym Mangor o 2005 hyd 2008 am sieliau chwalu tanciau wedi’u gwneud o Wraniwm wedi’i ddisbyddu (Depleted Uranium). Cyfraniad fy ngrŵp oedd dadansoddi manylion y modd yr oedd gwreiddiau planhigion yn y ddaear yn trin teilchion yr arfau (shrapnel) wedi iddynt gael eu defnyddio. Diolch i waith manwl fy nwy gydweithwraig cafwyd canlyniadau diddorol ac ymarferol sy’n ychwanegu at ein gwybodaeth am sut mae cnydau yn ennill mineralau eraill pwysig o’r pridd.
Ond i mi, roedd canfod cyd-destun y gwaith yn fwy diddorol byth. Treuliais oriau difyr yn sgwrsio ac yn gwrando ar wyddonwyr a thechnegwyr byddinoedd yr Unol Daleithiau a Phrydain. Heb sôn am ymweld â safle profi magnelau QinetiQ yn Eskmeals, Cymbria i gloddio am samplau. Yn anffodus, mae digwyddiadau’r mis neu ddau diwethaf wedi ailgynnau’r diddordeb hwnnw. Ganol mis Medi cyhoeddodd yr Unol Daleithiau eu bod yn anfon sieliau o’r math yma gyda’r tanciau M1A1 Abrams y maent, o’r diwedd, yn eu hanfon i’r Wcráin. Gwnaeth Gwledydd Prydain gyhoeddiad tebyg ar gyfer eu tanciau Challenger 2 yn ôl ym mis Mawrth.
Mae Wraniwm yn fetel “diddorol” iawn. Dyma’r elfen naturiol ag iddi’r atom drymaf, gyda’i hisotopau yn amrywio o 232 i 238 gwaith pwysau atom Hydrogen. (Cymharer haearn 54-58 a Charbon 12-14). Mae’n un o’r sylweddau dwysaf – pob centimetr ciwb yn pwyso 19.1 gram, tua 1.7 gwaith plwm. Mae ganddi doddbwynt cymharol isel – 1132°C (cymharer haearn – 1538°C). Mae’n llosgi. Mae’r priodoleddau hyn yn ei gwneud yn ddefnydd tra-effeithiol i wneud sieliau gwrth-arfbais. Y dwysedd uchel wrth daro’i tharged. Wrth adael ei gwn, a symud trwy’r awyr, mae’r metel yn meddalu – ac yn llifo’n hylif tanllyd drwy’r twll yn arfbais y gelyn nes cyrraedd criw’r tanc. Mae cynllun mathemategol cywrain blaen y siel yn gwneud iawn am ei feddalwch wrth dreiddio’r arfbais. Ar y cyfan maent 20% yn fwy effeithiol na’r sieliau Twngsten cyffredin. Un ffordd o amddiffyn yn eu herbyn yw defnyddio wraniwm yn ei dro yn rhan o arfbais y tanc.
Ond mae gan Wraniwm “hanes”. Ei brif ddefnydd yw fel tanwydd adweithyddion niwclear – Trawsfynydd a’r Wylfa yn eu plith. Mae gwreiddiau’r diwydiant hwnnw yn hanes datblygu bomiau atom yr ail ryfel byd; fel y dengys y ffilm Oppenheimer diweddar. Wrth buro’r isotop 235 priodol o’r mwyn Wraniwm, rhyddheir tomennydd o’r isotopau eraill (238 yn bennaf). Dyma’r Wraniwm “disbyddedig” (h.y. wedi’i disbyddu o Wraniwm 235). Mae tua miliwn tunnell ohono drwy’r byd. Fel metelau trymion eraill, plwm er enghraifft, mae’n wenwynig ac mae iddo’r un ymbelydredd â’r mwyn naturiol.
Ychydig iawn o ddefnydd sydd iddo, ac yn gyffredinol fe’i hystyrir yn wastraff cemegol. Daeth ei ddefnydd fel sieliau i’r amlwg yn ystod Rhyfel Kosovo, pan ddefnyddiwyd tua 10 tunnell o sieliau 30mm wedi’u tanio gan awyrennau A-10 yr Unol Daleithiau. Ers hynny, dim ond Gwledydd Prydain sydd wedi dilyn yr arfer, er mae’n debyg bod Rwsia, hefyd, wedi eu paratoi. Fe’u defnyddiwyd yn helaeth yn nwy ryfel Irac (tua 330 tunnell yn 1991), ac ychydig yn erbyn ISIS yn 2015.
