Dosbarthiadau tiwtorial ! Rhaid cyfaddef imi eu mwynhau’n fawr tra’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Fe geisiais eu gwneud mor ddiddorol a buddiol ag y medrwn yn ystod fy ngyrfa wedyn. Mae un sesiwn a gefais ryw 15 mlynedd yn ôl yn aros yn arbennig yn y cof. Mewn moment “ryddfrydol” ‘roeddwn wedi cynnig i’r dosbarth bychan ddewis lled-agored. Pan gyhoeddodd un cymeriad mai testun ei drafodaeth a’i draethawd fyddai trydyllu’r corff (body-piercing) a thatwio doeddwn i ddim yn obeithiol. Ond ar y diwrnod fe ddaeth â’i geriach ac arhosodd y rheiny a’i ddisgrifiadau yn y cof – yn bleserus – byth ers hynny. Chwarae teg iddo, fe gynhwysodd adwaith imiwnolegol y corff yn ei baratoadau ond prif fyrdwn y drafodaeth oedd pa mor gyffredin fu harddu o’r fath dros y milenia – a phaham. Byddai wedi gwerthfawrogi rhifyn diweddaraf y Journal of Archaeological Science, lle disgrifia Renée Friedman a’i thîm o Brifysgol Rhydychen fel y darganfuwyd tatŵau darluniol hynaf y byd ar freichiau mymïod gŵr a gwraig 5000 oed o’r Aifft. Mae’r arferiad yn ôl mewn ffasiwn i ferched a dynion fel ei gilydd a cheir arddangosfa amrywiol ar ein meysydd chwarae bob dydd Sadwrn. Rhaid cyfaddef fe newidiodd y tiwtorial fy rhagfarn i yn llwyr. (Er rhaid cyfaddef na ddes i fyth i arfer yn llwyr â myfyrwyr a phinnau trwy eu tafodau.) Fe’m hatgoffwyd o’r dosbarth hwnnw gan erthygl yn y Journal of Experimental Medicine mis Mawrth. Bu grŵp o ddim llai na 14 gwyddonydd ym Mhrifysgol Marseille yn astudio’r hyn sy’n digwydd i datŵ (ond nid tato !) dros amser yn y croen.
Un nodwedd enwog o’u heiddo yw eu bod yn barhaol. (Rhywbeth a fu’n gryn embaras i sawl un a newidiodd ei gariad dros y blynyddoedd.) Pam felly ? Wedi’r cyfan, mae arwyneb y croen yn treulio ac yn adnewyddu o hyd. Camp gwyddonwyr Marseille oedd dangos mai un math arbennig o gelloedd gwynion y gwaed sy’n byw yn haen ganol (dermis) y croen sy’n gyfrifol am hyn. Swyddogaeth y celloedd hyn yw amddiffyn y corff trwy fwyta a threulio microbau a baw sy’n ceisio croesi’r croen. (Trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig cyn y Nadolig bûm yn feirniad ar gystadleuaeth goginio yn Ysgol Tryfan, Bangor. Yr ymgais a gipiodd y wobr oedd model gwych a bwytadwy o dair haen cnawd wedi’u gwneud o “spwnj” a siwgr-eisin.) Pan ddaw’r celloedd o hyd i ronynnau pigment, maent yn eu hamlyncu’n awchus. Yn anffodus, yn wahanol i’r microbau, nid oes modd treulio’r gronynnau ocsidau haearn a halwynau metelau sy’n cyfansoddi’r pigment ac nid ydynt ychwaith yn symud o’r fan. Felly, erys y patrwm yn ei unfan yn y celloedd hyn. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gelloedd gwyn y gwaed, sy’n marw o fewn ychydig ddyddiau, mae’r rhain yn goroesi am fisoedd a mwy. Ond yn y diwedd marw a dadfeilio yw eu hanes – gan ryddhau’r gronynnau pigment – yn barod i’w hamlyncu’n syth gan gelloedd gwynion newydd. Cenhedlaeth ar ôl genhedlaeth ohonynt, felly, sy’n cynnal campwaith yr artist tatw. Gobaith awduron y gwaith ymchwil yw y bydd modd cynllunio technegau tynnu tatŵ o’r wybodaeth newydd hon. Ond efallai y byddai mwy o elw o’u symud – a’r celloedd a fu unwaith yn “Emma” yn troi’n “Enlli”.
