Barn 116 (Hâf 2018): Llanw a thrai, Amonia, Deintyddion pryderus


Newid hinsawdd oherwydd defnydd dynoliaeth o danwydd ffosil yw un o brif sialensiau gwleidyddol a thechnolegol ein hoes. Yng Nghymru ‘rydym yn arbennig o ymwybodol o gymhlethdod yr ymryson wrth ddilyn troeon hanesion atomfa’r Wylfa Newydd a morlyn Abertawe. Y ddau yn cynnig lleihau allyriadau carbon deuocsid. Y ddau yn destun dadlau brwd gwleidyddol a thechnolegol. Ond nid hap a damwain oedd mai Bae Abertawe a ddenodd gynllun egni môr. Yn aber yr Hafren ceir llanw a thrai gyda’r uchaf a grymusaf yn y byd. Cofiaf Mr Ivor Jones yn fy nysgu yn yr ysgol mai Bae Ffwndi, Canada, sydd â’r llanw uchaf  – 38.4 troedfedd (ar gyfartaledd drwy’r flwyddyn); ond bod yr Hafren yn ail dda (Avonmouth – 31.5, Casnewydd – 30.3 a Chaerdydd 28.1 troedfedd; yn ôl Asiantaeth Genedlaethol Môr ac Awyr yr Unol Daleithiau). Ar y gorllanw, gall fod gymaint â 50 troedfedd. Wrth imi ysgrifennu, daeth y newydd fod llywodraeth Prydain yn cefnu ar gynllun y morlyn gan ddweud ei fod yr rhy gostus. Dyna, hefyd, oedd barn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, er ei fod yn cefnogi’r cynllun yn wreiddiol.

Nid oes amser i’w golli wrth ymateb i newid yr hinsawdd – ond mae papur yn Geophysical Research Letters gan Mattias Green a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Mangor yn dadlennu bod gan Alun Cairns ryw 10 miliwn o flynyddoedd cyn fydd rhaid iddo boeni am golli’r llanw uchel yn Abertawe. Mae Green a’i dîm wedi cyfrifo ymddygiad trai a llanw holl foroedd y byd am y 250 miliwn o flynyddoedd nesaf. Isaac Newton, yn ei gampwaith Principia,  oedd y cyntaf i egluro sut y mae’r lleuad yn bennaf gyfrifol am y llanw – wrth i’w disgyrchiant dynnu wyneb y môr sy’n ei hwynebu tuag ati a, hefyd, dynnu’r ddaear i ffwrdd o’r môr sydd ar yr ochr bellaf. O ganlyniad mae dau ymchwydd, y naill ochr a’r llall o’r ddaear yn “symud” o gwmpas y byd wrth iddo droi. Gan fod y lleuad hefyd yn cylchdroi’r ddaear, cymer 24 awr a 50 munud i bob ymchwydd amgylchynu’r blaned. O ganlyniad mae amser pob llanw yn hwyrach o 50 munud bob diwrnod, ac oriau gwaith casglwyr cocos a bara lawr yn bur anghymdeithasol ! Er nad yw’r cyfandiroedd yn dylanwadu’n sylfaenol ar yr amseriad, mae eu presenoldeb yn effeithio ar faint pob llanw a thrai. Mae’r llanw ar lan cefnfor, megis yr Hafren ar lan yr Iwerydd,  ar ei fwyaf pan fo lled y cefnfor yn cyfateb i luosrif cilyddol lled yr ymchwydd. (Nid yn annhebyg i sut mae tant offeryn, neu bibell organ yn cyseinio i ffracsiynau ei donfedd naturiol. Wythfedau cerddorol.) Ar hyn o bryd mae hyn yn wir am yr Iwerydd – a’i lanw gymaint â theirgwaith yn gryfach na’r cyfartaledd dros hanes y ddaear. Ar yr un pryd, mae llanw glannau’r Môr Tawel yn gymharol wan.  Wrth i’r Iwerydd ddal i dyfu dros y 5 i 10 miliwn o flynyddoedd nesaf, fe fydd y cyseiniad yma’n dal i gynyddu – megis pan fo cerddor yn tiwnio tant. Ond o hynny ymlaen fe fydd y cefnfor yn tyfu “allan o diwn” a’r llanw yn gwanhau. Mewn tua 50 miliwn o flynyddoedd fe fydd y Môr Tawel yn mynd trwy’r un broses – a’r Iwerydd unwaith eto, mewn 150 miliwn o flynyddoedd, wrth iddo gulhau drachefn fel rhan o ddawns dectonig cyfandiroedd y byd. Awgryma Green, nad yw’r patrwm daearegol hwn heb ei ddylanwad ar hynt creaduriaid y môr, ac y gall fod wedi bod yn gyfrifol am eu difodiant ar raddfa eang wrth i lefel ocsigen y môr ddisgyn heb gynnwrf y llanwau mawr i’w sugno i’r dŵr.

