Barn 169 (Medi 2023): Gwyddoniaeth Eisteddfod Boduan

Tudalen heb ei orffen


Eleni ym Moduan, croesawyd pawb i’r lloc Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan Dafydd a Goliath. Ffergi bach llwyd oedd Dafydd a chawr-dractor coch a fyddai wedi medru hanner lenwi’r Pafiliwn Bach oedd Goliath. “Goleudy” hawdd ei weld o unman ar y Maes. Wn i ddim ai cyfraniad bwriadol i’r drafodaeth am sialensiau’r byd amaeth wrth wynebu Newid Hinsawdd oedd y ddeuawd. Ni welais esboniad o’r fath. Ond fe’m rhoddwyd yn yr ysbryd priodol wrth ymlwybro drwy’r Porth Cyfyng ar fore Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Cynhyrchu bwyd Cymru a chynaladwyedd hynny oedd thema’r dydd y diwrnod hwnnw. Gyda nifer o arbenigwyr yn cyfrannu i ymdriniaethau’r Sfferen –  llwyfan darlithoedd a sgyrsiau’r Pentre’ Gwyddoniaeth.

Unwaith eto eleni, roedd y lloc yn gyrchfan poblogaidd i’r plant a mêl i’m clustiau oedd clywed un fam ifanc yn dweud wrth ei dau – “iawn, cewch fynd unrhyw le, ond aros o fewn Gwyddoniaeth”. Yng nghanol y pentre’ roedd pabell ochrau-agored fawr a rhywbeth gwahanol yn digwydd bob tro y cerddais heibio. Llawr i’r LEGO un foment, sgwâr yn llond robotiaid bach (cynnyrch y peirianwyr ifainc) yn gwneud campau’r foment nesaf,  ffrwydradau byddarol Tony Thompson – ei farf ddu yn ehangu o flwyddyn i flwyddyn – yno i’w clywed o bob cwr. Yn y babell hon ‘roedd y stondinau yn isel a hygyrch i’r plant lleiaf.

O gwmpas y lloc, ac yn glawdd terfyn iddo, roedd y gadwyn o gabanau sy’n f’atgoffa bob blwyddyn o Farchnadoedd Nadolig yr Almaen (neu’r Ais yng Nghaerdydd). Ond yn lle Glühwein, Bratwurst a thlysau’r Ŵyl, roedd yno bob math o arddangosfeydd ymarferol i’r plant ac oedolion.  Trwy gydol yr wythnos – diolch i’r tywydd caredig – roedd clystyrau o blant eangfrydig yn aros eu tro yn amyneddgar ar hyd y lle. A’u rhieni y tu ôl iddynt, llawn mor frwd wrth gael esgus i weld y rhyfeddodau a’r dechnoleg ddiweddaraf.

Yn lle’r un babell “Lloeren” a gafwyd yn Nhregaron roedd ym Moduan gadwyn o wigwamiau’n cynnwys pob math o weithgareddau. Fore Gwener dysgais pa mor boblogaidd y bu Yoga@Maes. Pawb yn edrych yn hynod ystwyth a phroffesiynol wrth gyd-symud i lais yr arweinydd. Pur wahanol i fwrlwm gwallgo’ wigwam y peirianwyr gyda’r bythol wyrdd Gareth Cemlyn Jones yn arwain y gad. Hyd y gwelaf i, ei fwriad yw y bydd holl blant Cymru yn gwybod sut i gynhyrchu trydan pan ddaw’r angen arnynt !

Erbyn i mi gyrraedd y wigwam olaf ar ddiwedd yr wythnos, biocemeg (fy maes i) oedd wedi meddiannu’r lle. Ond drwy’r wythnos bu yno ystod eang o gyflwyniadau STEM a llu o eitemau yn manylu ar yrfaoedd i’r bobl ifainc.

Nid y Pentre’ Gwyddoniaeth yn unig oedd yn darparu’r fath arlwy. Ym mhabell y Coleg Cymraeg roedd hefyd gyfres o weithgareddau cyffelyb gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt.

Rhaid cyfaddef mai mynychu darlithoedd, ynghyd â sgwrsio â chyfeillion ar y Maes, yw prif nodwedd fy Eisteddfod i bob blwyddyn. A dyma fy nilema ! Buasai’n hawdd treulio’r holl wythnos y tu ôl i’r ddau dractor. Eleni, oherwydd darlithoedd eraill – a dyletswyddau pleserus “Taid” – collais nifer o’m hoff ddarlithwyr gwyddonol Cymraeg, sêr fy eisteddfodau; yn eu plith, y seryddwyr Gwenllïan Williams (arbenigwraig cylch bywyd y sêr mwyaf) a Geraint Jones (arbenigwr ar y planedau lleiaf) a’r ymgyrchydd Gareth Wyn Jones.

