Barn 166 (Mai 2023): Cocrotsien, Pysgod-ffermwyr, Beethoven

Tudalen heb ei orffen


Rai degawdau yn ôl, clywais gan fy nghyfaill Owen Jones (Twm Trapiau) am ddawn ryfeddol y gocrotsien i orchfygu trapiau (ar ben ei dawn i oroesi rhyfel niwclear). Mae’n debyg bod y pryfed dyfeisgar hyn yn creu cryn drafferth i dafarnwyr yn eu selerydd.  Dyfeisiwyd trap priodol a oedd yn lladd y creadur wrth iddo gamu ar blât foltedd uchel tra’n ymestyn am abwyd. Yn fuan iawn dysgodd yr anifail i ddefnyddio pigyn ar ei droed, nad oedd yn dargludo trydan, fel sawdl “stileto” i groesi yn ddianaf. Bu Twm yn aelod o dîm a gynlluniodd ateb trwy beidio â chynnau’r plât tan i’r gocrotsien gamu arno. Patentiwyd hwn a’i werthu am gyfnod yn yr Unol Daleithiau. Ond bu ei gost yn ormod iddo fod yn llwyddiant mawr.

Fe’m hatgoffwyd am hyn wrth ddarllen erthygl yn Proceedings of the Roy Soc B ddiwedd Mawrth, gan Ayako Wada-Katsumata o Brifysgol Talaith Gogledd Carolina. Oherwydd defnydd eang o’r siwgr glwcos mewn abwyd gwenwynig mae Cocrotsien yr Almaen (Blattella germanica) wedi dechrau esblygu atgasedd at y siwgr hwn. Yn naturiol, mae hyn o fantais i’r hil. Ond bu sgil effaith. Fel rhan o’i strategaeth i ddenu cymar, mae’r gwryw yn gosod siwgrau, megis maltos, fel danteithion ar ei gefn. Fel arfer, bydd y fenyw yn dringo ar ei gefn i’w brofi fel cam gyntaf i’r broses o gyplu. Ond wrth fwyta’r maltos, mae poer y fenyw yn ei droi’n glwcos. I’r benywod sydd wedi esblygu atgasedd at glwcos – ac felly osgoi’r trapiau gwenwynig – wnaiff hyn byth mo’r tro. Maent yn neidio’n syth oddi ar gefn eu sbonar rhwystredig ac yn chwilio am gymar mwy esblygiedig.

Yn awr, mae Ayako Wada-Katsumata a’i thîm wedi canfod esblygiad arall yn y ddrama. Mae’r gwrywod yn defnyddio siwgrau eraill yn lle maltos yn eu hatyniad carwriaethol melys. (Maent hefyd yn rhoi llai o amser i’r fenyw fwyta’r danteithion, ac felly, greu glwcos yn ei phoer, cyn symud ymlaen â’r gwaith mewn llaw.)  Un peth sy’n diddori’r gwyddonwyr yw sylwi bod y tri ymddygiad yma (atgasedd at glwcos, newid atyniad a chyflymu’r broses o gyplu) wedi esblygu yn annibynnol ar ei gilydd. Daeth y newid yn yr atyniad a’r cyflymu yn ymateb i ddiffyg llwyddiant y gwrywod (boed yn hoff neu gas ganddynt glwcos) gyda’r benywod esblygiedig.

Disgrifiwyd enghraifft arall o gydberthynas anifeiliaid – y tro hwn anifeiliaid pur wahanol i’w gilydd – yn Plos One ddechrau mis Mawrth. Ac nid mewn tywyllwch selerydd cwrw, ond ar lechweddau heulog cwrel y Môr Tawel.

Wrth asesu un o effeithiau enwocaf cynhesu’r moroedd yn sgil newid hinsawdd anthropogenig, bu Randi Honeycutt a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Califfornia Santa Barbara yn astudio riff cwrel ynys Moorea yn Ne’r Môr Tawel. Symbiosis rhwng algae microsgopig a’r anifeiliaid bach sy’n ffurfio’r sgerbydau hardd yw’r tyfiant cwrel eiconig. Ond o’u cynhesu y mae’r algae yn gadael y berthynas, a’r anifeiliaid yn colli’u ffynhonnell bwyd (a’u lliw) ac yn marw. Mae rhai yn darogan y bydd y rhan fwyaf o riffau cwrel y byd yn diflannu yn y degawdau nesaf o’r herwydd. Yn 2019 y bu’r cynhesu gwaethaf ers pedair blynedd ar ddeg yn Moorea a bu farw rhan helaeth o’r cwrel.

Ond mewn stori, a fyddai’n codi calonnau’r rhai sy’n trafod dyfodol cynaliadwy’r diwydiant ffermio yng Nghymru, gwelwyd bod ffermwyr lleol wedi chwarae rhan yn adferiad y cwrel ers 2019. Ffermwyr pysgod. Nid ffermwyr sy’n cadw pysgod – ond ffermwyr sydd yn bysgod ! Yn 1985 disgrifiwyd y Ffarmwr-bysgodyn Gwibddu (Stegastes nigricans) am y tro cyntaf. Mae’n un o’r myrdd pysgod gysylltir â riffiau cwrel. Mae’n greadur tiriogaethol iawn sy’n cynnal a gwarchod meysydd gwymon coch yn fwyd iddo ymysg y cwrel. Fel pob ffarmwr da, nid oes ganddo amynedd â thresmaswyr ac y mae’n herlid yn ffyrnig.

