Barn 126 (Haf 2019): Masnach mycorhisa, Cost a Llygredd Cyffuriau


19th_Century_advertisement_for_Beecham's_PillsCyfaddedodd sawl gwleidydd ei bechodau yn ddiweddar. Nid wyf yn wleidydd, ond fel un sy’n honni bod yn sosialydd, teimlaf ei bod yn rhaid imi gyfaddef fy mod yn berchen ar gyfranddaliadau yn y Farchnad Stoc. Mae’n stori hir sy’n cychwyn gyda’m taid yn buddsoddi yn Beechams Pills cyn yr ail ryfel byd. Etifeddwyd y rhain gan fy mam a minnau yn ein tro. Wrth gwrs, mae cryn newid wedi bod yn y portffolio, ond bu gennym “arian yn Beechams“ yn ddi-dor tan i’m brocer diwethaf eu gwerthu mewn camgymeriad ryw ddwy flynedd yn ôl. Roeddwn wedi cymryd yn ganiataol mai “gwendid” y natur ddynol oedd chwarae’r farchnad. Fe’m calonogwyd, felly, wrth ddarllen erthygl yn Current Biology mis Mehefin bod gan gaws llyffant yr un gwendid.

I fod yn fanwl gywir, dosbarth o ffwng o’r enw mycorhisa arbwsciwl oedd gwrthrych astudiaeth Toby Kiers a’i dîm ym Mhrifysgol Amsterdam. Rhwydwaith anweledig tanddaearol yw’r mycorhisa, a’u perthynas symbiotig â gwreiddiau yn hanfodol i’r rhan fwyaf o holl blanhigion y byd – gan gynnwys cnydau hollbwysig megis gwenith a reis. Eu cryfder yw eu bod yn effeithiol iawn yn tynnu mineralau, megis ffosffad, o’r pridd. O bosib y cyflenwad ffosffad, anad dim arall, sy’n cyfyngu ar faint o dyfiant planhigion sydd ar y ddaear. Felly, holl bwysig yw’r ffaith bod y mycorhisa yn trosglwyddo y rhan helaeth o’r ffosffad i’w gwreiddiau. Ond nid am ddim ! Rhaid talu amdano, a’r tâl yw siwgr. Cynhyrchir hwn yn nail y planhigion trwy ffotosynthesis – proses amhosibl i’r ffwng tanddaearol. Gyda’r holl drafodaeth am Fasnach Rydd ar hyn o bryd, difyr yw darllen Kiers yn dadlau mai perthynas mycorhisa â’r gwreiddiau yw’r Bartneriaeth Masnach ehanga’r byd. Nid syndod, felly, yw ei ddarganfyddiad mai’r un yw rheolau’r farchnad yna. Mae modd i’r ffwng synhwyro’r gwreiddiau sydd â mwy o angen ffosfforws arnynt – ac sy’n “fodlon” talu mwy amdano. O ganlyniad mae’r ffwng yn trosglwyddo’r mineral gryn bellter trwy ei rwydwaith; o’r llecynnau lle mae llawer ohono i ardaloedd lle mae iddo fwy o “werth” ac yn ei storio yno. (Dyma f’atgoffa o allforio cregyn gleision y Fenai i fordydd cyfoethog Wlad Belg.) Yr un broses a welir yn y Gyfnewidfa Stoc.

Am a wn i, ni fu neb farw erioed o ddiffyg cregyn gleision. Mater arall yw hi i deuluoedd plant sy’n dioddef o ffibrosis cystig a’r diffyg triniaeth i’r cyflwr. Ond yr un rheolau marchnad sy’n rheoli.   Wrth bori trwy’r wasg wyddonol y mis diwethaf fe’m trawyd gan sawl hanesyn perthnasol.  Yn gyntaf hanes yn y New Scientist am brotest y teuluoedd dros gost y cyffur Orkambi ar gyfer ffibrosis cystig. Yn 2016 cyflwynodd cwmni Vertex y driniaeth hon. Teg dweud mai dadleuol yw ei heffeithiolrwydd ym mhob achlysur. Oherwydd hyn, ac oherwydd y gost o £104,000 y flwyddyn ar gyfer pob claf, nid yw’r corff sy’n rheoli’r hyn a gyflenwir trwy’r Gwasanaeth Iechyd (yn Lloegr), NICE, wedi’i gymeradwyo. Wrth gwrs, nid yw’n costio Vertex £104,000 yn uniongyrchol am bob dogn, ond yn ôl rheolau’r fasnach sy’n bodoli dyma’r pris. Mae cwmni arall, Gador, yn cynhyrchu’r un cyffur yn yr Ariannin ac, oherwydd gwahanol drefniadau trwyddedu, fe’i gwerthir yno am tua £23,000 y flwyddyn. Dadleua’r teuluoedd a’u cefnogwyr yn y wlad hon y dylai llywodraethau’r DU ddefnyddio proses gyfreithiol, prin ei defnydd o’r enw Trwydded Defnydd y Goron, i osgoi patent Vertex a phrynu’r cyffur o’r Ariannin ar gyfer y GIG. Ym mis Mehefin cyhoeddodd Seema Kennedy, Gweinidog Iechyd Cyhoeddus San Steffan y byddai’n ystyried y mater – ond nad oedd defnyddio’r broses hon yn rhywbeth i’w wneud yn ysgafn.  Dewis arall iddi (ac mae’n debyg i’n Cynulliad ni, lle nad oes eto drafod wedi bod ar y mater) yw cynnal “prawf” clinigol  ar raddfa eang ffurfiol o’r cyffur – heb gynnwys unrhyw “control” (sef rhoi’r cyffur rhatach i bawb).