Gan aros â’r elfen honno, mae safon dyfroedd croyw ein planed o bwys mawr i bob un ohonom. Ers canrif a mwy mae amaethyddiaeth a diwydiant wedi arllwys cemegau annymunol i’n hafonydd. Un dosbarth ohonynt yw’r gwrteithiau artiffisial sy’n cynnwys nitrogen. Mae nitrogen yn anhepgor i fywyd – gan gynnwys y cnydau yr ydym yn eu bwyta. Ond mae gormod ohono yn y dŵr yn creu pob math o broblemau i’n hiechyd ac i’r amgylchedd. Prin iawn yw’r mwynau sy’n ei gynnwys, a hyd at 1910 dibynnodd amaethyddiaeth ar ailgylchu nitrogen ar ffurf carthion. Naill a’i rhai gwyllt, cyfyngedig – megis guano – neu rhai amaethyddol – tail. Hyd yn oed yn 1910, a phoblogaeth y byd yn oddeutu 1,800 miliwn, deallwyd na fyddai modd cynnal dynoliaeth heb ffynhonnell arall o’r nitrogen hanfodol. Yn y flwyddyn honno, llwyddodd Fritz Häber (gwyddonydd hynod ddiddorol a dadleuol) gyda chymorth Carl Bosch greu amonia o nwy nitrogen (cyffredin ond diwerth) yr awyr. Bellach cynhyrchir 450 miliwn tunnell o wrtaith nitrogen yn flynyddol – rhan fawr o’r rheswm pam fod poblogaeth y byd, bellach dros 7,000 miliwn ac yn codi. Dyma un o wyrthiau’r ugeinfed ganrif, er, yn y byd datblygedig, mae effeithiau negyddol gorddefnydd ohono bellach yn ddigon hysbys. Ond, mae iddo agwedd ddrwg arall, llai cyfarwydd. Mae “Proses Häber” yn drachwantus am egni, yn mynnu tymheredd uchel (500 gradd canradd) a gwasgedd uchel (250 atmosffer). Ar hyn o bryd, mae’n defnyddio 2 y cant o holl gynnyrch egni’r byd – ac yn gyfrifol am 1 y cant o allyriadau carbon deuocsid dynoliaeth. Ar ôl nifer helaeth o geisiadau aflwyddiannus, o’r diwedd efallai bod achubiaeth ar y gorwel. Yn Nature Communications mae Xiaofeng Feng a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Ganol Fflorida, wedi disgrifio modd o ddefnyddio catalydd platinwm i alluogi defnyddio egni trydan i gyfuno dŵr a nitrogen o’r awyr heb eu cynhesu a’u cywasgu. Ar hyn o bryd, yr un yw’r sefyllfa â sefyllfa Häber yn 1909, ar fainc y labordy yn unig y mae modd gwneud hyn. Ond mae Feng yn ffyddiog y bydd modd trosi’r broses i raddfa fawr. Datblygiad hanesyddol – cyhyd ag y medrwn gynhyrchu trydan heb losgi tanwydd ffosil.

Meddyliais am dechnoleg newydd yn disodli hen dechnoleg wrth i’m deintydd gwych yn Llanfairpwll ail osod llenwad dant imi yn ddiweddar. (Pam, o pam, na fedraf ddysgu peidio cnoi taffi triog ?!) O bosib y myfyrdod hwnnw a dynnodd fy sylw’n llwyr o’r broses anghyffyrddus oedd yn digwydd yn fy ngheg. Efallai y dylai pawb sy’n tueddu i fod yn ofnus yng nghadair y deintydd wneud rhywbeth tebyg. Oherwydd nid y claf yn unig sy’n dioddef. Mewn papur yn y cylchgrawn Chemical Senses yn ddiweddar, mae Valentina Parma o Drieste yn profi fod deintyddion yn clywed arogl ofn a bod hyn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol iddynt wneud camgymeriadau. Yn ei arbrofion gosodwyd crysau-t ar y modelau a ddefnyddir wrth hyfforddi darpar ddeintyddion. Roedd y crysau wedi’u gwisgo eisoes – hanner ohonynt mewn sefyllfa o straen a’r hanner arall gan bobl fodlon. Nid oedd y myfyrwyr yn gallu synhwyro’r gwahaniaeth rhwng y crysau – ond fe gafwyd cynnydd sylweddol mewn damweiniau wrth drin y modelau oedd yn gwisgo’r crysau “ofnus”. Heb yn wybod iddynt, roedd y myfyrwyr yn synhwyro’r ofn.

Dros yr haf mwynhewch y trai a’r llanw ar lan y môr – rydym yn byw mewn cyfnod breintiedig, a myfyriwch am hynny yn ddwys os oes yn rhaid ichwi ymweld â’r deintydd. Ond fy mhrif gyngor, yw ichwi beidio â chnoi losin, da-da neu fferins wrth fwynhau’r tymor.


Pynciau: Llanw a thrai, Amonia, Deintyddion pryderus


Cyfeiriadau

Llanw a thrai
Is There a Tectonically Driven Supertidal Cycle? J. A. M. Green, J. L. Molloy, H. S. Davies a J. C. Duarte. Geophysical Research Letters 45 (8), 3568-3576 (2018)

Amonia
Ambient ammonia synthesis via palladium-catalyzed electrohydrogenation of dinitrogen at low overpotential. Jun Wang, Liang Yu, Lin Hu, Gang Chen, Hongliang Xin a Xiaofeng Feng. Nature Communications 9, Erthygl rhif: 1795 (2018)

Deintyddion pryderus

Smelling Anxiety Chemosignals Impairs Clinical Performance of Dental Students. Preet Bano Singh, Alix Young, Synnøve Lind, Marie Cathinka Leegaard, Alessandra Capuozzo a Valentina Parma. Chemical Senses  43 (6), 411–417 (2018)  (Adroddiad am ddim: New Scientist)


<olaf  nesaf>