Barn 167 (Mehefin 2023): Pry i’r gannwyll, Sêr canibal, Bwydlen Sarracenia

Tudalen heb ei orffen


Pry’r Gannwyll, Gwyn Llewelyn, oedd un o’r nofelau Cymraeg cyntaf i gydio yn fy nychymyg. Hyd heddiw, daw i’r cof bob tro yr af ar hyd yr A470 rhwng Llanfair ym Muallt a Llyswen, lleoliad un o’i benodau mwyaf dramatig. Fe’m hatgoffwyd eto amdani wrth ddarllen adroddiad ar wefan bioRχiv ganol mis Ebrill. Teitl y papur yw “Pam fod pryfed yn casglu o gwmpas golau artiffisial”; gosodiad nid cwestiwn.

Mae Samuel Fabian o Goleg yr Ymerodraeth, Llundain, a’i gydweithwyr yn cynnig esboniad credadwy o ymddygiad sydd wedi diddori dynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd. Tynfa farwol pryfed tuag at fflamau a goleuadau artiffisial eraill. Bu sawl ymgais i wneud hyn dros y canrifoedd. Golau yn ymdebygu i ddihangfa trwy fwlch mewn dail. Camgymryd y golau am y lleuad – nod mordwyo naturiol. Atyniad cyrff cynnes. Eu llygaid sensitif yn drysu’r meddwl a’r ymddygiad yn y nos.

Ond ‘roedd dadleuon yn erbyn pob un o’r rhain. Paham y byddai pryfed y dydd yn hedfan tuag at “leuad” ? Byddai nifer o’r esboniadau yn darogan llwybr sbiral tuag at y golau – rhywbeth nas gwelwyd o gwbl.

Ar y llaw arall roedd yn hysbys ers degawdau bod nifer o bryfed a physgod yn defnyddio golau naturiol fel modd canfod pa gyfeiriad sydd i fyny. Dyma Adwaith Golau ar y Cefn. Ym myd natur oddi uchod y daw golau o hyd.  Trwy droi eu cefnau i gyfeiriad goleuni maent yn aros yn wastad.

Manteisiodd Fabian a’i griw ar ddatblygiadau diweddar ym myd y camera. Am y tro cyntaf, bu modd iddynt ffilmio’r ymddygiad yn fanwl a chyflym mewn tri dimensiwn gan ddefnyddio golau isgoch – sy’n anweledig i’r creaduriaid. Mae eu canlyniadau yn llwyr gefnogi rôl yr adwaith. Nid oes atyniad i’r golau, ond pan oedd y pryfed, ar hap, yn hedfan uwchben ffynhonnell goleuni, roeddent yn tueddu i droi ar eu cefnau a syrthio o’r herwydd. Os deuent o dan y golau, roedd tuedd i neud lŵp – ac felly “stolio” megis awyren anaddas yn ceisio gwneud yr un peth. Fel arfer roedd llwybrau’r pryfed yn sgwâr i gyfeiriad y golau – nid tuag ato. Bu tuedd, felly, iddynt ddilyn cylchdro o’i amgylch. Yr holl syrthio a stolio direol o amgylch golau sy’n rhoi’r argraff i wyliwr bod y pryfed yn fwriadol heidio tuag ato.

Nid ydym ni ein hunain yn rhydd o adweithio’n reddfol i gyfeiriad goleuni. Gellir gweld hyn wrth edrych ar lun o wyneb y lleuad ar dudalen neu sgrin. Rhaid bod cyfeiriad goleuo’r lleuad oddi uchod – o’i gyflwyno ben i waered mae pob crater yn troi, i’n hymennydd ni, yn swigen. Cymerwn yn reddfol, fel y pryfed a’r pysgod,  bod rhaid i oleuni ddod oddi uchod.

Yn sicr oddi uchod daw goleuni pâr o sêr a ddisgrifir gan Matthew Rickard a Daniel Pauli ar dudalennau Astronomy & Atrophysics yn fuan.  Yn ôl adroddiad rhag blaen yn y New Scientist, defnyddiodd y ddau ddata a gasglwyd gan ddeg arsyllfa ledled y byd dros y ddegawd ddiwethaf. SSN 7 yw’r enw a roddir ar y pâr, sy’n rhan o alaeth Cwmwl Bychan Magellan, ryw 200,000 blwyddyn goleuni i ffwrdd ohonom. Mae’r sêr unigol yn anferth. Un 32 gwaith, a’r llall 55 gwaith maint yr haul. Y peth rhyfeddol yw eu bod yn troelli o amgylch ei gilydd bob tri diwrnod. Maent yn cyffwrdd – y sêr mwyaf i wneud hynny a ddarganfuwyd hyd yma.

