Barn 168 (Haf 2023): Cadwraeth cigysyddion, Cyd-esblygiad, Pili-palaod, Salwch y bore

Tudalen heb ei orffen


Ym myd cystadleuol gwleidyddiaeth y dyddiau hyn, anodd yw gwahaniaethu rhwng cyfaill a gelyn yng nghoridorau’n Seneddau. Tebyg iawn yw bywyd rhai o anifeiliaid ysglyfaethus enwocaf yr Unol Daleithiau. Sôn yr wyf am y coyote (Canis latrans) a’r lincs (Lynx rufus) – nid Donald Trump (Homo sapiens) a Joe Biden.

Disgrifir dryswch yr anifeiliaid mewn papur yn Science ganol mis Mai gan Laura Prugh o brifysgol Washington, Seattle a’i chydweithwyr. Am y rhan fwyaf o’r 20 ganrif bu helwyr a ffermwyr y Gorllewin yn erlid bleiddiaid a phwmaod (cwgarod) y fforestydd. Diflannodd y blaidd yn llwyr a lleihaodd nifer y pwmaod yn fawr. Daeth tro ar fyd yn 1973 gyda Deddf Rhywogaethau dan Fygythiad yr UD. Erbyn 2008, roedd y blaidd wedi ailymddangos yn Nhalaith Washington a’r pwmaod wedi cynyddu’n sylweddol.

Canlyniad hyn oedd dawns macabre ecolegol rhwng yr ardaloedd cadwraeth, lle mae mesurau diogelu bywyd gwyllt mewn grym, a’r ardaloedd a reolir gan ddyn. Trwy osod coleri radio ar ryw gant a hanner o wahanol anifeiliaid ‘roedd modd dilyn y ddawns.

Ar y cyfan arhosodd y bleiddiaid a’r pwmaod yn y parthau cadwraeth – er mwyn osgoi dyn. Ond roedd hyn yn newyddion drwg i’r coyote a’r lincs. Mae bleiddiaid a phwmaod yn eu bwyta. Yr ymateb oedd iddynt ddechrau cilio i’r parthau o amgylch trigfannau pobol. “Tarian ddynol” yw’r term ecolegol a roddir i’r ffenomen hon. Mae mwy o ofn y blaidd a’r pwma ar y cigysyddion llai nag sydd arnynt o ddyn. Yn anffodus, dewis ffôl yw hwn, gan fod pobl yn lladd bron bedair gwaith mwy ohonynt na’r blaidd a’r pwma.

Prif wers yr ymchwil yw dangos pa mor gymhleth yn ecolegol – heb sôn am ymateb ffermwyr ac ati – yw’r ymgais i “ailwylltio”. Y ffaith amdani yw bod y dirwedd yn bur wahanol i’r un “naturiol” yr esblygodd cydberthynas yr anifeiliaid brodorol ynddynt. Mae gwarchod “natur” yn gymhleth !

Hefyd ym mis Mai, cyhoeddodd Chris Bauman o brifysgol Helsinki adolygiad o hanes anifeiliaid ac adar gwylltion sy’n manteisio’n uniongyrchol ar bresenoldeb dyn. Tan yn ddiweddar credwyd bod synanthropi, fel y’i gelwir, yn dyddio o’r Chwyldro Amaeth ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Hawdd gweld atyniad y pentyrrau ŷd a sbwriel newydd i lygod mawr a chreaduriaid tebyg. Heddiw mae sôn cynyddol am lwynogod dinasoedd – ond mae enwau megis aderyn y to a llygoden y tŷ yn profi bod hyn yn hen ffenomen. Ond ar dudalennau Archaeological and Anthropological Sciences mae Bauman yn dadlau i hyn gychwyn yn nyddiau’r helwyr-casglwyr, yn Ewrop o leiaf, ryw 42,000 o flynyddoedd yn ôl. Tua’r cyfnod hwnnw gwelir bod arlwy llwynogod a chigfrain yn newid i gynnwys llawer mwy o’r anifeiliaid yr oedd y newydd-ddyfodiaid yn eu hela wrth i ddyn modern gyrraedd ardaloedd megis de-orllewin yr Almaen a Czechia.  Roeddynt yn dilyn y carfannau hela. Dadleua Bauman, bod mantais i ddyn, hefyd yn hyn. Nid oedd y llwynogod a’r cigfrain yn fygythiad iddynt, ond ‘roeddent yn clirio’r gweddillion a fyddai wedi denu anifeiliaid peryglach – megis bleiddiaid ac eirth.

Efallai mai adlewyrchiad o’r gwerthfawrogiad hwn – a hwylustod eu dal – oedd defnydd pobl y cyfnod o ddannedd llwynogod a phlu cigfrain i addurno’u gwisgoedd. Anfantais bendant fyddai cynnydd yn y clefydau y gellir eu dal o’r “cyfeillion” newydd – y camau a arweiniodd yn y pen draw at ffliw a choronafirws.