Dadl Vertex, a gweddill y sector fferyllol, yw ei bod yn costio biliynau iddynt dros 20 mlynedd i ddod â’r cyffur i’r farchnad. Wn i ddim am Vertex, ond mae’r biliynau cyfatebol a fuddsoddir gan weddill y diwydiant fferyllol yn cynrychioli canran sylweddol o’r buddsoddiad technegol yng Ngwledydd Prydain. Yn wir, y diwydiant fferyllol yw un o’r ychydig ddiwydiannau cynhyrchu mawr sydd ar ôl yma.  Dilema’r llywodraeth yw y byddai osgoi’r rheolau patent yn arwain at golli’r diwydiannau hyn (ynghyd â’u trethi a’u gweithlu) i wledydd eraill sydd yn dal at y rheolau.

Yr un wythnos â chyhoeddiad Seema Kennedy, bu adroddiad yn y Washington Post am sefyllfa bresennol yr ymdrech i ddod o hyd i driniaeth i glefyd Alzheimer. Byrdwn yr erthygl oedd bod gan gwmni Pfizer dystiolaeth bod triniaeth sydd eisoes wedi’i thrwyddedu ar gyfer arthritis yn lleihau risg datblygu’r dementia. Nid yw Pfizer yn bwriadu ymchwilio i hyn. Dadl ei beirniaid yw mai’r rheswm am hynny yw bod patent y cyffur arthritis ar fin dod i ben. Er bod Pfizer yn gwadu hyn, gan ddweud nad ynddynt wedi’i argyhoeddi gan y data, anodd meddwl na fyddai sefyllfa’r patent yn ystyriaeth.

Tebyg iawn yw’r diffyg buddsoddi mewn antibiotigion newydd, er gwaethaf y sicrwydd ein bod yn wynebu diwedd eu heffeithiolrwydd dros y degawdau nesaf oherwydd ymwrthiant iddynt mewn microbau.  Rhan o’r broblem yw bod antibiotigion rhad o hyd yn gwneud y tro, ar y cyfan. Does dim elfen o broffid sylweddol gan fod eu patentau wedi darfod ac fe’u cynhyrchir yn rhad mewn gwledydd megis India a Tsieina. Ond mae’r pris sydd i’w dalu am hyn yn destun erthygl gan Alice Bomboy a Lise Barnéoud, hefyd yn New Scientist mis Mai. Bu’r ddau yn ymweld ag ardal Medak, i’r gogledd o Hyderabad yr India. Mae’r ardal yn datblygu i fod yn ganolfan diwydiant fferyllol i’r India ac yn un o ffynonellau cyffuriau meddygol rhad y byd, gyda 150 o gwmnïau eisoes yno.  Ers 2007 mae Joakim Larsson o Brifysgol Gothenburg yn Sweden wedi ymchwilio i allyriadau’r ffatrïoedd hyn. Dros y ddeng mlynedd diwethaf cyhoeddodd gyfres o erthyglau yn disgrifio’r lefelau uchel o antibiotigion yn llynnoedd ac afonydd yr ardal. Yn un o’r cyntaf darganfu bod lefelau un antibiotig, ciprofloxacin, yn allyriad y safle prosesu dŵr lleol yn 1000 waith mwy nag a oedd ei angen i ladd ei facteria targed – a bod digon ohono yn allyriadau’r safle pob dydd i drin poblogaeth cyfan dinas o 45,000 o bobl. Awgryma’r gwaith a wnaed bod hyn yr arwain at lefelau uchel o ymwrthiant mewn bacteria yno a all, yn eu tro, fudo yn gyflym i bedwar ban byd. Yn ôl Bomboy a Barnéoud, bu adroddiad diweddar yn dangos fod 90% o ymwelwyr â’r India wedi cyrraedd adref â bacteria ag ymwrthiant i sawl antibiotig (multidrug-resistant) yn swfenîr o’u taith.  Nid yw’n ofynnol i’r Labordy Iechyd Cyhoeddus lleol Medak fesur y lefelau hyn – ac nid oes ganddynt yr adnoddau i wneud hynny. Ond yn ôl yr awduron ni ddylai hyn fod yn syndod gan nad oes angen gwneud hynny yn Ewrop ychwaith (lle y gwyddom bod cwestiwn i ofyn am lefelau antibiotigion a chyffuriau eraill yng ngharthion pobl sy’n eu defnyddio heb sôn am ddiwydiant, yn ôl Larsson) – oherwydd lobio gan y diwydiant.

Yn ddiweddar mi symudais fy nghyfranddaliadau at frocer a oedd yn caniatáu buddsoddi moesol. Tybed os oes y ffasiwn beth yn bodoli ? Dwi’n beio’r ffwng !


Pynciau: Masnach mycorhisa, Cost a Llygredd Cyffuriau


Cyfeiriadau

Masnach mycorhisa
Matthew D. Whiteside, Gijsbert D.A. Werner, Victor E.A. Caldas, Anouk van’t Padje, Simon E. Dupin, Bram Elbers, Milenka Bakker, Gregory A.K. Wyatt, Malin Klein, Mark A. Hink, Marten Postma, Bapu Vaitla, Ronald Noë, Thomas S. Shimizu, Stuart A. West a E. Toby Kiers (2019) Mycorrhizal Fungi Respond to Resource Inequality by Moving Phosphorus from Rich to Poor Patches across Networks. Current Biology  29 (12) tud 2043-2050

Cost Cyffuriau
Clare Wilson (2019) A generic drug from Argentina offers cystic fibrosis families hope. New Scientist Mehefin 7ed

Llygredd Cyffuriau
Alice Bomboy and Lise Barnéoud (2019) How antibiotic resistance is driven by pharmaceutical pollution. New Scientist Mai 22ain


<olaf  nesaf>