Mae disgyrchiant y fwyaf o’r ddwy yn caniatáu iddi sugno defnydd o’r lleiaf mewn rhyw fath o ganibaliaeth chwaer ! Ond daw dial ! Mewn tua 800,000 o flynyddoedd bydd y seren leiaf yn dymchwel a chrebachu’n dwll du, y tu hwnt i grafangau disgyrchiant ei chwaer. Am rai miliynau o flynyddoedd bydd heddwch rhyngddynt. Ond, wrth heneiddio, tynged y chwaer fawr fydd dechrau chwyddo gan alluogi’r twll du i’w bwyta hithau – megis Candy Floss yn Ffair Llan. Yn ei thro, troi’n dwll du arall fydd ei hanes. Yna ymhen biliynau o flynyddoedd bydd y ddau dwll du yn uno mewn ffrwydrad cosmig.

Ffrwydradau o’r fath sy’n gyfrifol am y tonnau disgyrchol a ganfuwyd yn ddiweddar – gan beri cyfeirio at y cosmos yn canu fel cloch. Bydd yr arsylliadau diweddaraf yn rhan o’r eglurhad am y modd y ffurfia parau o dyllau duon yn y lle cyntaf.

Ond hanes arall yn y wasg wyddonol am fwyta sy’n dod â ni at un o’r planhigion mwyaf defnyddiol sydd gennyf yn fy nghartref.  Wrth i’r gwanwyn droi’n haf, ac wrth i John Penybryn droi ei wartheg i’r caeau o amgylch ein tŷ, bydd fwy o bryfed duon (clêr) yn dod i mewn. Ers blynyddoedd cawsom ein gwarchod yn llwyddiannus gan bâr o botiau mawr yn llawn Sarracenia – planhigion cigysol yn wreiddiol o Ogledd America. Byddant yn brysur o hyn allan yn denu, dal a bwyta’r holl glêr sy’n mentro i’r tŷ. Erbyn yr hydref byddant megis selsig tewion llawn manus sgerbydau’r pryfed.

I ddenu eu prae mae’r planhigion yn taenu persawr i’r awyr. Ar wefan PLoS ganol Ebrill cyhoeddodd Laurence Gaume ym Mhrifysgol Montpellier yn ne Ffrainc a’i chydweithwyr astudiaeth o natur y persawr hwnnw. Fel y bydd dyn neu ddynes yn dethol a dewis, mae’n debyg bod y blodyn yn amrywio cynnwys yr arogl yn ôl ei ffansi. Trwy gyferbynnu’r cyrff beunyddiol â’r persawr o ddydd i ddydd, canfuwyd bod newidiadau. O bryd i’w gilydd, roedd nodau ffrwyth a blodau – monoterpinau a bensenoidiau – a ddenai bryfed peillio; gyda modd dethol gwenyn, cacwn, gwyfynod neu glêr. Ar adegau eraill nodau asidau brasterog ddenai forgrug i’r arlwy. Nid ar hap, felly, y mae’r Sarracenia yn hela ond o bosib ymateb y mae i negeseuon o’i “stumog”.

Mae’n debyg nad yw hyn ond rhan o’r gydberthynas gywrain rhwng planhigion cigysol o’r fath a’u prae a’r pryfed peillio sy’n angenrheidiol iddynt hwy hefyd.

Roedd y Rhufeiniad yn defnyddio lampau i ddal a gwaredu pryfed – ar ôl 2000 o flynyddoedd rydym yn dechrau deall sut. Gobeithio y byddwn yn dod i ddeall ychydig yn gynt sut mae planhigion yn mynd ati.


Pynciau: Pry i’r gannwyll, Sêr canibal, Bwydlen Sarracenia


Cyfeiriadau

Pry i’r gannwyll: Samuel T Fabian, Yash Sondhi, Pablo Allen, Jamie Theobald a Huai-Ti Lin (2023) Why flying insects gather at artificial light. bioRχiv Ebrill 12

Sêr canibal: M. J. Rickard a D. Pauli (2023) A low-metallicity massive contact binary undergoing slow Case A mass transfer: A detailed spectroscopic and orbital analysis of SSN 7 in NGC 346 in the SMC⋆ . Astronomy & Atrophysics 674, Erthygl rhif A56

Bwydlen Sarracenia: Corentin Dupont, Bruno Buatois , Jean-Marie Bessiere , Claire Villemant , Tom Hattermann , Doris Gomez a Laurence Gaume (2023) Volatile organic compounds influence prey composition in Sarracenia carnivorous plants. Plos One https://doi.org/10.1371/journal.pone.0277603 Ebrill 19


<olaf nesaf>