Defnydd sieliau wraniwm yn Rhyfel y Balcan (1992-1999) arweiniodd at y drafodaeth ryngwladol amdanynt (ac i’r grantiau sylweddol, yr oeddwn yn rhan ohonynt ar ddechrau’r ganrif) sy’n para hyd heddiw. Ar un llaw gellir dadlau mai isel yw perygl uniongyrchol y gwenwyn a’r ymbelydredd i’r cyhoedd yn gyffredinol; un enghraifft arall o’r llygredd diwydiannol sy’n nodweddu’n hoes. (Dadleua’r Unol Daleithiau nad yw’r rheolau rhyfel yn erbyn arfau cemegol a niwclear yn berthnasol gan nad dyna’r rheswm dros eu defnyddio ar faes y gad.) Ond ar y llaw arall, mae hanes a phriodoleddau negyddol metel wraniwm yn hawdd ei ddefnyddio gan wleidyddion a sylwebyddion. Erys marc cwestiwn a bu wraniwm yn rhan o wraidd Syndrom Rhyfel y Gwlff. Aeth Gwlad Belg mor bell â gwahardd eu defnyddio, ond gwrthwynebodd Prydain a Ffrainc alwadau gan Senedd Ewrop i wneud yr un peth. Dros y ddegawd ddiwethaf tawelodd y drafodaeth. Ond mewn byd lle mae canfyddiad yn bwysicach na ffeithiau moel, hawdd dychmygu’r mater yn codi eto. Dydy gwasgaru “gwastraff gwenwynig y diwydiant niwclear”, beth bynnag ei berygl gwrthrychol, ar faes y gad ddim yn ymddangos yn bolisi i ennill y tir moesol uchel yn llygaid y byd.
Ni welwyd ffyrnigrwydd di-dor ymladd fel yn Wcráin ers yr Ail Ryfel Byd, a deallaf o adroddiadau’r BBC bod y ddwy ochr yn yr ymladd yn dioddef o ddiffyg cyflenwadau o sieliau. Hawdd gweld, felly, pam fod Prydain a’r Unol Daleithiau yn troi eu meddyliau unwaith eto at storfeydd yr arfau hyn. Yn eironig yn Chwefror 2022 adroddwyd bod Northrop Grumman, unig ffynonellau’r sieliau, yn rhoi’r gorau i’w cynhyrchu oherwydd yr hinsawdd wleidyddol yn eu herbyn.
Er gwaethaf fy mhrofiad personol, sylweddolais fy niniweidrwydd gwleidyddol yn y meysydd hyn wrth ddarllen llyfr diweddar yr academydd a darlledwr Cymraeg, Bleddyn Bowen; Original Sin, Power, Technology and war in Outer Space a gyhoeddwyd y llynedd. Nid disgrifiad Hollywood sydd yma, ond cyfrol awdurdodol ar wleidyddiaeth ein defnydd o’r gofod ers yr ail ryfel byd. (Mae’n cynnwys cryn dipyn o Gymraeg.) Efallai bod ei driniaeth o wledydd megis yr India ac Israel yn fwy o syndod na’r hanesion am ddirywiad poenus diweddar technoleg Rwsia. Os deallaf yn iawn y mae Bleddyn yn teimlo mai mater yw hi o pryd yn hytrach nag a fydd byddinoedd y byd yn troi at ryw ddefnydd o arfau niwclear.
Ond i orffen ar nodyn fymryn yn ysgafnach o bosib. Technoleg metel a gwleidyddiaeth oedd wrth wraidd erthygl yn History and Technology ym mis Mehefin. Mae Jenny Busltrode o Goleg y Brifysgol Llundain yn olrhain hanes y diwydiannwr a metelegydd Henry Cort. Yn y llyfrau hanes, Cort sy’n cael y clod am wella prosesau Abraham Darby (a gyflwynodd defnyddio glo yn lle coed fel ffynhonnell y golosg i buro haearn) i greu barau haearn da o fetel sgrap. Ar y gwelliannau hyn y manteisiodd Richard Crawshay a theulu Homfrey yng ngwaith Cyfarthfa, Merthyr. Mae Bulstrode yn dadlennu mai dwyn y syniadau a wnaeth Cort oddi wrth fetelegwyr croenddu yn Jamaica a oedd yn cyflenwi haearn ar gyfer y diwydiant siwgr. Oherwydd rheolau’r ymerodraeth, roedd y fath waith gan bobol ddu yn anghyfreithlon – gan ei bod hefyd yn ffynhonnell arfau i ymdrechion gwrth-gaethwasiaeth. Dygpwyd y syniadau a’r holl offer i waith Cort i wasanaethi’r llynges ym Portsmouth.
Mae Bulstrode yn ymhelaethu ar wreiddiau’r dechnoleg copr a haearn yn Affrica, gan gynnwys gweithiau celfydd Benin. Hyd yn ddiweddar mynnwyd mai ffug ac Ewropeaidd oeddynt gan na fuasai disgwyl i’r brodorion feddu ar y fath dechnoleg !
Ystrydeb yw dweud mai’r trechwyr sy’n ysgrifennu hanes. Rydym yn byw mewn cyfnod o ailasesu ambell drechwr yn ein hanes ni ein hunain. Gobeithio na fydd yn rhaid i’n disgynyddion ymddiheuro am yr hyn sy’n digwydd o’n hochr ni yn Wcráin heddiw.
Pynciau: Sieliau Wraniwm, Rhyfel Gofod, Metelegwyr Du
Cyfeiriadau
Sieliau Wraniwm: (Amryw) e.e. Dan Fahey (2001) The Final Word on Depleted Uranium. The Fletcher Forum of World Affairs 25, (2) 189-201
Rhyfel Gofod: Bleddyn Bowen (2023) Original Sin: Power, Technology, and War in Outer Space
Oxford University Press 256 tud. ISBN: 9780197677315
Metelegwyr Du: Jenny Bulstrode (2023) Black metallurgists and the making of the industrial revolution. History and Technology 39 (1) 1-41
<olaf nesaf>
