Barn 82 (Mawrth 2015)

Y mis diwethaf fe soniais am ddarganfod yr arysgrif hynaf wedi’i chrafu ar gragen ffosil. Tystiolaeth ydoedd am fedrusrwydd a chyrhaeddiad ein hynafiad Homo erectus, ryw hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Wrth gwrs, mae defnydd dynoliaeth o offer yn ymestyn ymhellach i’r gorffennol. Yn 1964, enwyd Homo habilis, a fu’n troedio wyneb y ddaear o 2.4 i 1.4 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ar ôl ei ddawn i ddefnyddio morthwylion a llafnau cerrig i falu a thorri. Mae ei esgyrn yn dal i orwedd ymysg miloedd o’r arfau hyn yn nyffryn Oldwfai yn Tansanïa.  Pa bryd y dechreuodd yr arferiad ?  Yn 2010, wrth astudio ffosilau o Dikika, Ethiopia, sylwodd Shannon McPherron o Athrofa Max Planck Leipzig, ar olion crafiadau ar ddau asgwrn anifail 3.4 miliwn mlwydd oed. Yr awgrym oedd mai olion bwtsiera cynnar ydynt.  Australopithecus afarensis, teulu’r ffosil enwog Lucy ( a enwyd ar ôl un o ganeuon seicadelig y Beatles) oedd yn byw yno ar y pryd. Creadur tua tair troedfedd a hanner o daldra oedd Lucy, a edrychai’n debyg i tsimpansî heddiw. Mae nifer o anthropolegwyr yn meddwl mai un o’r rhywogaeth hon wnaeth yr olion traed cerdded ar ddeudroed  3.7 miliwn o flynyddoedd oed yn Laetoli yn Tansanïa.  Er hynny, amau’r arferiad o ddefnyddio offer llaw oedd y rhan fwyaf, gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o’r arfau eu hunain.

Bellach, mae Matthew Skinner o Brifysgol Caint wedi troi at egwyddorion biolegol i geisio ateb y cwestiwn pa bryd y dechreuodd dynoliaeth ddefnyddio ei ddwylo yn y modd hwn.  Edrychodd ar bump asgwrn cledr y llaw – y metacarpaliaid. Mae ein defnydd o’n dwylo yn ystod ein bywydau yn mowldio ffurf pennau meddal yr esgyrn hyn. Ar ôl inni farw, mae ffurf yr esgyrn yma yn dangos ein bod wedi treulio gryn amser yn gwasgu’r fawd yn erbyn ein bysedd – ystum ysgrifennu â phensil (neu, bellach, defnyddio llygoden cyfrifiadur), er enghraifft. Gwelodd Skinner a’i gydweithwyr y patrwm hwn ymhob llaw fodern ac ym mhob enghraifft o ddynion cynnar a Neanderthal lle’r mae dystiolaeth ddiymwad o ddefnyddio arfau cerrig.  I’r gwrthwyneb, mae’r un esgyrn yn nwylo’r Tsimpansî a’i debyg yn dangos eu bod yn treulio gryn amser yn swingio o goed ac yn cerdded ar eu dyrnau. Mae’r nodweddion yn hollol wahanol.  Trôdd, felly, at ddwylo ffosiliau Australopithecus africanus, sydd fymryn yn iau na A. afarensis (o tua 2.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Yn rhifyn diweddar Science, mae’r tîm yn dangos i’r cyndad hwn swingio o’r coed, ond hefyd dreulio cryn amser yn pinsio gwrthrychau bychain. Anodd gwybod beth oedd y gwrthrychau hynny, a phryd y defnyddiwyd offer carreg gyntaf. Yn wir, mae’n debyg mai darnau o esgyrn neu bren oeddynt i ddechrau. Efallai y tyfodd yr arferiad drwy ddarnio bwyd â’n dwylo yn hytrach nag â’n dannedd, fel mae’r Tsimpansî yn ei wneud. Beth bynnag, roedd  dynoliaeth wedi dechrau ar ei daith i ddefnyddio dwylo mewn modd deheuig.

