Barn 112 (Mawrth 2018): Epidemig Opioid, Adar Tân


Suboxone_Doctors_Near_Me (bach)Yn yr Unol Daleithiau, arweiniodd ambell ymweliad â’r doctor ers diwedd y ganrif ddiwethaf at yr argyfwng iechyd mwyaf o waith dyn yn hanes modern y wlad honno. Yn 2016 bu farw 64,070 oherwydd gorddos o gyffuriau opiwm. Mae hyn yn ddwbl y marwolaethau ar y ffyrdd (32,000 yn 2013) a thrwy saethu (33,636 yn 2013) ac yn sylweddol mwy na’r 50,000 a fu farw o AIDS ar ei anterth yn 1995. Credir y bydd y ffigyrau yn dal i gynyddu am 2017 ac i’r dyfodol. Ym mis Mawrth sefydlwyd comisiwn arbennig ar y mater gan yr Arlywydd Trump wrth iddo gydnabod y broblem. Cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Rhagfyr – gan ennyn gair o ganmoliaeth prin i’r Arlywydd yng ngholofn olygyddol y New Scientist a thu hwnt. Ond o fewn cwta bythefnos ‘roedd y cylchgrawn hwnnw wedi newid ei farn yn llwyr wrth i Trump, i bob pwrpas, wrthod pob un o 56 argymhelliad y comisiwn.

Beth sydd wedi digwydd ? A pham pwyntio’r bai ar ddoctoriaid America ? Nid yw peryglon opiwm a’i gynhyrchion yn gyfrinach i neb. Ond yn y 1990au wrth i’r diwydiant fferyllol ddatblygu cyfres o boenladdwyr opioid newydd, ymddangosodd sawl papur mewn cylchgronau proffesiynol dylanwadol a oedd yn awgrymu nad oedd dibyniaeth (addiction) yn broblem gyda’r cyffuriau newydd hyn. Hefyd dyfynnwyd papurau hŷn yn helaeth. Er enghraifft, mewn llythyr yn y New England Journal of Medicine yn 1980, a ddyfynnwyd yn dystiolaeth dros 600 o weithiau, disgrifiwyd 11,882 o gleifion ysbyty yn derbyn cyffuriau tebyg – a dim ond pedwar ohonynt yn datblygu dibyniaeth. Bellach daeth i’r amlwg bod nifer sylweddol o’r papurau hyn wedi’u hariannu gan y diwydiant yn unswydd i hybu’r cynnyrch newydd proffidiol. Tra roedd eraill, megis llythyr y NEJM, yn gynnyrch gwyddoniaeth sâl a thystiolaeth salach. Cyn y 90au, ar gyfer poen eithriadol yn unig yr oedd doctoriaid yr UD yn dosbarthu opioid, a hynny’n lliniarol neu ar gyfer cleifion cancr. Ond wrth i’r cwmnïau mawr ariannog eu perswadio nad oedd peryglon iddynt wedi’r cyfan, bu cynnydd o bedwar gwaith yn y nifer o bresgripsiynau o 1999 i 2010, a’u defnyddio’n helaeth i leddfu poenau cyffredin megis poen cefn a chrydcymalau.

Yn sgil hyn cynyddodd y ddibyniaeth a’r marwolaethau yn ddi-dor. Mae modd tyfu’n ddibynnol ar yr opiwm mewn diwrnodau – ond fe’u rhoddwyd i lawer am flynyddoedd. Nid oedd y gyfraith yn cysgu, ac yn 2007 dirwywyd cwmni Perdue Pharma, un o’r drwgweithredwyr mwyaf, $600 miliwn am gyfaddef twyllo’r cyhoedd yn fwriadol. Ond dim ond yn 2013 y llaciwyd dylanwad lobio’r diwydiant ar Awdurdod Bwyd a Chyffuriau’r UD (yr FDA) yn ddigonol iddynt hwythau dynhau’r rheolau (er enghraifft, gwahardd ail-adrodd presgripsiwn heb weld meddyg). A dim ond ym Medi 2017, y cytunodd corff hunanreoli’r diwydiant i “gefnogi polisïau a fyddai’n cyfyngu cyflenwi opioid i 7 diwrnod ar gyfer poen difrifol ”. Ond ‘roedd y drwg wedi’i hen ei wneud. Eisoes ‘roedd nifer fawr o gleifion yn ddibynnol ar eu cyflenwad cyfreithiol. Yn ôl erthygl yn rhifyn Hydref 2017 o Chemistry & Industry, ‘roedd bron i 2 filiwn o Americaniaid yn dioddef o broblemau opiwm erbyn 2013. Nid trigolion y “ghetto” tlawd, ystrydebol oedd y rhan fwyaf o’r rhain. Roedd traean ohonynt yn bensiynwyr, a nifer sylweddol o’r ifanc o gefndiroedd cefnog heb unrhyw hanes o gamddefnyddio cyffuriau. Eisoes ‘roedd mwy a mwy wedi troi at y farchnad ddu.