O weld hoffter gloÿnnod byw o’m cnwd bresych bob haf, ‘rwy’n amau bod pryfed, hefyd wedi manteisio ar y Chwyldro Amaethyddol !  Diddorol, felly, oedd darllen am waith rhyfeddol Akito Kawahara o b Mae digon o luniau o fili balaod i’w gael, mae’n siŵr

rifysgol Florida (a rhyw 90 o gydweithwyr) ar hanes ymddangosiad gloÿnnod byw ar y ddaear. Yn Nature Ecology and Evolution, eto ganol mis Mai, ceir dadansoddiad 391 o enynnau 2300 rhywogaeth o loÿnnod. Ni laddwyd yr un creadur yn y gwaith gan mai o gasgliadau 28 amgueddfa y daeth y samplau. Ymestynna’u cynefinoedd dros 90 o wledydd – a chynrychiolwyd 92% o holl genera gloÿnnod y byd.

Trwy gart achau’r dilyniannau DNA, darganfuwyd i’r gloÿnnod ymddangos yn gyntaf tua 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl – yn y cyfnod Cretasaidd Cynnar – yng Ngogledd America. Dyma gyfnod y dinosoriaid mawr yno. Roedd hyn yn annisgwyl, gan mai yn Asia y mae’r amrywiaeth fwyaf erbyn heddiw. Roeddynt wedi tarddu o wyfynod y nos, wrth i blanhigion blodeuog ymddangos ac ymledu am y tro cyntaf. Dyma gychwyn y gyd-ddibyniaeth hynod rhwng blodau a pheillwyr, megis y gloÿnnod a gwenyn.

O Ogledd America, ymledodd y creaduriaid bach yn gyntaf i Dde’r Amerig ac yna i Awstralia, Asia ac India (a oedd yn ynys ar y pryd). Ymlwybrasant i’r Affrig cyn cyrraedd Ewrop tua 17 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn ogystal â’u hanes, croniclodd Kawahara a’i dîm y planhigion a fwyteir gan yr holl lindys. Mae’n debyg mai codlysiau (ffa) oedd eu hoff fwyd gyntaf. Bwyta codlysiau yn unig a wna dau draean ohonynt hyd heddiw. (Mae’r gweddill yn bwyta fy mresych i.)

Gobeithir y bydd yr holl wybodaeth yn gymorth i warchod bioamrywiaeth y creaduriaid hardd hyn.  Eisioes, dengys yr un astudiaeth hon bod 27% o genera’r gloÿnnod wedi’u camddosbarthu yn y gorffennol. Cam sylweddol ymlaen.

Cymysgedd o bleser a phen tost, felly, ym myd y gloÿnnod. Cymysgedd o bleser a phoen hefyd oedd testun erthygl ganol Mehefin ar wefan bioRχiv. O’r diwedd darganfuwyd gwreiddyn y salwch bore hwnnw sy’n fwrn neu’n felltith i gymaint o wragedd beichiog. Mae dau draean o ferched yn dioddef ohono i ryw raddau – yn bennaf yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd. Ond i un ym mhob hanner cant try’n gyflwr difrifol – hyperemesis gravidarum – sy’n ei gwneud hi’n amhosibl bwyta ac yfed mewn modd arferol.

Yn 1997 darganfu Stephen O’Rahilly o brifysgol Caergrawnt bod gan bob un ohonom hormon yn y gwaed sy’n cyflyru cyfogi a theimlad sâl. Mae’n debyg ei fod yn rhan o’r drefn sy’n ein harwain i osgoi bwyta pethau gwenwynig. Fe’i gelwir yn GDF15. Ym mhapur mis Mai, mae Marlena Fejzo, O’Rahilly a thîm sylweddol o gydweithwyr yn dadlennu ei gyswllt â salwch fore. Mae dwy agwedd i hyn. Yn gyntaf, cynydda lefel GDF15 merched wrth feichiogi. Daw hyn o’r ffetus. Mewn merched â hyperemesis gravidarum gwelir cynnydd uwch na’r cyffredin.

Yn ogystal â hyn gwelir bod lefelau GDF15 cyn beichiogi o bwys. Mae dioddef salwch yn gysylltiedig â lefelau isel arferol. Ymddengys bod GDF15 cyn beichiogi yn datsensiteiddio’r corff i’r hormon ychwanegol. Yr un broses, mae’n debyg sy’n lleihau’r cyflwr, fel arfer, ar ôl y tri mis cyntaf. Cryfhawyd yr esboniad hwn wrth ddangos bod merched sy’n dioddef o’r cyflwr etifeddol beta thalassaemia, sy’n cynyddu lefelau GDF15, yn annhebygol o ddatblygu hyperemesis gravidarum. (Mae’n debyg mai dyma, hefyd, yr esboniad pam fod merched sy’n ysmygu yn dioddef llai o’r salwch. Mae ysmygu yn cynyddu GDF15 yn y corff.)