Llygod, gan gynnwys rhai “GM”, oedd gwrthrychau’r “arbrofion tatŵ”. Llygod, hefyd, a ddefnyddiwyd mewn ymchwil diweddar i driniaethau strôc mewn pobl. Ceir strôc pan na fydd rhan o’r ymennydd yn cael cyflenwad ocsigen – fel arfer trwy ymyrraeth â’r cyflenwad gwaed. Heb ocsigen bydd y celloedd yn marw. Yn wahanol i rannau eraill o’r corff, araf iawn yw’r ymennydd i dyfu celloedd newydd ac araf ac anghyson yw gwella o strôc. Un ffordd o wella fyddai ad-drefnu cysylltiadau celloedd cyfagos sydd wedi goroesi i lenwi’r bwlch. Yn y cylchgrawn Science Translational Medicine, mae Jin-Moo Lee a’i dîm o St Louis, Missouri, wedi dangos modd o gyflymu’r broses hon, o leiaf mewn llygod. Mewn arbrawf, gwnaethpwyd niwed bwriadol i’r rhan o’r ymennydd sy’n ymwneud â theimlad ym mhawen dde’r anifeiliaid. Collwyd y defnydd o’r bawen. Gyda hanner yr anifeiliaid eilliwyd, hefyd, eu hwisgeri. Mae’r blew yma yn bwysig i synhwyrau’r llygod, ac mae sawl rhan o’r ymennydd yn derbyn gwybodaeth ganddynt. Yn ystod yr wythnosau a gymerodd i’r blew aildyfu, ‘roedd y rhannau hyn o’r ymennydd yn segur. Ond yn lle gwneud dim, aeth yr ymennydd ati i ad-drefnu’r celloedd “wisger” i adweithio i negeseuon o’r bawen ddiffrwyth. Ar ôl pum wythnos ‘roedd y llygod yma wedi llwyr adfer y defnydd o’r bawen, gyda’r celloedd yn medru ymateb i’r blew ac i’r bawen. Ond er gwella rywfaint ni adferwyd defnydd llawn pawennau’r anifeiliaid hynny nas torrwyd eu hwisgeri.
Cafwyd cipolwg dwys a dirdynnol o farwolaeth yr un math o gelloedd mewn papur yn yr Annals of Neurology ym mis Chwefror am waith y Dr Jens Dreier a’i gydweithwyr. Gyda chydweithrediad llwyr eu teuluoedd, recordiwyd munudau olaf y celloedd hyn gyda micro-electrodau mewn wyth person wrth iddynt farw. (Roedd yr electrodau wedi’u gosod yn gynharach fel rhan o’r ymgais i achub eu bywydau.) Ers y 1940au bu’n hysbys bod ton o dawelwch yn ysgubo ar draws ymennydd sydd wedi’i niweidio a’i ocsigen yn prinhau. Yn awr, am y tro cyntaf mesurwyd hyn mewn pobl. Funud neu ddwy ar ôl y niwed (er enghraifft, wrth ddiffodd offer cynnal bywyd), bydd y celloedd yn diffodd eu gweithgareddau uwch er mwyn defnyddio’r ychydig egni fydd ganddynt ar ôl i gynnal bywyd y gell ei hun. Bydd hyn yn eu galluogi i oroesi am funud neu ddwy ymhellach – yn y “gobaith” y daw’r cyflenwad gwaed yn ôl yn ystod y cyfnod byr hwnnw. Dyma eiliadau olaf gweithgaredd cortecs yr ymennydd.
Gobeithio y bydd y papur hwn, a rhai tebyg iddo, yn ysbrydoli dosbarthiadau tiwtorial i’m tebyg i a’n myfyrwyr yn y dyfodol. Hawdd yw ymgolli yn rhyfeddod datblygiadau biotechnoleg ein hoes ac anghofio ein bod, o bryd i’w gilydd, yn ymwneud â materion creiddiol a phersonol dynoliaeth. Nid dim ond “gee wizz” yw Gwyddoniaeth.
Pynciau: Tatŵ, Mymïod, Strôc
Cyfeiriadau
Mymiod a Thatŵ
Natural mummies from Predynastic Egypt reveal the world’s earliest figural tattoos. Renée Friedman Daniel Antoine, Sahra Talamo, Paula J. Reimer, John H. Taylor, Barbara Wills a Marcello A. Mannino. Journal of Archaeological Science 92, 116-125 (2018) (adroddiad am ddim: Live Science)
Unveiling skin macrophage dynamics explains both tattoo persistence and strenuous removal. Anna Baranska, Alaa Shawket, Mabel Jouve, Myriam Baratin, Camille Malosse, Odessa Voluzan, Thien-Phong Vu Manh, Frédéric Fiore, Marc Bajénoff, Philippe Benaroch, Marc Dalod, Marie Malissen, Sandrine Henri a Bernard Malissen. Journal Experimental Medicine. Mawrth 6 2018. (adroddiad am ddim: Live Science)
Strôc a Marwolaeth
Sensory deprivation after focal ischemia in mice accelerates brain remapping and improves functional recovery through Arc-dependent synaptic plasticity. Andrew W. Kraft, Adam Q. Bauer, Joseph P. Culver a Jin-Moo Lee. Science Translational Medicine 10 (426), eaag1328 (2018) (adroddiad am ddim: Washington University School of Medicine)
Terminal Spreading Depolarization and Electrical Silence in Death of Human Cerebral Cortex. Jens P. Dreier, Sebastian Major, Brandon Foreman, Maren K. L. Winkler, Eun-Jeung Kang, Denny Milakara, Coline L. Lemale, Vince DiNapoli, Jason M. Hinzman, Johannes Woitzik, Norberto Andaluz, Andrew Carlson a Jed A. Hartings, Ann Neurol. 83, 295–310 (2018)