Barn 84 (Mai 2015): Pengwiniaid, Nerfau, Temlau, Sêr

Sawl tro, pan oeddech yn blentyn, y bu i’ch mam eich dwrdio am lyncu eich bwyd ar hast ?  “Rhaid ei gnoi i gael blas !” oedd y cerydd.  Bellach byddai modd iddi ychwanegu bygythiad go iawn.  “Os na wnei di, fe orffenni di fel y pengwiniaid !”  Mae grŵp o fiolegwyr o Brifysgol Michigan wedi darganfod mai diffygiol iawn yw synnwyr blasu’r adar yma. O’r pum blas (melys, chwerw, hallt, sur ac umami) dim ond dau – hallt a sur – sydd ar ôl ganddynt. Mae’r genynnau ar gyfer derbynyddion y lleill wedi’u dileu yn ystod esblygiad. Un esboniad yw nad yw’r protein, o’r enw TRPM5, sy’n gyffredin i’r blasau colledig, yn gweithio’n rhy dda ar dymheredd oer yr Antarctig.  Ond yr esboniad arall, a’r un sy’n apelio ataf i, yw mai canlyniad yr holl llyncu pysgod ar hast yna, sydd mor nodweddiadol o’r seremoni o fwydo pengwiniaid yn y Sw a’r Syrcas (ers talwm),  oedd yn gyfrifol. Felly blant – cnowch eich bwyd, neu dim ond er mwyn sicrhau nad ydych yn bwyta bwyd wedi pydru a rheoli eich lefel halen, y byddwch yn blasu unrhyw beth !!

Ond, efallai nad yw newidiadau esblygiad mor ddi-droi’n-ôl â hynny.  Mewn erthygl yn Nature, mae Leonid Moroz a’i dîm o Brifysgol Fflorida, Gainsville yn dadlau bod nerfau wedi ymddangos o leiaf ddwywaith, yn hollol annibynnol, yn ystod hanes bywyd ar y ddaear.  Nid yw’r honiad yn hollol newydd, ond y farn uniongred yw bod system nerfol syml wedi ymddangos tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn cyndaid cyffredin i holl anifeiliaid y ddaear. Dros y milenia datblygodd hon yn gyfundrefn ganolog, gan ein cyrraedd ni ar ffurf ein hymennydd arobryn.  Yr eithriadau yw’r anifeiliaid symlaf – y placosöid, yr anifeiliaid aml-gell symlaf, a’r sbyngau. Y gred oedd bod eu cyndadau’n deillio’n ôl cyn ymddangosiad y nerfau. Enghraifft glasurol o goeden bywyd Darwin a Wallace. Ond ar ddiwedd 2013 cyhoeddwyd dilyniant DNA cyfan dosbarth o anifeiliaid syml o’r enw slefrod crib (comb jellies). Er eu bod yn edrych yn debyg i slefrod môr (a ffurfiodd ar ôl ymddangosiad nerfau – efallai bod ambell ddarllenydd Barn yn cofio’r Hydra yn yr ysgol), mae modd dadlau o’r dilyniant eu bod nid yn unig yn ddosbarth gwahanol ond eu bod wedi ymddangos cyn y sbyngau. Er hynny mae ganddynt rwydwaith nerfol – a hyd yn oed gwlwm o nerfau megis ymennydd bach ar un pen iddynt. Gallant ddal bwyd, synhwyro goleuni a disgyrchiant a dianc rhag eu gelynion. Y cwestiwn sy’n codi yw a gollwyd y nerfau gan y sbyngau a’u hailffurfio gan y slefrod môr a’n cyndadau ni ?  I geisio ateb hyn aeth Moroz ati i ddadansoddi’r molecylau signal a ddefnyddir pan fo un nerf yn siarad ag un arall – niwro-drosglwyddyddion ein ymennydd ni.  Yr ateb oedd bod rhai’r slefrod crib yn hollol gwahanol i rai’r holl anifeiliaid eraill, gan gynnwys y slefrod môr.  Er bod eraill yn dadlau mai anghywir yw’r dadansoddiad bod y slefrod crib yn cyn-oesi’r sbyngau, erys y posibilrwydd bod nerfau wedi ymddangos yn annibynnol fwy nag unwaith.  Pam fod hyn o ddiddordeb ?  Wel, yn ein hoes ni sydd â diddordeb cynyddol yn y posibilrwydd o fywyd ar blanedau eraill y tu hwnt i’r haul mae’r ffenomen o sawl ffynhonnell i’r un elfen greiddiol anifeilaidd ar y ddaear yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd nerfau hefyd yn rhan o gyfansoddiad bywyd arall-fydol.

