Barn 117 (Medi 2018): Bara, Offer Carreg, Cimychiaid newydd


Mewn cynhadledd ym Mangor rai blynyddoedd yn ôl, roedd gwyddonwraig o un o gwmnïau bwyd mwyaf Ewrop yn disgrifio sut yr oeddent wedi bod, ers blynyddoedd, yn ceisio gwella safon ddietegol ei gynnyrch. Roeddent wedi ceisio hyrwyddo eu prydau parod a byrbrydau ar sail tystiolaeth ymchwil a gwyddoniaeth. Hyn oll yn ofer. Roeddent, felly, wedi troi at y dacteg o farchnata’r un bwyd fel yr hyn yr oedd ein cyndeidiau oes y cerrig yn ei fwyta – y Paleo Diet. Bu’n llwyddiant mawr. Tystiolaeth o hyn oedd imi weld snac Paleo ymhlith y temtasiynau eraill wrth ddesg talu fy hoff siop ddisgownt ym Mangor yr wythnos ddiwethaf. Gydag wyneb nid annhebyg i Oglas o gyfres Y Gogs, yn harddu’r pecyn. Y gwir yw, mae’n debyg, er ein bod yn weddol sicr beth nad oedd ein cyndadau paleolithig yn ei fwyta (gormodedd o siwgr a halen, er enghraifft) prin yw’n gwybodaeth am union gynnwys eu bwydlenni. Mae’r cwmni bwyd, felly, yn weddol ddiogel rhag y Trades Discriptions Act, ac os yw’r ystryw yn gymorth i wella iechyd – rwyf yn bendant o’i blaid. Ond fe gafwyd cipolwg ar gynnwys go iawn arlwy ein cyndadau mewn cloddfa archeolegol yng Ngwlad yr Iorddonen yn ddiweddar. Gellir gweld y resipi ar dudalennau PNAS mis Gorffennaf. Wrth gloddio yng Ngogledd-ddwyrain y wlad daeth Amala Arraz-Otaegui, a’i thîm o Brifysgol Copenhagen, o hyd i gannoedd o friwsion bwyd wedi’u llosgi ger dwy aelwyd 14,400 o flynyddoedd oed. Roedd y llosgi wedi cadw’r darnau rhag pydru. Tra roedd Cymru o hyd ym mherfeddion yr Oes Ia olaf, roedd trigolion hela-gasglu (hunter gatherers) y rhan hon o’r Dwyrain Canol yn dechrau newid eu ffordd grwydrol o fyw – er y bu rhaid iddynt aros pedair mil o flynyddoedd cyn cychwyn amaethu. A dyna arwyddocâd y briwsion. O’u dadansoddi, gwelwyd mai olion haidd gwyllt, gwenith einkorn (nid oedd gwenith modern yn bodoli ar y pryd) a cheirch – ynghyd ag amryw glorod (tubers) oeddynt. Dadleua’r archeolegwyr nad oes amheuaeth mai o ryw fath o fara croyw wedi’i bobi ar gerrig poeth o amgylch yr aelwydydd y daeth y briwsion. Dyma’r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf o’i bath. Roedd, hefyd, ddigon o olion cigoedd – felly nid llysieuwyr oedd y bobl hyn. Er y dystiolaeth, mae’n debyg na ddaeth bwyta bara yn gyffredin tan gyfnod o newid hinsawdd a ddaeth ar ddiwedd Oes y Cerrig. Bryd hynny, daeth ydau gwyllt yn gyffredin – digwyddiad a allasai fod wedi arwain at ddatblygiad amaethyddiaeth. Byth ers hynny mae bara wedi bod ar y fwydlen.

Roedd Oes y Cerrig wedi cychwyn ymysg dynion a gwragedd o leiaf 2.6 miliwn o flynyddoedd ynghynt. Daw’r dystiolaeth gyntaf o ddefnyddio offer carreg ymysg olion Australopithecus Dwyrain Affrica. Cymharol brin yw’r arferiad ymysg anifeiliaid a physgod, ond mae un primat arall newydd wedi ymuno â’r clwb dethol. Yn bioRχiv mis Mehefin mae Brendan Barrett o Athrofa Max Planck Radolfzell, yn disgrifio lluniau trap camera o fwncïod Capuchin (Cebus capucinus imitator) ar ynys Jicarón, Panama, yn agor cnau coco, crancod a malwod trwy eu taro â cherrig. Yn ogystal â dyn, yr unig brimadau eraill i wneud hyn yw’r Tsimpansî, Macac Gwlad Thai a chwpl o rywogaethau eraill o’r Capuchin. Yr hyn sy’n hynod y tro hwn yw mai dim ond gwrywod o un rhan o’r ynys fechan sy’n gwneud hyn. Nid yw’r arfer ymysg eu cymdogion. Wrth ddyfalu, un esboniad posibl yn ôl Barrett yw bod un unigolyn deallus wedi taro’n lled ddiweddar ar y syniad. Cychwyn Oes y Cerrig ei rywogaeth! Mae hyn yn f’atgoffa o’r olygfa enwog ar gychwyn ffilm Stanley Kubrick, 2001: A Space Odyssey (a ddathlodd ei ben-blwydd 50 mewn gwŷl ym Mangor yn ddiweddar) a hefyd stori hynod Tegla DaviesYr Epaddyn Rhyfedd, a gyhoeddwyd yn 1934.