Bellach mae sawl cwmni yn datblygu cyffuriau i leihau lefelau’r hormon mewn merched beichiog, ond efallai mai cynyddu GDF15 ychydig cyn beichiogi fyddai orau, gan osgoi holl broblemau cyflwyno cyffuriau pwerus yn ystod beichiogrwydd. Boed y naill ffordd neu’r llall, mae gobaith gwirioneddol o’r diwedd, ymdrin â’r cyflwr cyffredin hwn.


Pynciau: Cadwraeth cigysyddion, Pili-palaod, Salwch y bore


Cyfeiriadau

Cadwraeth cigysyddion: Laura R. Prugh , Calum X. Cunningham , Rebecca M. Windell , Brian N. Kertson , Taylor R. Ganz , Savanah L. Walker A Aaron J. Wirsing (2023) Fear of large carnivores amplifies human-caused mortality for mesopredators. Science 380 (6646), 754-758

Cyd-esblygiad: Chris Baumann (2023) The paleo-synanthropic niche: a first attempt to define animal’s adaptation to a human-made micro-environment in the Late Pleistocene. Archaeological and Anthropological Sciences 15 (5) Erthygl rhif 63

Pili-palaod: Akito Y. Kawahara, Caroline Storer, Ana Paula S. Carvalho, David M. Plotkin, Fabien L. Condamine, Mariana P. Braga, Emily A. Ellis, Ryan A. St Laurent, Xuankun Li, Vijay Barve, Liming Cai, Chandra Earl, Paul B. Frandsen, Hannah L. Owens, Wendy A. Valencia-Montoya, Kwaku Aduse-Poku, Emmanuel F. A. Toussaint, Kelly M. Dexter, Tenzing Doleck, Amanda Markee, Rebeccah Messcher, Y-Lan Nguyen, Jade Aster T. Badon, Hugo A. Benítez, Michael F. Braby, Perry A. C. Buenavente, Wei-Ping Chan, Steve C. Collins, Richard A. Rabideau Childers, Even Dankowicz, Rod Eastwood, Zdenek F. Fric, Riley J. Gott, Jason P. W. Hall, Winnie Hallwachs, Nate B. Hardy, Rachel L. Hawkins Sipe, Alan Heath, Jomar D. Hinolan, Nicholas T. Homziak, Yu-Feng Hsu, Yutaka Inayoshi, Micael G. A. Itliong, Daniel H. Janzen, Ian J. Kitching, Krushnamegh Kunte, Gerardo Lamas, Michael J. Landis, Elise A. Larsen, Torben B. Larsen, Jing V. Leong, Vladimir Lukhtanov, Crystal A. Maier, Jose I. Martinez, Dino J. Martins, Kiyoshi Maruyama, Sarah C. Maunsell, Nicolás Oliveira Mega, Alexander Monastyrskii, Ana B. B. Morais, Chris J. Müller, Mark Arcebal K. Naive, Gregory Nielsen, Pablo Sebastián Padrón, Djunijanti Peggie, Helena Piccoli Romanowski, Szabolcs Sáfián, Motoki Saito, Stefan Schröder, Vaughn Shirey, Doug Soltis, Pamela Soltis, Andrei Sourakov, Gerard Talavera, Roger Vila, Petr Vlasanek, Houshuai Wang, Andrew D. Warren, Keith R. Willmott, Masaya Yago, Walter Jetz, Marta A. Jarzyna, Jesse W. Breinholt, Marianne Espeland, Leslie Ries, Robert P. Guralnick, Naomi E. Pierce a David J. Lohman (2023) A global phylogeny of butterflies reveals their evolutionary history, ancestral hosts and biogeographic origins.  Nature Ecology & Evolution 7, 903–913
Salwch y bore: M Fejzo, N Rocha, I Cimino, SM Lockhart, C Petry, RG Kay, K Burling, P Barker, AL George, N Yasara, A Premawardhena, S Gong, E Cook, K Rainbow, DJ Withers, V Cortessis, PM Mullin, KW MacGibbon, E Jin, A Kam, A Campbell, O Polasek, G Tzoneva, FM Gribble, GSH Yeo, BYH Lam, V Saudek, IA Hughes, KK Ong, JRB Perry, A Sutton Cole, M Baumgarten, P Welsh, N Sattar, GCS Smith, DS Charnock Jones, AP Coll, CL Meek, S Mettananda, C Hayward, N Mancuso a S O’Rahilly (2023) Fetally-encoded GDF15 and maternal GDF15 sensitivity are major determinants of nausea and vomiting in human pregnancy. bioRχiv Mehefin 4


<olaf nesaf>