Cwestiwn llosg arall i rai yw beth fyddai cyflwr crefyddol bodau felly ?  Trafodaeth i golofn arall heblaw colofn am Wyddoniaeth, efallai. Ond o bryd i’w gilydd mae lle credoau mewn cyfundrefnau biolegol yn brigo megis yn erthygl-glawr New Scientist dros benwythnos y Pasg.  Ond erthygl fwy uniongred wyddonol yn PNAS a dynnodd fy sylw dros yr Ŵyl.  Ers dros ddegawd mae Takeshi Inomata o Brifysgol Arizona wedi cloddio olion archeolegol yn Ceibal ar lan afon y Pasión yng Nguatemala. Erbyn tua 300 cyn Crist, yr oedd dinas sylweddol yno o ryw 10,000 o bobl.  Sylfaenwyd y ddinas ryw 650 mlynedd ynghynt. Yr hyn sy’n syndod yw mai’r adeiladau seremonïol mawreddog oedd y rhai cyntaf i’w hadeiladu. Y gred arferol ymysg anthropolegwyr yw bod gwreiddiau crefyddau soffistigedig, a’u temlau a llefydd eraill o addoli, yn ddatblygiad cymdeithas amaethyddol sefydlog a chymhleth.   Cyfoeth a sefydlogrwydd yn dod cyn crefydd sefydliadol.  Ond dengys olion Ceibal mai ymysg yr helwyr a chasglwyr a gwragedd y daeth y dyhead i adeiladu mannau mawreddog o garreg er mwyn addoli ynddynt.  Prin iawn oedd poblogaeth sefydlog y ddinas am gannoedd o flynyddoedd. Mae’r ddinas a’i soffistigeiddrwydd yn tyfu o’r dyhead hwn. Enghraifft ddiweddar, felly, ar yr un patrwm a’r darganfyddiadau rhyfeddol diweddar yn Göbekli Tepe yn Nhwrci. Yno mae’r archeolegwyr yn dadlau i bobl grwydrol adeiladu temlau soffistigedig tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac mai crefydd, nid chwyldro amaethyddol y Cilgant Ffrwythlon, arweiniodd at y bywyd dinesig yno.

Onid braf fyddai meddu ar beiriant teithio mewn amser i ddarganfod yr ateb i’r fath gwestiynau ?  Yn wir, teimlais mai rhywbeth tebyg a gafwyd /bron yr union beth oedd ar dudalennau Science yn ddiweddar.  Y cwestiwn oedd sut mae sêr enfawr (sylweddol yn fwy na’r haul) yn ffurfio. Yn ôl modelau confensiynol, wrth ffurfio, dylai’r fath bethau gronni gymaint o egni ac ymbelydredd nes gyrru popeth o’u hamgylch i ffwrdd – ac felly beidio â thyfu’n fawr yn y lle cyntaf.  Ond wrth gymharu lluniau cyfredol o un seren o’r fath â rhai a dynnwyd ohoni 18 mlynedd ynghynt roedd modd gweld bod y seren wedi’i hystumio’i hun fel bod y holl egni allyrrol wedi cronni ym mhegynau y seren a bod defnydd adeiladu’r seren ym medru cyrraedd o gwmpas ei chyhydedd. Roedd y seryddwyr wedi cael cipolwg ar ddau gyfnod pur wahanol yng ngenedigaeth y sêr rhyfeddol hyn. Y sêr sy’n creu’r rhan fwyaf o elfennau cemegol (megis metalau) y bydysawd. Y dyfarniad oedd mai siâp doughnut  sydd i’r sêr hyn. Ac fe wnaeth hynny imi feddwl tybed a yw Homer Simpson yn blasu’r Duff a’r toesennau wrth eu llyncu  yn nhafarn Moe ? Yn wir a oes ganddo nerfau o gwbl ? Beth yw safle esblygiadol dyn ag iddo dri bys a bawd ?


Pynciau:  Pengwiniaid, Nerfau, Temlau, Sêr