Fentanyl's_3D_molecular_structure
Fentanyl

I wneud pethau’n waeth roedd y diwydiant fferyllol wedi creu math arbennig o gryf (a marwol) o boenladdwr opioid o’r enw Fentanyl. Yn araf newidiodd y broblem o fod yn rhan o arferion anghyfrifol Diwydiant Mawr i fod yn rhan o’r fasnach ryngwladol mewn cyffuriau anghyfreithiol – gyda Fentanyl yn ei chanol. Yn rhannol oherwydd yr argyfwng, yn 2015 a 2016, am y tro cyntaf ers ugain mlynedd, bu gostyngiad yn nisgwyliad oes trigolion gwlad gyfoethoga’r byd. Mae’n debyg mai gorddos o boenladdwyr ffug yn cynnwys y cemegyn hwn a laddodd y canwr Prince yn 2016.

Yn eironig, y mae nifer o grwpiau ymgyrchu cleifion sy’n dioddef poen parhaol yn dadlau’n gryf yn erbyn y rheolau caethach. Wedi’r cwbl, bydd y cyfyngiadau yn gyrru miloedd i grafangau’r farchnad ddu a’r giangiau cyffuriau. I wneud pethau’n fwy cymhleth, mae rhai o’r grwpiau hyn wedi’u hariannu’n uniongyrchol gan y cwmnïau fferyllol. Er mai yn yr UD y mae’r argyfwng ar ei waethaf, y mae perygl iddo ledaenu i weddill y byd – yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Yn ôl y BBC, bu o leiaf 60 farw o orddos Fentanyl yn y DU rhwng Ionawr ag Awst 2017.

Profiadau personol nifer cynyddol o feddygon gonest a chraff, yn hytrach nag arolygiadau ystadegol academaidd, a fu’n gyfrifol am adnabod natur epidemig opiwm yr Unol Daleithiau. Rhywbeth tebyg oedd hanes darganfyddiad mewn maes arall yn ymwneud â diogelwch cyhoeddus. Yn Awstralia bu tanau gwyllt ar y paith yn broblem erioed. Bellach y mae eu cynnydd sylweddol yn eicon Newid Hinsawdd yn y wlad honno wrth iddynt greu mwy a mwy o ddinistr ac anrhefn. Ond efallai nad yw “natur” yn hollol ddiniwed yn yr achos hwn. Ers blynyddoedd bu nifer o wardeiniaid Tiroedd y Gogledd – y rhan fwyaf ohonynt yn frodorion – yn honni iddynt weld hebogiaid yn lledaenu tannau gwyllt drwy gario darnau llosg o bren o le i le. Gan nad oedd neb wedi disgrifio’r ffenomen yn “wyddonol”, diystyriwyd yr hanesion fel coelion gwrach. Bellach, yn rhifyn diweddaraf y Journal of Ethnobiology, mae Bob Gosford wedi casglu profiadau ugain o’r tystion hyn yn dystiolaeth bendant o’r arfer. Y sylw cyffredin, i ddechrau, oedd gweld yr adar (Barcudiaid Du a Chwibanog a’r Hebog Gwinau) yn amgylchynu tanau. Mae’n debyg eu bod yn hela creaduriaid wrth iddynt ffoi o’r fflamau. Yna os oedd y fflamau’n darfod – wrth i’r wardeiniaid eu diffodd, neu wrth iddynt gyrraedd ffordd – byddai’r adar yn codi darn llosg o bren ac yn ei ollwng mewn lle cyfagos er mwyn ailgynnau’r tân. Mae dynoliaeth wedi defnyddio tân i ddibenion tebyg ers rhyw 400,000 o flynyddoedd – mae’n debyg bod adar ysglyfaethus wedi bod ati ers yn sylweddol hirach !

Dim ond gobeithio y bydd Dynoliaeth yn medru rheoli a rhoi terfyn ar dân gwyllt ac afreolus cyffuriau peryglus yn ein cymdeithasau yn yr un modd.


Pynciau: Epidemig Opioid, Adar Tân


Cyfeiriadau
Epidemig Opioid:
The doctor who took on big pharma to stem the US opioid epidemic. Wendy Glauser. New Scientist Ionawr 15 2018 ; Opioid Wars. (Golygyddol). New Scientist Ionawr 10 2018.

Adar Tân:
Intentional Fire-Spreading by “Firehawk” Raptors in Northern Australia. Mark Bonta, Robert Gosford, Dick Eussen, Nathan Ferguson, Erana Loveless a Maxwell Witwer. Journal of Ethnobiology 37(4):700-718 (2017)


<olaf  nesaf>