Ond braf oedd clywed lleisiau newydd (i mi, beth bynnag) – megis y genetegydd Dyfrig Hughes, Bangor, a draddododd y Brif Ddarlith Flynyddol am sut y defnyddir proffilio genynnau i osgoi sgil effeithiau meddyginiaethau megis codîn. Bydd pwysigrwydd hyn yn cynyddu’n fawr yn y dyfodol agos, a braf fydd dilyn gwaith yr Athro Hughes o flwyddyn i flwyddyn. Braf hefyd, ryw fore,  oedd gweld twr o staff ifanc Prifysgol Bangor ac MSParc yn cystadlu yn y Sfferen i ateb cwestiynau gan bwped blewog oren – un o gyfres i ddarganfod tîm mwyaf deallus Cymru !

Yn fwy traddodiadol oedd cyfres o gyflwyniadau am wyddonwyr y gorffennol. Bore Sul, bu’r Parchedig Harri Parri a’r Dr Harri Pritchard yn trafod Owen Griffith, Pencaerau. Hwn oedd yr olaf o feddygon y Ddafad Wyllt yn Llŷn. Er iddo farw yn ôl yn 1974, hynod oedd clywed tystiolaeth byw aelodau o’r gynulleidfa amdano. Yn fy nhro, ceisiais innau drannoeth gorlannu hanes ryw ugain o wyddonwyr Llŷn ac Eifionydd mewn cyflwyniad i Gymdeithas Bob Owen. Canolbwyntio ar y cemegydd o Borthmadog, John O. Williams (1942-2000), a’i ddylanwad sylweddol ar y diwydiant microelectroneg yng Nghymru, wnaeth Andrew Evans, Cadeirydd Y Pwyllgor Gwyddoniaeth Canolog a chydweithiwr i J.O.  Cafwyd hefyd gyflwyniadau am wyddonwyr y tu hwnt i’r Fro – megis Richard Price (dethlir 300 mlwyddiant ei eni eleni) a’r Actwari Griffith Davies (cyhoeddwyd bywgraffiad iddo gan Haydn Edwards yn gynharach eleni).

Aeth Douglas Jones, yn ddyfnach i hanes wrth ymhelaethu ar y trysorau gwyddonol sydd ym meddiant ein Llyfrgell Genedlaethol – gan gychwyn gyda’r Llyfr ar Seryddiaeth (Texts on Astronomy) o’r unfed ganrif ar ddeg. (Gwelaf, bellach, bod yr holl gyfrol hynod honno ar wefan ddigidol y Llyfrgell.) Gorffennodd gydag erthyglau clasurol Y Gwyddonydd o’r ganrif ddiwethaf.

Ddydd Llun yr Ŵyl, lansiwyd golygiad newydd o un o drysorau eraill y Llyfrgell, sef Geirfâu’r Fflyd (1632-1633) gan Ann Parry Owen. Dyma gasgliad o eiriau’r cartref, crefftau, amaeth a byd natur gan John Jones, Gellilyfdy. Fe’i hysgrifenwyd pan oedd yr awdur (Jones nid Owen !) yng ngharchar dyledwyr Fflyd yn Llundain.

Yr amryddawn Elinor Gwynn oedd yn cadeirio’r sesiwn honno. A hithau, hefyd, oedd yn fuddugol  yn un o gystadlaethau Adran Wyddoniaeth a Thechnoleg y Genedlaethol. Yn ei herthygl, sydd i’w gweld yn llawn (ac yn llawn lliw) yn y Cyfansoddiadau, mae’n olrhain hanes arwyddocaol Gardd Sgyrfi a ddarluniwyd gan Lewis Morris ar fap o Fae Dulas ym Môn. Llongyfarchiadau hefyd i John Michael Williams o West Cross am ennill ar yr Erthygl Gymraeg am yr ail dro ac i Ffion Jones, Rhydaman am ei gwaith arloesol wrth greu gêm i ennyn diddordeb plant ysgol gynradd mewn meddygaeth.

Yn Nhredegar Newydd, Cwm Rhymni, yr enynnwyd diddordeb enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni. Mae Alan Shore yn arbenigwr ym maes ffotoneg (laserau a’u defnydd mewn cyfathrebu) a bu’n weithgar yn hybu’r Gymraeg tra’n Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Ddysgedig Cymru a thrwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Am ryw reswm, yn wahanol i’r arfer, ni chyhoeddwyd enw Alan cyn diwrnod y seremoni. Peth rhyfedd yn fy marn i. Gan na chafwyd  manylion amdano yn y rhaglen, aeth ei lwyddiant i’r cysgodion ar y diwrnod yn sgil llwyddiant camp Bardd y Gadair.

Beth bynnag am hynny, diolch o galon i Tanya Jones, Bryn Hughes Parry a gweddill aelodau  Pwyllgorau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am eu  gwaith ardderchog. Gobeithio y cânt dawelwch wedi’r elwch.   Ond mae Cynon, Rhondda, Taf yn agoshau ! Fedra’i ddim aros ! 


Pwnc: Gwyddoniaeth Eisteddfod Boduan


Cyfeiriadau


<olaf nesaf>