Roedd hanes arall a gyhoeddwyd ar yr un adeg yn bioRχiv, hefyd yn f’atgoffa o hanes Ffuglen Gwyddoniaeth – neu o leiaf am y Ninja Mutant Turtles, lle ymddangosodd arwyr yr hanesion ar ôl i berchennog crwbanod anwes ddiflasu arnyn nhw a’u harllwys i lawr toiled. Tyfodd a ffynnodd y mwtantiaid dychmygol yng ngharthffosydd Efrog Newydd. Mae’r hyn y mae Günter Vogt o Brifysgol Heidelberg yn ei ddisgrifio llawn mor rhyfedd – ac yn wir. Ers blynyddoedd mae Cimychiaid Afon wedi’u mewnforio i Ewrop o Fflorida fel anifeiliaid anwes. Rywbryd cyn 1995, yn ystod eu taith i siop yn yr Almaen, mae’n debyg i wres neu oerfel ymyrryd ag un fenyw mewn cyflenwad. Rhoddodd enedigaeth i’r cyntaf o lu o clôns a ddihangodd i afonydd a llynnoedd nid yn unig Gyfandir Ewrop, ond hefyd Japan a Madagascar. Fel clôn – nid oes angen gwrywod ac mae pob cenhedlaeth yn magu o leiaf bum gwaith mwy o epil na’r Cimychiaid gwreiddiol o Fflorida. Maent hefyd yn goddef ystod ehangach o gynefinoedd (hyd yn oed dŵr oer Sweden) – sy’n eu galluogi i ymestyn eu tiriogaeth yn sylweddol. Hefyd, y maent o leiaf ddwywaith maint eu cyndadau. (Breuddwyd misadristaidd ynddo’i hun !) Fe’u bedyddiwyd yn Gimychiaid Afon Cleision (Marbled) ac y maent ar gerdded. Mae gan fiolegwyr sy’n ymchwilio datblygiad, gan gynnwys cancr, gryn ddiddordeb ynddynt ac yn gynharach eleni cyhoeddwyd eu dilyniant DNA. Camp Vogt yn ei bapur yn bioRχiv, yw profi eu bod yn rhywogaeth newydd sbon – yn ôl diffiniad rhywogaethau – yn hytrach nag amrywiaeth o rywogaeth eu mam. (Mae ganddynt dri chopi o’r genom, o’u cymharu â’r ddau wreiddiol.) Mae’r enw, Procambarus virginalis, yn adrodd cyfrolau am eu tarddiad. Mater o amser, mae’n debyg, yw cyn y dônt i Gymru. Ar hyn o bryd maent ar fin cyrraedd afonydd y Rhein a’r Donau. (Yn ogystal â’u mewnlifiad “naturiol”, mae’r diwydiant anifeiliaid anwes yn effeithiol iawn yn eu rhannu o amgylch y byd.)

Gyda mwncïod yn dysgu defnyddio arfau, a chimychiaid yn dysgu gwneud heb wrywod. Pa mor hir fydd hi cyn y byddant yn pobi eu bara eu hunain ? A minnau’n meddwl mai Brexit a newid hinsawdd oedd y sialensiau mwyaf !


Pynciau: Bara, Offer Carreg, Cimychiaid newydd


Cyfeiriadau

Bara
Archaeobotanical evidence reveals the origins of bread 14,400 years ago in northeastern Jordan. Amaia Arranz-Otaegui, Lara Gonzalez Carretero, Monica N. Ramsey, Dorian Q. Fuller, and Tobias Richter. PNAS, Gorffennaf 16, (2018) 201801071

Offer Carreg
Habitual stone-tool aided extractive foraging in white-faced capuchins, Cebus capucinus. Brendan J. Barrett, Claudio M. Monteza-Moreno, Tamara Dogandžić, Nicolas Zwyns, Alicia Ibañez, Margaret C. Crofoot. bioRχiv Mehefin 20, (2018) 351619.

Cimychiaid newydd
In-depth investigation of the species problem and taxonomic status of marbled crayfish, the first asexual decapod crustacean. Günter Vogt, Nathan J. Dorn, Michael Pfeiffer, Chris Lukhaup, Bronwyn W. Williams, Ralf Schulz, Anne Schrimpf. bioRχiv Gorffennaf 4, (2018) 356170

(Sylw am gyfeiriadau bioRχiv: Gwefan yw hon sy’n cyhoeddi papurau nad sydd eto wedi’u hadolygu gan ganolwyr. Os dymunir cyfeirio atynt, rhaid sylweddoli nad ydynt eto yn rhan o’r llenyddiaeth “peer-review“.)


<olaf  nesaf>