Nid yw presenoldeb y ffermwyr yn arbed y cwrel rhag gwynnu, ond roedd bron â dyblu’r tebygolrwydd y byddai’r cwrel yn atgyfodi ac adfywio (o 32% i 56%).  Nid ydynt eto’n sicr – ond mae’r tîm o Santa Barbara yn cynnig dau esboniad. Efallai mai’r nitrogen yn nhrwyth (wrin) y pysgod sy’n cynnal y cwrel – ond efallai bod cadw’r pysgod sy’n pori ar y cwrel draw ynddo’i hun yn ddigon i roi cyfle gwell iddynt oroesi a phrifio.

Wrth gwrs, bydd angen mwy o dystiolaeth i brofi, ac efallai i fanteisio, ar y wybodaeth hon. Yn union fel y bu yn hanes un o gerddorion enwoca’r Gorllewin. Ers blynyddoedd deallem mai plwm yn ei waed oedd un rheswm tebygol am fyddardod a marwolaeth Ludwig van Beethoven. Dysgais yn wahanol wrth ddarllen Current Biology ar ddiwedd Mawrth. Mae Tristan James Alexander Begg (enw nid anaddas ynddo’i hun) a dim llai na 32 o gyd-awduron, wedi gwneud gwaith arwrol wrth ddadansoddi DNA wyth o’r dwsinau o samplau honedig o wallt y cyfansoddwr ledled y byd. Awgryma’r dadansoddi bod pump o’r rhain yn samplau dilys. Ond profwyd mai o wallt merch o dras Iddewig Ashkenazi, y daeth y dystiolaeth flaenorol am blwm yn y gwaed.

Bu farw Beethoven yn 1827 yn 56 oed. Darganfuwyd ar y pryd bod ganddo niwed sylweddol i’w afu. Gwyddys iddo ddioddef poenau stumog a pherfedd trwy gydol ei oes. Dengys y dystiolaeth newydd bod ganddo gyflwr etifeddol na fyddai o bwys i’r rhan fwyaf – ond a fyddai’n niweidio afu un a yfai gryn dipyn o alcohol. Mae’r papur yn manylu ar y dystiolaeth mai dyma’r gwir yn achos y cyfansoddwr. O’r sampl gorau o wallt, a gymerwyd mae’n debyg tua diwedd ei oes, daw tystiolaeth ei fod, erbyn hynny, yn dioddef o hepatitis B, sydd hefyd yn niweidio’r afu.

Mae rhan sylweddol o’r gwaith yn ymwneud â chadarnhau dilysrwydd y pum sampl. Fel rhan o hyn darganfuwyd y bu o leiaf un gyfathrach tu hwnt i briodas yn llinach Beethoven rhwng genedigaeth Hendrik van Beethoven (tua 1572) a Ludwig (1770). Rhybudd amserol i bawb sy’n derbyn cit dadansoddi DNA yn anrheg pen-blwydd !

Yn anffodus, nid oedd modd gweld unrhyw dystiolaeth am darddiad y byddardod.


Pynciau: Cocrotsien, Pysgod-ffermwyr, Beethoven


Cyfeiriadau

Cocrotsien: Ayako Wada-Katsumata, Eduardo Hatano a Coby Schal (2023) Gustatory polymorphism mediates a new adaptive courtship strategy. Proc. Roy Soc B 290 (1995)  29 Mawrth 

Pysgod-ffermwyr: Farmerfish gardens help buffer stony corals against marine heat waves. 
Randi N. Honeycutt, Sally J. Holbrook, Andrew J. Brooks, Russell J. Schmitt (2023)  Plos One https://doi.org/10.1371/journal.pone.0282572 Mawrth 8

Beethoven: Tristan James Alexander Begg, Axel Schmidt, Arthur Kocher, Maarten H.D. Larmuseau, Göran Runfeldt, Paul Andrew Maier, John D. Wilson, Rodrigo Barquera, Carlo Maj, András Szolek, Michael Sager, Stephen Clayton, Alexander Peltzer, Ruoyun Hui, Julia Ronge, Ella Reiter, Cäcilia Freund, Marta Burri, Franziska Aron, Anthi Tiliakou, Joanna Osborn, Doron M. Behar, Malte Boecker, Guido Brandt, Isabelle Cleynen, Christian Strassburg, Kay Prüfer, Denise Kühnert, William Rhea Meredith, Markus M. Nöthen, Robert David Attenborough, Toomas Kivisild a Johannes Krause (2023)  Genomic analyses of hair from Ludwig van Beethoven. Current Biology 33 (8) 1431-1447  Ebrill 24


<olaf nesaf>