Mae ysgrifennu’r gair “deheuig” yn f’atgoffa fy mod yn llaw dde (yn hytrach na “lletchwith”). Wrth ymwneud â’m hoff hobi-penwythnos, garddio, i fysedd a bawd fy llaw dde y daw  pob draenen a fflawen; gan ddechrau’r seremoni wythnosol o’u tynnu â’r llaw chwith.  Gyda diddordeb, felly, darllenais am ymchwil Tor Wager a’i dîm ym Mhrifysgol Colorado i natur poen a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn PloS Biology.  Mae’n ddigon hawdd gweld tarddiad y boen wrth imi balu am y ddraenen yn fy mys â nodwydd. Trwy ddefnyddio sganiwr fMRI, edrychodd Wager am ymateb yr ymennydd i’r math hwn  o boen – poen niwrolegol. Defnyddiodd wres ar freichiau gwirfoddolwyr i wneud hyn. Ond nid dyma wir ddiddordeb y gwyddonwyr.  Mae tua 20% o boblogaeth y byd yn dioddef poen cronig, sydd wedi para am o leiaf dri mis heb iddo darddiad ffisegol amlwg.  Daw’r poen hwn o’r meddwl ei hun. Er yn ofer, bydd doctoriaid yn cynnig y poen laddwyr arferol.  Canfuwyd cyswllt rhwng poen a’r emosiynau ers canrifoedd, ac mae iselder ysbryd a gofid yn iselhau trothwy goddef poen. Roedd Wager am weld a oedd modd darganfod y cysylltiad ac efallai ei ddefnyddio i leihau poenau o’r ddau fath. Ar ôl mapio ymateb yr ymennydd i wres ar eu breichiau, gofynnodd Wager i’r gwirfoddolwyr feddwl am y boen naill ai fel tân poenus, neu fel blanced gynhesol ar ddiwrnod oer.  Cafodd hyn ddylanwad amlwg ar eu canfyddiad o’r boen. Trodd Wager at y  delweddau fMRI. Roedd yr un nodweddion yno ag o’r blaen, ond y tro hwn roedd hefyd rannau gwahanol o’r ymennydd yn ymateb.  Roedd Wager wedi darganfod dwy rwydwaith yn y meddwl. Y gobaith yw y bydd modd defnyddio’r wybodaeth wrthrychol hon i drin y cleifion hynny sydd, yng ngolwg nifer o ddoctoriaid, yn dioddef o boen “dychmygol”. Eisoes gwelwyd un cyswllt ymarferol.  Mae tîm Vania Apkarian ym Mhrifysgol Northwestern, Chicago, wedi dangos bod dioddefwyr poen cronig ym môn y cefn – cyflwr tra chyffredin – yn defnyddio’r union rannau o’r ymennydd a ddarganfuwyd gan Wager yn hytrach na’r rhannau “niwrolegol”.  Eisoes, mewn meysydd eraill,  mae gwaith ar droed lle bydd modd i unigolion newid patrymau gweithio’r ymennydd wrth edrych ar y ddelwedd fMRI. Y gobaith yw y bydd modd trosglwyddo’r technegau hyn wrth drin poenau’r meddwl.

A sôn am boen meddwl, erbyn ichi ddarllen y golofn hon, fe fydd nifer o gemau rygbi a phêl droed ein timau cenedlaethol eleni wedi hen ddigwydd. Un peth a’m trawodd wrth edrych ar ddarllediad gêm Cymru a Lloegr ar ddechrau pencampwriaeth y chwe gwlad, oedd ei bod yn rhyfedd gweld gorchest rygbi yn cychwyn am 8.15 y nos.   Efallai i hynny o beth setlo ffawd anffodus Cymru yn y gêm honno.  Mae Roland Brandstaetter o Brifysgol Birmingham wedi darganfod  cyswllt rhwng llwyddiant ar y maes chwarae â’n harferion cysgu cynhenid. Mae gan bob un ohonom ei batrwm personol – tua chwarter yn foregodwyr (yr ehediaid) , chwarter ar ein gorau yn y nos (y tylluanod) a’r gweddill yn y canol.  Trwy astudio ymddygiad ugain o chwaraewyr hoci, dangosodd  Brandtsaetter bod eu perfformiad yn ystod y dydd yn dibynnu ar eu “cronoteip”. Yn yr hwyrgodwyr yr oedd yr effaith ar ei gryfaf. Bydd rhaid i Warren Gatland ddarllen y rhifyn diweddaraf o Current Biology.  Gwell iddo gronoteipio’r sgwad cenedlaethol, a maesu tîm o dylluanod os y daw i’n ffawd orfod chwarae yn yr hwyr unwaith eto.  Tybed, hefyd, beth fydd dyfarniad archeolegwyr y dyfodol pell am eu hymddygiad, wrth edrych ar ffosilau esgyrn dwylo chwaraewyr rygbi yr unfed ganrif ar hugain ?


Pynciau: Bys a bawd, Poen, Cronoteip